– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Mai 2024.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg: ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n fraint i mi gael fy ngwahodd gan y Prif Weinidog i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, swydd sy'n dod â chyfleoedd unigryw i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ledled Cymru, yn enwedig bywydau plant a phobl ifanc. Rwy'n dweud yn eglur nad wyf i'n tanbrisio'r cyfrifoldebau dwys sy'n gysylltiedig â'r swydd hon, ac nid wyf i mewn unrhyw fodd yn hunanfodlon ynghylch maint yr her.
Rydym ni wedi cychwyn ar becyn sylweddol o ddiwygiadau i drawsnewid bywydau a chyfleoedd i bobl ifanc, ond, ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni ddal ati i ganolbwyntio ar helpu dysgwyr a staff i oresgyn effaith y pandemig. Mae yna ragoriaeth i'w gael ym mhob rhan o'r system, ond rwy'n gwbl eglur ynglŷn â'r angen i ni anelu yn uwch. Yn benodol, mae angen i ni godi cyfraddau cyrhaeddiad a chau'r bwlch er mwyn y plant tlotaf yng Nghymru. Ac mae'r staff anhygoel yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion yn dymuno gweld cyfundrefn sy'n fwy cydgysylltiedig ac addas i'w helpu i wynebu heriau addysg i'r dyfodol.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau sy'n gwybod digon amdanaf i'n deall mai fy man cychwyn i bob amser fydd lles mwyaf ein dysgwyr, ac yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n bwriadu arwain system addysg sy'n eu rhoi nhw yn gyntaf. Pan dderbyniais i'r swydd hon, roedd y Prif Weinidog yn eglur am ei ddyhead i fod â system sy'n canolbwyntio ar sicrhau gwelliant parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol er mwyn i bob dysgwr gyflawni ei botensial. Heddiw, fe hoffwn i nodi rhai o'r camau yr wyf i am eu cymryd i gyflawni'r her hon. Rwy'n gwybod na allwn ni wneud popeth dros nos, felly mae hi'n bwysig, a minnau'n Ysgrifennydd Cabinet, i mi fod yn eglur ynghylch y blaenoriaethau i'r dyfodol agos.
Fy nghenadwri gyntaf yw mai iechyd meddwl da yw'r sail y bydd ein system addysg yn cael ei hadeiladu arni. Yn fy swydd flaenorol yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, roeddwn i'n falch o weithio gyda fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, i gyflwyno'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, y byddaf i'n parhau i'w hyrwyddo yn fy swydd newydd. Mae hi'n hanfodol mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb. Fe fydd hynny'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Er fy mod i'n gwybod pa mor bwysig yw iechyd meddwl a llesiant da i ddysgwyr a staff, fe wn i hefyd na ellir ystyried unrhyw fater unigol yn gwbl ar wahân i'r lleill. Mae'n rhaid i ddiwygio a gwelliant gael ei anelu at greu system gyfan sy'n gweithio i bob dysgwr. Fy ngwaith i fydd gwneud i'r system gyfan weithio gyda'i gilydd.
Fe hoffwn i egluro fy mod i'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnydd Cwricwlwm i Gymru. Rwyf i wedi gweld y gwaith rhagorol drosof fy hun sy'n digwydd eisoes yn ein hysgolion ni drwy anwesu'r cyfleoedd yn y cwricwlwm newydd. Ond, fe glywais i'n hyglyw iawn hefyd fod yr ysgolion yn awyddus i fod â rhagor o gefnogaeth ar gyfer sicrhau y bydd yr offer priodol gan bawb i wneud hyn yn iawn. Fe fyddaf i'n blaenoriaethu cymorth ar ddyluniad y cwricwlwm, y cynnydd a wneir ac asesiad ohono. Fe fyddaf i'n gweithio gydag athrawon i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cyrraedd eu hystafelloedd dosbarth a bod yr wybodaeth, yr adnoddau a'r hyder ganddyn nhw i sicrhau y bydd pob dysgwr a phob cwr o Gymru yn teimlo budd o'r cwricwlwm.
