– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 21 Mai 2024.
Eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ymgynghori ar y flwyddyn ysgol wedi cael ei ohirio tan 4 Mehefin. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd mewn perthynas â gwasanaethau deintyddol y GIG yn y gogledd? Rydym yn gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn y wlad yn wynebu argyfwng. Rydym wedi cael cynnydd mawr mewn prisiau i'r bobl hynny sy'n gallu cofrestru gyda deintydd GIG, sy'n llawer uwch na chyfradd chwyddiant. Ond, wrth gwrs, yng Nghonwy a sir Ddinbych yn benodol, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael rhywfaint o ecsodus o sector y GIG, gyda phobl yn penderfynu rhoi eu contractau yn ôl, a, hyd yn oed o fewn sector y GIG, rydym wedi gweld clinig iechyd deintyddol cymunedol Bae Colwyn yn dweud ei fod, yn ei hanfod, yn rhwyfo allan o wasanaethau deintyddol cyffredinol. Nawr, yn amlwg, mae hyn yn achosi llawer iawn o angst i'm hetholwyr, y mae miloedd lawer ohonynt heb gofrestru gyda deintydd y GIG. Fe gysylltodd un etholwr â mi yr wythnos diwethaf i ddweud ei bod wedi cael dyfynbris o £23,000 ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG yr oedd ei hangen arni nawr ac na allai gael mynediad ati drwy ddeintydd y GIG. Mae gennym ni gleifion orthodonteg, plant ifanc, sy'n aros 222 o wythnosau, yn ôl yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y byrddau iechyd. Mae hynny'n bedair blynedd. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae angen gweithredu er mwyn datrys hyn. Dydy pobl ddim yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae loteri cod post ar draws y gogledd ac yng ngweddill y wlad. A gawn ni ddatganiad ar hyn, fel mater o frys, fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei methiant i ddarparu gwell gofal deintyddol?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Darren Millar. Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nid yn unig yn mynd i'r afael â hyn o ran y gogledd, ond, fel y dywedwch chi, o ran Cymru gyfan, i sicrhau bod gennym ni wasanaethau deintyddol, yn enwedig ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, ac, wrth gwrs, dyna lle mae'r ffocws. Gofynnaf iddi roi diweddariad i chi yn benodol o ran y gwasanaethau sydd ar gael yn y gogledd, ond, wrth gwrs, mae'r symud ymlaen gyda'r contract deintyddol wedi bod yn bwysig, ac, yn wir, ariannu a rhyddhau gwasanaethau deintyddol. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r datblygiadau ym Mangor, er enghraifft—mae yng ngogledd-orllewin gogledd Cymru, ond mae'r rheiny, rwy'n credu, yn bwysig iawn o ran y gwasanaethau deintyddol sy'n cael eu datblygu yno o ran mynediad, hyfforddiant ac annog y proffesiwn nid yn unig i ddod i Gymru, ond i aros yng Nghymru pan fyddan nhw wedi cael eu hyfforddi.
Yng Nghymru, ein diwylliant yw ein henaid, y peth sy'n ein gwneud ni pwy ydym, ond mae toriadau i ddiwylliant yn bygwth y rhan hanfodol hon o hunaniaeth, a hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â'r storm o amgylch toriadau i'n sefydliadau diwylliannol. Nawr, mae cydnabyddiaeth ganmoladwy wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf nad yw hyn yn gynaliadwy. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd wedi dweud na fydd yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn cau ar ei gwyliadwriaeth hi, ond mae'r argyfwng cymaint yn ddyfnach na hynny. Rydyn ni'n gwybod bod y toriadau—. Ac rydym wedi gwybod ers amser maith y byddent yn brathu, ond mae'n dod yn fwy amlwg pa mor noeth y bydd yr esgyrn o ran yr hyn fydd ar ôl heb ymyrraeth ddrastig. Gallai Opera Cenedlaethol Cymru, a ganodd mor hyfryd y tu allan i'r Senedd y prynhawn yma, fod heb gorws neu gerddorfa barhaol yn fuan. Mae ein theatr genedlaethol mewn argyfwng. Mae cylchgronau fel Planet wedi cael eu gorfodi i roi'r gorau i argraffu. Mae Michael Sheen wedi rhybuddio bod ein diwylliant dan ymosodiad. Felly, a all datganiad fynd i'r afael â hyn ar frys, os gwelwch yn dda, a sicrhau'r Senedd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod beth yn union sydd yn y fantol yma, ac y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wyrdroi'r toriadau trychinebus hyn i'n diwylliant?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Do, rwy'n credu i ni glywed y canu gwych gan Opera Cenedlaethol Cymru ac mae cynifer ohonom yn gwerthfawrogi'r opera wych, Opera Cenedlaethol Cymru, a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a bod hynny'n parhau i'r tymhorau nesaf hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y gwnaethoch ei nodi, ei bod yn ymwneud â'r darlun cyfan o ran y set gyfan o amgylchiadau, o ran diwylliant, bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi lansio'r strategaeth ddiwylliant heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod cyfraniad enfawr wedi mynd i mewn i hynny o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio. A dydy hynny ddim yn diflannu. Bydd y dylanwad hwnnw a'r cydweithio hwnnw, rwy'n gobeithio, yn parhau, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny, oherwydd dyna'r hyn yr hoffem ni.
