Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 14 Mai 2024.
Oeddwn, yn sicr. Rwy'n cydnabod hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cymryd y peth o ddifrif; rwyf i am fynd ag ef ac ystyried beth arall y gallem ni ei wneud. Yn amlwg, fe wnaeth fy rhagflaenydd i adolygu'r canllawiau, ond rwy'n deall eich pryderon chi ynghylch faint o weithredu sydd ar hynny. Yn bersonol, rwyf i o'r farn fod hyn yn bwysig iawn; nid wyf i'n dymuno i unrhyw blentyn deimlo effaith gwarthnod yn yr ystafell ddosbarth.