– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 14 Mai 2024.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Felly, Huw Irranca-Davies i wneud y datganiad yma.
Diolch, Llywydd. Fy ngweledigaeth yw dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd ac atgyfnerthu ein cymunedau gwledig. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynorthwyo ffermwyr i gyflawni'r amcanion hyn. Fy mwriad yw dwyn pobl ynghyd, gwrando a gweithio mewn partneriaeth.
Rwyf wedi gweld drafft o'r dadansoddiad o dros 1,200 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Rwy'n disgwyl cyhoeddi'r dadansoddiad ac ymateb y Llywodraeth ym mis Mehefin, ond mae eisoes yn glir bod angen rhai newidiadau. Fel sydd wedi'i nodi'n flaenorol, rwy'n sefydlu bord gron weinidogol i ymgysylltu ar yr hyn y dylai'r newidiadau hynny fod. Bydd ffermwyr wrth wraidd y sgwrs hon, ochr yn ochr ag eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni'r manteision y mae ffermio yn eu darparu. Bydd y ford gron yn gweithio'n gyflym i nodi meysydd yr ydym yn cytuno arnyn nhw ac yn canolbwyntio ar feysydd lle mae angen mwy o waith.
Wrth ymateb i Blaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, yr undebau ffermio ac eraill, mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi pob ffermwr yng Nghymru gyda thaliad sylfaenol blynyddol, yn gyfnewid am gamau gweithredu cyffredinol, gan ddisodli cynllun y taliad sylfaenol. Bydd y camau cyffredinol hyn yn rhoi llwyfan i ffermwyr wneud mwy drwy gamau gweithredu gwirfoddol dewisol a chydweithredol, a fydd yn helpu ffermwyr i wireddu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n cyd-fynd â'n hamcanion rheoli tir cynaliadwy ac yn cefnogi ein hymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Rhaid i'r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn hygyrch i bob ffermwr a darparu'r lefel gywir o gymorth i helpu gyda chadernid busnes. Dyma pam y byddwn ni'n cynnwys taliad ar gyfer y buddion ehangach y mae ffermio yn eu darparu, gan fynd y tu hwnt i incwm a gollwyd a chostau yr aed iddynt, i gydnabod gwerth cymdeithasol. Bydd y ford gron yn helpu i ddod o hyd i fethodoleg talu briodol, yn ystyried canlyniadau'r adolygiad o atafaelu carbon a'r asesiad economaidd wedi'i ddiweddaru yn seiliedig ar y cynllun diwygiedig. Bydd y cynllun yn cefnogi ffermwyr i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion newidiol defnyddwyr a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad. Bydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, ond yn manteisio ar y cyfleoedd o bren a rheoli tir yn gynaliadwy, fel cyllid gwyrdd ac atafaelu carbon, i gefnogi'r gwaith o warchod ein cymunedau, ein hiaith a'n diwylliant.
Bydd fy ymrwymiad i ymgysylltu, ac i roi amser i ffermwyr ystyried y canlyniadau i'w busnesau cyn penderfynu ymuno â'r cynllun, yn golygu y bydd angen newid i'r amserlen weithredu. Ni fyddwn yn cyflwyno'r cynllun nes ei fod yn barod. Byddwn ni'n cychwyn cyfnod paratoi ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn 2025 i ddangos y buddion sy'n gysylltiedig â'r camau cyffredinol arfaethedig trwy drosglwyddo gwybodaeth, gweithgarwch wedi'i dargedu a chymorth ariannol. Bydd hyn yn paratoi ffermwyr yn well ar gyfer ymuno â'r cynllun o ddechrau'r cyfnod pontio arfaethedig yn 2026. Bydd yna ymgysylltu â ffermwyr ar ymarfer cadarnhau data, er mwyn rhoi darlun cywir o'r cynefin a'r gorchudd coed ar draws pob fferm. O dan gynllun Cynefin Cymru 2024, gwelsom gynnydd yn yr ardal o dir cynefin sy'n cael ei reoli. Felly, gan adeiladu ar hyn, byddaf yn archwilio rhoi cyfle i fwy o ffermwyr gael gafael ar gymorth yn 2025, gan gynnwys cymorth i ffermwyr organig.
Bydd cynlluniau presennol, fel y cynlluniau grantiau bach, yn parhau i gefnogi newidiadau i'r seilwaith, ac rydyn ni'n gweithio ar gynllun adnoddau naturiol integredig newydd, gan adeiladu ar gydweithredu blaenorol ar raddfa tirwedd. I ddechrau, y nod yw cefnogi datblygu cynigion ar gyfer cyllid pellach. Byddwn ni'n canolbwyntio ar gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy ac y disgwylir iddynt roi cymorth yn y dyfodol fel camau dewisol a chydweithredol.
Rydyn ni'n bwriadu ymgymryd â gweithgarwch ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a hyrwyddo cyfleoedd o ran gorchudd coed ar ffermydd. Byddwn ni'n datblygu cynigion ar gyfer camau gweithredu dewisol a chydweithredol pellach, gyda'r nod o'u cyflwyno cyn gynted â phosibl. A thrwy Cyswllt Ffermio, byddwn ni'n gweithio ar drosglwyddo gwybodaeth, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd a gweithgarwch ar ffermydd sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Er mwyn rhoi sicrwydd, fy mwriad yw i Gynllun y Taliad Sylfaenol fod ar gael yn 2025, gyda'r cyfnod pontio arfaethedig i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dechrau o 2026. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am derfyn uchaf cynllun y taliad sylfaenol 2025 a manylion y cyfnod paratoi maes o law.
Mae cynnal safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn hanfodol i sector amaeth ffyniannus. Rwyf eisiau i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid a byddaf yn dweud mwy am fy nghynlluniau maes o law. Rwyf wedi clywed, wrth gwrs, yn uniongyrchol am yr effaith ddinistriol y mae TB yn ei chael ar ffermydd. Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru ddi-TB. Fel rhan o'n cynllun cyflawni TB pum mlynedd, mae'r grŵp cynghori technegol yn ystyried lladd anifeiliaid sydd wedi adweithio i'r prawf TB ar ffermydd fel ei flaenoriaeth gyntaf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol wedi'u cynllunio i ymdrin ag achosion o lygredd amaethyddol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed pryderon ynghylch sut mae'r rheoliadau'n bwriadu cyflawni hyn. Rydym wedi dechrau'r adolygiad pedair blynedd o'r rheoliadau, ac rwyf eisiau nodi a oes angen newidiadau. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar gadeirydd annibynnol ar gyfer yr adolygiad hwnnw cyn bo hir.
Rwyf hefyd wedi clywed am yr effeithiau ar iechyd meddwl a lles ffermwyr a'u teuluoedd, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r elusennau sy'n darparu cefnogaeth mor wych i'n ffermwyr.
Roedd gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru drosiant o'r fferm i'r fforc o fwy na £22 biliwn yn 2022. Fy ngweledigaeth i yw diwydiant bywiog sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth. Rydyn ni eisiau bod yn un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, a byddwn ni'n parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru, gan gynnwys trwy Arloesi Bwyd Cymru a Blas Cymru.
Mae ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn canolbwyntio ar gydweithio, gwaith partneriaeth a llesiant. Rwy'n bwriadu cyhoeddi 'Bwyd o Bwys: Cymru', sy'n amlinellu ein polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd a sut maen nhw'n cefnogi cynhyrchwyr, gan gynnwys ffermwyr, a'r gadwyn gyflenwi i sicrhau bod mwy o gynnyrch o Gymru ar gael. Rwyf am weld Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant amaethyddol ffyniannus ac arloesol, ac rwyf wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am eich datganiad y prynhawn yma, hefyd eich datganiad ysgrifenedig y bore yma, ac am siarad â mi cyn rhyddhau'r datganiadau hyn yn gynharach heddiw. A gaf fi ddweud ei bod yn galonogol gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi wedi ystyried y pryderon yr wyf wedi'u codi gyda chi ynghylch dyfodol cymorth ffermio yma yng Nghymru? Rwy'n credu ei bod yn gam cadarnhaol i ddangos eich bod chi'n gwrando ar y diwydiant, yr undebau a'r 12,500 o bobl hynny a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Mae'r oedi o ran gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r ymrwymiad i symud cynllun y taliad sylfaenol ymlaen tan 2025, yn rhywbeth yr wyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano, ac rydym yn falch iawn o weld bod hyn yn digwydd i roi'r sicrwydd hirdymor hwnnw i'n ffermwyr ledled Cymru.
Fodd bynnag, er mwyn i'r cynllun hwn fod yn wirioneddol lwyddiannus, mae'n hanfodol sicrhau bod amrywiaeth eang o leisiau yn cael eu clywed. Felly, mae gennyf rai cwestiynau allweddol ynghylch cydweithredu yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gennyf ddiddordeb, Ysgrifennydd Cabinet, yn y modd y bydd y ford gron weinidogol yn cael ei strwythuro i warantu cydbwysedd a chynrychiolaeth gan bob sector ffermio a rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y rhai sydd â phryderon penodol am agweddau ar y cynllun ffermio cynaliadwy. A allwch chi hefyd roi gwybod i ni heddiw ar ba ddyddiad yr ydych chi'n bwriadu i'r ford gron hon ddechrau? Fe wnaethoch chi ddweud yr wythnos diwethaf y byddech chi'n gweithio drwy'r nos i sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu gwneud ar gyflymder. Felly, byddai'n ddiddorol iawn gwybod pa amserlenni rydych chi wedi'u gosod ar sefydlu hyn.
A allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i'r diwydiant hefyd y bydd lleisiau pobl yn cael eu clywed pan fyddan nhw'n cymryd rhan yn y grwpiau hyn? Oherwydd rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn ystod y cyfnod cydlunio, oedd bod pobl yn cyfrannu at hyn, ond nid oedd neb yn gwrando arnyn nhw. Felly, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd gennych chi y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Roedd y cyhoeddiad y gwnaethoch chi'r bore yma yn sôn am y cynllun ffermio cynaliadwy, gan gynnwys taliadau am werth cymdeithasol, ac mae hwn yn gysyniad diddorol iawn. Ond rwy'n credu bod angen eglurder ynghylch beth yw hynny mewn gwirionedd, oherwydd rwyf yn gobeithio bod hwn yn newid cadarnhaol gwirioneddol a bod y Llywodraeth yma, o'r diwedd, yn cydnabod bod ffermio yn ychwanegu gwerth cymdeithasol i Gymru o ran gwerth amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd hefyd i'n cymunedau.
