1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 21 Mai 2024.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynllun gweithredu strategol y Llywodraeth ar gyfer urddas mislif? OQ61180
Diolch am y cwestiwn. Cyhoeddwyd diweddariad ar 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' ar wefan Llywodraeth Cymru ar 8 Mawrth, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Gwnaed cynnydd ym mhob agwedd ar y cynllun a bydd yn parhau, gan sicrhau bod urddas mislif yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon.
Diolch, Brif Weinidog. Dwi wedi darllen y diweddariad hwnnw, ond, yn amlwg, o ran yr ochr ymarferol, mi fyddwch chi'n ymwybodol, yn Awst 2022, y daeth yna ddeddfwriaeth mewn yn yr Alban oedd yn ei gwneud hi'n Ddeddf bod yn rhaid darparu cynnyrch mislif am ddim.
Byddwch yn gwybod bod hwn y cyntaf o'i fath yn y byd, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma, a dilynodd Gogledd Iwerddon yn gynharach y mis hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y cynllun, i fynd i'r afael â thlodi mislif yng Nghymru, ac, fel yr amlinellwyd gennych chi yn eich ymateb, diweddarwyd yr ymrwymiad hwn, ond nid yw'n ofyniad cyfreithiol. Mae'n golygu bod anghysondeb o ran mynediad a'r mathau o gynhyrchion sydd ar gael, yn dibynnu ar le mae pobl yn byw yng Nghymru. Rwy'n dal i glywed am gynhyrchion wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cloi i ffwrdd mewn cypyrddau ysgolion yn casglu llwch, â dysgwyr ddim yn gallu cael gafael ar gynhyrchion y mae taer eu hangen arnyn nhw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro llwyddiant y cynllun gweithredu o ran cael y cynhyrchion i'r bobl sydd eu hangen? Ac a roddwyd ystyriaeth i ymgorffori'r hawl i fynediad at gynhyrchion trwy ddeddfwriaeth? Os naddo, pam ddim?
Diolch am y cwestiwn. Mae'n destun pryder i mi glywed unrhyw enghreifftiau o gynhyrchion yn cael eu cloi i ffwrdd ac nad oes mynediad hawdd atynt er mwyn eu defnyddio. Dyna holl bwynt yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed enghreifftiau penodol, i wneud yn siŵr yr ymdrinnir â bwriad a phwrpas ein cynllun y cytunwyd arnyn nhw yn ymarferol. Wrth gwrs, rydym ni'n ystyried yr achos ynghylch a fydd deddfwriaeth yn cyflawni'r newid ymarferol yr ydym ni eisiau ei weld. A dweud y gwir, yn y dysgu sy'n digwydd rhwng Cymru a'r pedair gwlad arall, rydym ni'n gweld bod llawer i'w ddysgu o'r hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud, ond, hefyd, mae gan wledydd eraill yn y DU ddiddordeb yn yr hyn y mae Cymru'n ei wneud. Felly, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gopïo'r ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gennym ni ddiddordeb yn y cynnydd ymarferol yr ydym ni'n ei wneud. A rhan o hyn yw gwneud yn siŵr bod sgwrs wedi'i normaleiddio am y mislif ac iechyd mislif, nad yw'n rhywbeth i beidio ei drafod, ond, mewn gwirionedd, i'w drafod yn agored a gwneud yn siŵr bod mynediad yn cael ei ddarparu'n ymarferol ar gyfer cynhyrchion mislif. Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda Gweinidogion perthnasol yn y Llywodraeth, os gwnaiff yr Aelod roi'r enghreifftiau y mae wedi eu rhannu i mi, oherwydd mae angen i ni fynd i'r afael â'r rheini.
Aelodau, 'Addysg, addysg, addysg' oedd hen ymadrodd Llafur Newydd. Nawr, fel y mae Plan International yn ei nodi yn eu hadroddiad 'Break the Barriers', mae'r tabŵs a'r diffyg addysg ynghylch y mislif wedi cael nifer o effeithiau negyddol gwirioneddol ar fywydau merched o ddydd i ddydd. Wrth gwrs, mae cynllun 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' Llywodraeth Cymru yn cyflwyno uchelgais i wreiddio urddas mislif mewn ysgolion, ond gallai gymryd tan 2027 i'r targed hwnnw gael ei gyrraedd. Nawr, rwy'n cytuno â geiriau'r Gweinidog partneriaeth gymdeithasol blaenorol, Hannah Blythyn AS, a ddywedodd yn gynharach eleni bod yn rhaid gwneud mwy i wella addysg ynghylch cylchoedd mislif os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion. Ac mae Hannah i'w chanmol nid yn unig am hyrwyddo'r achos hwn, ond hefyd am weithredu'n uniongyrchol yn y sector addysg i helpu i fynd i'r afael â thlodi mislif. O ystyried ymadawiad cyn pryd yr Aelod â Llywodraeth Cymru, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr arweinyddiaeth agored a chryf a ddangosodd ar y mater hwn yn parhau, mewn gwirionedd? Diolch.
Ceir ymrwymiad gan y Llywodraeth gyfan i gyflawni nid yn unig yn erbyn y cynllun, ond y newidiadau ymarferol yr ydym ni eisiau eu gweld yn digwydd. Os ystyriwch chi'r dewis bwriadol i sicrhau, yn y cod ar berthnasoedd ac addysg rywiol, bod iechyd mislif yn rhan allweddol o hynny, i wneud yn siŵr ei bod yn sgwrs i bawb mewn ystafell ddosbarth. Mae'r gwaith hwnnw yn cael ei ddatblygu, a gallaf eich sicrhau bod pob aelod o'r Llywodraeth yn cymryd o ddifrif o fewn eu portffolio sut y caiff hyn ei ddatblygu, pa un a yw'n Lynne Neagle fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, neu'n rhan o'r gwaith y mae Eluned Morgan yn ei arwain ar gael cynllun iechyd menywod priodol, gan gynnwys arweinydd clinigol cenedlaethol am y tro cyntaf. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud ymrwymiadau y byddwn yn eu cadw.