Ond, yn amlwg, mae'r rhain yn amgylchiadau ariannol eithriadol o anodd yr ydym ni ynddyn nhw fel Llywodraeth Cymru, ac yna, wrth gwrs, mae hynny hefyd yn rhoi'r pwysau ar ein cyrff hyd braich—ac mae gennym ni'r egwyddor ariannu hyd braich gref honno o ran cyllid drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Felly, mae'r adolygiad buddsoddi wedi chwarae rhan yn hyn o ran y penderfyniadau hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ran Opera Cenedlaethol Cymru, y clywsom amdano heddiw, ei bod yn dal i dderbyn y cynnig ariannu aml-flwyddyn mwyaf o blith bob un o 81 sefydliad CCC.
Ond mae hyn yn mynd yn ôl i'r toriadau rydym wedi'u cael i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU, a'r anawsterau o ran y blaenoriaethau yr ydym wedi gorfod eu gosod gyda'r gyllideb ar gyfer eleni, yr ydych, wrth gwrs, yn gyfarwydd â nhw hefyd. Ond a gaf i ddweud eto pa mor bwysig yw hi fod gennym ni'r strategaeth ddiwylliant honno, y gwnaethoch chi chwarae eich rhan ynddi, a, hefyd, fel cadeirydd y pwyllgor trawsbleidiol, y bydd y materion hyn yn cael eu trafod a'u craffu'n llawn o ran effeithiau a ffordd gadarnhaol ymlaen?
Roeddwn i'n falch o glywed y bydd yna ddadl ar y sgandal gwaed heintiedig, ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe, ac, yn amlwg, bydd hyn yn gofyn am gryn dipyn o ystyriaeth gan y Senedd, oherwydd mae hwn yn un o saith llyfr a gyhoeddwyd ddoe—cyfrolau enfawr. Ac a gaf i ofyn hefyd i'r ddadl ystyried mater iawndal, oherwydd cafodd datganiad ar wahân ei wneud yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw ynghylch iawndal, gyda Syr Robert Francis yn cael ei benodi'n gadeirydd dros dro i'r pwyllgor yn edrych ar iawndal, fel y deallaf, er mawr lawenydd i'r ymgyrchwyr oedd yn bresennol yn yr oriel? Felly, a yw'r Trefnydd yn credu y byddwn ni'n gallu ymdrin â hyn i gyd mewn un ddadl, neu a yw hi'n credu bod angen dadl neu ddatganiad ar wahân am y materion manwl iawn sydd wedi codi am iawndal?
