5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rheoli cynhyrchion tybaco a nicotin

– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:31, 15 Mai 2024

Yr eitem nesaf fydd dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar reoli cynhyrchion tybaco a nicotin, a Mabon ap Gwynfor sy'n cyflwyno'r cynnig yma. 

Cynnig NDM8571 Mabon ap Gwynfor, John Griffiths, Altaf Hussain

Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Jack Sargeant, Julie Morgan, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sioned Williams, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;

b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;

c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;

d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac

e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:

i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a

iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;

b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;

c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a

d) sefydlu gweithgor i:

i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;

ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a

iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:31, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ers 2017, mae mwy nag 20,000 o blant yng Nghymru wedi ysmygu eu sigarét gyntaf. Erbyn hyn, bydd 15,000 o’r plant hynny ar eu ffordd i fod yn ysmygwyr hirdymor. Ac mewn dyfodol na all yr un ohonynt ei weld eto, bydd 10,000 o'r plant hyn yn marw yn y pen draw o'u caethiwed angheuol.

Er mor syfrdanol ydynt, nid yw'r niferoedd hyn ond yn gyfran fach iawn o'r bywydau Cymreig ifanc y mae canlyniadau creulon ysmygu yn effeithio arnynt. Cyfeiriaf at 2017, oherwydd, ar 16 Mai y flwyddyn honno, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth a allai fod wedi, ac a fyddai wedi lleihau rhywfaint o’r niwed hwn ac achub rhai o’r bywydau hyn. Fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd ei ddatgan yn ddiwrnod a oedd yn garreg filltir i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a bron i saith mlynedd i’r diwrnod yn ddiweddarach, nid yw’r gyfraith i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin wedi’i rhoi ar waith o hyd. Rydym wedi gwastraffu amser ar gost enfawr i iechyd plant. Mae'n rhaid inni unioni hynny nawr.

Mae ysmygu'n gaethiwed sy'n dechrau yn ystod plentyndod. Cafodd y rhan fwyaf o bobl sy'n ysmygu yng Nghymru eu sigarét gyntaf pan oeddent yn blant neu yn eu harddegau. Pan gawsant eu holi gan ASH Cymru, dywedodd 71 y cant o’r ysmygwyr hyn eu bod yn difaru dechrau yn y lle cyntaf, ac er bod mwy na'u hanner yn awyddus i roi’r gorau iddi, mae llawer yn gaeth i gaethiwed eu plentyndod.

Ysmygu yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal o hyd—mae 5,600 o bobl yn marw o ysmygu bob blwyddyn. Sigaréts yw'r unig gynnyrch defnyddwyr, a fydd, pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, yn lladd dau o bob tri defnyddiwr hirdymor. Pe bai tybaco yn cael ei gyflwyno i'r farchnad heddiw, ni fyddai byth yn cael ei gymeradwyo i gael ei werthu.

Yn ogystal â chanser, clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint, mae ysmygu hefyd yn ffactor cyfrannol mawr mewn marw-enedigaethau, strôc a dementia. Mae ysmygu yn parhau i achosi gwahaniaethau dinistriol mewn canlyniadau iechyd. Mae'r diwydiant tybaco yn tueddu i gadw'n dawel ynghylch y ffaith eu bod wedi gwneud pobl yn gaeth i'w cynhyrchion unigryw o beryglus, ac yn anffodus, maent wedi cael y llwyddiant mwyaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae data newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan ASH Cymru yn dangos, er bod 9 y cant o berchnogion tai yn ysmygu, pan edrychwn ar y bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol, mae’r ffigur yn codi i 30 y cant. Ond mae gennym gyfle enfawr o fewn ein gafael i wneud rhywbeth am hyn—i gau’r bylchau presennol, lleihau niwed i iechyd, achub bywydau a diogelu cenedlaethau’r dyfodol. Gallwn ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin yma yng Nghymru. Byddai cofrestr yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a manwerthwr sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion nicotin yng Nghymru gofrestru, a byddai’n drosedd gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin o fangreoedd, gan gynnwys unedau symudol a siopau dros dro, os nad oedd y busnesau hynny ar y gofrestr genedlaethol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:35, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Mae’r mecanwaith deddfwriaethol ar gyfer cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin eisoes wedi’i gynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Pe bai’n cael ei roi ar waith, byddai o fudd i bawb, o fanwerthwyr i ddefnyddwyr a thimau gorfodi. Yn bwysicaf oll, byddai'n lleihau niwed i iechyd ac yn achub bywydau. Gallai gynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i’r mwyafrif helaeth o fanwerthwyr, a fyddai ond yn gwerthu cynnyrch y mae treth wedi'i thalu arnynt i oedolion. Ac yn hytrach nag is-gontractio’r cyfrifoldeb hwn i genedlaethau’r dyfodol, byddai cyflwyno'r gofrestr o fanwerthwyr yn dangos bod y Senedd hon wedi defnyddio ei phwerau, wedi gwneud yr hyn a allai, pan allai, ac wedi gweithredu ar ei hymrwymiad i sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030.

Dros y blynyddoedd, mae rheoliadau a chyfreithiau ar hyrwyddo sigaréts a phrisiau wedi chwarae rhan enfawr yn y broses o reoli tybaco. Ond yn y farchnad heddiw, gyda’r cynnydd mewn siopau manwerthu heb eu cofrestru ac ymchwydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, mae angen dull newydd o weithredu, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r her gynyddol hon. Hyd yn hyn, ni roddwyd y sylw y dylid bod wedi ei roi i fynd i'r afael ag argaeledd sigaréts a fêps yn ein cymunedau. Bydd cofrestr o fanwerthwyr ar gyfer Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwnnw. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod i sicrwydd ai ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru sydd â’r dwysedd uchaf o fanwerthwyr tybaco a siopau fêps. Gallwn ddyfalu, oherwydd yr hyn a welwn yn ein cymunedau, ond rydym yn brin o dystiolaeth go iawn.