Rydyn ni hefyd yn gwybod bod effaith y cynllun ffermio cynaliadwy cychwynnol yn ddinistriol i'n busnesau fferm, gyda 5,500 o swyddi'n cael eu colli ar draws y diwydiant. Felly, byddai diddordeb mawr gennyf i wybod—rwy'n gwybod bod Llyr Gruffydd wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi hefyd—pryd ydyn ni'n mynd i weld asesiad effaith wedi'i ddiweddaru, oherwydd, os ydyn ni'n cael newidiadau i'r cynllun, yna yn amlwg, bydd angen asesiad effaith newydd arnon ni i weld beth mae unrhyw newidiadau yn mynd i'w wneud.
Fel y dywedais yn gynharach, rwyf i a fy ngrŵp yn croesawu ymestyn cynllun y taliad sylfaenol i mewn i 2025. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'n busnesau fferm. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n gwneud cyhoeddiad maes o law, ond rwy'n credu y bydd pobl heddiw eisiau gwybod beth fydd y gyfradd honno o ran cynllun y taliad sylfaenol. A fydd yn parhau heb ei newid yn 2025, a pha gynlluniau ychwanegol, fel creu coetir, fydd hefyd yn cael eu cario ymlaen, wrth symud ymlaen i 2025?
Mae'r saib hwn yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni edrych ar y cynigion hyn eto, ac mae angen i ni weld newidiadau sylweddol i'r cynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd, yn ei ffurf bresennol, nid yw'n gweithio. Ond, os oes angen i ni ei gael i weithio, mae angen iddo weithio i bob ffermwr ledled Cymru, oherwydd mae gan y ffermwyr yr wyf yn siarad â nhw, ac rwy'n siŵr y ffermwyr yr ydych chi wedi bod yn siarad â nhw hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, bryderon o hyd ynghylch plannu coed, ynghylch tir comin, ynghylch ffermwyr tenantiaid, ynghylch SoDdGAau a rhai o'r camau gweithredu cyffredinol, y mae rhai ffermwyr yn eu ystyried yn sarhaus ac yn or-fiwrocrataidd. Ac mae angen i ni gael mwy o fanylion gennych chi ynglŷn â sut yr ydych chi'n bwriadu i'r newidiadau hyn fwydo i mewn i'ch bord gron weinidogol i sicrhau y bydd y newidiadau hynny'n cael eu gweithredu gan y Llywodraeth fel y gall y diwydiant gefnogi a chyflawni'r cynllun hwn i chi.
Mae'r datganiad yn sôn am ystyried canlyniadau'r adolygiad atafaelu carbon ar gyfer llywio methodolegau talu. Yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: a fydd yr adolygiad yn edrych y tu hwnt i atafaelu carbon o safbwynt coed ac ystyried pob math o wahanol laswellt a gwrychoedd hefyd, oherwydd nid yw hynny wedi cael ei ystyried o'r blaen, ac rwy'n credu bod angen i ni gael darn mawr o waith ynghylch atafaelu carbon o safbwynt glaswellt?
Roeddwn i'n mynd i siarad am les anifeiliaid, ond fe ddywedoch chi y byddwch chi'n sôn am hynny wrthyn ni maes o law. A hefyd rydych chi'n mynd i fod yn gwneud datganiad, gobeithio, ar TB. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei wneud i'r Siambr hon, ac nid yn ysgrifenedig, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhoi cyfle i ni graffu ar unrhyw waith yr ydych chi'n ei wneud.
Ysgrifennydd Cabinet, dim ond tua 30 eiliad sydd gennyf ar ôl, ond, o fy safbwynt i, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn un i'w groesawu. Mae wedi cael ei groesawu gan yr undebau, ac mae'r bobl rydw i wedi siarad â nhw ar y ffôn—fy ffrindiau a chydweithwyr sydd gennyf yn y diwydiant—yn ei groesawu hefyd. Ac rwy'n rhoi cynnig agored i chi, Ysgrifennydd Cabinet: rwy'n barod i weithio gyda chi mewn ffordd agored a phragmatig a chadarnhaol iawn i sicrhau y gallwn ni gael cynllun sy'n cyflawni ar gyfer ein ffermwyr. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae angen i ni weld newid sylfaenol os ydyn ni'n mynd i wneud iddo weithio. Oherwydd dyna'r hyn rydw i eisiau ei weld. Rwyf eisiau gweld cynllun sy'n gweithio, sy'n cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cyflawni ar gyfer ein ffermwyr nawr ac yn sicrhau bod gennym ni economi wledig fywiog yng Nghymru, oherwydd bydd gwneud hynny'n sicrhau'r holl fuddion amgylcheddol, diwylliannol a bioamrywiaeth yr ydych chi eisiau'u gweld a hefyd y busnesau fferm ffyniannus rwy'n siŵr bod pawb o gwmpas y Siambr hon eisiau eu gweld hefyd. Diolch.
James, diolch yn fawr iawn, a diolch am eich sylwadau yn croesawu'r cyhoeddiad a gafodd ei wneud ar y ffordd ymlaen. A dim ond i ddweud, mae hi yn ffordd ymlaen. Fe ddefnyddiais i gyfatebiaeth rygbi yn gynharach mewn cyfweliad. Mae llawer o'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud nawr yn paratoi ar gyfer cyflwyno cynllun lle mae llawer o gytundeb yn barod, mewn gwirionedd—y fframwaith, yr amcanion, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran gwerth cymdeithasol, gofynion amgylcheddol, gofynion newid hinsawdd—ond mae'n iawn gwneud rhywfaint mwy o waith ar y meysydd hynny sydd wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad, sydd yn wir—. Nid ydyn ni wedi gweld y dadansoddiad terfynol, y dadansoddiad llawn o'r ymgynghoriad, ond rwyf wedi gweld rhai o'r canfyddiadau dros dro, ac mae'n eithaf clir ac amlwg lle mae'r meysydd hynny y mae angen i ni wneud ychydig mwy o waith arnyn nhw. Ond mae'n fwy o waith, a dyna lle mae'r ford gron weinidogol yn dod yn bwysig iawn. A'r ffordd mae honno'n gweithio, y rheswm ei bod yn ford gron weinidogol, yw y bydd llawer o waith y tu ôl i'r llenni, nid yn unig gyda ffermwyr a chyda'r undebau ffermio ac ati, ond hefyd gyda'r grwpiau amgylcheddol a bywyd gwyllt hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y manylion yn iawn fel y gallwn ni symud ymlaen wedyn ac rydyn ni'n bwrw ymlaen mewn ffordd y gall pob ffermwr fod yn rhan ohoni, oherwydd mae angen i ffermwyr deimlo eu bod am gamu i'r adwy a bod yn rhan o hyn, ond mae angen i ni hefyd ddarparu'r gofynion ehangach hynny.
Fe wnaethoch chi ymdrin â chymaint yn y fan yna, James, ond, i ddweud, yn fyr iawn, mai llawer o'r materion yr oeddech chi'n eu trafod yw'r union rai y mae'r ford gron weinidogol, a'r gwaith sy'n mynd oddi tani, wedi'u cynllunio i'w datblygu. Felly, nid wyf am ei rhagflaenu.
Felly, pan wnaethoch chi sôn am amserlenni, ni fydd yn rhaid i chi aros yn hir nes y byddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau, ar yr aelodaeth, ond hefyd ar y ffordd y bydd y ford gron weinidogol honno'n mynd â'r holl waith hwn ymlaen, gan gynnwys, gyda llaw, y ffrydiau oddi tani. Mae dau neu dri maes yr ydyn ni eisiau eu cyflwyno oddi tani. Un o'r rheini, gyda llaw, yw atafaelu, ac mae'n ymwneud â choed a mwy. Oherwydd mae dadleuon wedi'u cyflwyno i ddweud bod ffyrdd eraill hefyd o atafaelu. Mae angen i ni brofi'r dadleuon hynny hefyd—nid dim ond eu derbyn; mae angen i ni eu profi nhw. Felly, rwy'n credu mai dyna'r gwaith sydd angen ei wneud.
Byddwn ni'n gwneud cyhoeddiad dilynol ar TB, fel y dywedwch chi.
Effaith economaidd: un o'r sgyrsiau yr ydyn ni wedi'i chael ag undebau'r ffermwyr yw ei bod hi'n iawn i Lywodraeth Cymru roi'r dadansoddiad economaidd yr oedd gennym ni o flaen y cyhoedd, ond roedd dwy flynedd dros ei amser mewn gwirionedd, ac roedd yn seiliedig ar iteriad blaenorol o gynigion. Nid oedd hyd yn oed yn seiliedig ar y rhai mwyaf diweddar. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud dadansoddiad economaidd wedi'i ddiweddaru, ond mae angen i'r dadansoddiad economaidd gael ei wneud pan fyddwn ni'n gwybod manylion sut olwg fydd ar y cynllun hwnnw, ac nid cyn hynny. Oherwydd mae angen i ni ddweud wrth ffermwyr, 'Wel, dyma'r dadansoddiad economaidd, a dyma'r adnoddau yr ydyn ni'n mynd i'w harwain trwy'r trawsnewidiad hwn hefyd.' A gallai rhywfaint o hyn fod yn creu cyfleoedd newydd yn ein hardaloedd gwledig hefyd.