A dim ond i ddweud, yn gyflym iawn, fe ges i'r fraint o fod yn y gwrandawiad olaf ddoe, gyda grŵp o bobl sydd wedi'u heintio a phobl y mae hyn wedi effeithio arnynt o Gymru, gan gynnwys etholwyr y Trefnydd, a oedd yn achlysur teimladwy iawn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio bod 70 o bobl wedi marw yng Nghymru a bod 400 o bobl wedi'u heintio yng Nghymru. Felly, hoffwn dalu teyrnged i'r grŵp hwnnw o bobl sydd wedi ymgyrchu ers cymaint o flynyddoedd, a hefyd i'r holl wleidyddion yma yn y Siambr sydd hefyd wedi gwneud yr un peth, a'r grŵp trawsbleidiol hefyd, dan gadeiryddiaeth Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr, Julie Morgan. Ac a gaf i, unwaith eto, ddiolch i Julie Morgan—ac rwy'n siŵr bod hyn yn cael ei fynegi ar draws y Siambr—am ei degawdau o ymgyrchu ar ran ei hetholwyr? Ac rwy'n credu bod hwn yn fesur o'r rôl y mae Julie wedi'i chwarae, yn gyntaf fel AS, fel Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, ac yna fel Aelod o'r Senedd, bod ei hetholwyr wedi dod ati ar y mater hwn a'i bod wedi ymgymryd â'r ymgyrch honno mewn modd mor gadarn ac wedi cyfrannu at y ffordd y mae'r ymchwiliad hwn wedi'i sefydlu, yn fy marn i, i ymchwilio i sgandal meinweoedd a chynhyrchion gwaed heintiedig a gyflenwyd gan y GIG yn y 1970au a'r 1980au. Ac roedd hyn ymhell cyn i Julie ddod a chael ei hethol i'r Senedd hon, ond chwarae'r rhan honno yn y grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n gwybod, wrth gwrs, bod gennym ni gyd-Aelodau ar draws y Siambr a oedd yn rhan o hynny, a Rhun ap Iorwerth.
Ac a allwn ni hefyd ddweud diolch i Julie? Fe aeth hi i fyny i Lundain, roedd hi gyda'r teuluoedd ddoe, ac mae hynny'n cynnwys fy etholwyr i a nifer o etholwyr Aelodau ar draws y Siambr. Ac, wrth gwrs, dyma'r sgandal triniaeth waethaf yn y GIG. Fe ddigwyddodd cyn datganoli, ond mae'n rhaid i ni wedyn edrych ar ffyrdd y gallwn ni ymateb, fel yr ydym wedi gwneud erioed. Ac yn wir, rwy'n cofio hynny yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod chi wedi gwneud y cyfraniad hwn heddiw a chodi'r cwestiwn, Julie, yn y datganiad busnes, oherwydd rydym yn edrych i gael y ddadl hon gan y Llywodraeth. Cyhoeddwyd hynny gan y Prif Weinidog heddiw. Fe roddodd ei ymddiheuriad llawn heddiw, yn dilyn yr ymddiheuriad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei datganiad ysgrifenedig. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth y DU yw'r mater hwn am iawndal, ac rydym yn gweithio ar sail pedair gwlad i sicrhau bod y rhai yr effeithiwyd arnynt a'u teuluoedd yn cael iawndal. Felly, mae angen i ni edrych ar—. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet, ac, fel y dywedoch chi, yn ei datganiad ysgrifenedig, yn edrych ar yr adroddiad nawr, yn edrych ar bob cam o'r hyn y dylai'r ymateb fod. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn eich bod chi wedi codi'r mater hwn, o ran cyd-destun y ddadl.
Ac rwy'n credu hefyd, i fyfyrio efallai ar y ffaith ein bod ni wedi cael dadl yn ôl ar 7 Mai. Ac wrth gwrs, yn eich rôl flaenorol fel Dirprwy Weinidog, rwyf am gydnabod y rôl y gwnaethoch chi ei chwarae bryd hynny, a chadarnhau bod ein safbwynt mewn perthynas â chynnig Llywodraeth y DU i sefydlu corff hyd braich i fod yn gyfrwng ar gyfer talu'r iawndal yn bwysig iawn. Roedd y gwaith a wnaethoch yn arwain i fyny at hynny yn bwysig iawn, y gwaith rydych wedi'i wneud ar sail pedair gwlad, y gwaith a wnaethoch gyda nifer o Weinidogion iechyd hefyd.