Mae argaeledd sigaréts yn lleol yn hynod bwysig i iechyd. Mae ymchwil gan Dr Jamie Pearce o Brifysgol Caeredin yn dangos bod pobl ifanc mewn ardaloedd a chanddynt ddwysedd uchel o fanwerthwyr tybaco yn fwy tebygol o fod wedi ysmygu. Mae oedolion mewn ardaloedd dwysedd uchel yn fwy tebygol o fod yn ysmygwyr presennol ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi, ac mae menywod beichiog mewn ardaloedd dwysedd uchel yn fwy tebygol o ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd cyntaf ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi. Fel rhan o'i ymchwil hefyd, defnyddiodd Dr Pearce system leoli fyd-eang i dracio 700 o wirfoddolwyr 10 ac 11 oed am wythnos. Dangosodd fod plant o ardaloedd difreintiedig o ran incwm saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn agored i fanwerthu tybaco na phlant o ardaloedd cefnog.

Mae gwybod ble yn union y caiff y cynhyrchion hyn eu gwerthu, a chan bwy, hefyd yn bwysig i dimau iechyd y cyhoedd, er mwyn sicrhau bod adnoddau gwerthfawr yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Byddai cofrestr o fanwerthwyr yn rhoi data newydd i ni nad oedd ar gael yn flaenorol ar gyfer lle mae’r cyfraddau uchaf o gynhyrchion nicotin yn cael eu gwerthu, gan ganiatáu i ymdrechion i gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu gael eu targedu yn y cymunedau hynny. Ac i bob Aelod sydd wedi cael etholwr yn cysylltu â nhw i fynegi pryderon am y cynnydd yn niferoedd siopau fêps yn eu hardal, dychmygwch sut y byddai cofrestr o fanwerthwyr, pe bai wedi’i rhoi ar waith yn 2017, wedi ein helpu i fonitro, rheoli a lliniaru’r hyn sydd wedi digwydd ar bob stryd fawr yng Nghymru.

Hoffwn dawelu eich meddwl ar un pwynt pwysig arall hefyd. Mewn arolwg gan ASH Cymru, dywedodd 86 y cant o’r bobl a holwyd eu bod eisoes yn cytuno â'r syniad o gynllun manwerthwyr ar gyfer cynhyrchion tybaco, a’u bod yn ei gefnogi. Mae hyn yn cynnwys 65 y cant o ysmygwyr presennol yng Nghymru a 74 y cant o fepwyr presennol. Nid yn unig hynny; mae cefnogaeth ehangach i reoli tybaco yn tyfu yng Nghymru. Os caf fynd â chi'n ôl i 2015, pan gynhaliodd ASH Cymru eu harolwg YouGov blynyddol, roedd bron i bedwar o bob 10 o bobl yn credu nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Ymlaen i 2024, a phan ofynnwyd yr un cwestiwn yn union ganddynt eto, roedd cyfran y bobl yng Nghymru a ddywedodd nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon wedi cynyddu i 52 y cant.

Cefnogir y gofrestr o fanwerthwyr hefyd yn argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan grŵp ymateb i ddigwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fepio ymhlith pobl ifanc, gan elusennau iechyd blaenllaw, gan gynnwys ASH Cymru, Cancer Research UK, British Heart Foundation Cymru, ac Asthma and Lung UK Cymru, a hefyd gan safonau masnach a gweithwyr meddygol proffesiynol. Mae iddi gefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Senedd hefyd. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi’r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin ar waith heb oedi pellach, a defnyddio’r cyfle enfawr sydd gennym o fewn ein gafael i ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 3:40, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy’n llwyr gefnogi’r hyn a glywsom gan Mabon ap Gwynfor, sydd, yn fy marn i, yn dadlau achos clir a chryf iawn dros gofrestr o fanwerthwyr. Gwn o fy etholaeth fy hun—rwy'n siŵr fod hyn yn wir am Aelodau eraill—pa mor gyffredin yw’r problemau a achosir gan dybaco a fepio ar hyn o bryd. Mae fepio, er enghraifft, yn broblem gynyddol hyd yn oed mewn ysgolion cynradd, lle mae penaethiaid yn bryderus iawn am effeithiau fepio ar iechyd a lles a chadw trefn yn yr ysgol a’r problemau a ddaw yn sgil fepio. Ac mae rhieni, wrth gwrs, yn bryderus iawn hefyd. Ac fel y dywedaf, mae hynny ar lefel ysgolion cynradd, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion uwchradd.

Fel y clywsom gan Mabon, mae'r defnydd o dybaco yn dal i fod yn broblem mor enfawr i’n hiechyd a’n lles yng Nghymru, onid yw? Ac unwaith eto, mae pob un ohonom yn gyfarwydd iawn â'r ystadegau, a bod ysmygu yn achosi'r fath nifer o farwolaethau a niwed y gellir eu hosgoi, y ffaith ei fod yn effeithio ar ein cymunedau mwy difreintiedig i raddau mwy ac yn achosi anghydraddoldebau iechyd a'r bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. Felly, mae llawer iawn i'w wneud o hyd ar dybaco.

Mae tybaco anghyfreithlon yn broblem fawr iawn, ac mae’r gweithredwyr anghyfreithlon hynny’n gwerthu fêps anghyfreithlon, yn ogystal â thybaco anghyfreithlon. Ac yn aml iawn, mae'r ddau'n dod gyda'i gilydd fel pecyn, fel petai. Felly, mae llawer iawn i safonau masnach ei wneud o ran gorfodi. Ac yn ddiweddar, yn y grŵp trawsbleidiol ar ysmygu, daethom â rhai o'r chwaraewyr allweddol ynghyd—dirprwy gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, academyddion, safonau masnach, ASH Cymru, wrth gwrs, y sector iechyd—i edrych ar rai o'r problemau hyn, a buom yn myfyrio ar rai o’r ystadegau y mae Mabon eisoes wedi’u crybwyll o ran yr arolwg a’r ystadegau allweddol y tynnodd ASH Cymru ein sylw atynt.