Felly, mae llawer o'r pethau y gwnaethoch chi eu trafod yn y fan yna yn bethau y bydd y ford gron weinidogol yn—. A dim ond un peth olaf, dim ond i egluro: nid saib yw hyn o gwbl. Mae yna waith i'w wneud nawr mewn gwirionedd, er mwyn i ni allu cyrraedd pwynt lle mae pawb yn derbyn manylion cyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy a fydd yno, rwy'n credu, os cawn ni hyn yn gywir, i'r genhedlaeth sydd i ddod. Bydd yn ddeinamig, ond, os cawn ni hyn yn gywir, yn y saith, wyth mlynedd hyn ar ôl ymadael â'r UE, yna rydyn ni'n rhoi sicrwydd, nid yn unig o ran ffermio, ond o ran yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud hefyd o ran rheoli tirwedd, ar newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth a phopeth arall, am flynyddoedd lawer i ddod. Ond diolch, James, am groesawu hyn.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac a gaf i hefyd groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma? Rwy’n credu ei fod yn taro cywair pragmatig a synhwyrol, ac dwi’n diolch i chi am hynny. Mae’n ymateb yn bositif i nifer o alwadau Plaid Cymru. Dwi wedi codi nifer o’r pwyntiau yma yn y Siambr, ac dwi’n gwybod—ac dwi eisiau diolch i Cefin Campbell hefyd, fel yr Aelod dynodedig fel rhan o’r cytundeb cydweithio—fod nifer o’r materion yma wedi cael eu trafod yn helaeth, ac dwi’n diolch i Cefin am gael y maen i’r wal ar nifer ohonyn nhw.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn daer ac yn gyson hefyd wrth alw am oedi o ran y gweithredu. Felly, yn amlwg, mae'n rhywbeth y gwnes i ei godi gyda'ch rhagflaenydd. Fe wthiodd hi nôl, gan ddweud na fyddai hi'n ei dderbyn. Rwy'n gwybod i ddechrau y gwnaethoch chi ddweud efallai y gallech chi fwrw ymlaen â rhai elfennau lle'r oedd cytundeb, ac y byddai angen mwy o waith ar rai eraill efallai. Wel, rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad cywir, ac rwy'n croesawu'r oedi yr ydych chi wedi'i amlinellu heddiw.
Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael effaith ar genedlaethau o ffermio, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod, yn y bôn, bod yn rhaid i ni ei gael yn iawn a pheidio â'i wneud yn gyflym. Hyd yn oed os yw'n golygu blwyddyn arall o ansicrwydd, blwyddyn arall o oedi diangen, y byddai rhai yn ei ddweud, rwy'n credu y bydd y cyfnod hwnnw o 12 mis yn llai poenus nag efallai 12 mlynedd a mwy o wneud y dewisiadau anghywir. Felly, dyma'r penderfyniad cywir, ac rwy'n diolch i chi am fod yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw.
Felly, mae'n gyfle, fel rwy'n ei ddweud, i gamu'n ôl a myfyrio—nid cymryd saib, oherwydd rydych chi'n dweud mai nid saib ydyw, felly fe wna i dderbyn hynny, os mai dyna yw'ch dymuniad. Ond mae'n gyfle i wneud newidiadau angenrheidiol ac i sicrhau, yn bendant, fwy o gefnogaeth gan y sector ffermio nag yr ydyn ni wedi'i gweld hyd yn hyn, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni gynllun sy'n gynaliadwy oherwydd ei fod yn gweithio ar gyfer ffermio ac ar gyfer natur.
Rwy'n credu cymaint ag yr ydyn ni'n mireinio neu'n diwygio neu'n newid elfennau, rydyn ni hefyd, gobeithio, yn defnyddio'r broses hon i ddatblygu consensws, mwy o gonsensws, ynghylch y camau y mae angen i bob un ohonon, ni eu cymryd ar y cyd. Felly, rwy'n croesawu'r dull bord gron. Rwy'n credu, unwaith eto, bod dod â'r lleisiau hynny at ei gilydd yn bwysig. Mae'n allweddol bod y rhai sydd â phrofiad bywyd o ffermio yn eistedd o gwmpas y ford honno, oherwydd byddan nhw'n gallu dweud wrthyn ni beth sy'n gweithio ar lawr gwlad, ac rwy'n credu efallai bod hynny'n rhywbeth yr ydyn ni wedi'i golli rhywfaint yn y gorffennol.
Ond rwyf eisiau gofyn yn benodol i chi: a allwch chi gadarnhau felly nad ydych chi nawr yn bwriadu mynnu gorchudd coed o 10 y cant gan bawb sy'n cymryd rhan yn y cynllun? Yn amlwg, rydych chi'n ystyried amrywiaeth ehangach o ddewisiadau. Mae hynny'n swnio i mi fel tynnu'r penderfyniad i fynnu ar 10 y cant oddi ar y bwrdd. Efallai y bydd yn gweithio i rai, ond nawr ni fydd yn rhagofyniad ar gyfer bod yn rhan o'r cynllun. Efallai y gallwch chi gadarnhau hynny i ni.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y camau cyffredinol yn eich datganiad. Ydych chi'n dal i edrych ar 17 o gamau gweithredu cyffredinol, oherwydd roedd yn darllen mwy fel rhestr ddymuniadau na disgwyliad ymarferol ar y sector, a bod yn onest? Wth i'r ford gron a'r grwpiau eraill hyn wneud eu gwaith, oes yna gyfaddef nawr bod angen i chi resymoli hynny rhywfaint efallai?
Fe wnaethoch chi sôn y byddwch chi'n datblygu cynigion ar gyfer camau dewisol a chydweithredol eraill gyda'r nod o gyflwyno'r rhain cyn gynted â phosibl—dyna'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. A ydych chi, felly, yn dweud bod posibilrwydd nawr y gallai'r elfennau hynny, neu rannau o'r agweddau hynny ar y cynllun, gael eu cyflwyno ar yr un pryd â'r elfennau cyffredinol yn 2026? Oherwydd rwy'n gwybod y byddai llawer yn y sector, yn enwedig yn y sector amgylcheddol, yn pryderu mai dyna lle bydd llawer o'r gwaith codi trwm o ran cyflawni dros natur yn digwydd, ond trwy oedi'r cyffredinol, mae'n ddigon posibl ein bod ni'n gohirio'r agweddau cydweithredol a dewisol yn anfwriadol.
Mae dal angen i bobl wybod faint o arian yr ydyn ni'n siarad amdano. Gallwn ni ddylunio cynllun, gallwn ni siarad am egwyddorion, ond hyd nes y bydd pobl yn gwybod sut mae hynny'n effeithio'n ymarferol ar hyfywedd eu busnes ar lefel economaidd, ac, wrth gwrs, sut mae hynny'n effeithio ar ba mor uchelgeisiol y gallwn ni fod o ran natur a'r amgylchedd, yna mae'n anodd, on'd yw e? Rydyn ni'n ymbalfalu ychydig o ran gwybod a ydyn ni mewn ai peidio. Felly, nid yw'r oedi pellach hynny, mae'n debyg, yn golygu y gallwch chi fynegi'n fwy pendant pa fath o ffigurau yr ydyn ni'n sôn amdanyn nhw, ond byddai'n dda deall efallai a ydych chi'n teimlo y gallwch chi wneud mwy o ran hynny.
Mae'r ffocws cryfach ar y gwerth cymdeithasol i amaethyddiaeth yn rhywbeth rŷn ni fel plaid wedi bod yn galw amdano fe yn helaeth iawn. Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn ac yn deg fod yna gydnabyddiaeth ariannol i'r cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol mae'r sector yn ei wneud. Nawr, mae beth mae hwnna'n edrych fel, wrth gwrs, yn mynd i fod yn destun trafodaeth, ond dwi eisiau rhoi ar record, gan ein bod ni fel plaid wedi sicrhau bod hwnna yn y Ddeddf amaeth, ein bod ni'n falch iawn gweld y pwyslais rŷch chi'n ei roi arno fe yn y cynllun.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at y grŵp cynghori technegol ar TB. Wrth gwrs, ystyried difa ar y fferm yw'r peth cyntaf. Mae nifer ohonom ni eisiau gweld newidiadau amgenach a mwy pellgyrhaeddol, ond mae hwnna yn flaenoriaeth. Rydych chi'n awgrymu y byddwch chi'n gwneud datganiad yn nes ymlaen yr wythnos yma. Allwch chi ddweud wrthym ni a fydd yna newid yn digwydd ar y ffrynt yna o fewn wythnosau, a ddim o fewn misoedd? Diolch.
Diolch yn fawr, Llyr. Rydych chi wedi codi llawer o faterion yn y fan yna eto, ond a gaf i ddiolch i chi am groesawu'r dull pragmatig a synhwyrol, fel y gwnaethoch chi ei ddisgrifio, o ran y ffordd ymlaen? Oherwydd mae'n rhaid i ni ddylunio cynllun sydd, pan fydd yn barod i fynd, yn dod â phawb gydag ef, ac sydd, gyda llaw, yn cynnwys yr holl bobl hynny allan yno sy'n cefnogi'r uchelgeisiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol, gan gynnwys ymhlith y gymuned ffermio, yn ogystal â'r gymuned ffermio eu hunain sy'n mynd i fod mor ganolog i gyflawni hyn, a datblygu'r consensws y gwnaethoch chi ei grybwyll yw'r ffordd ymlaen.
I fynd ar ôl rhai o'r pethau y gwnaethoch chi ei ddweud yn y fan yna, o ran cyllid, rwy'n falch ein bod ni wedi cyhoeddi heddiw y byddwn ni'n bwrw ymlaen â chyllid cynllun y taliad sylfaenol ar hyn o bryd, i roi rhywfaint o sicrwydd wrth symud ymlaen. Nawr, wrth wneud hynny, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gofyn i'r rhai yn y Siambr y tu ôl i mi fod yn gryf y tu ôl i mi, a gwneud sylwadau hefyd, oherwydd rydyn ni'n mynd i fod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu'r un lefel o gyllid o leiaf ag a gawson ni'r flwyddyn ariannol hon, ynghyd â chwyddiant, a mwy, os hoffen nhw ei roi e' i ni, os gwelwch yn dda. Mae'r Bil yn £339.6 miliwn, os gwelwch yn dda, ynghyd â chwyddiant, ac unrhyw beth arall y maen nhw eisiau'i ychwanegu. Rydyn ni'n gweithio—mae ein swyddogion yn gweithio'n fewnol, a chyda chydweithwyr mewn gweinyddiaethau eraill—i ddatblygu ein cais am gyllid. Rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod hynny'n dal i adael diffyg o ran yr hyn yr oedden ni wedi'i ragweld pan oedd yr holl ddadleuon gwych hynny'n mynd rhagddynt ynghylch gadael yr UE, ond mae gennym ni'r pecyn cyllido sydd gennym ni ac mae'n rhaid i ni weithio gydag ef. A chwarae teg i'r undebau ffermio hefyd, er bod gennych chi leisiau'n dweud, 'Wel, dewch o hyd iddo o rywle arall', y dadleuon hynny, maen nhw yn derbyn bod yn rhaid i ni wneud cais yn rhywle arall yma mewn gwirionedd, i gynorthwyo gyda hynny. Ond trwy gyhoeddi y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau ar gyfer 2025 nawr, rwy'n ceisio rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallaf heb wybod y sefyllfa gyllidebol yn y dyfodol, ond mae'n ddatganiad clir o'n bwriad. Felly, byddaf yn ceisio gwneud cyhoeddiad ar fanylion eraill, fel y terfyn uchaf, maes o law, ond ni fydd yn rhaid aros yn rhy hir, gobeithio.
