5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 15 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:08, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gareth. Mae arnaf ofn ei bod yn ymddangos yn ddadl ddryslyd, ond serch hynny, rwy'n pryderu eich bod wedi camddeall y cynnig beth bynnag. Nid yw'r cynnig yn ymwneud ag effeithio ar hawl pobl i ysmygu. Mae'n ymwneud â chyflwyno cofrestr o fanwerthwyr fel y gallwn reoli pwy sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd pobl yn dal i allu prynu'r cynhyrchion hynny. Felly, gobeithio y bydd hynny'n eich argyhoeddi mai'r cynnig yw'r ffordd iawn i fynd, oherwydd nid yw'n effeithio ar eich pryderon libertaraidd.

Fel y dywedais, mae ysmygu yn lladd 5,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Gwnaeth John Griffiths ac Altaf Hussain bwynt o egluro sut mae ysmygu yn dal i effeithio ar fywydau pobl, ac fe wnaethant hynny'n gryf iawn. Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn costio dros £300 miliwn i'r GIG bob blwyddyn. Ysmygu sydd i gyfrif am 5 y cant o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Dyna effaith ysmygu, a dyna beth mae'r cynnig hwn yn anelu at geisio ei leihau a'i helpu. 

Hefyd, diolch i John Griffiths, a gyfeiriodd at waith y grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gwneud gwaith ardderchog, ac rwy'n diolch iddo am hynny. Fe sonioch chi am ysgolion yn eich cyfraniad, John, fel y gwnaeth Heledd, a'r effaith ar ysgolion, a'r ffaith bod llawer o blant ifanc bellach yn dechrau fepio—fepio yn enwedig, sy'n eu harwain ymlaen at ysmygu sigaréts. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd gennyf ddwy ysgol o fy etholaeth yma ddoe, Treferthyr a Llanystumdwy. Siaradais â nhw am y cynnig arfaethedig, ac roeddent yn cytuno gant y cant ynghylch yr angen am gofrestr o fanwerthwyr. Roeddent yn dweud eu bod yn adnabod plant a brodyr a chwiorydd a oedd yn fepio, a'u bod yn gweld y budd y gallai'r cynnig hwn ei greu. 

Roedd y Gweinidog yn iawn i ddiolch i Altaf am gyfeirio at shisha. Rwyf wedi gweld pobl yn ysmygu shisha ac yn meddwl, oherwydd ei fod yn mynd drwy ddŵr, ei fod yn ei wneud yn well rywsut, heb sylweddoli'r effaith ar eu hiechyd. Ac fel y dywedwch, mae effaith un sesiwn shisha yn cyfateb i ddwsinau o sigaréts. Byddai'r cynnig hwn yn helpu i drwyddedu'r caffis a'r bariau hynny hefyd, felly diolch am eich cefnogaeth, Altaf. 

Weinidog, diolch am yr ymateb. At ei gilydd, rwy'n credu bod cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet oddeutu tair wythnos yn ôl y byddai'n barod iawn o ran egwyddor i ystyried a yw hyn yn rhywbeth y gallent edrych arno fel Llywodraeth. Mae'n ymddangos bod hynny wedi ei lastwreiddio ers hynny, oherwydd yn eich ymateb, Weinidog, fe ddywedoch chi fod pethau wedi newid nawr—rwy'n credu ichi ddweud bod y tirlun wedi newid oherwydd y Bil newydd arfaethedig.

Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn y byddai'r Bil yn caniatáu dirwyon yn y fan a'r lle, sy'n dda, ond byddai cael cofrestr o fanwerthwyr hyd yn oed yn well. Ni fyddai angen y dirwyon yn y fan a'r lle o reidrwydd. Ni fyddai angen ichi erlid pobl i lawr y stryd. Ni fyddai'n rhaid ichi edrych am bobl. Fe fyddech chi'n gwybod lle roedd y cynhyrchion yn cael eu gwerthu. Fe fyddech chi'n gwybod pa bobl oedd â thrwydded i werthu'r cynhyrchion hyn.

Ac onid yw'n eironig fod gennym system ar waith sy'n trwyddedu gwerthu alcohol, ymhlith pethau eraill, ond nid tybaco a nicotin, sydd yr un mor beryglus os nad yn fwy felly mewn rhai achosion? Rwy'n pryderu hefyd ichi ddweud eich bod wedi cyllido Safonau Masnach Cymru i wneud gwaith gorfodi. Unwaith eto, ni fyddai angen ichi ariannu'r elfennau hynny pe bai gennych gofrestr o fanwerthwyr, oherwydd gallai safonau masnach fonitro pwy yn union sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin.

Wedyn, fe ddywedoch chi eich bod chi'n gohirio gweithredu oherwydd y Bil newydd. Rwy'n ofni nad wyf yn derbyn hynny, oherwydd mae'r gallu wedi bod gennym i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr ers 2017, ymhell cyn y Bil fepio arfaethedig yn San Steffan. Felly, mae dadl gref yma o hyd dros gael y Llywodraeth i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr. Rwy'n credu bod y ddadl wedi'i chyflwyno'n dda gan bawb yma heno, felly carwn annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heno. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.