Mae’n achos clir iawn, ac mae cefnogaeth gref iawn iddo ymhlith y cyhoedd. A chredaf fod hynny'n rhoi gwynt yn ein hwyliau o ran yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud gyda phartneriaid allweddol i sefydlu cofrestr o fanwerthwyr a chael cynllun trwyddedu. A chredaf fod y grŵp trawsbleidiol hwnnw, gyda’r holl bartneriaid allweddol dan sylw, yn bendant iawn ynghylch yr angen am y gofrestr, y cynllun trwyddedu, a’r manteision a fyddai’n dod yn sgil hynny.

Fel y dywedais wrth agor fy sylwadau, Ddirprwy Lywydd, ar ddechrau'r ddadl bwysig hon, rwy'n credu bod Mabon wedi amlinellu achos clir a chryf iawn dros y cam hwn—cofrestr o fanwerthwyr a chynllun trwyddedu. Mae Mabon eisoes wedi dweud llawer o'r hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud. A hoffwn gefnogi'r cynnig hwn, y cynigion hyn, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru—ac rwy'n eithaf hyderus ei bod—yn gweld y synnwyr mewn mabwysiadu'r dull hwn o weithredu, ac y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflwyno'r gofrestr a'r cynllun trwyddedu.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Ceidwadwyr 3:43, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gyd-gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Yn anffodus, mae ysmygu'n parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Er gwaethaf blynyddoedd o ymyriadau iechyd cyhoeddus, rydym yn dal i weld miloedd o bobl bob blwyddyn yn colli eu bywydau'n ddiangen, a dyna pam fy mod yn cefnogi cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin er mwyn targedu ein mentrau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru a’u cysylltu â Bil tybaco a fêps Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid inni atal y marwolaethau, ac mae hynny’n golygu atal pobl rhag dod yn gaeth i nicotin yn y lle cyntaf. Credaf y byddai cofrestr o fanwerthwyr o gymorth yn y frwydr i atal pobl ifanc rhag mynd yn gaeth i ysmygu.

Mae’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n sôn am y problemau sy’n gysylltiedig â sigaréts, fel y gwnaeth Mabon, ac mae John wedi sôn am hynny hefyd. Felly, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar ysmygu shisha. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn mynd yn gaeth i hookah. Ers y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, bu cynnydd o 210 y cant mewn bariau a chaffis shisha. Mae shisha, a elwir hefyd yn hookah, narghile, pibell ddŵr, hubble bubble neu jajeer mewn Kashmireg, yn ddull o ysmygu tybaco a ddyfeisiwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan feddyg o'r enw Hakim—mae 'hakim' yn golygu meddyg, homeopath—Abdul Fateh Gilani. Roedd yn feddyg yn y durbar Mughalaidd, neu gallwch ddweud 'llys'. Pwrpas y ddyfais oedd pasio mwg drwy ddŵr mewn ymgais i buro'r mwg, myth sydd wedi'i wrthbrofi ers hynny gan wyddoniaeth feddygol, ond un sy'n parhau hyd heddiw, yn anffodus.

Mae shisha yn defnyddio tybaco wedi'i baratoi'n arbennig ac sy'n cael ei gynhesu i gynhyrchu mwg gyda swigod drwy bowlen o ddŵr ac i mewn i bibell hir i'w anadlu i mewn. Gall y tybaco ddod mewn gwahanol flasau, a weithiau, caiff ei gymysgu â thriagl neu siwgr, sy'n aml yn gwneud i'r mwg arogli'n felys. Fel arfer, caiff ei gynhesu drwy losgi pren, glo neu siarcol. Mae ysmygu shisha yn boblogaidd yn ne-ddwyrain Asia, y dwyrain canol a chymunedau gogledd Affrica, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd yma yn y Deyrnas Unedig. Mae sesiwn shisha fel arfer yn para oddeutu 45 munud. Awgrymodd ymchwil a gyflawnwyd gan Lywodraeth De Cymru Newydd fod pob sesiwn yn cyfateb i ysmygu 100 sigarét. Mae mwg shisha yn wenwynig, mae'n cynnwys cemegion gan gynnwys carbon monocsid a thar, sy'n ddrwg i iechyd—eich iechyd chi, fy iechyd i a'r rheini o'n cwmpas—ond mae llawer o bobl ifanc yn dal i feddwl ei fod yn ddiogel.

Yn y tymor byr, gall shisha gynyddu cyfradd curiad eich calon a'ch pwysedd gwaed, lleihau cynhwysedd eich ysgyfaint, effeithio ar eich ffitrwydd corfforol, ac mewn rhai achosion, mae wedi achosi gwenwyno carbon monocsid. Yn y tymor hir, gall ysmygu shisha achosi canserau yn y pen, y gwddf, yr ysgyfaint a chanserau eraill, afiechydon y galon, afiechydon yr ysgyfaint, ac arwain at heneiddio'n gynnar. Mae ysmygu shisha, ymhell o fod yn ddewis diogel, yr un mor beryglus os nad yn fwy peryglus na sigaréts. Mae ei flas a'i seremoni yn apelio at bobl ifanc ac mae'n eu gwneud yn gaeth i nicotin yn anhygoel o gyflym. Gall sicrhau bod angen trwydded dybaco ar gaffis a bariau shisha helpu i reoleiddio’r diwydiant hwn sy’n tyfu ac atal defnyddwyr dan oed. Byddai hynny, ynghyd â’r Bil Tybaco a Fêps, yn sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn rhydd rhag niwed a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag ysmygu. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:48, 15 Mai 2024

Diolch, Mabon, am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron i ni. Mae hi'n broblem, ac mae'n rhaid i ni gydnabod bod yna broblem fawr. Fel llefarydd addysg Plaid Cymru, dwi'n aml yn cael athrawon, ond hefyd dysgwyr, yn dod ataf fi yn dweud pa mor bryderus ydyn nhw yn benodol o ran fepio, ond hefyd mae ysmygu ymysg pobl ifanc yn dal i fod yn broblem.

