2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 21 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Ym mis Mehefin 2023, fe wnaethoch chi gyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn o'r enw 'System dribiwnlys newydd i Gymru', a gaewyd fis Hydref diwethaf, ar ôl cael dim ond 54 o ymatebion. Fel gwyddoch chi, roedd y cynigion yn y Papur Gwyn yn nodi'r bwriad i greu system dribiwnlysoedd unedig i Gymru, sy'n cynnwys dau dribiwnlys newydd: tribiwnlys haen gyntaf Cymru a thribiwnlys apêl Cymru, yn y drefn honno. Wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol ar gyfer eich bwriad o ddiwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru, sut fyddwch chi'n ymateb i'r 91 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a yw'r ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau tribiwnlysoedd Cymru i dribiwnlys haen gyntaf Cymru, gyda rhai ohonyn nhw'n gwneud y pwynt pwysig y dylid sicrhau'r amhariad lleiaf posibl heb unrhyw effeithiau dinistriol ar fusnes parhaus pob tribiwnlys?
Diolch i chi. Unwaith eto, mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd, yn dilyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith, mae deddfwriaeth yn cael ei pharatoi o ran yr argymhellion hynny, gyda golwg ar Fil tribiwnlysoedd, i weithredu'r gwaith a wnaeth Comisiwn y Gyfraith, ond hefyd ar gyfer diweddaru hyd at ddisgwyliadau'r unfed ganrif ar hugain, mewn ffordd sy'n briodol yn farnwrol, yr holl dribiwnlysoedd hynny sydd wedi dod i Gymru mewn ffordd ad hoc—tribiwnlysoedd pwysig iawn, ond tribiwnlysoedd sydd â strwythurau amrywiol a hynny'n dibynnu ar natur y tribiwnlysoedd ac ym mha ffordd y gwnaethon nhw gyrraedd. Y bwriad, fel rydych chi'n dweud, yw creu tribiwnlys haen gyntaf, a hefyd, fel dywedais i yn y gorffennol, am y tro cyntaf yn hanes Cymru, am dros 600 mlynedd a mwy mae'n debyg, strwythur apeliadol.
Fe ddaw'r rhan hon o'r system farnwrol a ddatganolwyd eisoes gyda nifer o heriau ychwanegol. Yn gyntaf, rwy'n credu bod cryn dipyn o gefnogaeth wedi bod. Roedd yr ymgynghoriad, y Papur Gwyn, rwy'n credu, yn gefnogol iawn i'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo. Rydym ni'n awyddus i oresgyn unrhyw broblemau trosiannol yn y man lleiaf, a dyna pam mae angen i hyn gael ei gynllunio yn ofalus iawn. Un o'r materion, wrth gwrs, sy'n bwysig iawn yw annibyniaeth y tribiwnlysoedd a'r angen i ystyried bod â'r tribiwnlysoedd hynny mewn strwythur ar wahân, ond hefyd i fod yn dribiwnlysoedd priodol sydd â'r anffurfioldeb y byddem ni'n ei ddisgwyl gan dribiwnlysoedd. Hefyd, wrth gwrs, mae tribiwnlysoedd yn rhywbeth sy'n cynnig cyfle i ddefnyddio llawer mwy, rwy'n credu, o'r Gymraeg yn y rhan honno o'r system farnwrol.
Yr hyn y gallaf i sicrhau'r Aelod ohono yw: na fyddai unrhyw drawsnewidiad ysgytwol sydyn o ran y tribiwnlysoedd na'r ffordd y maen nhw'n gweithredu, ond fe fydd yna fwy o foderneiddio arnyn nhw, mwy o sicrwydd o annibyniaeth yn y ffordd y maen nhw'n gweithio, y cyfleusterau, yr adnoddau a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y gyfran honno o farnwriaeth Cymru, a hefyd, wrth i'r tribiwnlysoedd ddatblygu, ystyriaeth o feysydd eraill a fyddai'n dod yn naturiol i mewn i strwythur tribiwnlys ar gyfer gweld sut y gellir hwyluso hynny mewn gwirionedd.
