1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan arweinwr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i gymeradwyo'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau agoriadol a thalu teyrnged i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, os caf, sydd wedi arwain ers blynyddoedd lawer ar y pwnc pwysig iawn hwn, nid yn unig yn y lle hwn, ond yn San Steffan hefyd? Weithiau, rydym ni'n anghytuno ar draws y Siambr, ond gellir goresgyn yr anghytuno hwnnw pan fyddwn ni'n gweld y cydweithrediad hwnnw ar fater mor bwysig. Ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi ei wneud arno.
Prif Weinidog, ddydd Iau diwethaf, fe wnaethoch chi ddiswyddo o'ch Llywodraeth y Dirprwy Weinidog cyfiawnder cymdeithasol. Y rheswm a roesoch oedd eich bod chi'n honni bod gennych chi dystiolaeth a oedd yn dangos ei bod wedi datgelu gwybodaeth allan o'r Llywodraeth i'r cyfryngau. A allwch chi gadarnhau yn union pa dystiolaeth sydd gennych chi, a sut mae'r dystiolaeth honno yn gwneud synnwyr, pan fo'r Dirprwy Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl eglur na wnaeth hi ddatgelu gwybodaeth a'i bod yn dadlau ei huniondeb?
Wel, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i aelodau ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys, wrth gwrs, yr Aelod sydd bellach wedi gadael y Llywodraeth. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw ran o'r DU naill ai'n rhoi sylwebaeth barhaus nac yn cyhoeddi'r holl wybodaeth. Mae rhywfaint o'r wybodaeth honno'n sensitif i Weinidogion eraill. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ar ôl i chi ddod i gasgliad yn briodol nid yn unig bod gennych chi ddewis, ond, yn y swydd hon, gyfrifoldeb i weithredu, sef yr hyn yr wyf i wedi ei wneud, er gwaethaf yr holl anawsterau a'r her y mae hynny'n eu hachosi.
Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddo am gydnabod gwaith nid yn unig yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, ond pobl ar draws y Siambr hon ac mewn Seneddau eraill hefyd ar yr ymgyrch eang i gwblhau'r ymchwiliad ar waed heintiedig, ond hefyd y ffordd y mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar y cynllun iawndal i etholwyr ledled ein gwlad ac, yn wir, a gynrychiolir gan bobl o bob arlliw gwleidyddol.
Prif Weinidog, pan fo dwy ochr mor wahanol i benderfyniad—eich penderfyniad chi i ddiswyddo'r Aelod o'r Llywodraeth, yn seiliedig ar y dystiolaeth y gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi ei hasesu ac y mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud, rwy'n tybio, y mae wedi ei gweld, oherwydd yn ei chyfweliad ddoe fe wnaeth hi gefnogi'r penderfyniad yr oeddech chi wedi ei wneud ar sail y dystiolaeth, ac yna mae gennych chi Ddirprwy Weinidog sydd wedi gwasanaethu o fewn y Llywodraeth yn dweud yn eglur nad hi yw ffynhonnell y datgeliad hwnnw, ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod uniondeb yn bwysig mewn gwleidyddiaeth ac mae hi'n dadlau ei huniondeb—allwch chi ddim gweld, nid yn unig gen i fel gwleidydd cystadleuol, ond o dybiaeth y cyhoedd yn gyffredinol o'r hyn sy'n digwydd yma, na all y ddwy stori hynny fod yn iawn? Mae un ohonyn nhw'n iawn, mae un ohonyn nhw'n anghywir. A wnewch chi sicrhau bod y dystiolaeth honno ar gael fel y gellir cau pen y mwdwl ar hyn, fel y gall y Llywodraeth fwrw ymlaen â'i gwaith pwysig o lywodraethu er budd pennaf pobl Cymru, ac y gallwn ni, mewn gwirionedd, weld pwy sy'n dweud y gwir yma? Nid arweinydd y Ceidwadwyr sy'n dweud hyn; mae'n fater o'r Prif Weinidog yn dweud un peth a chyd-Weinidog Llafur y diswyddodd o'i Lywodraeth yn dweud peth arall. Mae anghysondeb yno. Mae angen egluro'r anghysondeb hwnnw.
Fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais. Mae hwn yn ddewis eithriadol o anodd ei wneud, ond serch hynny mae cyfrifoldeb arnaf i wneud y dewis hwnnw. O ddeall y sefyllfa, gweithredais yn unol â chod y gweinidogion a llawlyfr Cabinet y Llywodraeth, a gofynnais am gyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y broses. Ni wnaf i roi sylwebaeth barhaus ac ni wnaf i gyhoeddi gwybodaeth, oherwydd ni fyddai unrhyw Lywodraeth yn y sefyllfa hon yn gwneud hynny, o unrhyw arlliw, mewn unrhyw ran o'r DU. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, fodd bynnag, fod gan y Llywodraeth hon genhadaeth i lywodraethu dros y wlad gyfan, sef yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Os edrychwch chi ar y pethau yr ydym ni eisoes yn cymryd camau arnyn nhw, pa un a yw'n ddyfodol ffermio cynaliadwy, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal i oedi gweithredu diwydiannol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar geisio cael gwahanol ddyfodol i weithwyr dur, mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r gwaith yr ydym ni yma i'w wneud. Rwy'n cydnabod bod Aelod yn gadael y Llywodraeth yn ddigwyddiad ynddo'i hun. Rydym ni'n ceisio ymdrin â'r sefyllfa anodd honno mor sensitif â phosibl. Rwy'n dal i feddwl bod dyfodol i'r Aelod yn y sefydliad hwn, ac o bosibl yn y Llywodraeth yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i ymddwyn felly, mewn ffordd ddidwyll, yn y ffordd y mae angen i mi wneud dewisiadau, ac rwy'n cymryd fy uniondeb fy hun o ddifrif, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl.
Tynnodd yr Aelod dros Aberconwy sylw at y gwaith da a wnaeth y Dirprwy Weinidog o ran ei chyfrifoldebau portffolio. Rwyf i wedi gweld y gwaith da hwnnw'n cael ei wneud o ran gwasanaeth tân de Cymru. Ond mae enw da'r Aelod yn deilchion heddiw oherwydd i chi ei diswyddo o'r Llywodraeth oherwydd i chi ddweud mai hi oedd ffynhonnell datgeliad i'r cyfryngau. Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn i'w wneud, yn enwedig pan fo'r cyhuddiad hwnnw'n cael ei ddadlau.
Rwy'n derbyn honiad y Prif Weinidog na all unrhyw Weinidog aros o fewn Llywodraeth a datgelu gwybodaeth ohoni. Ni allai Llywodraeth o unrhyw arlliw oddef hynny. Mae'n rhaid cael cyfrifoldeb cyfunol. Nid dyna'r ddadl na'r drafodaeth yma. Y ddadl neu'r drafodaeth—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn grwgnach yn y fan yna. Os ydych chi eisiau dweud rhywbeth, byddai'n dda ei glywed a chlywed yr amddiffyniad sydd gennych chi i'r Prif Weinidog. Ond y pwynt yn y fan yma yw bod dwy stori wahanol yma, ac nid yn afresymol mae pobl yn pendroni pwy sy'n dweud y gwir. Pwy sy'n dweud y gwir yma o ran y penderfyniad hwn sy'n terfynu gyrfa? Oherwydd rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am lwybr yn ôl i'r Llywodraeth, ond mae'r cyhuddiad yr ydych chi wedi ei wneud yn erbyn y cyn-ddirprwy Weinidog yn terfynu ei gyrfa os yw'n wir. Ni wnewch chi gyhoeddi'r wybodaeth honno, sy'n destun edifeirwch. Gofynnaf i chi oedi a myfyrio a meddwl am wneud yr wybodaeth honno yn gyhoeddus. Fel y mae Hannah Blythyn wedi ei ddweud, mae ei huniondeb yn parhau; A yw eich uniondeb chi, Prif Weinidog?