Fe ges i fy magu yn yr 1980au, dwi'n 43 erbyn hyn, a'r normal oedd bryd hynny fod bron pob oedolyn o fy nghwmpas i'n ysmygu. Roeddech chi'n gallu ysmygu ym mhob man, a dyna'r norm. Ond, mi oedd yna ymgyrch wych yn ein hysgolion cynradd ni, ac ysgolion uwchradd, a oedd yn uwcholeuo'r peryglon hynny. Oherwydd mi oedden nhw'n wybyddus erbyn hynny. Mi oedden nhw'n gweld yr effaith ar y cenedlaethau blaenorol, nifer o bobl oedd wedi bod yn ysmygu o oed ifanc iawn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i'n eu ffeindio nhw'n effeithiol iawn. Roeddwn i'n un o'r rhain oedd yn mynd adref ac yn pregethu at yr oedolion o fy nghwmpas i ynglŷn â pheryglon ysmygu. Yn sicr, mi gafodd yr ymgyrchoedd hynny ddylanwad arnaf i. 

Rydyn ni wedi gweld newid aruthrol hefyd ynglŷn â'r holl newidiadau sydd wedi bod o ran peidio â gallu ysmygu mewn ceir efo plant ynddyn nhw, peidio â gallu ysmygu ar yr iard mewn ysgolion, mewn parciau at ati, a hefyd ein bod ni'n sicrhau pan rydyn ni'n mynd allan—. Pwy sy'n cofio bod mewn tafarn yn hwyr yn y nos a'ch dillad chi'n drewi y bore wedyn, eich gwallt chi a phopeth? Mae yna newidiadau mawr wedi bod, ond dwi'n meddwl, drwy weld y newidiadau hynny, ei bod hi'n hawdd llaesu dwylo. A'r hyn rydyn ni wedi gweld ydy bod cwmnïau, sy'n gallu manteisio'n ariannol ar hyn, yn ffeindio ffyrdd bob amser i gymryd mantais. A'r hyn rydyn ni'n ei weld rŵan ydy targedu pobl ifanc yn benodol. Mi hoffwn i ddweud, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio hyn, fod cefnogaeth i fepio ar gyfer y rhai sydd yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Mae yna le pwysig iawn ar gyfer fêps yn ein cymdeithas ni, ond mae'n rhaid i ni eu cael nhw wedi'u rheoleiddio. A dwi'n meddwl bod cofrestr genedlaethol yn gyfan gwbl allweddol.

Os edrychwn ni ar arolwg fepio ieuenctid Cymru gan ASH Cymru, mae'r ystadegau yna yn frawychus, o ran bod 24 y cant o'r holl blant rhwng blwyddyn 7 ac 11 wedi rhoi cynnig ar fêp, 7 y cant yn fepio'n rheolaidd, a 37 y cant o'r 7 y cant hefyd yn ysmygu. Mae 92 y cant o'r rheini sy'n defnyddio fêp yn defnyddio rhai sy'n cynnwys nicotin, a 45 y cant methu mynd drwy'r diwrnod ysgol heb fepio. Wel, mae hyn yn creu problemau enfawr yn ein hysgolion ni. Mae'n golygu bod disgyblion yn methu mynd drwy wers, eu bod nhw'n gorfod mynd i gael fêp, a bod ysgolion wedyn ddim yn gwybod sut mae delio efo'r sefyllfa, yn aml yn cloi tai bach er mwyn trio delio efo'r peth, sydd hefyd ddim yn deg os ydyn ni'n meddwl wedyn am y dysgwyr hynny sydd angen mynediad i'r tŷ bach. Mae o'n cael effaith fawr ar bob lefel. 

Os ydyn ni hefyd yn edrych ar yr ystadegau gan ASH Cymru, mae 55 y cant o'r holl ddisgyblion sydd wedi fepio wedi defnyddio cynhyrchion fêp sy'n debygol iawn o fod yn gynhyrchion anghyfreithlon. Wel, mae hyn hefyd yn bryderus dros ben. Rydyn ni'n gwybod, o'r ystadegau gan safonau masnach, fod rhai fêps anghyfreithlon yn cyfateb i smocio 20 sigarét mewn un tro. Ac fel sydd eisoes wedi ei grybwyll, maen nhw'n targedu plant. Does dim amheuaeth am hynny. Rydych chi'n gweld y siopau, ac maen nhw'n edrych yn hollol ddeniadol i blant—yr holl liwiau. Rydyn ni'n gwybod bod fêps eu hunain yn edrych mor ddeniadol, onid ydyn nhw? Pam arall fyddech chi'n cynhyrchu rhai sydd yn edrych fel potel Prime ac ati, neu efo blasau anhygoel, neu efo'r lliwiau llachar yma, os nad oeddech chi'n targedu plant? Mi fyddai cofrestr genedlaethol yn ymateb i rai o'r heriau hynny.

Ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar yr elfen ar-lein, a bod nifer fawr o blant a phobl ifanc yn prynu'r fêps yma rŵan ar-lein—disgyblion ysgol gynradd yn hollol, hollol onest efo fi mai TikTok Shop ydy'r ffordd hawsaf i'w cael nhw. Mae nifer o blant rŵan yn gallu cael mynediad i brynu pethau eu hunain ar-lein efo cardiau debyd. Mae'n rhaid i ni gael y negeseuon hefyd. Felly, mae'r gofrestr yn un elfen bwysig, ond mae'n rhaid i ni wella'r adnoddau sydd yn ein hysgolion ni i gael y neges allan ynglŷn â pha mor beryg ydy'r fêps yma, a sut ydyn ni'n stopio plant a phobl ifanc rhag cael eu hecsploetio. Mae yna le i fêps i stopio pobl sy'n smygu, ond dylai'r un person ifanc fod yn fepio yn ein hysgolion ni.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 3:53, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at gyfrannu a dweud y gwir, gan imi wneud astudiaeth o ysmygu ar gyfer fy ngradd sylfaen yn ôl yn 2018, a rhoddais gyflwyniad i Brifysgol Bangor. A wyddoch chi mai un o’r lleoedd cyntaf i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu dan do oedd Dau Dŷ'r Senedd yn San Steffan, yn ôl yn y 1800au, rwy’n credu? Fe wnaethant ei wahardd mewn ystafelloedd pwyllgora, i ddechrau. Roedd yn wirioneddol arloesol ar y pryd. A hyd at 2006—. Roedd mor hwyr â 2006, pan wnaethant gyflwyno gwaharddiad ar hysbysebu sigaréts yn Fformiwla 1, ac roedd hynny, bobl bach, lai nag 20 mlynedd yn ôl. Rwy’n cofio’r brandiau sigaréts ar gefn car Schumacher, a Mika Häkkinen a Damon Hill a phob un ohonynt. Felly, mae'n dangos pa mor bell y daethom mewn cyfnod cymharol fyr, a dweud y gwir.

Mae adfywiad gwirioneddol wedi bod yn y sylw a roddir i roi'r gorau i ysmygu a nicotin dros y blynyddoedd diwethaf, a chredaf efallai fod hynny oherwydd y ffrwydrad yn nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio fêps a dyfeisiau e-sigaréts. Ac rwy'n rhannu'r pryderon ynghylch pobl ifanc dan 18 oed yn defnyddio e-sigaréts a fêps tafladwy, ac mae'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU gyda'r gwaharddiad ar ysmygu a fêps wedi bod yn eithaf helaeth. Mae'r ddadl ar nicotin a thybaco, fodd bynnag, i'w gweld yn dod yn fwyfwy gorfodaethol, ac mae'n arwydd o rywfaint o rethreg waethaf gwladwriaeth faldodus. A chredaf fod ffyrdd gwell o ymdrin â materion iechyd y cyhoedd na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Gwyddom fod effeithiau niweidiol ysmygu yn dra hysbys bellach. Mae ysmygu'n ddinistriol i'ch iechyd. Mae hefyd yn rhoi pwysau enfawr ar y GIG. Ond rwy’n cael yr argraff weithiau ein bod yn aredig tywod, yn parhau i ymladd brwydr yr ydym eisoes wedi’i hennill, a bod brwydrau pwysicach i’w hymladd o ran iechyd y cyhoedd. Nid wyf yn siŵr os yw hyn oherwydd dylanwad y lobi gwrth-ysmygu, neu'n ymgais i ddangos ein bod ar yr ochr iawn i hanes.

Rheolau gwrth-ysmygu'r DU yw'r rhai llymaf ond un yn Ewrop. Mae data o 2022 yn dangos mai dim ond 14 y cant o oedolion yng Nghymru sy’n ysmygu, ac mae’r nifer yn gostwng. Mae data o 2021 yn dangos bod 12 y cant o bobl ifanc 11 i 15 oed wedi rhoi cynnig ar sigarét o leiaf unwaith, ac nid yw’r mwyafrif helaeth o’r rhain yn ddefnyddwyr tybaco rheolaidd. Mae hyn hefyd i lawr o 50 y cant ym 1996. Rydym wedi gwneud mwy na gwledydd eraill yn y byd i leihau ysmygu, ac yn aml ar gost fawr i ryddid yr unigolyn a dewis personol, sy'n gwneud imi deimlo'n anesmwyth iawn yn reddfol.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:56, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gareth?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae’r ddadl hon am ryddid personol yn cael ei hailadrodd yn eithaf aml yn y ddadl hon. A fyddech chi'n cytuno bod gwrthddywediad sylfaenol yn y syniad o roi rhyddid i rywun ddod yn gaeth? Mae'n ocsimoron. Mae'n gwrth-ddweud ei hun. Yn ogystal â hynny—os caf, yn fyr, Ddirprwy Lywydd—pan ddywedoch chi fod risgiau ysmygu yn dra hysbys, ac felly mai mater i bobl, mae'n debyg, yw gwneud y dewis hwnnw, byddai canlyniad rhesymegol y ddadl honno yr un peth ar gyfer heroin, oni fyddai? Felly, a fyddech chi'n awyddus i gyfreithloni heroin hefyd?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Delyth, nid wyf yn credu bod honno'n gymhariaeth deg, a bod yn onest. Nid yw heroin yn gymhariaeth deg o gwbl. Mae heroin yn difetha bywydau pobl, ac mae'r gwahaniaeth rhwng tybaco a heroin o ran lefel y caethiwed—nid yw honno’n gymhariaeth deg o gwbl, ac nid wyf yn derbyn hynny o gwbl.