Roedd fy edmygedd i'n fawr ac fe ddysgais i lawer wrth fynychu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yn yr Alban, a gyflwynodd ddeddfwriaeth yn 2014 yn hyn o beth. Mae ganddyn nhw, wrth gwrs, hanes gwahanol iawn, ond roedd hwnnw'n ymarfer defnyddiol iawn ar gyfer dysgu o'u profiad nhw eu hunain, ac mae'r gwersi hynny'n rhai yr wyf i'n rhoi cryn ystyriaeth iddyn nhw wrth edrych ar sut y gallwn ni elwa arnyn nhw.
Diolch i chi. Roeddech chi'n cyfeirio at annibyniaeth y tribiwnlysoedd. Wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol yr ydych chi'n bwriadu diwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru â nhw, sut fyddech chi'n ymateb i'r 94 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a oedd yr ymatebwyr yn cytuno â'r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol sy'n berthnasol i bawb sydd â chyfrifoldeb am weinyddu cyfiawnder fel bo'n berthnasol i'r system tribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru, gyda llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan,
'Yn gwbl sicr. Mae hwnnw'n gam hanfodol y mae angen ei sefydlu yn bendant cyn trosglwyddo pwerau awdurdodaethol', gyda Dr Huw Evans o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn datgan,
'tra bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal annibyniaeth aelodau tribiwnlys Cymru, fe fydd hi'n rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol amddiffyn yr annibyniaeth honno ar ben hynny', a gyda SNAP Cymru yn mynegi ei gefnogaeth i argymhellion Comisiwn y Gyfraith y dylai fod dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth y tribiwnlysoedd datganoledig?
Mae annibyniaeth y tribiwnlysoedd yn fater a gododd ar sawl achlysur, nid yn unig yn yr ymgynghoriad ond mewn trafodaethau hefyd gyda llywydd newydd y tribiwnlysoedd, Syr Gary Hickinbottom, y byddaf i'n cwrdd ag ef yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ni oes unrhyw gwestiwn o gwbl ynghylch pwysigrwydd annibyniaeth y system. Gan mai nhw sydd wedi dod atom ni, mae angen ffurfioli'r annibyniaeth honno. Fy marn bersonol—mae hwn yn faes i'w ystyried—yw nad wyf i'n credu bod angen deddfu ar gyfer yr annibyniaeth. Yr hyn sy'n angenrheidiol yw bod strwythur llys gennym ni sy'n gweithio yn wirioneddol annibynnol mewn fframwaith barnwrol priodol. Ac nid awdurdodaeth a drosglwyddwyd i ni yw hi; mae hyn gennym ni eisoes mewn nifer o feysydd, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dod a'r cyfan at ei gilydd mewn system haen gyntaf addas sy'n sicrhau'r fantais y bydd barnwyr Cymru yn gallu eistedd mewn mwy nag un tribiwnlys, ond hefyd, wrth i ni basio deddfwriaeth a allai greu strwythurau ynglŷn â throseddau neu apeliadau neu faterion a fyddai'n cael eu cyfeirio at dribiwnlys, mai hwnnw fyddai'r cartref naturiol i'r materion hynny gael eu hystyried mewn gwirionedd.
Diolch i chi. Fy nghwestiwn olaf i ar y thema hon: wrth i mi ymateb i'ch datganiad yn y fan hon fis Mehefin y llynedd ar ddiwygio tribiwnlysoedd a'r dirwedd farnwrol sy'n esblygu yng Nghymru, fe wnes i godi pryderon gyda chi unwaith eto fod plant agored i niwed a'u teuluoedd nhw yng Nghymru yn cael eu siomi oherwydd nad oes gan Dribiwnlys Addysg Cymru unrhyw bwerau gorfodi ac na allan nhw gymryd camau gorfodi pellach pan fo'r cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu â chyflawni eu gorchmynion. Er i'r Uchel Lys ddyfarnu yn 2018 fod gwahardd disgybl awtistig am ymddygiad sy'n deillio o'i awtistiaeth yn anghyfreithlon, rwy'n parhau i dderbyn gwaith achos yn y gogledd lle mae hyn yn digwydd. Felly, wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol yr ydych chi'n bwriadu diwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru trwyddyn nhw, sut ydych chi felly am ymateb i'r 80 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a oedd ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i dribiwnlys haen gyntaf Cymru, gyda llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan,
'Mae arbenigedd arbenigol Aelodau Arbenigol ein Tribiwnlys yn golygu mai ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau teg a chyfiawn sy'n annibynnol ar brosesau Ysgolion neu Awdurdod Lleol unigol'?
