Ymgysylltu â'r Cyhoedd mewn Etholiadau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 21 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:00, 21 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am chwalu'r rhwystrau rhag cyfranogi, oherwydd dyna fydd fy nghwestiwn atodol o ran cyflwyno dogfennau adnabod pleidleiswyr. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod cyflwyno'r rhain wedi bod yn anniben heb unrhyw resymeg wirioneddol. Fe gewch chi bleidleisio gyda phas bws unigolyn hŷn, ond nid gyda phas bws unigolyn ifanc. Fe gewch chi ddefnyddio rhai pasbortau, fel pasbortau'r DU, yr UE a'r Gymanwlad, ond nid unrhyw un arall. Roedd rhai adroddiadau bod rhai â phasbortau o Bangladesh a Pacistan yn cael eu gwrthod ar gam mewn etholiadau lleol yn Lloegr. Efallai fod y staff pleidleisio eu hunain yn ansicr o'r rheolau. Ac o ran hawl unigolyn i bleidleisio, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud cyfiawnder â hynny. A yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn casglu data ar effaith dogfennau adnabod pleidleiswyr, ac a fu gwahaniaeth ar sail hil o ran y rhai a wrthodwyd rhag bwrw eu pleidlais? Diolch yn fawr.