Yr agweddau eraill yr wyf eisiau cyffwrdd arnyn nhw—. Roeddech chi'n sôn am goed ac atafaelu carbon. Mae camau atafaelu carbon yn y cynllun yn enghraifft rwy'n credu sydd angen ac sy'n haeddu ystyriaeth bellach. Felly, rwyf wedi cadarnhau ein bod ni'n cynnull panel adolygu tystiolaeth atafaelu carbon, a fydd yn bwydo i fyny i'r ford gron weinidogol. Rwy'n disgwyl i'r grŵp o bartneriaid a fydd yn ymgymryd â'r gwaith hwn gyda ni ganolbwyntio ar y dystiolaeth sy'n gysylltiedig â chamau gweithredu i gefnogi atafaelu carbon ychwanegol, a maint y cyfle sydd gennym, o bosibl, yng Nghymru. Nawr, rwy'n mynd i aros am ganlyniadau'r gwaith hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, ac er y gallai fod ychydig yn rhwystredig, mae rheswm pam yr ydyn ni'n mynd i osod rhai o'r rhain ar lwybr i'w codi wedyn i'r ford gron weinidogol. Ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau wrth iddo ddod o'n blaenau ni. Nid wyf eisiau achub y blaen arno.
Ond coed ar ffermydd, gadewch i ni fod yn hollol glir: mae ganddyn nhw nifer o fanteision ar wahân i atafaelu carbon. Mae hynny'n cynnwys, gyda llaw, rai nad ydyn nhw'n cael eu crybwyll yn aml, fel cysgod i dda byw, lleihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr. Mae llawer o resymau cadarnhaol pam y dylai ffermydd ystyried plannu coed, ac yn wir mae llawer yn gwneud hynny, ac mae llawer eisiau mynd ymhellach. Byddwn i hefyd yn dweud ein bod ni eisoes, a byddwn ni'n parhau i gynnig y grantiau ar gyfer creu coetiroedd drwy'r cynllun cynllunio creu coetiroedd a'r cynllun grant creu coetiroedd, oherwydd bydd y rhain yn parhau i fod ar gael, a byddwn ni'n mynd ati i'w hyrwyddo drwy'r cyfnod paratoi. Nid oes unrhyw reswm i unrhyw un sy'n ystyried plannu coed ar ei dir ohirio'r penderfyniad hwnnw os ydyn nhw eisiau bwrw ymlaen. Felly, dydyn ni ddim yn oedi popeth, dydyn ni ddim yn stopio popeth; rydyn ni eisiau bwrw ymlaen â hynny.
Fe wnaethoch chi sôn am lawer o bethau yn y fan yna. Mae cyflwyno'r dulliau cyffredinol, dewisol a chydweithredol yn raddol yn un diddorol iawn i'r ford gron weinidogol. Oherwydd mae yna, ac rwy'n cofio pan oedden ni yn y pwyllgor newid hinsawdd yn y sesiwn dystiolaeth honno, roedd safbwyntiau gwahanol yn cael eu cyflwyno. Un o'r pethau o fewn yr amlen ariannu y mae'n rhaid i ni ei wneud yn y cyfnod paratoi hwn yw penderfynu ble mae'r cymysgedd gorau posibl yma o'r rhannau cyffredinol hynny ohono ochr yn ochr â'r rhai eraill, a allai fynd â ni ymhellach o lawer o ran bioamrywiaeth, budd amgylcheddol, newid hinsawdd, lliniaru llifogydd ac ati. Ond bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus iawn lle mae'r cydbwysedd cywir, oherwydd yn ddelfrydol, bydden ni eisiau llawer mwy o gyllid i wneud llawer mwy, ond dydy e ddim ar gael i ni, felly dyna lle bydd yn rhaid i'r ford gron weinidogol, a minnau yn y pen draw, wneud rhai penderfyniadau.
Ac mae'n werth dweud hefyd, Llywydd, nad wyf i'n credu y bydd hyn yn fêl i gyd. Bydd rhai pwyntiau lle bydd yn rhaid i mi fel yr Ysgrifennydd Cabinet gymeradwyo pethau a dweud, 'Dyma lle'r ydyn ni'n mynd a lle'r ydyn ni'n sefyll nawr', ond i fynd ar ôl y pwynt trosfwaol hwnnw y gwnaethoch chi ei wneud, byddwn ni'n gwneud hyn mewn modd agored, hawddgar, cydweithredol, gan weithio gyda'n gilydd. Pan fyddwn ni'n dod i bwyntiau anodd, dyna'r hyn yr wyf i'n cael fy nhalu amdano. Ond byddwn ni'n ei wneud yn seiliedig ar y dystiolaeth yr ydyn ni'n ei gweld a'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno, a dyna pam ei bod hi'n werth cymryd ychydig mwy o amser i gael hyn yn iawn. Ond diolch i chi, Llyr, am y pwyntiau eraill y gwnaethoch chi eu codi, bydd y ford gron weinidogol yn eu cyflwyno i'w trafod.
Diolch. Roeddwn i eisiau gofyn i chi am goed ac iechyd y pridd. Seminar WWF a gynhaliwyd bythefnos yn ôl, nad oeddech chi'n gallu ei fynychu, yr oedd Llyr Huws Gruffydd yn ei gadeirio—dydw i ddim yn cofio gweld James Evans yno—ac rwy'n credu mai rhai o'r negeseuon pwysig a ddaeth o hynny—[Torri ar draws.] Rhai o'r negeseuon pwysig a ddaeth o hynny oedd y gwaith a wnaed gan Niels Corfield i ddangos, os ydych chi am wneud fferm wrthdywydd, bod angen i chi blannu coed, bod angen i chi ddelio â chywasgu pridd fel nad oes gennych ormodedd o ddŵr ffo, ac yn lle hynny mae gennych chi briddoedd iachach sy'n amsugno llawer mwy o'r dilywiau rydyn ni'n eu cael yn fwy rheolaidd. Hefyd, fe glywson ni gan ddau ffermwr oedd yn gwneud mwy o arian ar ôl lleihau faint o stoc oedd ganddyn nhw ar eu ffermydd, ac felly roedd ganddyn nhw lai o gostau o orfod prynu porthiant i'w hanifeiliaid, ac roedden nhw'n dibynnu mwy ar y glaswellt, a oedd o ansawdd gwell o ganlyniad i orfod delio â llai o stoc arno.
Tybed faint o sgwrsio rydych chi'n ei wneud gyda'r undebau ffermio i sicrhau bod pob ffermwr yn gwybod bod y rhain yn strategaethau y mae'n rhaid i ni i gyd eu gwneud, oherwydd rwy'n hollol hapus gydag oedi i'w gael yn iawn, ond ni fydd yr argyfwng hinsawdd yn aros. Felly, sut mae'r cyfnod paratoi hwn i ddangos manteision y camau cyffredinol hyn yn mynd i atal pobl rhag ymgymryd ag arferion ffermio anghynaliadwy, fel llygredd ffosffad o ffermio sy'n mynd i mewn i'n hafonydd a'n moroedd? A sut y bydd yn annog ffermwyr i fynd i'r afael â chywasgu pridd a gormodedd o ddŵr ffo, a hefyd, yn fwyaf difrifol, colli pridd? Oherwydd unwaith y bydd wedi mynd, bydd wedi mynd am byth. Dywedir wrthym mai dim ond 40 neu 60 o gynaeafau sydd ar ôl yn y pridd, ac felly mae angen hyn ar frys i sicrhau newid drwyddi draw.
Jenny, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Wyddoch chi, mae gennyf i, fel chithau, ddiddordeb mawr mewn iechyd pridd, a'r ffordd y mae hynny'n sicrhau nifer o fanteision? Ac rydyn ni'n ei weld pan fydd yn mynd o'i le hefyd, pan nad oes gennych chi bridd, pan fydd gennych chi fwd yn unig, ac mae gennych chi gaeau lle mae'r dŵr ffo yn mynd â hynny i lawr i'r nentydd islaw. Bydd iechyd pridd, gallaf ddweud wrthych, yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn mynd ymlaen nawr yn y cyfnod paratoi hwn.
Rwyf wedi dod bore 'ma o ymweld â fferm heb fod ymhell o'r fan hon—Sealands Farm, fferm deuluol. Peth o'r gwaith maen nhw'n ei wneud y maen nhw'n frwdfrydig iawn amdano fel teulu yw'r ffordd maen nhw eisoes yn gweithio—gan ragweld, mewn rhai ffyrdd, ble y dylen ni fod yn mynd—gyda nifer o gnydau amrywiol a system gylchdro, er mwyn darparu nid yn unig nitrogen a bwydo'r pridd a'i gyfoethogi, ac yn y blaen ac yn y blaen, ond ei wneud mewn ffordd wyddonol a deallus iawn, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers rhai blynyddoedd. Mae hefyd yn lleihau eu costau ar y fferm oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw defnyddio eu cnydau eu hunain i fwydo. Maen nhw'n ei ddefnyddio nid yn gyfan gwbl mewn system fferm gaeedig, ond maen nhw'n lleihau eu dibyniaeth ar ddod â dewisiadau amgen drud iawn o'r tu allan a dewisiadau amgen petrocemegol i mewn, neu orddosio eu fferm eu hunain. Mae'n eithaf gwyddonol, yr hyn maen nhw'n ei wneud. A'r hyn ddywedon nhw wrthyf i oedd nad yw hyn yn anarferol nawr ym maes ffermio; mae mwy a mwy o ffermydd yn gwneud hyn.
Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r dull ehangach o ymdrin â ffermio cynaliadwy da yng Nghymru yw gwneud y dull hwnnw'n llawer mwy normal, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod rhannau o Gymru neu ffermydd unigol lle nad yw hynny'n digwydd. Felly, sut ydyn ni wedyn yn eu codi ac yn eu hysbysu, yn eu helpu, yn eu mentora, yn eu haddysgu, yn rhoi'r cyngor cywir iddyn nhw, fel y gallan nhw wneud hynny hefyd?