Ni chredaf fod y mater hwn bob amser yn galw am fwy a mwy o ddeddfwriaeth, ac yn aml nad ei bwriad yw sicrhau canlyniadau, ond dangos yn hytrach fod ein calonnau yn y lle iawn. Yn hytrach, mae angen inni orfodi'r cyfreithiau sydd eisoes ar ein llyfrau statud yn well. Mae eisoes yn drosedd i werthu cynhyrchion sy'n cynnwys nicotin i bobl o dan 18 oed, ond nid yw'r wladwriaeth yn rhoi adnoddau digonol i sicrhau y cedwir at y cyfreithiau a'r rheoliadau hyn.

Rydym wedi gweld ei bod yn anhygoel o hawdd i bobl ifanc brynu fêps ac e-sigaréts ar y stryd fawr, ac mae angen inni wneud mwy na deddfu i sicrhau nad yw'r dyfeisiau hyn yn mynd i ddwylo plant. Rwy’n deall sut y gallai cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr, y mae Mabon yn dadlau o'i phlaid, fod yn fanteisiol ar gyfer hynny, ac rwy’n gefnogol i'r syniad at ei gilydd. Er imi nodi fy mhryder ynghylch rhai o'r camau mwy gorfodaethol, tadofalaethol a gymerir gan y wladwriaeth, rwy'n awyddus i atal cynhyrchion nicotin rhag mynd i ddwylo plant, rwy'n awyddus i leihau cyfraddau alcoholiaeth a gordewdra, ac rwy'n awyddus i gael gwared ar fwyd wedi'i brosesu'n helaeth o ddeiet plant, mater y mae Jenny Rathbone wedi'i godi droeon o'r blaen.

Mae GIG Cymru ei hun wedi cyhoeddi bod ein deiet a bod dros bwysau neu’n ordew yn cael llawer mwy o effaith na’r defnydd o dybaco. Wrth i gyfraddau ysmygu ostwng, mae nifer y bobl sydd dros bwysau, ac yn ordew yn enwedig, yn cynyddu. Dylem ganolbwyntio ar y materion pwysicach hyn, gan y bydd ein hiechyd yn parhau i ddirywio oni bai ein bod yn trin problemau eraill gyda’r un brwdfrydedd. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:58, 15 Mai 2024

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor, John Griffiths ac Altaf Hussain am gyflwyno’r ddadl Aelodau hon heddiw, ac am y pwyntiau a wnaed am dybaco a nicotin. Bydd yr Aelodau’n cofio’r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ychydig dros bythefnos yn ôl, lle nododd y mesurau ym Mil Tybaco a Fêps y DU a fydd yn berthnasol i Gymru.

Cyn imi droi at y Bil, rwyf am ailadrodd rhai o’r ffeithiau syfrdanol am ysmygu. Cododd Mabon hynny yn ei ddatganiad agoriadol, a chredaf ei bod bob amser yn bwysig cofio’r ffeithiau llwm hynny. Dylem eu cofio bob amser. Ysmygu yw prif achos niwed a marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd. Mae ysmygu yn niweidio bron i bob organ o'r corff, ac yn unigryw, mae'n niweidio nid yn unig yr ysmygwr, ond y bobl o'u cwmpas. Mae’n cael effaith ddinistriol ar ein hiechyd, ni waeth beth fo'n hoedran, ac rwy’n falch fod Altaf wedi gallu sôn am shisha yn ei gyfraniad.

Mae’r Bil yn parhau i wneud ei ffordd drwy Senedd y DU, a rhoddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru dystiolaeth yn ystod y Cyfnod Pwyllgor am bwysigrwydd y cynigion i Gymru. Mae'n darparu cyfle unigryw i gymryd camau pendant i ryddhau cenhedlaeth rhag caethiwed i nicotin a thybaco. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i gryfhau’r system orfodi drwy gyflwyno dirwyon yn y fan a'r lle am werthu tybaco a chynhyrchion fêps i rai dan oed yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn galluogi swyddogion safonau masnach i weithredu'n fwy cyflym pan fo angen.

Rwy'n bendant nad y mesurau yn y Bil yw'r unig gamau y mae angen inni eu cymryd yn ein brwydr barhaus i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel y trafodwyd heddiw, mae darpariaethau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sydd wedi dod i rym. Enillwyd y darpariaethau hyn drwy waith caled ac maent yn rhoi arfau pwysig i ni eu defnyddio. Ond mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi gwneud cynnydd ar ddod â darpariaethau eraill yn y Ddeddf bellgyrhaeddol hon i rym, megis diogelu pobl ifanc rhag tyllu cosmetig amhriodol, asesiadau o anghenion fferyllol a darparu strategaethau toiledau lleol. Fel rhan o'n hymdrechion i ddadnormaleiddio ysmygu, gwnaethom dir ysgolion, meysydd chwarae a thir ysbytai yn ddi-fwg yn 2021, ac rydym yn datblygu rheoliadau ar hyn o bryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru drwy wreiddio'r defnydd o asesiadau o'r effaith ar iechyd.

Ceir rhannau eraill o'r Ddeddf lle mae pwerau ar gael i gryfhau ein dull o weithredu ar dybaco a fêps, yn enwedig cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr, sydd eto i ddod i rym. Fel y gwyddom, mae'r diwydiant hwn yn symud yn gyflym. Rydym wedi parhau i adolygu’r polisi hwn ac rydym yn trafod yn rheolaidd gyda rhanddeiliaid yr hyn sydd ei angen arnynt. Rydym wedi darparu cyllid i Safonau Masnach Cymru i weithredu camau gorfodi ar fêps anghyfreithlon, wedi hyfforddi swyddogion ac wedi codi ymwybyddiaeth o effaith cynhyrchion anghyfreithlon ar ein cymunedau. Ond mae cyflwyno Bil Tybaco a Fêps y DU yn newid y dirwedd yr ydym yn gweithio ynddi.