Yr wythnos diwethaf, fe roddais i dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth i mi gymryd rhan mewn dadl Pwyllgor Deisebau, ynglŷn â diwygio anghenion dysgu ychwanegol, edefyn hanfodol bwysig o waith ond sy'n gymhleth hefyd. Mae hi'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i weithredu system o gymorth ADY sy'n darparu ar gyfer dysgwyr y gall rhieni a staff ysgol ei llywio hi. Fel soniais i'r wythnos diwethaf, mae canolbwyntio ar ddiwygio ADY wedi bod ymhlith y blaenoriaethau cyntaf sydd gennyf i. Rwyf i'n awyddus y bydd sylfeini deddfwriaethol cadarn ar waith, ac rwy'n awyddus i gryfhau gweithredu trwy wella cysondeb yr ymagwedd a gymerir.
Mae cydweithio, herio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ysgogi gwelliant i'r dyfodol. Rwy'n awyddus i'r system gyfan weithio gyda'i gilydd i wella safonau a chyrhaeddiad, a bod yn uchelgeisiol er mwyn pob dysgwr unigol. Ochr yn ochr â gwelliannau cyffredinol o ran cyrhaeddiad, mae hi'n hanfodol ein bod yn cau'r bwlch cyrhaeddiad sy'n wynebu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ni wnaf i fyth â derbyn y dylai plant o gefndiroedd tlotach fodloni ar ganlyniadau gwaeth na'u cyfoedion neu ddysgwyr mewn mannau eraill. Rwyf i wedi ymrwymo i wella ein dealltwriaeth ni o'r bwlch cyrhaeddiad a nodi'r mannau gorau i anelu ymyraethau er mwyn cael y dylanwad mwyaf. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, sy'n bwrw ymlaen â chanfyddiadau'r adolygiad strategol o bartneriaid addysg yng Nghymru. Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i gyd i gymryd y cam nesaf tuag at system o hunanwella, sy'n canolbwyntio ar wella canlyniadau dysgu yng Nghymru trwy ddull mwy cydweithredol a seiliedig ar bartneriaeth. I fod yn llwyddiannus, mae angen i ni gyflymu cynnydd mewn rhai meysydd allweddol: yn gyntaf, wrth gynnig dysgu proffesiynol cadarn sy'n cefnogi athrawon ac sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu; yn ail, wrth gryfhau arweinyddiaeth ysgolion i sicrhau bod pob ysgol yn sefydlu'r diwylliant priodol ar gyfer dysgwyr a staff; a sicrhau'r effaith fwyaf posibl drwy wneud y pethau sylfaenol yn iawn, gyda chanolbwynt parhaus ar wella llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, gan gynnwys drwy'r cynllun mathemateg a rhifedd. Rwy'n disgwyl i bob rhan o'r system fod yn gweithio tuag at y nod cyffredin o wella cyrhaeddiad, yn arbennig felly yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.
Wrth gwrs, ni ellir cyflawni unrhyw ddiwygiad na gwelliant yn ein hysgolion heb weithlu ysgol ymroddedig a thalentog. Rwyf i wedi ymrwymo i wrando a gweithio mewn partneriaeth â'r gweithlu, wrth i ni symud ymlaen gyda'r rhaglen hon o waith. Ni fydd y sgyrsiau rhyngom ni'n hawdd bob amser, ond fe wn fod ein nod yn un cyffredin: sef cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc. Ac mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda phartneriaid i sicrhau y bydd pob unigolyn ifanc yn dysgu medrau iaith Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer bywyd a gwaith.
Fe ddaeth yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol i ben yn ddiweddar, gydag un o'r ymatebion mwyaf cynhwysfawr erioed i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Mae hi'n bwysig fod yr ymatebion hyn yn cael eu hystyried yn llawn, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd ar y camau nesaf maes o law.
Ond fe hoffwn i fod yn eglur bod addysg ôl-16 yn flaenoriaeth i mi hefyd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n codi cyfraddau cyfranogiad ar draws addysg bellach ac uwch, gan gynnwys addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn bartner hanfodol wrth gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer sector trydyddol sy'n fwy cysylltiedig a chydlynol, gydag addysg o ansawdd uchel ac ymchwil a fydd yn arwain y byd wrth hanfod ei waith. Rwyf i am ganolbwyntio ar wella llwybrau i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys sicrhau cydraddoldeb bri, creu llwybr eglur 14-19 i ddysgwyr a chynyddu cyfranogiad ym mhob maes.