Mae iechyd pridd yn mynd i fod yn hanfodol i'r ffordd rydyn ni'n symud ymlaen, ac yn anad dim oherwydd yr hyn rydych chi wedi'i ddweud: mae'n rhoi'r gwytnwch hefyd. Felly, yn hytrach na chael mwd sy'n cael ei olchi i ffwrdd, mae gennych chi bridd da sy'n dal y dŵr, sy'n dal y maetholion, ac sy'n llai costus i'w gynnal yn yr hirdymor. Ond yr hyn y bydd ffermwyr yn ei ddweud wrthyf yw bod angen y gefnogaeth arnyn nhw i wneud i hynny ddigwydd, nid yn unig o ran y cyngor, ond o ran y ffordd yr ydyn ni'n dylunio'r cynllun hefyd. Mae iechyd pridd yn allweddol, mae'n cael ei anghofio'n aml gan y gymdeithas sifil ehangach allan yna, ond mae'n hanfodol o ran y ffordd y byddwn ni'n bwrw ymlaen â ffermio da yng Nghymru.
Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi nodi hynny'n gynharach, ond a yw'r Llywodraeth yn dal i fwriadu dilyn yr ymarfer cadarnhau data yr haf hwn, ac os felly, allwch chi gadarnhau pryd y bydd hynny'n dechrau?
O ran plannu coed ar 10 y cant o dir, rwyf am sicrhau bod gen i'r ateb roddoch chi yn iawn yn fy meddwl fy hun. Rwy'n credu mai'r ateb oedd bod 10 y cant yn dal i fod yn rhan o'r cynllun arfaethedig, ond bod yna fwy o barodrwydd i newid a chyflwyno mwy o hyblygrwydd—felly, ydw i wedi cael hynny'n iawn—trwy eich bord gron weinidogol.
Ac o ran TB, mae'n glefyd dinistriol, mae'n cael effaith ddinistriol ar deuluoedd ffermio ac mae'n greulon i stoc ffermio ac i fywyd gwyllt hefyd. Nodaf yn eich datganiad heddiw eich bod chi'n sôn eto am ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Felly, fy nghwestiwn i yw: a yw hynny'n ddigon uchelgeisiol? A ellir bod yn fwy uchelgeisiol drwy ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen?
Rydych chi hefyd yn sôn am eich cynllun cyflawni TB a'r grŵp cynghori technegol. Felly, fy nghwestiwn olaf o ran hynny yw: i ba raddau y bydd y grŵp cynghori technegol yn llywio eich penderfyniadau? Oherwydd, i mi, mae yna lawer o benderfyniadau na ddylent gael eu gwneud, o bosibl, gan y grŵp cynghori; penderfyniadau gwleidyddol ydyn nhw, fel y penderfyniad i ddifa bywyd gwyllt yr effeithir arno, yr wyf yn credu'n gryf bod angen iddo fod yn rhan o'r pecyn cyffredinol i ddileu TB. Ac mae'n ymddangos bod hynny'n fwy o benderfyniad gwleidyddol i chi, yn hytrach na'r grŵp cynghori technegol, a dyna pam rwy'n gofyn i ba raddau rydych chi'n cymryd eich penderfyniadau o'r grŵp cynghori.
Diolch yn fawr iawn, Russell. Yn gyntaf oll, o ran atafaelu carbon a 10 y cant o orchudd coed, rydym wedi sefydlu panel yn fwriadol i edrych ar hynny. Felly, yn hytrach na diystyru unrhyw beth, rydym eisiau ystyried yr opsiynau eraill hynny fel rhan o'r gwaith hwnnw y mae eraill wedi'i awgrymu y gallent fod yn ffyrdd da eraill o'i wneud. Rwy'n credu bod cryn dipyn o bobl yma o'r blaen wedi bod yn llofnodwyr i'r ymgyrch gwrychoedd ac ymylon, ac yn y blaen, ac yn y blaen, ond mae yna opsiynau eraill yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud, mewn gwirionedd, mewn pridd ac ar dir pori a reolir yn dda, sy'n eithaf diddorol. Felly, rwy'n credu mai dyma'r pethau sydd angen eu harchwilio yno. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar 10 y cant o orchudd coed yn unig ar hyn o bryd, gadewch i ni roi'r rhyddid i'r ffrwd waith honno fynd i edrych ar y rhain, a mynd at wraidd y mater. Oherwydd efallai y bydd rhai ohonynt yn hyfyw ac eraill ddim, ond gadewch i ni fynd at wraidd y mater.
O ran yr ymarfer cadarnhau data, ydy, mae hyn yn allweddol iddo, wrth symud ymlaen. Un o'r manteision oedd gennym, er bod rhai pryderon na fyddai cynifer ag a wnaeth yn manteisio ar gynllun Cynefin Cymru, mewn gwirionedd, mae wedi bod yn braf iawn gweld yr ymateb i gynllun Cynefin Cymru, ac mae wedi helpu, hefyd, gyda rhywfaint o ddata yn dod ymlaen. Ond rydym yn gwybod bod ffermwyr yn dweud nad yw rhywfaint o hynny'n gywir, felly rhan o'r broses hon fydd mynd yn ôl at ffermwyr i ddweud, 'Dyma'r hyn sydd gennym, dyma'r hyn rydym wedi'i fapio, nawr allwch chi ein helpu ni i lenwi'r dotiau neu wrthddweud yr hyn sydd ar y data hwnnw yn y fan yna, y data hwnnw yn y fan yna?' ac yn y blaen. Mae hynny'n mynd i fod yn rhan annatod o hyn, oherwydd os gallwn ni gyrraedd y pwynt lle mae gennym ni ddata da, cywir, yna rydym mewn sefyllfa llawer gwell i helpu ffermwyr a dweud wrthyn nhw, 'Does dim rhaid i ni wneud hyn dro ar ôl tro; byddwn ni'n gwybod nawr erbyn diwedd y cyfnod paratoi hwn.'
O ran dileu TB erbyn 2041, rwy'n credu bod hynny'n uchelgeisiol iawn. Fe'i dywedir yn aml yn y Siambr hon, 'Edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr' ac yn y blaen, ond, mewn gwirionedd, mae'r taflwybr dros y 10 mlynedd diwethaf yr ydym wedi edrych arno yng Nghymru, a'r gostyngiad yn nifer yr achosion mewn buchesi, wedi bod yn arwyddocaol hefyd, felly rydyn ni'n gwneud rhai pethau iawn yma, ac yn aml dydyn ni ddim yn dweud ein bod ni'n gwneud rhai pethau'n iawn. Ac mae rhywfaint o hynny yn seiliedig ar y model partneriaeth llawer mwy hwn o weithio, o roi ymreolaeth i'r ffermwr, gweithio gyda milfeddygon ar y fferm ac yn y blaen, y mathau o bethau rydym yn eu gweld nawr. Mae rhan ohono'n mynd i gael ei llywio, mae'n rhaid i mi ddweud nawr, drwy, fel y dywedwch yn iawn, y grŵp cynghori TB, dan arweiniad Glyn Hewinson, sy'n cadeirio rhan o raglen Sêr Cymru, y ganolfan ragoriaeth TB yn Aberystwyth. Rwyf wedi cael rhai trafodaethau gydag ef yn barod; rwyf wedi ei gwneud yn glir, pan wyf wedi siarad o'r blaen, gan ddweud bod angen iddyn nhw nawr godi eu cyngor, wrth iddynt symud ymlaen, i fwrdd y rhaglen ar ddileu TB. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n sylweddoli nad wyf wedi mynd i'r afael â'r mater ynghylch a allem fod yn fwy uchelgeisiol. Pe bawn i'n meddwl y gallem ni—. Ond dydw i ddim yn siŵr naill ochr i'r ffin neu beth bynnag—. Mae'n dasg eithaf uchelgeisiol. Os gallwn ni ei ddileu erbyn 2041, os gallwn ni wneud hynny'n gynnar, byddai hynny'n wych, ond gadewch i ni weld beth mae'r grŵp cynghori TB yn ei gyflwyno fel y ffordd ymlaen.
Y peth cyntaf maen nhw wedi bod yn edrych arno—ac rwy'n aros am y cyngor swyddogol i ddod i fyny—yw lladd ar y fferm, sydd wedi bod yn broblem fawr i lawer o ffermwyr, yn enwedig y mater emosiynol ac effaith sefyll o'r neilltu wrth i'w gwartheg gael eu lladd, gyda lloi ynddyn nhw, ar y fferm o'u blaenau. Rwy'n gobeithio cael y cyngor hwnnw yn fuan iawn. Ond ble fyddan nhw'n mynd o fanna yw ble fyddan nhw'n mynd o fanna. Mae ganddyn nhw'r arbenigedd, ac maent yn dda iawn—. Dydw i ddim am gamddefnyddio'r ymadrodd hwn nawr, ond mae yna bedigrî ffermio da iawn a chyrhaeddiad hir ymhlith y bobl ar y TAG hefyd, ond maen nhw'n ei godi, wedyn, i'r bwrdd partneriaeth, lle mae nifer sylweddol o gynrychiolwyr ffermio uniongyrchol, ac mae aelodau ex officio o'r undebau ffermio ar y bwrdd hwnnw hefyd. Felly, gadewch i ni weld beth maen nhw'n ei gyflwyno. Dydw i ddim yn mynd i'w cyfarwyddo na'u camgyfeirio neu beth bynnag. Gadewch i ni weld beth maen nhw'n ei gyflwyno, ond mae ganddyn nhw lawer o waith o'u blaenau.
Dwi am fynd ar ôl dau beth yn benodol, un ohonyn nhw’n dilyn cwestiwn yr wythnos diwethaf ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ofyn i fi ailofyn yr wythnos yma, felly gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa i gael ychydig yn fwy o wybodaeth, ac mae hynny ynghylch y BVD. Roedd yna waith da yn cael ei wneud efo cynllun gwaredu BVD yn flaenorol, ond, yn anffodus, fe gollwyd momentwm ar hynny wrth i'r rhaglen ddirwyn i ben. Mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod profi yn digwydd a bod hyn yn cael ei ariannu yn llawn. Roeddem ni'n disgwyl cyhoeddiad cyn y Pasg, ond rydym ni'n dal i aros. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod allan yr amserlen ar gyfer unrhyw Fil i'r perwyl yma, a rhoi sicrhad y bydd y Bil, o'i fabwysiadu, yn cael ei gefnogi gyda'r arian cywir er mwyn sicrhau ei lwyddiant?