Bydd angen inni ystyried hefyd—[Torri ar draws.] Iawn.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:02, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n chwilfrydig i wybod yr ateb i'r cwestiwn—oherwydd roeddwn i fyny yn y swyddfa cyn meddwl wrthyf fy hun—os cytunir ar y materion y mae Mabon yn eu cynnig i'r Senedd, yna gyda deddfwriaeth Llywodraeth y DU, a yw hynny wedyn yn creu system ddyblyg yng Nghymru, a'n bod yn gweld gwahaniaeth mewn deddfwriaeth ysmygu a gwahaniaethu ar draws gwledydd y DU? Oherwydd os ydym yn edrych ar ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus bwysig, rhaid inni fabwysiadu dull cyffredinol fwy neu lai er mwyn atal unrhyw ffordd o osgoi cydymffurfio, os mynnwch, o fewn y systemau hynny, fel y gellir cyflawni beth bynnag y cytunir arno ar sail gyffredinol, lle mae pawb yn gwybod lle maent yn sefyll a bod y wybodaeth yn gyffredinol ac yn hawdd ei deall.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur 4:03, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gareth. Fel Llywodraeth, rydym yn glir fod yn rhaid inni ystyried ein holl opsiynau i gefnogi ein huchelgais i fod yn Gymru ddi-fwg, ac mae hyn yn cynnwys ystyried a ydym am ddatblygu system drwyddedu, neu a ydym yn bwrw ymlaen â gweithredu'r gofrestr o fanwerthwyr. Fel y gwyddoch, mae'r Bil Tybaco a Fêps yn mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd a disgwylir iddo newid y dirwedd yn sylweddol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gwahaniaeth rhwng safbwyntiau ar hyn o bryd, a'r hyn y bydd ei angen yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno.

Bydd angen inni ystyried unrhyw ddiwygiadau i'r Bil, ac roedd un ohonynt yn cynnig cyflwyno'r cynllun trwyddedu, ac ystyried yr argymhellion yn adolygiad annibynnol Khan i gefnogi cymdeithas ddi-fwg. Os bydd y Bil yn pasio, boed wedi'i ddiwygio ai peidio, bydd yn rhoi hyd yn oed mwy o offer i ni i gefnogi ein huchelgais i wneud Cymru'n ddi-fwg. Oherwydd y dirwedd ddeddfwriaethol newidiol hon, rydym wedi penderfynu gohirio gweithredu'r meysydd sy'n weddill o'r Ddeddf iechyd cyhoeddus mewn perthynas â thybaco. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'n hoffer deddfwriaethol yn ein cynllun cyflawni nesaf ar reoli tybaco, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae'n ddigon posibl y bydd y gofrestr o fanwerthwyr yn offeryn gorfodi effeithiol, ac mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn trafod ac yn dysgu o'r dulliau gweithredu mewn mannau eraill, gan gynnwys yr Alban, lle mae cofrestr o fanwerthwyr ar waith.

O ran rhan arall y cynnig ar ymgyrch gyfathrebu, rwy'n cytuno ei fod yn rhan hanfodol o'n dull gweithredu ac yn faes y mae fy swyddogion yn parhau i weithio arno gyda gwledydd eraill y DU. Rydym am i ddefnyddwyr a manwerthwyr yng Nghymru fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r gyfraith mewn perthynas â thybaco a fêps, ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith ar reoli gwerthiant a defnydd o tybaco a fêps, sydd mor bwysig er mwyn diogelu pobl ifanc ac iechyd y cyhoedd. Diolch yn fawr. 

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:05, 15 Mai 2024

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae wedi bod yn ddifyr iawn, ac ar y cyfan, mae'r Senedd i'w gweld yn gefnogol, a dwi'n edrych ymlaen i weld y Senedd yma a'r Siambr yn pleidleisio, gobeithio, i gefnogi'r cynnig.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Fe ddechreuaf gyda phwynt Gareth. Cyflwynodd y dadleuon libertaraidd ynglŷn ag ysmygu. Yn gyntaf oll, yn ystod eich cyfraniad, fe ddywedoch chi eich bod eisiau gweld, er enghraifft, bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth yn cael eu rheoli. Nid yw hynny'n cyd-fynd â'ch dadleuon libertaraidd ar ysmygu. Os ydych chi am i bobl gael mynediad at ysmygu drwy eu hewyllys rydd eu hunain, dylent allu defnyddio'r ewyllys rydd honno i fwyta bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. 

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:06, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'n amlwg fod gwahaniaeth rhwng ysmygu a bwyd wedi'i brosesu'n helaeth. Y gwahaniaeth yw bod sigaréts a chynhyrchion ysmygu wedi cael eu trethu'n sylweddol gyda chynnydd mewn prisiau dros gyfnod cynyddrannol dros nifer o flynyddoedd, ond mae bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn rhad iawn. Nid wyf yn galw am godi prisiau, dim ond am fwyd o ansawdd gwell sy'n fwy hygyrch i bobl, fel y gall unrhyw un, beth bynnag y bo'u cefndir na'u cyllideb, gael gafael ar fwyd o ansawdd da.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Felly efallai y dylem anelu at gael sigaréts o ansawdd gwell, neu fêps o ansawdd gwell. Mae arnaf ofn nad yw'r ddadl yn dal dŵr. Rydych chi hefyd wedi dweud bod y frwydr eisoes wedi'i hennill, ond dywedwch hynny wrth y 5,600 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ysmygu. Dywedwch hynny wrth eu teuluoedd—degau o filoedd o bobl sy'n dioddef profedigaeth oherwydd ysmygu.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:07, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mabon. Mae'n rhaid inni ddal i gofio bod ysmygu'n gyfreithlon. Nid yw'n anghyfreithlon, ac fel y dywedais yn fy sylwadau, mae'n ddewis gwybodus, oherwydd os ydych chi dros oedran penodol, rydych chi wedi dysgu o oedran eithaf ifanc yn yr ysgol fod ysmygu'n ddrwg i'ch iechyd. Mae pawb yn derbyn hynny. Rwy'n deall hynny. Bûm yn gweithio yn y GIG am 11 mlynedd. Rwy'n deall goblygiadau iechyd ysmygu yn iawn. Felly, mae'n ddewis gwybodus, oherwydd maent wedi bod yn ymwybodol o'r goblygiadau iechyd o oedran eithaf ifanc erbyn hyn.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:08, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gareth. Mae arnaf ofn ei bod yn ymddangos yn ddadl ddryslyd, ond serch hynny, rwy'n pryderu eich bod wedi camddeall y cynnig beth bynnag. Nid yw'r cynnig yn ymwneud ag effeithio ar hawl pobl i ysmygu. Mae'n ymwneud â chyflwyno cofrestr o fanwerthwyr fel y gallwn reoli pwy sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd pobl yn dal i allu prynu'r cynhyrchion hynny. Felly, gobeithio y bydd hynny'n eich argyhoeddi mai'r cynnig yw'r ffordd iawn i fynd, oherwydd nid yw'n effeithio ar eich pryderon libertaraidd.

