Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 15 Mai 2024.
Llongyfarchiadau i Ysgol Pentrecelyn ar ddathlu ei phen-blwydd yn 150 mlwydd oed yr wythnos yma. Fel cyn-riant a Llywodraethwr yno ar hyn o bryd, dwi ishe nodi’r garreg filltir nodedig yma i’r ysgol fechan wledig hon yng ngogoniant Dyffryn Clwyd.
Nawr, fe agorwyd yr ysgol ar 11 Mai 1874, gyda 34 o blant ar y gofrestr a Mr Owen Henry Owen, Gaerwen yn bennaeth. Sarah Ann Winter o Siop Pentrecelyn oedd yr enw cyntaf ar y gofrestr, ac mae yna gannoedd lawer o ddisgyblion wedi dilyn yn ôl ei thraed hi ar y gofrestr honno ers hynny, wrth gwrs. Pobl fel yr actorion Rhys Ifans a'i frawd Llyr Ifans, yr actores Victoria Pugh, y pianydd rhyngwladol Teleri Siân a’r cantorion nodedig Sera Baines ac Elis Jones, ac mae Elis, gyda llaw, hefyd yn bencampwr byd ar saethu colomennod clai, a dim ond rhai o’r cyn-ddisgyblion yw'r rheini.
Ac mae’r ysgol wrth gwrs yn dal i fynd o nerth i nerth, gydag arolwg disglair gan Estyn llynedd yn amlygu bod Ysgol Pentrecelyn yn ysgol ragorol sy’n darparu addysg a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel i’w disgyblion.
Fe gafwyd cyngerdd dathlu gyda channoedd lawer yn dod iddi rai wythnosau nôl ac mi fydd yna ddiwrnod dathlu a pharti pen-blwydd mawr yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sadwrn yma. Fel ysgrifennodd Gareth Neigwl yn ei englyn hyfryd diweddar i'r ysgol:
'A’i haddysg imi’n wreiddyn—hyd fy oes, / I’w hiard fach rwy’n perthyn; / Lle bo’r daith daw llwybrau dyn / Yn ôl i Bentrecelyn.'
Pen-blwydd hapus i Ysgol Pentrecelyn gan bawb yn Senedd Cymru.