Yn olaf, i ddilyn trywydd cwestiynau Russell George, mae ffermwyr yn fy etholaeth i wedi gorfod difa gwartheg oherwydd y dicáu yn ystod yr wythnosau diwethaf yma. Mae'n brofiad newydd i ffermydd ym Meirionnydd. Mae'r ffermwyr yna yn gwrando y prynhawn yma er mwyn cael y sicrwydd eich bod chi, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn deall difrifoldeb y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu ac eich bod chi'n barod i weithredu yn unol â'r gwyddoniaeth. Hynny ydy, ydych chi'n barod i fynd i'r afael â hwn drwy ddifa moch daear mewn modd wedi'i dargedu? Fedrwch chi roi sicrwydd eich bod chi'n deall yr her sydd yn wynebu'r ffermwyr yma, a'ch bod chi'n mynd i ymateb i'w hanghenion nhw? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Mabon. A gaf droi, yn gyntaf oll, at y mater BVD? Gallaf roi diweddariad pellach i chi i'r cwestiwn y gwnaethoch chi ei godi y diwrnod o'r blaen. Yn gyntaf oll, rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi effaith ddifrifol iawn BVD yn llawn, nid yn unig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd effaith y clefyd ar gynhyrchu a'r costau economaidd difrifol hefyd i fusnesau fferm. Bydd dileu BVD yng Nghymru yn dod â manteision sylweddol i gynhyrchiant ac iechyd gwartheg, ond hefyd i les gwartheg, proffidioldeb ffermydd, a hefyd, gyda llaw, ôl troed carbon. Yr haf hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud Gorchymyn BVD Cymru; byddwn ni'n cyflwyno hynny i hwyluso dull a arweinir gan ddiwydiant o ddileu'r clefyd. Gallaf roi mwy o fanylion ar hynny yn ddiweddarach, Mabon, os yw hynny o gymorth, ond fe fyddwn ni'n cyflwyno hynny.
O ran BTB, rwyf wedi cwrdd â chymaint o ffermwyr nawr sydd wedi wynebu'r cythrwfl emosiynol—mae hynny'n ddweud cynnil—o orfod mynd drwy nid yn unig profion TB rheolaidd ac yn y blaen, ond hefyd y lladd, gan gynnwys lladd gwartheg ar y fferm. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd drwy hyn. Ond mae'r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu yn glir iawn: gweithio ar y mathau o bethau rydyn ni wedi'u gwneud o fewn llwybr sir Benfro, gweithio mewn partneriaeth, defnyddio'r wyddoniaeth orau bosibl ac ati; archwilio'r defnydd, fel yr ydym wedi'i wneud, yn wir, o bethau fel brechu moch daear, a hefyd gefnogi'r symudiadau i gyflwyno, yn y pen draw, os gallwn ni wneud hynny, gyda'r prawf cywir i nodi ei fod yn gweithio, brechu gwartheg hefyd, yn anochel. Mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o ddull gweithredu cyffredinol 2041.
Ond a gaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Russell? Mae'r ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu yn glir iawn, iawn, ond rydym wedi sefydlu'r TAG gyda Glyn Hewinson am reswm da iawn, oherwydd mae yna arbenigedd yno a all gyflwyno eu syniadau ar ble rydym yn mynd nesaf yng Nghymru. Rwyf am ailadrodd un peth yma, oherwydd bydd pobl yn aml yn codi eu haeliau pan fyddaf yn dweud, 'Wel, rydym yn gwneud pethau da yng Nghymru', a byddwn i'n dweud wrth Aelodau, cysylltwch â mi ac fe wnaf eich cyfeirio at rai o'r pethau rydym yn eu gwneud ar lawr gwlad, lle mae ffermwyr sy'n ymwneud â rhai o'r prosiectau hyn yn cael eu darbwyllo mai rhai o'r pethau arloesol yr ydym yn eu gwneud yng Nghymru yw'r rhai cywir. Ond, i fod yn glir, o 2012, sef y flwyddyn cyn i'r polisi rheoli moch daear gael ei gyflwyno yn Lloegr, i 2023, ar y data cyhoeddedig diweddaraf, gostyngodd nifer yr achosion mewn buchesi yn Lloegr o 9.8 i 7.3; roedd yn ostyngiad o 26 y cant.
Yng Nghymru, dros yr un cyfnod, gostyngodd nifer yr achosion mewn buchesi o 10 i 6.8. Mae'n ostyngiad o 31.3 y cant. Rwy'n rhoi hynny ar gofnod—ffigurau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw'r rheini, gyda llaw—i ddweud ein bod ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru, yn unol â'n rhaglen lywodraethu, ond rydyn ni llwyddo hefyd mewn sawl ffordd. Mae angen i'r grŵp cynghori ddweud, 'Wel, lle awn ni nesa?', 'Ble mae'r ffordd nesaf ymlaen?', a dyna'r ffordd iawn i'w wneud, rwy'n meddwl: i ddweud wrthyn nhw, 'Ewch ati i weithio gyda'r gymuned ffermio. Ewch ati i weithio gyda'r gwasanaeth milfeddygol a chydag eraill. Ewch ati i weithio gyda'r profiad eang hwnnw, mae'n rhaid i chi godi syniadau ar ble rydyn ni'n mynd nesaf.'
Rwyf hefyd yn adleisio'r croeso gan eraill yn yr ystafell i ailosod, fel y gwelaf i o, y cynllun ffermio cynaliadwy. Yn wir, mae hyn yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau ffermio a'n cymunedau gwledig hefyd. Bydd y cyfnod paratoi arfaethedig ar gyfer 2025 yn benodol yn hanfodol ar gyfer y ddeialog wirioneddol gadarn honno gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
Dim ond tri chwestiwn sydd gen i, os yw hynny'n iawn. Mae'r cyntaf am y 17 o gamau gweithredu cyffredinol. Rydych chi wedi egluro ychydig am y ffaith y byddan nhw'n rhan o grŵp rhanddeiliaid, gweithgor, ond a allwch chi gadarnhau, yn eich barn chi, a fydd y 17 o gamau gweithredu cyffredinol yn dal i fod yn berthnasol i bob un fferm? Oherwydd mae hwnnw yn un o'r materion allweddol.
O ran y gorchudd coed o 10 y cant, rydych chi wedi sôn amdano o bosibl yn cynnwys gwrychoedd ac ati, a bod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ond yn y dystiolaeth honno, a fyddwch chi'n gwrando ar ffermwyr hefyd, llawer ohonyn nhw â llawer iawn o dystiolaeth a gwybodaeth—ffermwyr fel Gary Jones yn Llangadog yn sir Gaerfyrddin, sydd â thystiolaeth wirioneddol gadarn?
A fy nhrydydd cwestiwn, sy'n un cyffredinol iawn, yw a allwch chi ddweud wrthym sut olwg sydd ar 'dda' ar ddiwedd 2025 i ddweud wrthych chi ei fod yn mynd yn ei flaen yn llawn i 2026. Diolch yn fawr iawn.
Mae hwnna'n gwestiwn olaf gwych yn y fan yna, Jane. Diolch. Rwy'n hoffi eich terminoleg yn y fan yna ar 'ailosod'. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar hyn yn barod—saith mlynedd o drafodaethau, ymgynghoriadau, sioeau teithiol, beth bynnag. Rydym ni wedi dod i le lle mae gennym ni lawer o gytuno—rwy'n dal i ddweud hyn; mae gennym ni yn wir—ar y fframwaith eang, yr amcanion lefel uchel, a llawer o fanylion y cynllun hefyd. Felly, mae 'ailosod' yn ffordd eithaf da o'i roi. Rwy'n credu bod y gyfatebiaeth honno o ddweud, 'Gadewch i ni gymryd ychydig mwy o amser i gael yr holl fanylion yn iawn' yn fy nghysylltu â sut olwg sydd ar 'dda' ar y diwedd un.
Gadewch imi gyffwrdd ar y 17 o gamau gweithredu cyffredinol. Un o'r pethau a oedd yn glir o'r hyn rwyf wedi ei ddarllen yn barod, yr allbwn rwyf wedi ei gael hyd yn hyn—nid yr allbwn llawn, ond yr allbwn rwyf wedi ei gael o'r ymgynghoriad—oedd bod llawer o ffermwyr wedi gweld cymhlethdod yn yr 17 o gamau. Maen nhw'n poeni y byddai hyn yn golygu mwy o fiwrocratiaeth. Doedd rhai ohonyn nhw ddim yn ddealladwy i'r ffermwyr chwaith. Roedden nhw'n gofyn, 'Beth mae hyn yn ei olygu?' Rwy'n credu bod gennym ni dasg, y grŵp gweinidogol yn y fan yma y bydd hyn yn cael ei godi ato, i edrych ar y rheini ac i weld, o'r rheini, ydyn nhw i gyd y rhai iawn, ond hefyd ydyn nhw'n rhai sydd angen eu hesbonio'n well, ydyn nhw'n rhai y mae angen i ni weithio gyda ffermwyr i ddweud, 'Wel, sut ydyn ni'n esbonio hyn yn well? Beth yw hyn i gyd?" ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn dweud ein bod yn tynnu unrhyw ran o hyn allan, ond rwy'n credu bod yna waith i edrych arnyn nhw'n unigol a mynd drwodd a dweud, 'Wel, os yw hwn yn mynd i fod yn rhywbeth rydych chi'n ei gymryd i ffwrdd, y tu allan i ymgynghoriad, a dweud, "Dyma becyn cymorth i ffermwyr", yna sut ydych chi'n cyflwyno hynny'n well fel nad yw'n edrych mor gymhleth a biwrocrataidd ac yn y blaen?'
O ran y gorchudd coed, fyddwn ni'n gwrando ar ffermwyr? Byddwn, yn sicr. A dyna pam rydym wedi sefydlu'r grŵp atafaelu carbon hwn. Ond byddwn hefyd yn gwrando, gyda llaw, ar y syniadau hynny sy'n dod yn ogystal gan grwpiau bywyd gwyllt a grwpiau amgylcheddol ar ffyrdd eraill. Nid yw'n dod o un cyfeiriad yn unig. Mae rhai sgyrsiau diddorol yr wyf wedi'u cael dros y mis diwethaf ac yn flaenorol ar ffyrdd eraill y gallwn fwrw ymlaen ag atafaelu carbon ar dir ledled Cymru, sy'n cynnwys coed, ond a allai fynd mewn ardaloedd eraill hefyd. Ond, unwaith eto, rwy'n dod yn ôl at y pwynt bod yn rhaid i ni roi tystiolaeth yn sail i hyn. Ni all fod yn syniadau a dyheadau da yn unig. Mae'n rhaid i ni wybod y bydd y rhain yn effeithiol hefyd.
