Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Mai 2024.
Diolch yn fawr iawn i chi, Heledd, ac wrth gwrs rwy'n cydnabod nad datganiad wedi etholiad yw hwn a fy mod i wedi cadeirio'r pwyllgor, a orffennodd dair blynedd yn ôl, ond roeddwn i o'r farn ei bod hi'n bwysig, wrth i mi ddod i'r swydd o'r newydd, fy mod i'n cael amser i bwyso a mesur yr hyn sy'n digwydd, a gwrando cymaint â phosibl ar athrawon, staff ysgol, plant a phobl ifanc ac eraill. Ond ystyr hyn hefyd yw gweithredu, yn hollol.
O ran amserlenni, rwy'n bwriadu nodi cynllun mwy manwl o ran gwella cyrhaeddiad a safonau mewn ysgolion yn ystod y tymor hwn, felly cyn yr haf, beth bynnag, rwy'n gobeithio, ac fe gewch chi fwy o wybodaeth ynglŷn â hynny.
Fe wnaethoch chi godi'r problemau o ran recriwtio a chadw gyda mi'n flaenorol, yr wythnos diwethaf mewn cwestiynau. Rwyf i'n cydnabod yr heriau. Rwy'n gobeithio y byddech chwithau'n cydnabod hefyd ein bod ni'n gweithio yn galed iawn yn y Llywodraeth i hyrwyddo addysgu fel gyrfa gyffrous a diddorol i weithio ynddi. Rwy'n credu y bydd y Cwricwlwm i Gymru o gymorth yn hynny o beth. Dyma addysgu a dysgu amgen, yn fy marn i, ac rwy'n credu y byddai hi'n apelio yn fawr at staff i fod â'r galluedd hwnnw, wrth weithio gyda'n cwricwlwm newydd. Ond, yn ogystal â hynny, rydym ni wedi buddsoddi arian yn y gwahanol fwrsariaethau sydd gennym. Mae hynny bob amser yn heriol pan fyddwn yn cael trafferthion gyda chyllid, ond rydym ni wedi dal ati i wneud hynny.
Dim ond gair bach i ddweud fy mod i'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar yr ysgolion, a bod ganddyn nhw ystod enfawr o broblemau cymdeithasol yn dod i mewn i'r ystafell ddosbarth, a bod heriau o ran ymddygiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at drais; fe wnes i gwrdd â'r cyngor partneriaeth ysgolion y bore yma ac fe gawsom ni drafodaeth dda iawn am ymddygiad. Fe fyddaf i'n gwneud ychydig mwy o waith gyda nhw ynglŷn â hynny i sicrhau ein bod ni'n rhoi pob cymorth angenrheidiol yn hynny o beth, nid yn unig trwy bethau fel ein pecyn cymorth ymddygiad newydd, ond wrth ystyried yn fwy cyffredinol yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi nhw. Ac rydym ni wedi siarad o'r blaen am bethau fel cymorth addysg, sy'n darparu cefnogaeth i'w llesiant nhw.
O ran ADY, fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n cydnabod yr wythnos diwethaf—rwy'n credu i mi fod yn ddi-flewyn-ar-dafod gyda'r pwyllgor—yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth Tom heddiw fy mod i wedi ymrwymo yn wirioneddol i gyflymu'r gwaith hwnnw'n gyflym iawn a fy mod i'n hapus iawn i gyflwyno diweddariadau pellach. Mae swyddogion yn gweithio gyda mi ar gynllun ar hyn o bryd i ddatblygu'r ddau faes hynny o waith, ac fe fyddaf i'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf eto maes o law.
O ran y cwricwlwm newydd, fe wnes i siarad yn y pwyllgor am sgaffaldiau. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad llafar i'r Senedd ym mis Gorffennaf, sef yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm newydd, ac fe fyddaf i'n nodi mwy o fanylion bryd hynny. Ond yr hyn a eglurwyd i mi o'r sgyrsiau a gefais i ac mae swyddogion wedi bod yn eu cael nhw yw y byddai ysgolion yn hoffi dysgu proffesiynol sy'n fwy cenedlaethol ar gyfer dylunio'r cwricwlwm, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen cynllun treialu dylunio'r cwricwlwm. Felly, rydym ni'n mireinio hyn ac yn ehangu argaeledd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, a fydd ar gael o'r hydref. Fe hoffen nhw gael manylder mwy uniongyrchol o sut wedd sydd ar gynnydd i helpu ysgolion i ddeall disgwyliadau ar wahanol gyfnodau. Fe hoffen nhw fod â rhai enghreifftiau o gynnwys y cwricwlwm, pa bynciau a chyd-destun y gellid eu datblygu ar draws y cwricwlwm. Ystyr hyn yw dod â'r cwricwlwm yn fyw i ysgolion.
Rydym ni'n edrych ar dempledi i gefnogi'r ysgolion a chynllunio'r athrawon, ar gyfer cynllunio cwricwla ac asesu'r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud fel ei gilydd, a chynnig cefnogaeth well i ysgolion wrth feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd y dysgwyr, ar gyfer codi safonau'r gwerthusiadau cynnydd ar draws ysgolion a chaniatáu cyfradd fwy cyson o her ar draws cwricwla'r ysgolion. Ond mae'n rhaid i mi fod yn eglur bod rhai ysgolion yn hedfan gyda'r cwricwlwm, ac nid ydym ni'n dymuno atal yr ysgolion sy'n gwneud yn wirioneddol dda iawn yn hynny o beth; ystyr hyn yw cefnogi'r rhai sydd ag angen ychydig o gymorth ychwanegol gyda'r hyn y maen nhw'n ei wneud.
Roeddech chi'n cyfeirio at adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo: fe wnes i gyfarfod â'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo ychydig wythnosau yn ôl i siarad am ei gynlluniau, ei adolygiad o lwybr graddedigion, yr oeddwn i mor bryderus yn ei gylch. Fe ddywedais i'n eglur iawn iddyn nhw y byddai cyfyngiadau pellach fel hyn yn niweidiol iawn i addysg uwch yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi argymell peidio â gwneud newidiadau pellach i hynny, ac fe fyddaf i'n cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrando ar yr adolygiad. Mae hwn yn bolisi arall y maen nhw wedi ei ddatblygu ar frys, ac nid yw honno'n ffordd dda o lunio polisi. Fe wn i o'r trafodaethau a gefais â'r prifysgolion pa mor bryderus ydyn nhw ynglŷn â'r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o dramor, felly mae taer angen i ni flaenoriaethu hynny.
A dim ond gair wrth gloi i ddweud fy mod i'n hapus iawn naill ai i chi ysgrifennu ataf i neu pe byddech chi'n dymuno eistedd i lawr i drafod i ganiatáu mwy o amser i wneud hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.