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau olaf hynny a wnaethoch chi yn hyn o beth, ac rwy'n credu mai'r bwriad yw bod materion ynglŷn â gwaharddiadau o ysgolion yn faterion a ddaw i mewn i'r tribiwnlysoedd maes o law. A ddaw hynny'n union ar y dechrau sy'n fater arall. Fel gwyddoch chi, mae yna fecanwaith eisoes o ran gwaharddiadau o ysgolion. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n ei gydnabod, ac yn sicr rwy'n cydnabod hynny o ran y nifer o droeon yr wyf i wedi eistedd i mewn yn y llysoedd ieuenctid erbyn hyn, yw ein bod ni'n gweld pa mor bwysig yw mater gwaharddiadau, y swyddogaeth sydd ganddo yn llwybrau pobl ifanc, os yw hynny'n arwain at droseddu, ac ati. Felly, mewn sawl ffordd, o ran ein hamcanion cymdeithasol ni o gadw pobl ifanc o'r system cyfiawnder troseddol, o'r system carchardai yn y pen draw, a mynd i'r afael â'r problemau sydd ganddyn nhw ac ymyrryd yn gynnar, rwy'n credu bod gwaharddiadau yn rhan sylweddol iawn o hynny, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n trin hyn yn iawn, ac rwy'n credu yn sicr mai'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo yw y bydd gwaharddiadau yn fater, maes o law, a ddaw i mewn i'r system dribiwnlysoedd haen gyntaf, pan sefydlir hi mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu y byddai hynny, mae'n debyg, yn cyd-fynd â chanlyniad yr ymgynghoriad a'r sylwadau a gafwyd yn ystod y broses honno o ymgynghori.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, rydych chi a minnau wedi cael cyfle ar fwy nag un achlysur erbyn hyn i drafod y cynnig i gyflwyno gwaharddiad ar dwyll bwriadol gan Aelodau presennol a darpar Aelodau'r Senedd. Nawr, fe ymgorfforwyd y cynnig hwnnw mewn adran newydd, adran 64, o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn dilyn cyfnod pwyllgor y Bil hwnnw'r wythnos diwethaf. Fe wnaethoch chi wrthwynebu'r cynnig yn y cyfnod pwyllgor, ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n dweud wrth y Senedd beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yng Nghyfnod 3 o ran y cynnig hwn nawr. A fyddwch chi'n ceisio ei ddiddymu, neu a fyddwch chi'n cyflwyno gwelliannau ar gyfer ei fireinio, a fydd ym mynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd gennych chi?
Wel, diolch i chi am hynna. O ran y gwelliant, fel gwyddoch chi o'r cyfraniadau a wnes i yn ystod y sesiwn Cyfnod 2 hwnnw, mae gennyf i bryderon difrifol iawn ynghylch hynny, o ran a fydd yn gymwys, ynghyd â mater rheolaeth y gyfraith, eglurder y ddeddfwriaeth, y gallu i honno gael ei gweithredu, creu trosedd o bosib pan na fu unrhyw ymgysylltiad nac ymgynghoriad priodol, ac ati. Fe fyddaf i, yn sicr, yn dadansoddi'r gwelliant a wnaethpwyd. Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth iddo, ac yn sicr fe fyddaf i'n mynegi barn cyn Cyfnod 3, a ddaw o gwmpas 17 neu 18 o fis Mehefin rwy'n credu. Ond rydych chi'n ymwybodol o'r safbwyntiau sydd gennyf i ynglŷn â hyn.