O ran sut olwg sydd ar 'dda' pan fyddwn ni'n cyrraedd diwedd y cyfnod paratoi, sut beth yw 'da' fydd, o ganlyniad i'r broses rydyn ni wedi mynd drwyddi, bod cytundeb da a chlymblaid o'r rhai sy'n barod i fwrw ymlaen â hyn. Dyna un agwedd ar sut mae 'da' yn edrych. Ac ail agwedd ar sut mae 'da' yn edrych yw ei fod yn cyflawni'r holl amcanion hynny yr ydym yn ceisio eu gwneud, felly rydym yn dod allan y pen arall gyda chynllun sydd, ie, yn dda ar gyfer y safonau uwch hynny o gynhyrchu bwyd, lles anifeiliaid, pridd, ansawdd dŵr, a'r holl fanteision cyhoeddus ehangach hynny, gan gynnwys mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo bioamrywiaeth hefyd. Dyna sut mae 'da' yn edrych, ond mae'n rhaid iddo hefyd fod yn rhywbeth rydyn ni wedi'i ddylunio gyda'n gilydd a bod pobl yn barod i fwrw ymlaen gyda'i gilydd hefyd.
Nid yw hynny'n golygu bod 'da' yn edrych fel petai pawb yn cytuno'n llwyr ar bob un mater. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, gallaf eich sicrhau chi yn awr. Ond os ydym ni i gyd yn sefyll ar ddiwedd y broses hon ac yn dweud, 'Mae gennym gytundeb eang. Rydyn ni'n credu bod hyn yn mynd i fod nid yn unig yn dda, ond mae'n mynd i fod yn dda i Gymru'—. Oherwydd mae pobl eraill wedi dweud wrtha i, 'Pam nad ydyn ni'n edrych ar gynlluniau eraill mewn mannau eraill?' Un o'r pethau y mae'r undebau ffermio ac eraill wedi'i ddweud yw, mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw rhywbeth sydd wedi'i deilwra i Gymru, y math o ffermio sydd gennym, y math o dirwedd sydd gennym, y math o amgylchedd sydd gennym. Dyna olwg fydd ar 'dda'.
Rydyn ni ymhell dros amser ar y datganiad hwn a'r amser y mae'r Llywodraeth wedi'i ddyrannu ar ei gyfer, felly os gallwn ni gael cwestiynau cryno, ac atebion cryno hefyd.
Rwy'n croesawu eich apwyntiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y ffordd rydych chi wedi mynd ati ar unwaith. Mae'r cyhoeddiad a wnaethoch chi heddiw, rwy'n credu, yn dangos parodrwydd gwirioneddol i symud ymlaen, ond i wneud hynny drwy drafod â phobl y bydd yn effeithio arnynt. Rwy'n ofni mewn gwirionedd y byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'r blynyddoedd nesaf yn amddiffyn amaethyddiaeth Cymru rhag effaith Brexit. Rydym wedi gweld bod Llywodraeth y DU wedi bradychu ffermwyr Cymru gyda'u cytundebau masnach. Rydym hefyd yn gweld y ffordd y mae biwrocratiaeth a rhwystrau yn cael eu gosod i fasnach ar gyfer amaethyddiaeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio, yn y gwaith yr ydych yn bwrw ymlaen ag ef Gweinidog, y byddwch yn sicrhau bod amddiffyn ffermwyr Cymru rhag effaith Brexit wrth wraidd hynny. Ond rwy'n gobeithio hefyd, Gweinidog, na fyddwch yn colli momentwm yn ystod y cyfnod nesaf, oherwydd eich bod wedi dangos parodrwydd i wrando, siarad, trafod, dadlau, i gael y sgwrs ledled Cymru gyfan am beth yw ein huchelgeisiau a'n gweledigaethau ar gyfer amaethyddiaeth. Ond mae angen momentwm arnom i gyflawni hynny. Mae angen i ni osod y targedau hynny, gosod yr amcanion hynny, ac yna symud ymlaen gyda'n gilydd i gyflawni hynny. Ac mae'r momentwm rydych chi wedi'i greu yn ystod yr wythnosau diwethaf yn mynd i fod yn hanfodol i fwrw ymlaen â'r polisi hwnnw yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Alun, diolch yn fawr iawn. Fe wnaf gymryd y ganmoliaeth honno, ac yn enwedig gan gyn-Weinidog amaethyddol ei hun, a'r amser y gwnes i wir fwynhau gweithio gyda chi pan oeddwn i'n Weinidog amgylchedd y DU ac fe eisteddon ni ar draws y bwrdd ym Mrwsel ac yn y blaen—weithiau rydyn ni mewn perygl gofio’n ôl am y dyddiau hynny ychydig yn ormod. Gallaf glywed yr achwyn yn digwydd yn barod felly wna i ddim.
Mae eich pwynt ar lawer o fomentwm yn gwbl allweddol. Edrychwch, dim ond ers pedair wythnos, neu beth bynnag, yr ydw i wedi bod yn y swydd, rwy'n credu, ond dywedais i o'r cychwyn cyntaf y byddem ni'n gwrando, y byddem ni'n ymgysylltu, ac yna y byddem ni'n bwrw ati. Felly, peidiwch â gadael i unrhyw un fod o dan unrhyw gamsyniad bod hyn, fel y cyfeiriwyd ato weithiau heddiw ar gam, yn saib, oedi neu beth bynnag. Dydy e ddim. Mae'n rhan o'r broses wrth symud ymlaen, gyda ffermwyr, gyda'r sefydliadau bywyd gwyllt ac amgylcheddol, gyda chymdeithas ehangach Cymru, gyda grwpiau a sefydliadau gwledig sydd mor bryderus am gael hyn yn iawn. Nid oes unrhyw golli momentwm. Rydym wedi nodi amserlen y mae ei hangen er mwyn i ni symud ymlaen, ond mae cyfeiriad y teithio yn glir iawn, iawn, a byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn a byddwn ni'n ei wneud gyda'n gilydd, Alun. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, cymdeithasau tir comin, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, CLA Cymru, trefnwyr protest mart y Trallwng a'r brotest ym mart Caerfyrddin, a threfnwyr y brotest a ddigwyddodd ar risiau'r Senedd? Am dair blynedd, rwyf wedi bod yn bwrw ati gyda'ch rhagflaenydd, yn ceisio cael newidiadau i'r cynllun ffermio cynaliadwy, a dim ond pan ddeffrodd y sector a chydnabod bod y newidiadau mawr hyn yn dod, ac wedi gweld realiti'r hyn a ofynnwyd iddyn nhw gan y sioeau teithiol a oedd yn cael eu cynnal, y cymerodd Llywodraeth Cymru sylw o'r diwedd ac mae wedi cyflwyno oedi, sydd, yn fy marn i, yn gydnabyddiaeth bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi bod yn methu'r nod pan fo'n dod i'r polisi cynllun ffermio cynaliadwy hwn.
Ond un peth yr wyf i eisiau cyffwrdd arno, yn gryno, o ran cynllun Cynefin Cymru yw cyflwyno hwnnw, yn llawn gwallau, fel y sonioch chi, lle nad oedd ffermwyr yn gallu uwchlwytho data cynefin eu fferm eu hunain i'r system, a oedd weithiau'n gorfod cael ei wneud gan Cyswllt Ffermio. Mae hynny'n fethiant yn elfen ddata polisi ffermio, y mae angen ei gywiro. Rwyf wedi ysgrifennu atoch o'r blaen am fapio tir hefyd, a'r apiau sydd ar gael ar hynny. A hefyd ynghylch gwyrddgalchu a choedwigo, am asiantaethau allanol yn prynu tir amaethyddol Cymru, i lwyr goedwigo ardal ar gyfer gwyrddgalchu, a gwrthbwyso eu cydwybod trwy beidio â newid eu model busnes ond plannu coed ar draws ran fawr o dir amaethyddol. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â hynny, oherwydd mae achosion penodol yn fy etholaeth i, o gwmpas Llanboidy, ac ardaloedd eraill hefyd. Sut y gellir mynd i'r afael â hynny drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy?
Diolch yn fawr, Sam. Gwrandewch, byddwn i'n adleisio'r diolch i'r holl sefydliadau hynny a wnaeth gyflwyniadau i'r ymgynghoriad ond a gymerodd ran hefyd, gan gynnwys yn y cyfnod cyn y brotest. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen, rwy'n credu, o ran Senedd Cymru, y dylai pobl sy'n protestio y tu allan gael eu croesawu. Mae'n rhan o'r ymgysylltiad gwleidyddol. Dylem ni mewn gwirionedd. Yna dylem ni wrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Nid ein bod yn cymryd popeth yn arwynebol, ond dylem wrando ac ymgysylltu. Mae hynny'n rhan o fod yn Senedd briodol, aeddfed.
O ran yr ymgynghoriad, a gaf i gofnodi fy niolch i Lesley Griffiths a'i swyddogion am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud? Maen rhai pethau wedi eu hanelu atyn nhw, yn enwedig pan oedd y protestiadau'n digwydd ac yn y blaen, ond roedd dull dilys, ystyrlon o ymgysylltu. Roedd hefyd yn ymgynghoriad gwirioneddol. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn fy ngallu i ddod i mewn nawr, ar y pwynt amserol hwn, a dim ond myfyrio arno a meddwl, 'Iawn, wel, sut ydym ni'n bwrw ymlaen ag ef?' Roedd yn ymgynghoriad gwirioneddol. Ond mae'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ar gynllun Cynefin Cymru a'r data a'r mapio wedi'u gwneud yn dda. Mae angen i ni gael hyn yn iawn wrth fwrw ymlaen, a bydd hynny o gymorth nid yn unig i'r cynllun ffermio cynaliadwy ei hun, ond mewn gwirionedd i reoli tir ehangach yng Nghymru wrth fwrw ymlaen am flynyddoedd lawer i ddod. Nid ydym wedi ei gael yn iawn. Mae cynllun Cynefin Cymru, yn rhyfedd, fel y soniais i yn gynharach—mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi bod yn fwy na'r disgwyl, sy'n dda iawn. Ond yr hyn mae'n ei olygu nawr yw y gallwn ni ddefnyddio rhai o'r pethau sydd eu cyflwyno i fynd yn ôl at ffermwyr a dweud, 'Iawn, beth sydd o'i le yma?', yn ogystal â'r mapio arall sydd gennym ni. Felly, mae yna waith i'w wneud ar hynny.