Rwyf hefyd eisiau dweud bod Julie Morgan wedi rhannu gyda ni yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar y goroeswyr a'u teuluoedd—ac mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—a'r hyder yr oedd ganddyn nhw yn Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad, a ddechreuodd gymryd tystiolaeth yn 2019, yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol nawr. Rwyf wedi treulio peth amser yn ymateb i'r cwestiwn hwn, Dirprwy Lywydd, oherwydd ei fod mor bwysig. Heddiw yw'r diwrnod yr ydym yn myfyrio arno, ond yna byddwn yn cael dadl lawn gan y Llywodraeth, a fydd yn ystyried y pwyntiau a'r cwestiynau y mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan, wedi'u gwneud. Byddwn ni'n ystyried y rheini wrth edrych ar y cynnig a fydd yn dod gerbron y Senedd.
Trefnydd, dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith y mae angen i mi sefyll i fyny yn y Siambr hon a chodi sgandal safle tirlenwi Withyhedge, ond, yn anffodus, mae'r gymuned leol yn dal i fyw gydag allyriadau a allai fod yn wenwynig yn dod o'r safle, er gwaethaf y ffaith mai dyddiad cau hysbysiad gorfodi diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru i'r gweithredwr oedd yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Mae'n gynddeiriogol bod yn rhaid i bobl sy'n byw ger y safle oddef y sefyllfa ofnadwy hon, ac mae'n ymddangos nad oes diwedd yn y golwg iddyn nhw. Mae'r gymuned yn teimlo eu bod nhw'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd.
Dydy Cyfoeth Naturiol Cymru ddim wedi cadarnhau a yw'r gweithredwr wedi cydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi diweddaraf, dydy neb wedi cadarnhau pa mor wenwynig yw'r allyriadau, ac, a dweud y gwir, mae'n ymddangos nad oes neb yn poeni beth sy'n digwydd i'r gymuned hon. Wel, rwyf innau'n poeni, a byddaf yn codi'r mater hwn dro ar ôl tro nes bod y gymuned yn cael yr atebion a'r gefnogaeth y mae'n ei haeddu.
Trefnydd, rwyf wedi ysgrifennu i Cyfoeth Naturiol Cymru, rwyf wedi ysgrifennu i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi cwrdd â nhw, ond mae'n eithaf amlwg nad yw hyn yn cael ei drin yn briodol wrth i'm hetholwyr barhau i ddioddef. Rwy'n credu nawr bod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu ei safbwynt ar y sgandal hon, ac a fydd yn cefnogi'r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol?
Diolch yn fawr, Paul Davies. Gallaf ddeall yn iawn, fel cynrychiolydd etholedig, pam eich bod yn cyflwyno hyn ac yn ei gyflwyno i mi yn fy natganiad busnes, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi manteisio ar y cyfle i'w gyflwyno i'r Ysgrifennydd Cabinet pan oedd ganddo ei gwestiynau llafar yn y Senedd. Ond mae angen datrys hyn. Dyna'r alwad eto heddiw.
Dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi: rwy'n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu ei bresenoldeb ar y safle, a'i fod yn diweddaru'r gymuned, trwy ei wefan. Mae hysbysiadau gorfodi wedi'u cyflwyno i'r gweithredwr tirlenwi, y mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianneg tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi. Ac os bydd y gweithredwr tirlenwi yn methu â chydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cymryd camau gorfodi priodol yn unol â'i bolisi gorfodi ac erlyn.
Wna i ddim ailadrodd rhai o'r adroddiadau yn ôl yr wyf wedi'u rhoi mewn wythnosau blaenorol, ond, dim ond i ddweud, o ran y datblygiadau diweddaraf, fy mod i'n ymwybodol bod y cyngor—Cyngor Sir Penfro—yn ystyried gwaharddeb, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr atal y niwsans cyhoeddus, ond yn amlwg yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu a yw'r gweithredwr wedi mynd i'r afael â'r holl gamau yn hysbysiad Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn cymryd camau pellach.