Fe wnaf i ailadrodd y pwynt yr wyf i wedi ei wneud eto. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth o unrhyw arlliw y bu'n rhaid iddi weithredu ar y sail hon yn cyhoeddi'r wybodaeth honno. Rydym ni wedi gweld hynny mewn sefyllfaoedd eraill hefyd, mewn gwirionedd. O ran y dyfodol, rwyf i wedi cydnabod y gwaith y mae'r Aelod wedi ei wneud, nid yn unig yn y sgwrs anodd iawn a gafwyd, ond hefyd yn fy ymateb ysgrifenedig iddi. Byddwn yn dweud, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi canfod, mewn achosion blaenorol lle mae Gweinidogion wedi torri'r cod gweinidogol, eu bod nhw wedi cael cyfleoedd i ddychwelyd mewn mannau eraill ac yma hefyd, yn wir. Mae dau Weinidog blaenorol wedi cael mwy nag un tro yn y Llywodraeth. Felly, nid wyf i'n derbyn honiad yr Aelod mai dyma ddiwedd gyrfa'r Aelod. Rwy'n credu ei bod hi'n berffaith bosibl yn y dyfodol y gallai ddychwelyd, ac edrychaf ymlaen at gyfle i weithio gyda hi i gyflawni ac adeiladu ar y gwaith y mae eisoes wedi ei wneud. Rwy'n eglur iawn ynghylch fy uniondeb a'r dewis anodd iawn y bu'n rhaid i mi ei wneud, ond rwy'n eglur iawn mai'r dewis yw'r un cywir i'r Llywodraeth ac i'r gwaith y mae angen i ni ei wneud ar ran y wlad, ac mae hynny'n tanlinellu'r holl benderfyniadau yr wyf i wedi eu gwneud yn y mater hwn.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf mi wnes i roi gwybod i'r Prif Weinidog fod grŵp Plaid Cymru wedi penderfynu dod â diwedd i'r cytundeb cydweithio. Dŷn ni ar y meinciau yma yn falch iawn o beth gafodd ei gyflawni drwy'r cytundeb hwnnw, ac mi wnes i bwysleisio wrth y Prif Weinidog ein hymrwymiad ni i barhau i gydweithio, wrth gwrs, ar faterion lle dŷn ni yn gytûn efo nhw. Dwi'n ailadrodd y neges honno heddiw yn ddiffuant.
Mi oedd y penderfyniad i dynnu allan o'r cytundeb yn seiliedig ar nifer o ffactorau, a'r ffactorau hynny yn golygu bod gormod o sylw yn y pen draw yn cael ei dynnu oddi ar waith pwysig y cytundeb. Mae gan Brif Weinidog newydd berffaith hawl i osod cyfeiriad newydd i'w Lywodraeth, ond doedden ni ddim yn gytûn ar ei amserlen newydd o ar gyfer diwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni hefyd yr argyfwng parhaus o gwmpas arweinyddiaeth y Prif Weinidog.
Peth arall a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddiad bod £31,000 a oedd yn weddill o'r rhodd o £200,000 gan lygrydd amgylcheddol y'i cafwyd yn euog yn cael ei drosglwyddo i'r Blaid Lafur yn ganolog. Dywedir wrthym ni heddiw ei fod yn cael ei roi i achosion blaengar. Gadewch i mi ofyn y cwestiwn syml hwn: a yw'r Prif Weinidog yn credu mai dyma ddiwedd y mater rywsut?
Felly, ceir nifer o bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi. Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt rhoddion yn gyntaf, sef, yn unol â rheolau'r ornest, mae'n ofynnol i mi ddychwelyd yr arian i Lafur Cymru. Maen nhw wedi cytuno i'm cais i ddarparu'r arian hwnnw i achosion blaengar, ac mae angen i weithrediaeth Llafur Cymru benderfynu hynny nawr. Rwyf i eisiau bod yn eglur na fyddaf yn cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad hwnnw; rwy'n credu bod angen iddyn nhw gael y sgwrs honno'n rhydd a heb i mi fod yn yr ystafell.
