Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 14 Mai 2024.
Rwyf wedi gweld drafft o'r dadansoddiad o dros 1,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Rwy'n disgwyl cyhoeddi'r dadansoddiad ac ymateb y Llywodraeth ym mis Mehefin, ond mae eisoes yn glir bod angen rhai newidiadau. Fel sydd wedi'i nodi'n flaenorol, rwy'n sefydlu bord gron weinidogol i ymgysylltu ar yr hyn y dylai'r newidiadau hynny fod. Bydd ffermwyr wrth wraidd y sgwrs hon, ochr yn ochr ag eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni'r manteision y mae ffermio yn eu darparu. Bydd y ford gron yn gweithio'n gyflym i nodi meysydd yr ydym yn cytuno arnyn nhw ac yn canolbwyntio ar feysydd lle mae angen mwy o waith.
Wrth ymateb i Blaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, yr undebau ffermio ac eraill, mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi pob ffermwr yng Nghymru gyda thaliad sylfaenol blynyddol, yn gyfnewid am gamau gweithredu cyffredinol, gan ddisodli cynllun y taliad sylfaenol. Bydd y camau cyffredinol hyn yn rhoi llwyfan i ffermwyr wneud mwy drwy gamau gweithredu gwirfoddol dewisol a chydweithredol, a fydd yn helpu ffermwyr i wireddu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n cyd-fynd â'n hamcanion rheoli tir cynaliadwy ac yn cefnogi ein hymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Rhaid i'r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn hygyrch i bob ffermwr a darparu'r lefel gywir o gymorth i helpu gyda chadernid busnes. Dyma pam y byddwn ni'n cynnwys taliad ar gyfer y buddion ehangach y mae ffermio yn eu darparu, gan fynd y tu hwnt i incwm a gollwyd a chostau yr aed iddynt, i gydnabod gwerth cymdeithasol. Bydd y ford gron yn helpu i ddod o hyd i fethodoleg talu briodol, yn ystyried canlyniadau'r adolygiad o atafaelu carbon a'r asesiad economaidd wedi'i ddiweddaru yn seiliedig ar y cynllun diwygiedig. Bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion newidiol defnyddwyr a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad. Bydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, ond yn manteisio ar y cyfleoedd o bren a rheoli tir yn gynaliadwy, fel cyllid gwyrdd ac atafaelu carbon, i gefnogi'r gwaith o warchod ein cymunedau, ein hiaith a'n diwylliant.
Bydd fy ymrwymiad i ymgysylltu, ac i roi amser i ffermwyr ystyried y canlyniadau i'w busnesau cyn penderfynu ymuno â'r cynllun, yn golygu y bydd angen newid i'r amserlen weithredu. Ni fyddwn yn cyflwyno'r cynllun nes ei fod yn barod. Byddwn ni'n cychwyn cyfnod paratoi ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025 i ddangos y buddion sy'n gysylltiedig â'r camau cyffredinol arfaethedig trwy drosglwyddo gwybodaeth, gweithgarwch wedi'i dargedu a chymorth ariannol. Bydd hyn yn paratoi ffermwyr yn well ar gyfer ymuno â'r cynllun o ddechrau'r cyfnod pontio arfaethedig yn 2026. Bydd yna ymgysylltu â ffermwyr ar ymarfer cadarnhau data, er mwyn rhoi darlun cywir o'r cynefin a'r gorchudd coed ar draws pob fferm. O dan gynllun Cynefin Cymru 2024, gwelsom gynnydd yn yr ardal o dir cynefin sy'n cael ei reoli. Felly, gan adeiladu ar hyn, byddaf yn archwilio rhoi cyfle i fwy o ffermwyr gael gafael ar gymorth yn 2025, gan gynnwys cymorth i ffermwyr organig.
Bydd cynlluniau presennol, fel y cynlluniau grantiau bach, yn parhau i gefnogi newidiadau i'r seilwaith, ac rydyn ni'n gweithio ar gynllun adnoddau naturiol integredig newydd, gan adeiladu ar gydweithredu blaenorol ar raddfa tirwedd. I ddechrau, y nod yw cefnogi datblygu cynigion ar gyfer cyllid pellach. Byddwn ni'n canolbwyntio ar gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy ac y disgwylir iddynt roi cymorth yn y dyfodol fel camau dewisol a chydweithredol.
Rydyn ni'n bwriadu ymgymryd â gweithgarwch ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a hyrwyddo cyfleoedd o ran gorchudd coed ar ffermydd. Byddwn ni'n datblygu cynigion ar gyfer camau gweithredu dewisol a chydweithredol pellach, gyda'r nod o'u cyflwyno cyn gynted â phosibl. A thrwy Cyswllt Ffermio, byddwn ni'n gweithio ar drosglwyddo gwybodaeth, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd a gweithgarwch ar ffermydd sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Er mwyn rhoi sicrwydd, fy mwriad yw i Gynllun y Taliad Sylfaenol fod ar gael yn 2025, gyda'r cyfnod pontio arfaethedig i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dechrau o 2026. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am derfyn uchaf cynllun y taliad sylfaenol 2025 a manylion y cyfnod paratoi maes o law.
Mae cynnal safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn hanfodol i sector amaeth ffyniannus. Rwyf eisiau i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid a byddaf yn dweud mwy am fy nghynlluniau maes o law. Rwyf wedi clywed, wrth gwrs, yn uniongyrchol am yr effaith ddinistriol y mae TB yn ei chael ar ffermydd. Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru ddi-TB. Fel rhan o'n cynllun cyflawni TB pum mlynedd, mae'r grŵp cynghori technegol yn ystyried lladd anifeiliaid sydd wedi adweithio i'r prawf TB ar ffermydd fel ei flaenoriaeth gyntaf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol wedi'u cynllunio i ymdrin ag achosion o lygredd amaethyddol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed pryderon ynghylch sut mae'r rheoliadau'n bwriadu cyflawni hyn. Rydym wedi dechrau'r adolygiad pedair blynedd o'r rheoliadau, ac rwyf eisiau nodi a oes angen newidiadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar gadeirydd annibynnol ar gyfer yr adolygiad hwnnw cyn bo hir.
Rwyf hefyd wedi clywed am yr effeithiau ar iechyd meddwl a lles ffermwyr a'u teuluoedd, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r elusennau sy'n darparu cefnogaeth mor wych i'n ffermwyr.
Roedd gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru drosiant o'r fferm i'r fforc o fwy na £22 biliwn yn 2022. Fy ngweledigaeth i yw diwydiant bywiog sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth. Rydyn ni eisiau bod yn un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, a byddwn ni'n parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru, gan gynnwys trwy Arloesi Bwyd Cymru a Blas Cymru.