Hoffwn ofyn am ddatganiad Llywodraeth yn dilyn dyfarniad y llys ynglŷn â chyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor. Mae plant yn fy etholaeth i a thu hwnt wedi dioddef yn enbyd. Mae fy nghalon i'n gwaedu drostyn nhw a dros eu teuluoedd, a dwi yn edmygu dewrder y rhai ddaeth ymlaen i adrodd eu profiadau hunllefus. Roedd y troseddau yn wirioneddol erchyll. Dwi yn deall y bydd y bwrdd diogelu plant yn y gogledd yn cynnal ymchwiliad, ac, wrth gwrs, rydyn ni yn croesawu hynny. Mi fuaswn i'n hoffi deall beth yn union fydd sgôp ymchwiliad y bwrdd diogelu. Ond hoffwn i wybod hefyd pa fathau eraill o ymyriadau ac ymchwiliadau annibynnol allai gael eu cynnal. Beth sydd o dan ystyriaeth gan y Llywodraeth? Beth ydy'r arweiniad mae'r Llywodraeth yn ei roi yn sgil difrifoldeb y sefyllfa? Felly, mi fyddwn i'n pwysleisio pwysigrwydd cael datganiad Llywodraeth ar lawr y Senedd, ar ôl y toriad, yn gosod allan beth sy'n digwydd, er mwyn i ni fedru dysgu gwersi i'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Diolch yn fawr am eich cwestiwn, a hefyd am eich datganiad pwysig iawn y prynhawn ma.
Rydym ni i gyd yn rhannu gyda chi a'ch etholwyr, a phawb sydd wedi'u heffeithio, y sioc a'r ffieidd-dra bod Neil Foden wedi gallu camddefnyddio'r awdurdod yr oedd ganddo yn ei swydd i gyflawni'r troseddau hynny. Ac mae ein meddyliau ni yma heddiw—. A gallaf weld ar draws y Siambr bod ein meddyliau gyda'i ddioddefwyr ar yr adeg hon. Felly, nawr bod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y bwrdd diogelu rhanbarthol, fel y dywedoch chi, yn cynnal adolygiad ymarfer plant. Adolygiad annibynnol ydyw. Bydd yn ystyried y rhan a chwaraeodd asiantaethau perthnasol, bydd yn nodi'r hyn y gellir ei ddysgu ac yn gwneud argymhellion i wella arferion diogelu yn y dyfodol, ac rydym yn barod i gefnogi'r adolygiad yn llawn ac ymgysylltu'n llawn ag ef. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall graddau llawn unrhyw fethiannau yn y trefniadau diogelu presennol, a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn ddi-oed i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.
Roeddwn i eisiau codi mater arall yn ymwneud â gwastraff gwenwynig, sef y carthion yn ein moroedd a'n hafonydd. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, Trefnydd, bod pobl wedi cael eu gorchymyn i ddod allan o'r dŵr yn Ynys y Barri ddydd Sadwrn, oherwydd ansawdd y dŵr, a hyn tra bod niferoedd mawr o bobl yno oherwydd gŵyl gerddoriaeth ac adloniant stryd Gwŷl Fach y Fro. Mae Surfers Against Sewage wedi rhybuddio bod 19 o draethau yng Nghymru wedi cael eu llygru gan garthion storm neu wedi cael dosbarthiadau dŵr gwael.
Rwy'n awyddus iawn i ddeall sut y digwyddodd hyn ddydd Sadwrn, o gofio na chafwyd glaw sylweddol yn ystod dydd Iau a dydd Gwener. Felly, tybed a allem ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar sgyrsiau a all fod wedi digwydd gyda Dŵr Cymru a sut allwn fynd i'r afael â hyn. Mae'n sefyllfa sy'n drychinebus i dwristiaeth ac o bosibl i iechyd y cyhoedd. Ac mae hynny yng nghyd-destun y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim annigonol sydd gennym, felly er mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheoleiddiwr, mae angen i ni hefyd gael sefydliad sy'n gallu delio, mewn gwirioneddol, ag unrhyw un o'r digwyddiadau llygredd mawr hyn. Felly, tybed a allwch chi ychwanegu unrhyw beth, o ystyried eich diddordeb etholaethol penodol yn hyn.