O ran eich pwynt ehangach ynghylch y cytundeb cydweithio a'r ffaith ei fod yn dod i ben, rwy'n gresynu ymadawiad cynnar Plaid Cymru o'r cytundeb hwnnw. Mater i'r Aelod, fel arweinydd Plaid Cymru, yw dewis amseriad hynny. Byddwn wedi bod yn hapus i weld y cytundeb yn mynd yr holl ffordd drwodd i'r diwedd. Mae llawer yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd. Roeddwn i yn Ysgol Gynradd Ringland yr wythnos diwethaf, yn dathlu'r ugain miliynfed pryd o fwyd yr ydym ni wedi ei ddarparu o dan ein polisi prydau ysgol am ddim cyffredinol i blant ysgol gynradd. Cafwyd datganiad i'r wasg ar y cyd â sylwadau gan arweinydd Plaid Cymru. Mae mwy o bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud o hyd hefyd: lansiad y strategaeth ddiwylliant yr wythnos hon; yn y dyfodol, y gwaith sy'n cael ei wneud ar y ford gron ar y cynllun ffermio cynaliadwy; a llawer iawn mwy. Byddwn wedi hoffi cael y cyfle i barhau i gydweithio, a hoffwn ddiolch i'r arweinydd blaenorol, ond hefyd y ddau Aelod dynodedig am y ffordd broffesiynol ac adeiladol iawn y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny a phroffesiynoldeb cynghorwyr arbennig Plaid Cymru a gefnogodd y cytundeb hwnnw.
Wrth gwrs, byddwn yn anghytuno ynghylch amrywiaeth o bethau o fewn y cytundeb a'r tu allan iddo, ond byddaf yn parhau i weithio mewn ffordd sy'n ceisio gwneud y peth iawn i'r wlad ac i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau yr ydym ni eisoes wedi'u cyflawni, y rhai nad ydym wedi'u cyflawni eto hefyd, a dyna fydd y ffordd y bydd fy Llywodraeth yn parhau. Dylwn nodi hefyd, wrth gwrs, mai'r Aelod yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed heintiedig, ac mae ef ac eraill wedi chwarae rhan wirioneddol i wneud yn siŵr bod gan yr ymgyrch honno lais go iawn yn y Senedd hon hefyd.
Rwy'n cael fy nghalonogi gan sylwadau'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylem ni barhau i gydweithio, wrth gwrs, lle ceir meysydd lle rydym ni'n rhannu blaenoriaethau. Ond gwelais ei fod eisiau symud yn weddol gyflym ymlaen o fater y rhoddion. Ni allwn symud ymlaen mor gyflym â hynny. Talwyd yr arian i Lafur yn ganolog, wrth gwrs. Yn un peth, byddwn yn dweud bod y penderfyniad i roi'r arian nawr i achosion blaengar yn rhoi'r achosion hynny mewn sefyllfa eithaf anodd, ond nid wyf i'n mynd i'w beirniadu.
Yn ail, trosglwyddo'r £31,000 gweddilliol yw'r darn hawdd, onid yw? Rydym ni'n dal i feddwl, fel y mae llawer o Aelodau Llafur, mai'r peth iawn y dylid ei wneud oedd ad-dalu'r arian yn ei gyfanrwydd. Ond hefyd mae gennym ni gadarnhad nawr na fydd Llafur yn cymryd yr arian. Byddai'r arian hwnnw wedi pardduo holl ymgyrch etholiad cyffredinol y Blaid Lafur. Felly, onid yw penderfyniad Llafur i'w wrthod yn profi camgymeriad difrifol y Prif Weinidog o ran crebwyll o fod yn fwy na pharod i'w gymryd yn y lle cyntaf?
Rwy'n credu ei fod yn dangos mewn gwirionedd eu bod nhw wedi cymryd o ddifrif y cais a wneuthum i'r arian gael ei ddefnyddio at wahanol ddiben. Fel erioed, nid yn unig yr wyf i wedi gweithredu yn unol â'r rheolau, ond rwyf i hefyd wedi cydnabod y pwyntiau y mae nifer o Aelodau wedi eu gwneud, a dyna pam mae proses o fewn fy mhlaid fy hun i edrych ar reolau'r dyfodol i ddeall y profion y mae angen i bawb eu bodloni. Ond hefyd rwy'n credu ei bod hi'n briodol edrych ar hyn ar sail drawsbleidiol, oherwydd mae angen i unigolion a phleidiau i gyd ddeall y prawf y mae angen iddyn nhw ei fodloni, pa un a yw hynny'n ymwneud â chapiau ar roddion, pa un a yw hynny'n ymwneud ag unrhyw wybodaeth arall yr hoffech chi ei gweld o ffynhonnell y rhodd fel bod pawb yn deall y profion y mae angen iddyn nhw eu cyrraedd. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig i wneud yn siŵr nad ydym ni'n ceisio cael gwahanol brofion ar wahanol adegau mewn amser.