Ac yn olaf, eich pwynt ar wyrddgalchu—rydych chi mor iawn. Un o'r meysydd y mae gennym ddiddordeb ynddo, y tu hwnt i'r cynllun ffermio cynaliadwy, yw a allwn ni edrych ar gynllun go iawn gydag uniondeb, gyda gonestrwydd moesegol go iawn ynddo, a allai ysgogi arian sydd y tu hwnt i arian y trethdalwr i alluogi ffermwyr i wneud mwy, a gallai fod o fewn cynlluniau bioamrywiaeth, cynlluniau rheoli tirwedd, gallai fod ym maes plannu coed, ond nid ar dir cynhyrchiol, ie, ond, wrth gwrs, mae ffermwyr yn gwneud penderfyniadau masnachol hefyd, maen nhw. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei wneud yng Nghymru er budd y rheolwyr tir, tirfeddianwyr a'r cymunedau lleol hynny yng Nghymru. Dyna fe. Felly, mae angen i ni feddwl gyda'n gilydd am sut y gallwn ni gyflwyno rhywbeth sy'n gwneud hynny, oherwydd mae cwmpas. Rydym yn sôn am gynllun sy'n seiliedig ar, os mynnwch chi, arian cyhoeddus yn mynd i ddatblygu'r gefnogaeth a'r math o ffermio rydym am ei weld yn y dyfodol, a'r math o gynhyrchu bwyd a'r manteision ehangach. Y tu hwnt i hynny, mae'n ddigon posibl y bydd cwantwm o gyllid ar gael, pe byddem yn dylunio rhywbeth yn gywir, gallai hynny fod yn eithaf diddorol, a gallai fod mwy y gallem ni ei wneud. Efallai y bydd mwy y gallwn ni ei wneud mewn bioamrywiaeth a budd amgylcheddol ac ati, ac ati, ond cael hynny'n iawn, peidio â bod â gwyrddgalchu, peidio a'i werthu i gyrff allanol. Felly, mae yna ddarn o waith i'w wneud.
Diolch am ddatganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Yn ôl ar ddechrau mis Mawrth, fe wnes i annerch cyfarfod llawn o ffermwyr lleol ym Mhenderyn a oedd am rannu eu gobeithion a'u hofnau gyda mi ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Y neges gyffredinol ganddyn nhw oedd bod angen i Lywodraeth Cymru oedi a myfyrio er mwyn cael y cynllun newydd hwn yn iawn i ffermwyr ac yn iawn i Gymru. Rwyf eisoes wedi bod mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw y bore yma ac roedden nhw i gyd yn croesawu'r newyddion eich bod yn wir yn oedi ac yn myfyrio ar y cynllun hanfodol hwn.
Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, sut ydych chi'n sicrhau bod eich bord gron gweinidogol yn cyfleu safbwyntiau o feysydd amrywiol ein cymunedau ffermio? Rwy'n meddwl, er enghraifft, am ffermwyr tir comin, ffermwyr tenant a ffermwyr nad ydynt mewn undeb hefyd. Ac, yn ail, nodaf eich cyfeiriad at ddatblygu cynigion ar gyfer camau dewisol a chydweithredol pellach. Nawr, byddai ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw wir yn croesawu hyn. Ac fel rhan o'r gwaith hwn, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n ystyried rhai o'r dulliau a ddefnyddiwyd o dan gynlluniau blaenorol fel Tir Gofal a Glastir, y mae llawer o ffermwyr yn credu oedd yn gweithio'n dda iddyn nhw?
Diolch yn fawr, Vikki, a diolch am yr awgrymiadau hynny hefyd. Byddwn ni yn sicr yn ystyried, wrth fwrw ymlaen, sut y cawn y cydbwysedd hwnnw'n iawn gyda'r cydweithrediad dewisol, a lle gallwn ddysgu o gynlluniau blaenorol. A byddwn yn sicr yn sicrhau, yn aelodaeth y ford gron gweinidogol, wrth symud ymlaen, fod buddiannau'r rhai sy'n ffermwyr tenant ond hefyd y rhai sy'n ffermio tir comin—weithiau mae gorgyffwrdd gyda'r ddau hynny hefyd yn y fan yna, yn eich etholaeth eich hun, yn debyg i fy un i. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cynrychiolaeth ar honno hefyd. Mae angen i ni sicrhau bod aelodaeth honno yn adlewyrchu'r gymuned ffermio a'i hamrywiaeth yn llawn, ond hefyd y grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol hynny hefyd, oherwydd rwy'n credu mai'r allwedd i ddal hyn at ei gilydd yw cael pawb yn yr un ystafell a dweud, 'Gadewch i ni weld ble rydym yn cytuno a gadewch i ni weld ble mae angen i ni wneud rhagor o waith', a dyna beth mae hyn i gyd amdano heddiw.
Yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n sicr yn galonogol, ac rwyf eisiau credu'r hyn rydych chi'n ei ddweud, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf pan ddaw mwy o fanylion i'r amlwg yn ystod y misoedd i ddod. Rydych chi wedi rhyddhau hyn heddiw ar Ddiwrnod Ffermwyr y Byd, felly rydw i eisiau ailadrodd pwysigrwydd y ffermwyr, a'i bod yn cymryd ymroddiad, angerdd a gwaith caled enfawr i fod yn ffermwr. Nid yn unig bod yn rhaid i chi fod yn feistr ar bob crefft, nid dim ond un, mae bod yn ffermwr yn rhywbeth sy'n cael ei danbrisio'n aml, oni bai eich bod chi'n ei weld yn uniongyrchol fel y gwnes i, yn tyfu i fyny a bod â thad yr oeddwn prin yn ei weld oni bai fy mod yn treulio amser ar y fferm fy hun.
Ond maent yn feistri; doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi nes fy mod i'n hŷn yr amrywiaeth o sgiliau sydd ganddyn nhw, ac mae'r rheiny'n cynnwys, wrth gwrs, cael y gorau o'r tir, gwarchod gwrychoedd, plannu coed. Nid yw'n ddim byd newydd. Mae gan ffermwyr y wybodaeth, yr arbenigedd, ac mae'n rhaid iddyn nhw bellach fod yn rhan annatod o gael y cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn. Ac rwyf am ofyn am sicrwydd gennych chi heddiw, Gweinidog, y byddwch yn cynnwys ffermwyr ac y bydd rhywfaint o synnwyr cyffredin nawr, a realiti ynghlwm a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a phan ddaw i faterion trawsffiniol, y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y rheini, ac os edrychwn ni tuag at y nod tymor hirach, sy'n nod gwych o wella iechyd pridd, yna bydd y ffermwyr hynny'n cael cymhorthdal os byddan nhw'n colli arian o gael llai o gnydau neu rywbeth i wneud hynny, a all ddigwydd.
Felly, rwyf am ailadrodd pwysigrwydd cael y cynllun ffermio cynaliadwy hwn yn iawn ar gyfer y gymuned amaethyddol gyfan; yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol mae mor bwysig. Diolch yn fawr, ac rwy'n croesawu eich datganiad heddiw. Mae gennym obeithion mawr ar eich cyfer, Gweinidog. Peidiwch â'n gadael ni i lawr. [Chwerthin.]
Iawn, dim pwysau. [Chwerthin.] Edrychwch, gallaf roi'r sicrwydd gwirioneddol hwnnw i chi mai dim ond heddiw y mae'r gwaith yn dechrau mewn rhai ffyrdd, oherwydd, nawr, dyma'r rhan weithredol o gyflawni cynllun ffermio cynaliadwy sydd nid yn unig yn gydlynol ac yn gynhwysfawr, ac sy'n gosod dull nawr ar gyfer cenhedlaeth, wrth fwrw ymlaen, ond sydd hefyd yn dod â phawb gyda ni. Mae gwaith i'w wneud o ran hynny.
Mae'n ddiddorol bod y Prif Weinidog bellach wedi ymuno â ni, ac rydych wedi cyffwrdd ar eich gwybodaeth a'ch cefndir o fewn ffermio. Mae'r Prif Weinidog ei hun hefyd wedi cyfeirio at ei gefndir hefyd. Mae gen i deulu ym maes ffermio ar ochr fy ngwraig hefyd, a mathau gwahanol iawn o ffermio, yn yr Eidal ac yng Nghymru, a chynhyrchu llaeth. Yn fy etholaeth i, yn debyg i Vikki—rydyn ni'n aml yn dweud, Vikki a minnau, rydyn ni'n efengylu am y ffaith pan edrychwch chi i fyny at y bryniau, mae tua phedair rhan o ddeg o'n hetholaethau yn ffermio mynydd yr ucheldir, llawer ohono'n dir comin, peth ohono yn denantiaid, ond ffermwyr aml-genhedlaeth hefyd. Yn dod oddi ar fferm Sealands y bore yma, yn gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud, sydd bron yn edrych i'r dyfodol—maen nhw ar y blaen mewn sawl maes—rydych chi'n meddwl am yr holl waith da sy'n digwydd ac mae angen i ni wneud hynny, wedyn, yn gyffredin trwy'r ffordd rydyn ni'n dylunio'r cynllun hwn.
Yn olaf, ar eich sylw ar faterion trawsffiniol, rwyf wir eisiau—fyddech chi ddim yn synnu imi ddweud hyn fel cyn-seneddwr y DU. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn gweithio'n dda ar draws ffiniau ar ffermio, ond hefyd ar ystod o faterion yn ogystal. Ond rwyf am i hynny fod y ddwy ffordd, p'un a yw hynny'n ymwneud â chael ein mewnbwn ni gan Ysgrifenyddion Cabinet eraill ar gytundebau masnach a'r goblygiadau i'n ffermwyr, setliadau ariannol ynghylch y cwantwm o arian y byddwn yn ei gael yn mynd i ffermio a materion eraill hefyd, a hefyd sut y gallwn rannu arferion. Rwy'n credu bod pob un o'r rheini'n dadlau dros ddull da, pragmatig, aeddfed o weithio ar draws gwledydd mewn gwirionedd, gyda gwledydd datganoledig eraill yn ogystal â gyda Llywodraeth y DU. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.