Diolch, Jenny Rathbone, am y cwestiwn hwnnw. Ydy, mae yn fy etholaeth i. Yn y Barri, y dref lle rydw i'n byw, mae Bae Whitmore, lle y digwyddodd hyn, wedi cyrraedd safonau ansawdd dŵr ymdrochi llym yn gyson. Yn 2023, fe gafodd ddosbarthiad da o ran ei ddŵr ymdrochi. Fy nealltwriaeth i yw bod Dŵr Cymru, brynhawn Sadwrn, wedi arsylwi ar weithgarwch ar y monitor yng ngorlif y Barri, a bod hynny wedi ysgogi'r asiantaethau perthnasol i gymryd mesurau diwydrwydd dyladwy, gan gynnwys yr RNLI yn cyhoeddi baner goch ar y traeth a gwneud cyhoeddiadau yn cynghori defnyddwyr y traeth i beidio â mynd i mewn i'r dŵr. Yn dilyn ymchwiliad, cadarnhaodd Dŵr Cymru mai camrybudd ydoedd a achoswyd gan nam gyda'r monitro, sydd yn bosibl. Maen nhw wrthi'n mynd i'r afael â'r broblem gyda'r monitor ac yn ymddiheuro am y digwyddiad a'r dryswch. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y dŵr yn Ynys y Barri yn cael ei brofi'n rheolaidd. Does dim rheswm ar hyn o bryd i ystyried bod y dŵr ym Mae Whitmore yn anniogel.
Fel Llywodraeth, rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod ni'n disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru weithio'n galed i gyflawni gwelliannau gweithredol ac amgylcheddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau rhagorol i'w cwsmeriaid. Ond, wrth gwrs, mae hyn yn achos pryder enfawr o ran y bobl. Daeth yr haul allan, mae pobl yn dod i'r Barri, mae'n draeth gwych ar stepen drws de Cymru o ran y cyfleoedd sydd i ddod. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n digwydd o ran Dŵr Cymru a'r camgymeriad yna o ran y monitor. Maen nhw wedi gosod, rwy'n deall, monitro hyd digwyddiadau ar gyfer 9 y cant o'u hasedau gorlif storm, sydd yn darparu data ynghylch pryd y gallai fod gollyngiadau gorlif storm, ac mae hynny'n wybodaeth amser real. Felly, mae yna fonitro agos, a dyna'r hyn sydd angen i ni ei weld yn cael ei gyflawni, ac effeithiolrwydd systemau rhybuddio yn ein dyfroedd ymdrochi.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r broses galw i mewn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, os gwelwch yn dda? Fy mhryder i yw'r amser y mae'n ei gymryd i Lywodraeth Cymru ystyried cais galw i mewn. Mae gen i sawl achos lle mae busnesau ac ymgeiswyr yn wynebu oedi am gyfnodau sylweddol o amser tra bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid derbyn cais galw i mewn ai peidio.
Mae yna achos penodol y byddwn i'n cyfeirio ato. Yr enghraifft yma yw bod cais galw i mewn wedi'i wneud ar 7 Chwefror y llynedd, neu'n hytrach fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet—Gweinidog ar y pryd—Julie James ofyn i'r awdurdod lleol beidio â rhoi caniatâd cynllunio, ac mae wedi cymryd 15 mis ac rydym yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru ynghylch a fydd y cais hwnnw'n cael ei alw i mewn ai peidio.
Yn ail, ac yn fwy rhwystredig, fe ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 15 Mai y llynedd—nid eleni, y llynedd—i ofyn am ddiweddariad ar y cais hwn ac fe ges i ymateb ym mis Gorffennaf y llynedd, a oedd yn ymateb dros dro. Ers hynny, rwyf wedi anfon pum e-bost sydd heb eu hateb, ar 25 Hydref, 21 Tachwedd, 4 Ionawr, 5 a 26 Chwefror eleni. Mae'n wirioneddol anghwrtais peidio ag ymateb i mi, ac nid wyf yn gallu ymateb i fy etholwyr i ddweud wrthyn nhw beth yw'r canlyniad a pham mae yna oedi cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu a ddylai'r cais hwn gael ei alw i mewn ai peidio.
Allwch chi, Trefnydd, godi hyn gyda'ch cyd-Aelod Julie James o ran yr achos penodol hwn, yr wyf i'n hapus iawn i'w anfon atoch chi, Trefnydd, yn ysgrifenedig, ac a gaf i ofyn am ddatganiad hefyd ynghylch y broses galw i mewn i ddeall pam ei bod hi'n cymryd cyhyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru benderfynu ar gais?