Yn ogystal â hynny, rwy'n dymuno cydnabod y pwysau sydd ar ein colegau a'n prifysgolion ni ar hyn o bryd. Nid yw llawer o'r pwysau hyn yn unigryw i Gymru ac maen nhw'n golygu set ehangach o heriau. Rwy'n awyddus i ni weithio gyda'n gilydd, gan gynnwys gwrando ar leisiau myfyrwyr, wrth ymateb i'r heriau hyn. Fe ddywedwyd yn aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod addysg yng Nghymru ar daith. Rwyf i'n ymrwymo i wneud fy ngorau glas bob amser i lywio addysg i'r cyfeiriad cywir a'n rhoi ni ar y trywydd iawn. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Ond, rwy'n teimlo, yn anffodus, mai datganiad o fusnes fel arfer i system addysg sy'n galw allan am newid oedd hwnnw. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn amlwg: maen nhw'n dymuno sicrhau, pan fydd eu plant nhw'n mynd trwy ein system addysg ni, eu bod nhw'n cael addysg o'r radd flaenaf. Fe wyddom ni o'r gorau nad yw sgoriau PISA yn agos at fod mor uchel ag y dylen nhw fod, ac er ein bod ni'n clywed straeon am lwyddiant o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyda chyrhaeddiad addysgol, ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, rydym ni'n gorwedd ar waelod tablau'r gynghrair ym mhob pwnc, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond gwaethygu y mae'r sefyllfa, Ysgrifennydd Cabinet.
Fe glywsom ni y byddai'r set ddiweddaraf o ddiwygiadau yn newid popeth: 'Nid oes angen i ni wneud dim ond rhoi amser i bethau ymwreiddio, ac fe welwn ni'r gwelliannau hynny.' Ond fe glywsom ni hynny dro ar ôl tro oddi wrth Weinidogion Llafur Cymru, ac mae hi'n ymddangos mai dim ond mynd i'r cyfeiriad anghywir y mae pethau. Er enghraifft, yn ôl yn 2009, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, fod canlyniadau PISA ar gyfer y flwyddyn honno, ac rwy'n dyfynnu,
'yn rhybudd amserol i system addysg yng Nghymru a oedd wedi mynd yn hunanfodlon'.
Wel, ewch chi ymlaen 15 mlynedd ar ôl hynny, ac mae canlyniadau heddiw yn waeth fyth. Felly, os oedd y system yn hunanfodlon bryd hynny, beth ydyw hi heddiw?
Mae yna broblemau sylweddol gyda'r set ddiweddaraf o newidiadau a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu mabwysiadu dull ar sail sgiliau yn hytrach na dull ar sail gwybodaeth yn ein cwricwlwm ni, ac mae hi'n ymddangos bod Plaid Lafur y DU yn benderfynol o fynd ar yr un llwybr. Y broblem gyda hynny, fodd bynnag, yw, er bod y canolbwyntio ar ddull seiliedig ar wybodaeth wedi talu ar ei ganfed i ddisgyblion yn Lloegr, mae adroddiad nodedig y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar addysg yng Nghymru yn ei gwneud hi'n amlwg, ac rwy'n dyfynnu,
'mae dirywiadau wedi bod ym mhob gwlad sydd wedi mabwysiadu cwricwlwm o'r fath ar sail sgiliau'.
Ac eto mae hi'n ymddangos mai dyna'r patrwm y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i ddilyn ar gyfer ein plant ni. Dirprwy Lywydd, nid yw hynny'n ddigon da. Ond, wrth edrych eto ar yr adroddiad hwnnw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'n ei gwneud hi'n amlwg nad yw'r gwahaniaethau o ran canlyniadau addysgol yn deillio o arian nac o gyfraddau tlodi hyd yn oed. Y rheswm pam mae canlyniadau addysgol yn waeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU yw, ac rwy'n dyfynnu,
'gwahaniaethau o ran polisi a dull'
Yn fyr, wrth i Lywodraeth Lafur Cymru botsian gyda'r system addysg, mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwaeth i'n pobl ifanc ni, bron yn ddi-feth. Felly, sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrhau y bydd hi'n eithriad yn hytrach na rheol i Lywodraeth Lafur Cymru o ran ei methiant wrth gyflawni blaenoriaethau addysg Cymru?
