Cyllid Canlyniadol HS2

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 2:13, 15 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ateb ysgrifenedig i mi ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £700 miliwn yn llai na phan gafodd ei chytuno. Felly, os ychwanegwch at hyn y penderfyniad amlwg warthus gan Lywodraeth y DU i ddosbarthu HS2 fel prosiect i Gymru a Lloegr, er na fydd modfedd o drac—neu gentimetr, hyd yn oed—yn cael ei adeiladu ar bridd Cymru, gall unrhyw berson teg a gwrthrychol weld sut mae Cymru'n cael cam gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, tra bo'r blaid gyferbyn yn gwneud dim i sefyll dros Gymru a buddiannau Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wahaniaethau ymarferol, felly, y byddai'n eu gwneud i fywyd cyhoeddus Cymru a'r penderfyniadau ariannol anodd sy'n cael eu gwneud bob dydd gan Lywodraeth Cymru, a'n hawdurdodau lleol gweithgar sydd dan gymaint o bwysau, pe bai'r arian y dylai Cymru ei gael ac y mae'n ei haeddu yn cael ei roi i ni mewn gwirionedd, neu ai lladrad trên mawr arall yw hwn?