Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 14 Mai 2024.
Mae ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn canolbwyntio ar gydweithio, gwaith partneriaeth a llesiant. Rwy'n bwriadu cyhoeddi 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n amlinellu ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd a sut maen nhw'n cefnogi cynhyrchwyr, gan gynnwys ffermwyr, a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod mwy o gynnyrch o Gymru ar gael. Rwyf am weld Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant amaethyddol ffyniannus ac arloesol, ac rwyf wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.