Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 14 Mai 2024.
Mae hi'n anodd iawn anghytuno â'ch datganiad chi heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n newydd i'ch swydd, ond rydych chi, yn flaenorol, wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y pumed Senedd ac rydych wedi bod yn rhan o'r Cabinet, felly rwy'n credu ei bod hi'n ddigon teg i ni ofyn am fwy o amserlenni ac ati. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n ymrwymo heddiw i ddyddiad y byddwn ni'n gallu cael y lefel honno o fanylion oherwydd, yn amlwg, nid yw hon yn fenter wedi etholiad, nac yn newydd i Lywodraeth Cymru, ac mae hi'n hanfodol ein bod yn gweld cynnydd, oherwydd wedi'r cyfan yr hyn na wnes i, yn anffodus, oedd clywed yn eich datganiad chi am faint y brys sydd ei angen.
Dywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth yn gynharach, nad oedd ef am ddifetha eich datganiad chi nac unrhyw gyhoeddiadau. Mae arna i ofn fy mod i wedi disgwyl mwy na hyn, ac rwy'n siŵr y byddai sefydliadau addysg uwch wedi bod yn disgwyl mwy na hyn, o ystyried yr hyn a welsom ni. Mae'r ffaith y gallai rhai prifysgolion gau, y ffaith nad yw rhai cyrsiau sy'n hanfodol o ran ein sgiliau yn cael eu cynnal, mae'r rhain yn gwestiynau taer ac fe hoffwn i weld gweithredu ar fyrder gennych chi. Nid yw geiriau teg na gwrando yn ddigonol ar hyn o bryd, mae arna i ofn.
Mae yna argyfwng o ran recriwtio a chadw staff. Roeddech chi'n sôn am ddysgu proffesiynol cadarn, ond yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: sut ydym ni am ddenu athrawon, oherwydd fe wyddom ni na fanteisiwyd ar y bwrsariaethau hynny sydd wedi bod ar gael bob amser, bod yr arian hwnnw ar gael i ymateb i beth o'r pwysau ar y gyllideb? Felly, gyda 75 y cant o athrawon wedi ystyried gadael y proffesiwn yn ôl arolwg NASUWT yn 2022-23, a 78 y cant ohonyn nhw'n nodi nad ydyn nhw'n argymell gyrfa ym myd addysg i ffrindiau na theulu, sut ydym ni am drawsnewid y sefyllfa? Mae'r gweithlu yn hanfodol, ond eto rydym ni'n methu yn lân â recriwtio a chadw athrawon.
Mae trais, geiriol a chorfforol fel ei gilydd, yn cynyddu mewn ysgolion. Mae addysg a chymorth yn aml yn cael eu disgrifio fel loteri cod post, ac mae hyn yn arbennig o wir o ran addysg Cymru a chymorth anghenion dysgu ychwanegol. A phan edrychwn ni ar yr absenoldebau cynyddol mewn ysgolion, mae'r bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, mae gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cyfranogi ym myd addysg a gostyngiad wedyn yn niferoedd y bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru a fydd yn gwneud ceisiadau i brifysgolion, nid ydym ni mewn sefyllfa i allu aros dim yn rhagor.
O ran y cwricwlwm newydd, yr un peth a grybwyllwyd gennych chi wrth i chi roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf oedd codi sgaffaldiau o amgylch ysgolion. Wel, rydych chi'n ymwybodol bod llawer o'r gefnogaeth wedi cael ei rhoi gan gonsortia rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae cynnig wedi bod i ddod â'r dull hwn i ben, yn dilyn yr adolygiad parhaus o wasanaethau gwella ysgolion. Fe hoffwn i wybod a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r adolygiad, a pha sgaffaldiau fydd ar gael i ysgolion os bydd model y consortiwm yn diflannu. Ac yn benodol, pa wersi o ran y cwricwlwm newydd sy'n cael eu dysgu oddi wrth yr Alban, er mwyn i ni ddeall a yw'r diwygiadau hynny i'r cwricwlwm yr oeddem ni'n teimlo'n gyffrous amdanyn nhw yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, i fod â'r effaith honno ar gyfer ein disgyblion? Oherwydd rwy'n clywed gan rieni ac athrawon eu bod nhw'n dal yn ansicr, a'r hyn y gallai hynny ei olygu wedyn o ran yr effaith ar addysg. Ni ddylem ni ddefnyddio'r plant hynny mewn arbrawf. Mae angen i ni wneud pethau yn iawn ar y tro cyntaf. Ac fe wyddom ni fod athrawon yn gofyn am fwy o amser, mwy o hyfforddiant, ac eto rydym ni mewn sefyllfa lle nad yw ysgolion yn gallu recriwtio athrawon ar gyfer rhai o'r pynciau hyn, felly mae hwnnw'n achos pryder mawr.
Fe glywsoch chi, yn gynharach, Rhun ap Iorwerth yn gofyn o ran adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, a'i fod ef wedi darganfod heddiw nad oes tystiolaeth eang bod y fisa ôl-astudio yn cael ei gam-drin. Felly, a gaf i ofyn, felly, sut ydych chi am weithio gyda'r prifysgolion yn yr amgylchiadau heriol hyn?
Mae gen i nifer o gwestiynau, mae arna i ofn, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n credu mai un o'r pethau—. Os gwnewch chi roi caniatâd i mi, ar ôl meddwl am eich ymatebion chi i gyd heddiw, fe hoffwn i ysgrifennu atoch chi fel llefarydd addysg, ac efallai yn hytrach na cheisio ymdrin â phopeth heddiw, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cyfle i drafod rhai o'r pethau gyda chi y mae taer angen eu blaenoriaethu nhw, a sut y byddwn ni'n sicrhau nad gwrando yw unig ddiben hyn, ond y byddwn ni'n gweithredu mewn gwirionedd ar y materion hyn i gyd.