Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 14 Mai 2024.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg a minnau yn trafod y mater hwn mewn manylder gyda chydweithwyr undebau llafur. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn trefnu ymweliad â Llanwern i drafod yn fanylach sut y gallwn ni gefnogi blaenoriaethau'r gweithlu orau wrth i'r trafodaethau barhau. Yn ogystal ag annog dull sy'n osgoi diswyddiadau gorfodol, mae'n bwysig bod gweithwyr sy'n aros gyda'r cwmni yn cael eu gwobrwyo â'r cyflog sy'n cydnabod eu sgiliau, eu dawn a'u hymroddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd pontio. Byddwn yn pwyso am weithredu cyflym gan bartneriaid dros y misoedd nesaf.
Er mwyn canolbwyntio ein mesurau cymorth, mae angen gwybodaeth fanwl arnom ni am y rhai y mae cynlluniau pontio yn effeithio arnyn nhw er mwyn sicrhau y gellir darparu cymorth yn gyflym i weithwyr a chyflenwyr. Mae'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn sylweddol ac yn ymestyn y tu hwnt i gymunedau dur yn uniongyrchol. Mae'r cwmni bellach wedi cytuno i rannu'r wybodaeth hon, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw a'n partneriaid ehangach ar y manylion hollbwysig hyn a fydd yn effeithio ar fywydau miloedd o weithwyr a busnesau.
Yn ystod ein trafodaethau, amlygais hefyd yr anawsterau o ymdrin yn effeithiol â Llywodraeth bresennol y DU a phwysleisio unwaith eto nad ydym ni'n gwybod amodau'r grant o £500 miliwn gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn sefyllfa annerbyniol i unrhyw Lywodraeth Cymru fod ynddi. Rwy'n dal yn synnu bod Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyfarfod â mi ar unrhyw adeg yn fy nghyfnod fel Gweinidog yr economi, ac yn fwy diweddar wedi methu â chymryd rhan yn y broses drosglwyddo.
Rwy'n cydnabod effaith fawr y trawsnewid arfaethedig hwn os bydd Tata yn gweithredu eu cynllun a nodwyd yn gyhoeddus. Bydd yn effeithio ar gymunedau a phobl ledled Cymru. Dyna pam rydym ni wedi annog y busnes i feddwl eto. Os ydyn nhw'n benderfynol o weithredu cyn etholiad cyffredinol, yna mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau y caiff lefelau cynhyrchu cyfredol eu cynnal o ran yr holl weithgarwch darparu cwsmeriaid. Croesewir bod y cwmni, yn ystod ein sgyrsiau, yn nodi bod ganddyn nhw ac y bydd ganddyn nhw ddigon o gronfeydd wrth gefn o goil a slabiau wedi eu poeth-rolio i warantu bod eu holl weithgarwch darparu cwsmeriaid yn parhau ar lefelau heddiw. Bydd hynny'n hynod bwysig i'r gweithlu yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili.
Rwyf hefyd wedi gofyn am eglurder ynghylch cynlluniau Tata ar gyfer adeiladu ffwrnais bwa trydan, gan gynnwys, wrth gwrs, pwysigrwydd defnyddio cwmnïau o Gymru gymaint â phosibl, gan gefnogi swyddi lleol, i adeiladu a datblygu'r broses. Byddwn yn gweithio gyda busnesau i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru annog y gwaith brys sydd ei angen i wneud y mwyaf o'r buddsoddiad a'r gyflogaeth bosibl y gallai hyn ei gynnig i gymunedau dur a Chymru gyfan.
Mae'n ffaith bod pryder cymunedol o hyd na chaiff y ffwrnais bwa trydan ei hadeiladu. Dywedais yn glir wrth Tata fod eglurder ar y broses gynllunio, felly, yn bwysig. Soniais am bryderon ynghylch ansawdd y dur a gynhyrchir gan ffwrnais bwa trydan a thrafodais yr angen i sicrhau y gall cwsmeriaid ddibynnu ar ddur a gynhyrchir trwy'r broses hon. Rwy'n deall y bydd prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi ar waith i sicrhau y gellir cefnogi'r holl weithgarwch presennol, a byddwn, wrth gwrs, yn monitro cynnydd ar y mater hwn yn ofalus iawn.
Buom yn trafod meysydd pwysig o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys cyfleoedd buddsoddi ym Mhort Talbot a'r cyffiniau a chydweithio â phrifysgolion Cymru, yn enwedig Abertawe, ar bob maes o gynhyrchu dur gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys prosesu sgrap ac adeiladu, ymhlith blaenoriaethau eraill. Llwyddais i dynnu sylw at y cyfle buddsoddi a swyddi sylweddol a gynrychiolir gan y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yn Onllwyn, ac rwy'n falch o gadarnhau bod y cwmni wedi cytuno i ystyried memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda GCRE. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru ac uwch swyddogion gweithredol Tata yn cyfarfod yn Onllwyn heddiw i drafod y Memorandwm hwn. Rwy'n gobeithio y gall y gwaith hwn arwain at gyfleoedd cyflogaeth o safon i weithwyr a fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfnod pontio.
Y mater olaf a godais oedd fy mhryder ynghylch cyllid ar gyfer y Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe, sydd mor hanfodol o ran canfod ffyrdd arloesol o gefnogi cynhyrchu dur gwyrdd. Rwy'n falch o gadarnhau bod y cwmni wedi cytuno i ystyried ariannu nifer sylweddol o swyddi. Bydd fy swyddogion yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf, wrth gwrs, ynghyd ag ysgrifennydd yr economi ac ynni, sef y Gweinidog arweiniol yn y Llywodraeth o ran ein gwaith gyda Tata.
Llywydd, barn y Llywodraeth hon o hyd yw bod modd atal y canlyniad yr ydym ni'n ei wynebu a'r golled y mae'n ei chynrychioli, ac y gellir ei atal. Ers blynyddoedd lawer, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r achos dros strategaeth ddiwydiannol lawn yn y DU sy'n gwobrwyo ein hasedau sofran ac yn cysylltu buddsoddiad busnes â thwf hirdymor y tu hwnt i Lundain a'r de-ddwyrain. Dyma'r newid sylfaenol sydd ei angen i gyflawni potensial ein diwydiant dur, a'r hyn y dylem ni i gyd ei ddisgwyl gan ba lywodraeth bynnag sydd gan y DU—lefel o uchelgais a chefnogaeth ymarferol y mae ein gweithwyr dur yn ei haeddu ac y credaf sydd ar ein gwlad eu hangen.
Dur yw'r edau a fydd yn rhedeg trwy economi heddiw ac yfory. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU a oes ganddi'r uchelgais i wneud Cymru a'r DU yn ganolbwynt i'r dyfodol mwy gwyrdd hwnnw. Hyd yn hyn, mae'n amhosib disgrifio'r ateb fel unrhyw beth heblaw 'na'. Mae gweithwyr dawnus o Gymru yn cynhyrchu dur Cymreig o ansawdd uchel, ac mae eu gwaith yn dda ar gyfer twf ac yn dda ar gyfer diogelwch. Maen nhw'n haeddu cefnogaeth Llywodraeth uchelgeisiol gyda'r arfau i'w cefnogi. Diolch yn fawr, Llywydd.