1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 21 Mai 2024.
1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal iechyd i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ61178
Diolch am y cwestiwn. Llywydd, gan mai hwn yw'r cwestiwn iechyd cyntaf y gwnaf i ei ateb, a'r cyfle cyntaf i wneud hynny ar y cofnod yn dilyn sgandal gwaed heintiedig ddoe, a gaf i roi fy ymateb uniongyrchol ar gof a chadw, gan y bydd hyn yn sicr yn effeithio ar etholwyr nid yn unig yng Nghonwy a sir Ddinbych, ond ledled y wlad? Roedd graddfa ryfeddol y loes a'r celu a ddatgelwyd gan adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn wirioneddol frawychus. Mae'n achos o gelu degawdau o hyd sydd wedi effeithio ar Lywodraethau o bob arlliw, a'n gwasanaeth iechyd gwladol, a bydd gan bob Aelod yn y Siambr hon etholwyr yr effeithiwyd arnynt.
Fe wnaf i ddod at y cwestiwn.
Hoffwn, yn arbennig, dalu teyrnged i'r rhai a ymgyrchodd ar y mater hwn, ar draws pleidiau, ac nid yn unig Julie Morgan mewn gwahanol Seneddau, ond y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol eu hunain, ac i roi ymddiheuriad uniongyrchol a diamwys ar ran Llywodraeth Cymru, ac i nodi y bydd dadl yn cael ei chynnal ar 4 Mehefin.
Yn uniongyrchol ar wasanaethau eraill yng Nghonwy a sir Ddinbych, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at ofal diogel a phrydlon ac at wasanaethau o ansawdd uchel.
Diolch am yr ateb yna—
A gaf i ymyrryd yn gyflym? Roedd hwnna'n ddefnydd amhriodol o gwestiwn 1. Byddwn wedi disgwyl, pe bai'r Llywodraeth yn mynd i wneud datganiad, a bod y Prif Weinidog yn dymuno gwneud hynny, y byddai unrhyw gais i mi i wneud datganiad ar y mater pwysig iawn hwn wedi cael ei dderbyn heddiw, ac rwy'n siŵr y byddai'r Pwyllgor Busnes wedi ei dderbyn mewn modd tebyg. Gofynnaf i Darren Millar barhau gyda'i gwestiwn atodol.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nid yw gwasanaethau gofal iechyd yng Nghonwy a sir Ddinbych mewn lle da. Rydym ni'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn y gogledd mewn mesurau arbennig. Un o'r problemau sydd gen i yn fy etholaeth i yw problem Canolfan Feddygol West End Bae Colwyn. Mae'n bractis a reolir, sy'n cael ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ac rwy'n derbyn sawl cwyn am y gwasanaethau gan y feddygfa benodol honno bob un wythnos. A dweud y gwir, mae 100 y cant o'r cwynion yr wyf i wedi eu derbyn am wasanaethau meddygon teulu ers dechrau'r flwyddyn hon wedi bod am yr un practis unigol hwn yn fy etholaeth. Mae cleifion yn cwyno am fethu â gallu cael apwyntiadau, methu â chael drwodd ar y ffôn, methu â chael atebion i negeseuon e-bost, methu â chael galwadau yn ôl a addawyd iddyn nhw, methu â chael brechiadau sydd ar gael mewn meddygfeydd eraill, a methu â chael presgripsiynau mewn pryd a rhedeg allan o'r feddyginiaeth hanfodol sydd ei hangen arnyn nhw. Nid yw'n ddigon da. Mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Mae'r bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig, fel y dywedais yn gynharach, ac mae'r practis hwn yn cael ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. Pa gamau ydych chi a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd er mwyn datrys y problemau hyn, fel bod fy etholwyr yn cael y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol bod practis y West End yn achos o uno, rwy'n deall, practisiau blaenorol nad oedden nhw'n gallu gweithredu'n llwyddiannus. Fy nealltwriaeth i yw bod hwn yn bractis a reolir yn uniongyrchol sydd wedi bod yn recriwtio staff newydd i ddod i mewn, gan gynnwys meddygon hefyd. Byddaf yn hapus i siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet, ond hefyd gyda'r bwrdd iechyd, i sicrhau bod nodyn uniongyrchol i'r Aelod ar yr hyn sy'n digwydd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol os nad yn unig ar gyfer y rhestr o faterion y mae wedi eu codi nawr, ond i fod yn eglur am unrhyw faterion penodol y mae eisiau iddyn nhw gael eu codi ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn ymateb gan y bwrdd iechyd, oherwydd rwy'n cymryd o ddifrif, yn hwn neu yn unrhyw bractis arall, bod trigolion yn gallu cael mynediad at ofal a gwasanaethau o ansawdd uchel, a, lle nad yw hynny'n wir, ein bod ni'n ymwybodol ohono fel y gallwn ni wneud rhywbeth amdano. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn manteisio ar gyfleoedd i siarad yn uniongyrchol â'r bwrdd iechyd eu hunain, yn ogystal â'r rhai sy'n rhedeg y practis yn uniongyrchol.