Mae'r dewisiadau a allai fod ar gael i Lywodraeth Cymru naill ai ar gyfer gwelliant neu sicrhau y bydd effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth yn parhau i fod dan ystyriaeth. Fel gwyddoch chi, fy hoff gyfeiriad i fyddai i hwn fod yn fater, ynghyd â mater adalw, y byddai'n well iddynt gael eu hystyried a'u harchwilio gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a ddechreuodd y gwaith hwnnw mewn gwirionedd. Nid fy mhrif amcan i yw o ran beth yw bwriad y gwelliant hwnnw, ond beth yw'r ffordd orau i lunio cyfraith sy'n gyfraith dda ond sy'n gyfraith effeithiol hefyd. Mae gennyf i lawer o amheuon ynghylch natur y rhan honno o'r gwelliant deddfwriaethol a wnaethpwyd, ond mae hi'n parhau i gael ei hystyried gennyf.
Yn eich sylwadau'r wythnos diwethaf yn y cyfnod pwyllgor, roeddech chi'n dweud nad oedd y Llywodraeth wedi cynhyrchu archwiliad dwfn cynhwysfawr eto—rwy'n credu mai dyna oedd eich ymadrodd chi, Cwnsler Cyffredinol—dadansoddiad cyfreithiol o'r cynnig. Rydym ni wedi trafod hynny droeon erbyn hyn, ond ni chafodd y dadansoddiad hwnnw ei gynnal hyd yn hyn, meddwch chi. Rydych chi wedi rhoi crynodeb byr o'r meysydd y ceir pryderon ynddyn nhw, ond a fyddwch chi nawr yn comisiynu'r dadansoddiad cyfreithiol cynhwysfawr hwnnw gan gynghorwyr cyfreithiol y Llywodraeth? Ac, ar gyfer hwyluso'r gwaith craffu seneddol ac yn wir, cyhoeddus ehangaf posibl, ar y cynnig a dehongliad y Llywodraeth ohono, a wnewch chi gyhoeddi'r dadansoddiad cyfreithiol hwnnw er mwyn i ni fod â sail gyffredin i ddeall ym mha le y mae'r Llywodraeth wedi nodi'r materion y mae angen i ni eu datrys yng Nghyfnod 3?
Wel, diolch i chi am y sylwadau yna. Wrth gwrs, pan ddaeth y gwelliant i mewn, prin y cafwyd ychydig ddyddiau o rybudd i roi ystyriaeth i hwnnw mewn gwirionedd. Felly, mae hi'n bryder bod â deddfwriaeth sylweddol yn cael ei chyflwyno heb i'r gwaith manwl hwnnw gael ei wneud arni eisoes na'r craffu cyn hynny chwaith, a dyna un o'm pryderon i ynghylch gwneud gwelliant fel hyn ar gefn darn o ddeddfwriaeth o fewn cwpl o ddiwrnodau. Mae'r materion hynny o ran cymhwysedd yr wyf i'n awyddus i'w hystyried yn faterion sy'n ymwneud â Deddf Anudon 1911. Maen nhw'n ymwneud â Deddf Hawliau Dynol 1998 hefyd. Mae yna rai materion o ran rheolaeth y gyfraith hefyd.
Nawr, rwyf i am fod yn ofalus iawn o ran sut y byddaf i'n ystyried mater cymhwysedd oherwydd, yn gyntaf, mae'n rhaid i mi ffurfio barn ar hynny. Ond, yn ail, mae gen i swyddogaeth benodol ar ddiwedd darn o ddeddfwriaeth, yn Gwnsler Cyffredinol, yr wyf i'n ei gwneud yn annibynnol ar y Llywodraeth, na allaf ei hymarfer ond ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei chwblhau, sef p'un ai i'w chyfeirio at y Goruchaf Lys ai peidio, neu a ellid ei chyfeirio gan y Twrnai Cyffredinol i'r Goruchaf Lys. Os felly, mae'n rhaid i mi gymryd safbwynt ar hynny ar y cam penodol hwnnw. Dyna pam, mewn gwirionedd, y mae gennyf i'r pryderon am natur gwelliant mor sylweddol, sy'n creu trosedd nad yw wedi bod yn destun unrhyw un o'r prosesau ymgysylltu neu graffu arferol ar gyfer pethau o'r fath. Ac, wrth gwrs, peidied neb ag anghofio, pe bai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, mae hi'n annhebygol iawn y byddai'r Bil hwn yn gallu dod i rym ar gyfer etholiad 2026. Felly, mae honno hefyd yn ystyriaeth i mi o ran sut y dylai'r ddeddfwriaeth hon fynd ar ei hynt drwy Gyfnod 3.
