Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 15 Mai 2024.
Hoffwn ofyn yn benodol i chi er hynny am y cymorth ymarferol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r trawma y mae llawer yn ei deimlo am flynyddoedd ar ôl llifogydd difrifol, y trawma y maent yn ei deimlo bob tro y bydd hi'n bwrw glaw'n drwm. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhywfaint o waith fforwm llifogydd, i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd, ond mae hyn yn eithaf anghyson ledled Cymru. Nid oes gennym fforwm llifogydd cenedlaethol yma yng Nghymru. Mae un yn yr Alban ac un sy'n gweithredu yn Lloegr, sydd weithiau'n cael ei ariannu i weithio yma yng Nghymru. A ydych chi'n credu bod gwerth mewn archwilio fforwm llifogydd yng Nghymru yn benodol i gefnogi grwpiau gweithredu llifogydd? A sut y gallwn ni rymuso cymunedau? Oherwydd rwy'n credu bod rhywfaint o'r cyngor ynghylch gosod eich socedi yn uwch ac yn y blaen yn iawn, ond i bobl sy'n wynebu risg barhaus, ac nad ydynt efallai'n gwybod sut i lenwi ffurflenni neu'n gwybod sut i ffurfio pwyllgor, sut y gallwn ni ddarparu cymorth ymarferol fel eu bod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso pan allai'r gwaethaf ddigwydd eto?