Rwy'n hyderus iawn ynglŷn â'r ymgyrch etholiadol y bydd fy mhlaid yn ei rhedeg yma yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan. Os gwrandewch chi ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud yn rheolaidd, maen nhw wedi cael llond bol ar Lywodraeth bresennol y DU, maen nhw'n ysu am weld newid ac, mewn gwirionedd, yma yng Nghymru, rwy'n credu bod gwir ddealltwriaeth y gall dwy Lywodraeth Lafur sy'n cydweithio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ym mhob cymuned ledled y wlad. Dyna'r ddadl yr wyf i'n edrych ymlaen at ei gwneud yn gadarnhaol, ac rwy'n credu bod honno'n ddadl y mae pobl yng Nghymru yn barod i'w clywed ac yn barod i'w chefnogi.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r Prif Weinidog bod goblygiadau i bob ymgyrch arweinyddiaeth yn y dyfodol o ran gosod capiau ar roddion, ond yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn gwrthod yn llwyr ei gyfaddef yw mai ei weithredoedd ef a'i grebwyll ynghylch y rhodd benodol hon sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa o fod angen taflu goleuni ar hyn. Nawr, rwyf i wedi defnyddio'r ymadrodd 'sylw wedi'i dynnu'. Mae sylw'r Llywodraeth wedi'i dynnu; mae hyn oll yn parlysu ei gwaith. Rwy'n credu mewn gweithio trawsbleidiol, fel y dywedais. Dylem ni i gyd gredu hynny. Rwy'n ailadrodd eto fy ymrwymiad i gydweithio â'r Llywodraeth ar gyflawni'r hyn a oedd yn y cytundeb, ond, wrth gwrs, rwyf i eisiau dylanwadu'n adeiladol ar Weinidogion i weithredu, fel y dylai unrhyw wrthblaid, ar yr holl faterion eraill hynny sy'n bwysig i bobl Cymru. Dyna pam yr oeddem ni eisiau symud yn gyflym ar y dreth gyngor, ond dyna hefyd pam rydym ni'n parhau i bwyso am newid dull i sicrhau gwell canlyniadau yn y GIG ac ym myd addysg; dyna pam rydym ni'n annog y Llywodraeth i gefnogi busnesau ac i wthio am y pwerau sydd eu hangen arnom ni i redeg ein materion ein hunain. Ond ar hyn o bryd, fel y dywedaf eto, mae sylw'r Llywodraeth wedi'i dynnu'n ofnadwy. Pa mor hir y mae'r Prif Weinidog yn fodlon rhoi i'w hun i newid trywydd? A pha mor hir ddylai fod yn rhaid i bobl Cymru aros?
Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod, ers dod i mewn i'r swydd, fy mod i wedi bod yn canolbwyntio ar anghenion â blaenoriaeth i bobl Cymru. Y tri grŵp cyntaf o bobl y gwnes i eu cyfarfod oedd gweithwyr dur, meddygon a ffermwyr, yn bwriadu cymryd camau uniongyrchol, gan weithio gyda thîm gweinidogol newydd yr wyf i'n falch iawn ohono. Ceir y pwyslais sydd gennym ni ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn; yr adolygiad ar 20 mya; y buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith trafnidiaeth; y ffaith ein bod ni'n dal i wneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen â diwygio'r Senedd—ymrwymiad gwirioneddol yn cael ei gyflawni, a bydd mwy i'w wneud; y Bil etholiadau sy'n mynd drwy'r Senedd, hefyd; a'r cynllun cyntaf o'i fath yn y DU i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiadau seiber. Llywodraeth yw hon sy'n canolbwyntio ar y gwaith o ddiwallu a gwasanaethu anghenion pobl Cymru. Rwy'n credu y gallwn ni ac y byddwn ni'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl sydd wedi ein hethol ni, ac rwy'n credu y gallwn ni ac y byddwn ni'n gwneud hyd yn oed mwy os gallwn ni berswadio pobl yng Nghymru ac ar draws y DU i ethol Llywodraeth flaengar fel partner mewn grym, nid cystadleuydd ymosodol sy'n benderfynol o gymryd ein pwerau a'n harian. Mae hwnnw'n ddyfodol sy'n sicr yn werth ymladd drosto ac yn sicr yn werth ei ennill.