Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 14 Mai 2024.
Diolch, Llywydd. Fy ngweledigaeth yw dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd ac atgyfnerthu ein cymunedau gwledig. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynorthwyo ffermwyr i gyflawni'r amcanion hyn. Fy mwriad yw dwyn pobl ynghyd, gwrando a gweithio mewn partneriaeth.