Fel y dywedais, mae ysmygu yn lladd 5,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Gwnaeth John Griffiths ac Altaf Hussain bwynt o egluro sut mae ysmygu yn dal i effeithio ar fywydau pobl, ac fe wnaethant hynny'n gryf iawn. Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn costio dros £300 miliwn i'r GIG bob blwyddyn. Ysmygu sydd i gyfrif am 5 y cant o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Dyna effaith ysmygu, a dyna beth mae'r cynnig hwn yn anelu at geisio ei leihau a'i helpu. 

Hefyd, diolch i John Griffiths, a gyfeiriodd at waith y grŵp trawsbleidiol. Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gwneud gwaith ardderchog, ac rwy'n diolch iddo am hynny. Fe sonioch chi am ysgolion yn eich cyfraniad, John, fel y gwnaeth Heledd, a'r effaith ar ysgolion, a'r ffaith bod llawer o blant ifanc bellach yn dechrau fepio—fepio yn enwedig, sy'n eu harwain ymlaen at ysmygu sigaréts. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd gennyf ddwy ysgol o fy etholaeth yma ddoe, Treferthyr a Llanystumdwy. Siaradais â nhw am y cynnig arfaethedig, ac roeddent yn cytuno gant y cant ynghylch yr angen am gofrestr o fanwerthwyr. Roeddent yn dweud eu bod yn adnabod plant a brodyr a chwiorydd a oedd yn fepio, a'u bod yn gweld y budd y gallai'r cynnig hwn ei greu. 

Roedd y Gweinidog yn iawn i ddiolch i Altaf am gyfeirio at shisha. Rwyf wedi gweld pobl yn ysmygu shisha ac yn meddwl, oherwydd ei fod yn mynd drwy ddŵr, ei fod yn ei wneud yn well rywsut, heb sylweddoli'r effaith ar eu hiechyd. Ac fel y dywedwch, mae effaith un sesiwn shisha yn cyfateb i ddwsinau o sigaréts. Byddai'r cynnig hwn yn helpu i drwyddedu'r caffis a'r bariau hynny hefyd, felly diolch am eich cefnogaeth, Altaf. 

Weinidog, diolch am yr ymateb. At ei gilydd, rwy'n credu bod cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet oddeutu tair wythnos yn ôl y byddai'n barod iawn o ran egwyddor i ystyried a yw hyn yn rhywbeth y gallent edrych arno fel Llywodraeth. Mae'n ymddangos bod hynny wedi ei lastwreiddio ers hynny, oherwydd yn eich ymateb, Weinidog, fe ddywedoch chi fod pethau wedi newid nawr—rwy'n credu ichi ddweud bod y tirlun wedi newid oherwydd y Bil newydd arfaethedig.

Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn y byddai'r Bil yn caniatáu dirwyon yn y fan a'r lle, sy'n dda, ond byddai cael cofrestr o fanwerthwyr hyd yn oed yn well. Ni fyddai angen y dirwyon yn y fan a'r lle o reidrwydd. Ni fyddai angen ichi erlid pobl i lawr y stryd. Ni fyddai'n rhaid ichi edrych am bobl. Fe fyddech chi'n gwybod lle roedd y cynhyrchion yn cael eu gwerthu. Fe fyddech chi'n gwybod pa bobl oedd â thrwydded i werthu'r cynhyrchion hyn.

Ac onid yw'n eironig fod gennym system ar waith sy'n trwyddedu gwerthu alcohol, ymhlith pethau eraill, ond nid tybaco a nicotin, sydd yr un mor beryglus os nad yn fwy felly mewn rhai achosion? Rwy'n pryderu hefyd ichi ddweud eich bod wedi cyllido Safonau Masnach Cymru i wneud gwaith gorfodi. Unwaith eto, ni fyddai angen ichi ariannu'r elfennau hynny pe bai gennych gofrestr o fanwerthwyr, oherwydd gallai safonau masnach fonitro pwy yn union sy'n gwerthu tybaco a chynhyrchion nicotin.

Wedyn, fe ddywedoch chi eich bod chi'n gohirio gweithredu oherwydd y Bil newydd. Rwy'n ofni nad wyf yn derbyn hynny, oherwydd mae'r gallu wedi bod gennym i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr ers 2017, ymhell cyn y Bil fepio arfaethedig yn San Steffan. Felly, mae dadl gref yma o hyd dros gael y Llywodraeth i gyflwyno cofrestr o fanwerthwyr. Rwy'n credu bod y ddadl wedi'i chyflwyno'n dda gan bawb yma heno, felly carwn annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig heno. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. 

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:12, 15 Mai 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.