3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol — cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 14 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 3:27, 14 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Llongyfarchiadau, Gweinidog. A minnau wedi bod yn Weinidog iechyd y cyhoedd, fe wn i eich bod chi'n ymwybodol o faint her gordewdra, ac mae'r strategaethau a ddefnyddiwyd gennych chi i godi'r niferoedd o deuluoedd a fydd â hawl i gael talebau bwyta'n iach yn golygu fy mod i'n gwbl hyderus y byddwch chi'n gadael eich ôl ar y portffolio hwn.

Rydych chi'n deall o'r gorau fod gordewdra yn her enfawr, yn enwedig y ffaith sobreiddiol fod chwech o bob 10 plentyn yn cyrraedd yr ysgol, yn bump oed, dros bwysau, a hanner y rhain yn ordew. O ran ein buddsoddiad pwysig mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, rwy'n credu bod y gyfradd sy'n eu cael nhw oddeutu 70 y cant. Pa sgyrsiau a fyddwch chi'n eu cael gyda phenaethiaid i geisio ymwreiddio yn y cwricwlwm y neges i blant dyfu, blasu a choginio'r bwyd a fydd yn eu helpu nhw i dyfu a ffynnu?

Ac yn ail, o ran yr ysgolion uwchradd, sut ydych chi am ymdrin â'r prinder difrifol iawn o fyfyrwyr mewn pynciau STEM a'r ffordd y mae ysgolion uwchradd yn gorfod cymhwyso cystadleuaeth trechaf treisied, gwannaf gwaedded wrth geisio cael athrawon mathemateg, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, pan fyddo hi, heb yr arbenigeddau hyn, yn amhosibl i'r plentyn gael yr hyn y mae ganddo hawl iddo? Mae'r mater hwn yn wirioneddol anfad ac yn un yr wyf i'n gobeithio y bydd gennych chi amser i feddwl am ddatrysiad iddo.