2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am ar 21 Mai 2024.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli'r system gyfiawnder? OQ61160
Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydym ni'n parhau i gefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel yr argymhellwyd hynny gan nifer o gomisiynau annibynnol dros y blynyddoedd, gan gynnwys y comisiwn cyfansoddiadol yn fwyaf diweddar.
Diolch am yr ateb, Cwnsler Cyffredinol.
Yr wythnos diwethaf, fe ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol am y sefyllfa bryderus yng Ngharchar Ei Fawrhydi Parc, ac yn benodol a oedd yna gefnogaeth i'r galwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn disodli G4S o ran rhedeg y carchar. Yn ddiamau, fe fydd swyddogaeth carchardai preifat yn rhan o'r ddadl ynghylch datganoli cyfiawnder, ac felly yn y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, pa ystyriaeth a roddir i sut wedd allai fod ar system garchardai ddatganoledig, sut y gellid ei strwythuro, a pha wrthdaro cyfreithiol posibl allai godi wrth ei datganoli hi?
Diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn hwn. Mae'r marwolaethau diweddar yn peri pryder mawr, ac yn sicr, rwy'n awyddus i fynegi fy nghydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n deall bod cyfanswm o naw o farwolaethau wedi bod yn ystod y ddau fis diwethaf yng Ngharchar Ei Fawrhydi Parc. Er bod rhedeg carchardai yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i drafod y marwolaethau hyn, ac ar gyfer cytuno ar gamau i helpu i leihau'r perygl o niwed i'r dyfodol, o ystyried y cyswllt rhwng carchardai a meysydd datganoledig.
Fel gŵyr yr Aelod, wrth gwrs, er bod y rhain yn faterion a gedwir yn ôl, mae swyddogaeth a gwaith penodol iawn gennym ni o ran iechyd ac addysg yn y carchardai hynny, ac mae swyddogaeth benodol iawn gennym ni hefyd o ran carcharorion wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau o'r carchar gyda phethau fel cyflogaeth, fel tai a swyddogaethau datganoledig eraill. Fe allaf i ddweud wrthych chi fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Edward Argar, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Garchardai, Parôl a Phrawf ynglŷn â'r mater hwn, ac mae ef yn aros am ateb. Ac, unwaith eto, fel gydag unrhyw farwolaeth yn y ddalfa, fe fydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn ymchwilio i hyn.
Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Mae'r amcanestyniad diweddaraf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhagweld cynnydd syfrdanol o 30 y cant ym mhoblogaeth carchardai dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn cyrraedd 115,000 o garcharorion erbyn 2028 o bosibl, sy'n amcanestyniad a ddisgrifir fel un hollol anghynaladwy gan yr Howard League for Penal Reform. Mae'r Deyrnas Unedig yn ymgodymu eisoes â rhai o'r cyfraddau carcharu uchaf fesul poblogaeth yng ngorllewin Ewrop, gyda'n system gyffredinol yn orlawn bob blwyddyn ers 1994. O fis Ebrill eleni, mae cyfradd y DU yn aros ar 145 o garcharorion fesul 100,000, sef bron ddwywaith y canolrif rhanbarthol, sef 73. Mae hi'n amlwg y bydd yn rhaid i ni wrthod datrysiad diffygiol yr uwchgarchardai, fel CEF Berwyn yn Wrecsam. Er gwaethaf yr addewidion o ran adsefydlu, roedd un o bob 10 carcharor yng Ngharchar Berwyn yn dweud bod ei brofiad yno'n fwy tebygol o wneud iddo aildroseddu. A datgelodd yr arolygiad diweddaraf, y llynedd, gyfraddau brawychus o uchel o hunan-niweidio, fel tynnodd Luke Fletcher sylw at hynny yng Ngharchar y Parc, cefnogaeth annigonol, a 43 y cant yn teimlo yn anniogel. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Cwnsler Cyffredinol, pan fyddwn ni'n datganoli cyfiawnder troseddol yma i Gymru, a fyddwch chi'n cau CEF Berwyn yn Wrecsam? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau pwysig iawn y gwnaethoch chi eu codi. Ymwelodd y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â Berwyn a charchardai eraill i edrych ar lawer o'r materion y gwnaethoch chi eu codi. Rydych chi'n iawn i ddweud y bu yna bwysau parhaus ar yr ystad carchardai dynion i oedolion o ran y niferoedd, ac rwy'n deall bod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag ystod o fesurau i ysgafnu'r pwysau hwnnw. Mae hi'n amlwg iawn fod poblogaeth carchardai wedi codi, a bod polisi carchardai yn fethiant mawr. Rydym ni'n sefyll ar wahân oddi wrth y polisïau blaengar o ran carchardai ac adsefydlu a geir yn Ewrop i gyd. Rwyf i o'r farn fod y pwysau ar y system cyfiawnder troseddol presennol yn adlewyrchu effaith degawdau o ymagwedd gosbol ac atchweliadol tuag at faterion troseddu a chyfiawnder. Fe ddaeth yn fwyfwy amlwg fod angen dull amgen o weithredu. Ac mae hynny mewn sawl ffordd yn sail i'r dadleuon y gwnaethom ni eu cyflwyno o ran datganoli cyfiawnder a chyfiawnder troseddol—nid o ran cymryd rheolaeth ar rywbeth er ei fwyn ei hunan, ond ar gyfer gwneud hynny mewn dull arall, i'w integreiddio â'r swyddogaethau cymdeithasol hynny i gyd sydd mor bwysig o ran adsefydlu.
Fe allaf i ddweud wrthych chi hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod ag Amy Rees, cyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, ac Ian Barrow, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Fe ddigwyddodd hynny ar 22 o fis Ebrill, pan drafodwyd rhai o'r materion hyn mewn gwirionedd. Mae ein swyddogion ni, hyd yn oed yn y maes hwn a gedwir yn ôl, yn parhau i weithio mewn partneriaeth â nhw, ac rydym ni'n dal ati i wneud ymyraethau yn y meysydd hynny sydd yn ein cyfrifoldeb, i geisio gwneud y gwahaniaeth arbennig hwnnw, ond ar gyfer deall y datblygiadau hefyd a'r hyn sy'n digwydd a sut mae hynny'n effeithio o ran y gefnogaeth a'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu fel Llywodraeth.