Rwy'n siŵr, Russell George—diolch am eich cwestiwn—y byddwch chi'n gwerthfawrogi na allaf wneud sylw ar achosion cynllunio penodol o'r math hwn sy'n arwain at alwad i mewn er mwyn i Lywodraeth Cymru roi'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio wedyn. Mae'r rhain yn digwydd ledled Cymru, felly bydd amgylchiadau gwahanol ym mhob achos, ond byddaf yn sicr yn codi eich pryderon gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr y bydd hi am gadarnhau'r trefniadau o ran y darlun cyffredinol o sut y caiff galw i mewn ei reoli a'i weithredu.
Gaf i ofyn am ddatganiad am ddiweddariad ar gynllun gwella gwasanaethau canser Cymru gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, ac yn benodol lefelau cynnydd yn adnabyddiaeth canser y fron yn y gogledd? Mae gen i etholwraig sydd yn dioddef o ganser y fron, ac yn anffodus, mae'r oncolegydd arbenigol yn Ysbyty Gwynedd yn sâl, sy'n golygu bod yn rhaid i gleifion canser y fron o'r gogledd-orllewin deithio i Wrecsam i weld oncolegydd sydd yn gweithio yno fel locwm. Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa staffio, mae'r cleifion sydd angen gwneud trefniadau i fynd yno yn cael apwyntiadau wedi'u canslo'n hwyr ac yn gorfod canslo, er enghraifft, gwestai, ac yn y blaen, ac mae'n golygu eu bod yn methu eu hapwyntiadau, sy'n achosi trafferthion iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod merched gogledd-orllewin Cymru yn colli allan oherwydd nad oes darpariaeth deg i ddarpar gleifion canser y fron yn yr ardal. Mae hyn yn anghyson â'r cynllun gwella gwasanaethau canser yng Nghymru, felly mi fyddwn i'n ddiolchgar am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y pwnc yma.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae gennym Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda ni. Mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw hwn, ond rwy'n credu y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar yr amgylchiadau hyn o ran cysondeb a hygyrchedd gofal i'ch etholwyr yn y gogledd-orllewin sydd â chanser y fron.
Ysgrifennydd Cabinet, yn y pen draw, Llywodraethau yw prif geidwaid cyfrifol ein treftadaeth ddiwylliannol a'r bensaernïaeth sydd oddi mewn iddi. Hoffwn ofyn am ddatganiad i'r lle hwn sy'n amlinellu'r dadansoddiad a wnaed o effeithiau cyfunol y toriadau cronnus gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr ar allu Opera Cenedlaethol Cymru i weithredu, i berfformio ac i deithio; yr asesiad a wnaed o effaith colli swyddi medrus ac ansoddol iawn ar y cyflogwr mwyaf ym maes y celfyddydau yng Nghymru; effaith model cyflawni rhan-amser ar gadw a recriwtio ansawdd a rhagoriaeth; ac yn olaf yr asesiadau a wnaed o'r lleihad yn yr allgymorth cymunedol, llesiant ac ysgolion o'r radd flaenaf a ddarperir gan Opera Cenedlaethol Cymru ledled Cymru.
Gweinidog, gallwn ni byth wylio tra bod fandaliaeth ddiwylliannol yn mynd rhagddi, a gallwn ni yn y lle hwn ddim fod yn wylwyr, yn gynulleidfa, a gwylio o'r cadeiriau hyn wrth i'r em yng nghoron perfformio Cymru gael ei ddiddymu o'n blaenau. Gofynnaf i'r datganiad nodi'r cyllid sydd ei angen i gadw Opera Cenedlaethol Cymru yn llawn amser ac amlinellu'r cynnydd o ran cael cytundeb cyllido newydd rhwng y ddwy wlad. Mae gennym ni, yn y lle hwn, ddyletswydd gofal ar y cyd i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol, ac, fel mae'r arweinydd byd-enwog Carlo Rizzi newydd ddweud munud yn ôl ar risiau'r Senedd, i amddiffyn un o'r cwmnïau opera gorau yn y byd—cwmni a anwyd yng Nghymru, a fagwyd yng Nghymru, yng ngwlad y gân. Mae'n rhan o frand Cymru. Diolch.
