Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Mai 2024.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Ond, rwy'n teimlo, yn anffodus, mai datganiad o fusnes fel arfer i system addysg sy'n galw allan am newid oedd hwnnw. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn amlwg: maen nhw'n dymuno sicrhau, pan fydd eu plant nhw'n mynd trwy ein system addysg ni, eu bod nhw'n cael addysg o'r radd flaenaf. Fe wyddom ni o'r gorau nad yw sgoriau PISA yn agos at fod mor uchel ag y dylen nhw fod, ac er ein bod ni'n clywed straeon am lwyddiant o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyda chyrhaeddiad addysgol, ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, rydym ni'n gorwedd ar waelod tablau'r gynghrair ym mhob pwnc, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond gwaethygu y mae'r sefyllfa, Ysgrifennydd Cabinet.
Fe glywsom ni y byddai'r set ddiweddaraf o ddiwygiadau yn newid popeth: 'Nid oes angen i ni wneud dim ond rhoi amser i bethau ymwreiddio, ac fe welwn ni'r gwelliannau hynny.' Ond fe glywsom ni hynny dro ar ôl tro oddi wrth Weinidogion Llafur Cymru, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond mynd i'r cyfeiriad anghywir y mae pethau. Er enghraifft, yn ôl yn 2009, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, fod canlyniadau PISA ar gyfer y flwyddyn honno, ac rwy'n dyfynnu,
'yn rhybudd amserol i system addysg yng Nghymru a oedd wedi mynd yn hunanfodlon'.
Wel, ewch chi ymlaen 15 mlynedd ar ôl hynny, ac mae canlyniadau heddiw yn waeth fyth. Felly, os oedd y system yn hunanfodlon bryd hynny, beth ydyw hi heddiw?
Mae yna broblemau sylweddol gyda'r set ddiweddaraf o newidiadau a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu mabwysiadu dull ar sail sgiliau yn hytrach na dull ar sail gwybodaeth yn ein cwricwlwm ni, ac mae hi'n ymddangos bod Plaid Lafur y DU yn benderfynol o fynd ar yr un llwybr. Y broblem gyda hynny, fodd bynnag, yw, er bod y canolbwyntio ar ddull seiliedig ar wybodaeth wedi talu ar ei ganfed i ddisgyblion yn Lloegr, mae adroddiad nodedig y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar addysg yng Nghymru yn ei gwneud hi'n amlwg, ac rwy'n dyfynnu,
'mae dirywiadau wedi bod ym mhob gwlad sydd wedi mabwysiadu cwricwlwm o'r fath ar sail sgiliau'.
Ac eto mae hi'n ymddangos mai dyna'r patrwm y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i ddilyn ar gyfer ein plant ni. Dirprwy Lywydd, nid yw hynny'n ddigon da. Ond, wrth edrych eto ar yr adroddiad hwnnw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'n ei gwneud hi'n amlwg nad yw'r gwahaniaethau o ran canlyniadau addysgol yn deillio o arian nac o gyfraddau tlodi hyd yn oed. Y rheswm pam mae canlyniadau addysgol yn waeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU yw, ac rwy'n dyfynnu,
'gwahaniaethau o ran polisi a dull'
Yn fyr, wrth i Lywodraeth Lafur Cymru botsian gyda'r system addysg, mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth i'n pobl ifanc ni, bron yn ddi-feth. Felly, sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrhau y bydd hi'n eithriad yn hytrach na rheol i Lywodraeth Lafur Cymru o ran ei methiant wrth gyflawni blaenoriaethau addysg Cymru?
Fe fyddai hi'n esgeulus i mi beidio â sôn am ddiwygio ADY yn y sector addysg. Fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, fe aethoch chi i'r pwyllgor PPIA yr wythnos diwethaf i drafod hynny, yn ogystal ag i ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc, ac fe wnaethoch chi gyfaddef bod llawer i'w wneud eto o ran gwneud y diwygiadau hynny'n iawn, ac nad oedd sawl agwedd wedi gweithio fel y bwriadwyd hyd yn hyn. Ond yr hyn a oedd yn fy mhryderu i yn ystod yr ymddangosiad hwnnw yn y pwyllgor oedd bod llawer o sôn wedi bod am y ffaith na fyddai'r newidiadau yr oeddech chi'n teimlo'r angen iddyn nhw fod yn digwydd allu cael eu gwneud hyd nes y bydd y data cywir ar gael. Y broblem oedd nad oedd hi'n ymddangos bod y gwaith o nodi yn union pa ddata a fyddai'n angenrheidiol wedi dechrau eto, heb sôn am lunio ac yna asesu hynny, felly mae hynny'n awgrymu efallai nad proses gyflym fydd hon, ac fel gwyddoch chi, fe all chwe mis, blwyddyn, dwy flynedd, fod yn dragwyddoldeb ym mywyd plentyn ac fe all fod ag effaith ddofn ar gyfleoedd ei fywyd. Mae eich datganiad chi heddiw, a'ch ymateb chi i'r pwyllgor hwnnw, yn fy ngwneud i'n bryderus nad ydych chi'n ystyried yr angen i ddatrys y materion eglur o ran diwygio ADY gyda'r brys y mae'n ei haeddu mor amlwg.
Yn olaf, fe hoffwn i ddweud fy mod i o'r farn fod y datganiad hwn heddiw yn symbol o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn fwy eang. Er i ni glywed geiriau teg am gyrhaeddiad addysgol, iechyd meddwl, ADY, y cwricwlwm, addysg ôl-16 ac ati, yr hyn na chlywsom ni amdano oedd unrhyw nod, amserlen, niferoedd, i farnu unrhyw un o'r geiriau teg yn unol â nhw. Sut y gellir disgwyl i ni gredu yng ngair yr Ysgrifennydd Cabinet newydd y bydd pethau yn gwella pan fo dysgwyr a staff addysgu ledled Cymru wedi clywed yr un peth yn union ers 25 mlynedd? Mae'r dystiolaeth yn awgrymu yn anffodus fod polisi addysg o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn eglur. Nid oes angen geiriau teg arnom ni; rydym ni'n awyddus i fod â chynllun, cynllun i wyrdroi'r difrod a gafodd eu gwneud i'n system addysg ni yng Nghymru gan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, felly pa bryd y gallwn ni ddisgwyl cael gweld un?