Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 15 Mai 2024.
Felly efallai y dylem anelu at gael sigaréts o ansawdd gwell, neu fêps o ansawdd gwell. Mae arnaf ofn nad yw'r ddadl yn dal dŵr. Rydych chi hefyd wedi dweud bod y frwydr eisoes wedi'i hennill, ond dywedwch hynny wrth y 5,600 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ysmygu. Dywedwch hynny wrth eu teuluoedd—degau o filoedd o bobl sy'n dioddef profedigaeth oherwydd ysmygu.