Diolch, Rhiannon Passmore. Rwyf wedi ymateb i gwestiwn ar y sefyllfa gyffredinol o ran diwylliant yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni wedi clywed safbwyntiau Rhianon Passmore y prynhawn yma. Rwy'n cydnabod eich bod chi wedi cyflwyno datganiad barn hefyd, fel Aelod o'r meinciau cefn Llafur, gyda chefnogaeth. Unwaith eto, fel y dywedoch chi, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ragoriaeth, ei berfformiad a'i allgymorth, ac rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen i'r sector diwylliannol, fel y dywedais i yn gynharach. Ac mae'n dda bod gennym ni'r strategaeth ddiwylliant a gyhoeddwyd heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch darpariaeth gwasanaethau fflebotomi yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ac argaeledd y gwasanaethau hynny? Rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â mi yn nodi'r trafferthion y maen nhw wedi'u cael yn mynychu'r apwyntiadau hyn oherwydd y model canolog ar gyfer y gwasanaethau hyn a'r effaith y gallai cysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig ei chael wedyn ar y cleifion hynny. Fe gymerodd un etholwr bedair awr i gyrraedd yr ysbyty i gael triniaeth syml sy'n para bum munud. Rwy'n deall, ar ôl siarad ag un o'r byrddau iechyd yn fy rhanbarth am ganoli gwasanaethau, mai'r rheswm amdano oedd i leihau'r amser a oedd yn cael ei dreulio yn cludo samplau gwaed ac i leddfu pwysau ar bractisau lleol, ac rwy'n deall hynny, ond mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar gleifion, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd eu hapwyntiadau. A gaf i ofyn, felly, am y wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i bawb sydd eu hangen?
Diolch am y cwestiwn yna. Rydych chi wedi gwneud y peth iawn i ddwyn hyn at sylw'r byrddau iechyd, sy'n gyfrifol, ac mae eich pwynt wedi'i gofnodi heddiw.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg y prynhawn yma? Wrth i ni ddechrau misoedd yr haf, mae Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn dal heb weithredwr, a hynny bron i chwe mis ers i Grŵp Gwesty a Hamdden Mikhail dynnu'n ôl yn anffodus. Mae pobl leol yn dechrau gweld y datblygiad newydd fel eliffant gwyn, gyda dros £12 miliwn wedi'i fuddsoddi yn yr hyn a oedd yn cael ei weld flwyddyn yn ôl fel cnewyllyn gweithgaredd manwerthu, ond mae hwnnw, bedair blynedd yn ddiweddarach, bellach yn adeilad gwag. Credaf y gallai Marchnad y Frenhines fod yn gatalydd i adfywio'r dref, ond mae'n annerbyniol, ar ôl cryn amser a swm sylweddol o arian trethdalwyr a fuddsoddwyd, nad yw'r farchnad yn weithredol o hyd.
Hoffai fy etholwyr weld rhywfaint o oruchwyliaeth dros sut mae eu harian yn cael ei wario. Hoffent i Lywodraeth Cymru sicrhau, pan fyddant yn gwario arian trethdalwyr ar y datblygiad, eu bod yn sicrhau bod trethdalwyr yn gweld canlyniadau eu buddsoddiad ac nad anghofir am yr arian. Felly, a gaf i ddatganiad i gadarnhau i'm hetholwyr y bydd y Llywodraeth hon yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau bod y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn yn sicrhau gweithredwr ac yn dechrau bod o fudd i'r dref yn hytrach na bod yn eliffant gwyn drud na all neb gael mynediad ato?
Wrth gwrs, ni fyddem eisiau gweld hynny. Rydych wedi codi cwestiwn Marchnad y Frenhines, ac mae'n bwysig bod hynny'n ddull partneriaeth gyda chyllid o nifer o ffynonellau. Yn amlwg, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r pwynt hwn, a byddwn yn mynd ar ei drywydd o ran y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig cyfrifoldebau Cyngor Sir Ddinbych.
Diolch i'r Trefnydd.