Fe garwn i dynnu sylw'r Cwnsler Cyffredinol at y ffaith mai 18 Mehefin fydd y pedwerydd cyfle ffurfiol i'r Senedd drafod y cynnig hwn. Dyma'r hyn y mae seneddau yn ei wneud—maen nhw'n diwygio Biliau'r Llywodraeth, ac mae hi'n debyg y dylem ni wneud hynny'n fwy rheolaidd.
Onid yw ef yn derbyn bod yr ymchwiliad i waed heintiedig, yn y ffordd fwyaf graffig ac erchyll, wedi dangos bod diwylliant o ddweud celwydd a chelu mewn gwleidyddiaeth? Ac mae yna anghymesuredd o ddioddefaint ar hyn o bryd, oherwydd nid yw'r gwleidyddion sy'n dweud celwydd yn wynebu unrhyw ganlyniadau, ond mae'r bobl sy'n dioddef oherwydd y rhain yn wynebu'r canlyniadau mwyaf ofnadwy, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei newid gyda'r cynnig hwn. A gaf i roi awgrym iddo, o ystyried y cyd-destun hwnnw, ac yn hinsawdd bresennol y farn gyhoeddus, ni fyddai hi'n gwneud unrhyw les o gwbl i enw da'r Llywodraeth hon pe byddech chi'n ceisio diddymu cynnig i wahardd, i nadu dweud celwydd ym myd gwleidyddiaeth? Felly, yn lle gwneud hynny, gweithiwch gyda ni ar sail drawsbleidiol i wneud hyn yn iawn, oherwydd dyna'r hyn y mae'r cyhoedd yn awyddus i'w weld.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r pwynt olaf yna, a dyna pam rwy'n credu mewn gwirionedd, yn y maes hwn o ran materion adalw, ym materion safonau, a'r materion o dwyll, y dylid cael darn o ddeddfwriaeth a ystyriwyd yn briodol a darn o ddeddfwriaeth a fu'n destun craffu, a deddfwriaeth sydd wedi ymgysylltu yn briodol â phobl a phleidiau a rhanddeiliaid perthnasol hefyd, a honno fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni deddfwriaeth sy'n gweithio mewn gwirionedd.
Nawr, rydych chi'n hollol gywir—o ran digwyddiadau, boed hynny'n Hillsborough, boed yn alwadau o ran Orgreave, boed hynny o ran y gwaed heintiedig, Horizon ac ati—mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw'r hyn y gofynnodd fy nghyd-Aelod Jack Sargeant amdano, a hynny yw dyletswydd gonestrwydd statudol. Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw gwelliant i ddeddfwriaeth sy'n honni ei fod yn datrys problem ond, mewn gwirionedd, nid yw'n llawer gwell na chyfraith ddrwg ac aneffeithiol. Hwnnw yw fy mhryder i—ein bod ni'n gweld rhywbeth fel ateb cyflym, yn fwled hud, ond yn y diwedd, wrth graffu ar y peth, nid yw'n ddim o'r fath. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben fod y ddeddfwriaeth a luniwn ni yn y lle hwn ar faterion mor bwysig yn ddeddfwriaeth a fydd yn gweithio mewn gwirionedd, a fydd yn effeithiol mewn gwirionedd ac a fydd yn cyflawni'r hyn yr ydym ni awyddus iddi wneud mewn gwirionedd. Mae cryn amheuon gennyf i a yw'r gwelliant a basiwyd yn goresgyn y rhwystrau hynny.