Fe fyddai hi'n esgeulus i mi beidio â sôn am ddiwygio ADY yn y sector addysg. Fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, fe aethoch chi i'r pwyllgor PPIA yr wythnos diwethaf i drafod hynny, yn ogystal ag i ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc, ac fe wnaethoch chi gyfaddef bod llawer i'w wneud eto o ran gwneud y diwygiadau hynny'n iawn, ac nad oedd sawl agwedd wedi gweithio fel y bwriadwyd hyd yn hyn. Ond yr hyn a oedd yn fy mhryderu i yn ystod yr ymddangosiad hwnnw yn y pwyllgor oedd bod llawer o sôn wedi bod am y ffaith na fyddai'r newidiadau yr oeddech chi'n teimlo'r angen iddyn nhw fod yn digwydd allu cael eu gwneud hyd nes y bydd y data cywir ar gael. Y broblem oedd nad oedd hi'n ymddangos bod y gwaith o nodi yn union pa ddata a fyddai'n angenrheidiol wedi dechrau eto, heb sôn am lunio ac yna asesu hynny, felly mae hynny'n awgrymu efallai nad proses gyflym fydd hon, ac fel gwyddoch chi, fe all chwe mis, blwyddyn, dwy flynedd, fod yn dragwyddoldeb ym mywyd plentyn ac fe all fod ag effaith ddofn ar gyfleoedd ei fywyd. Mae eich datganiad chi heddiw, a'ch ymateb chi i'r pwyllgor hwnnw, yn fy ngwneud i'n bryderus nad ydych chi'n ystyried yr angen i ddatrys y materion eglur o ran diwygio ADY gyda'r brys y mae'n ei haeddu mor amlwg.
Yn olaf, fe hoffwn i ddweud fy mod i o'r farn fod y datganiad hwn heddiw yn symbol o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn fwy eang. Er i ni glywed geiriau teg am gyrhaeddiad addysgol, iechyd meddwl, ADY, y cwricwlwm, addysg ôl-16 ac ati, yr hyn na chlywsom ni amdano oedd unrhyw nod, amserlen, niferoedd, i farnu unrhyw un o'r geiriau teg yn unol â nhw. Sut y gellir disgwyl i ni gredu yng ngair yr Ysgrifennydd Cabinet newydd y bydd pethau yn gwella pan fo dysgwyr a staff addysgu ledled Cymru wedi clywed yr un peth yn union ers 25 mlynedd? Mae'r dystiolaeth yn awgrymu yn anffodus fod polisi addysg o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn eglur. Nid oes angen geiriau teg arnom ni; rydym ni'n awyddus i fod â chynllun, cynllun i wyrdroi'r difrod a gafodd eu gwneud i'n system addysg ni yng Nghymru gan Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, felly pa bryd y gallwn ni ddisgwyl cael gweld un?
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau a'i gwestiynau, a dweud wrtho ef yn eglur iawn fy mod innau hefyd yn dymuno bod â system addysg o'r radd flaenaf yn yr union ffordd ag y mae pawb arall yng Nghymru? Rwyf innau'n rhiant, ac rwy'n gallu gweld pwysigrwydd cael addysg o ansawdd uchel, ac rydym ni'n dyheu am y gorau i'n plant a'n pobl ifanc i gyd.
Ni fues i'n hunanfodlon o ran y canlyniadau PISA mewn unrhyw ffordd. Fe ddywedais i eu bod nhw'n siomedig. Mae hi'n bwysig cydnabod bod ein canlyniadau PISA ni wedi bod yn gwella cyn y pandemig, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd, o ystyried eich bod chi'n rhoi cymaint o bwysau ar adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, i egluro nad oedd y bobl ifanc a gafodd eu profi yn y profion PISA hynny wedi bod trwy ein cwricwlwm newydd ni. Serch hynny, rwy'n cymryd yr hyn a fynegwyd yn adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid o ddifrif, hyd yn oed os nad wyf i'n cytuno â'i asesiad cyfan.
Mae hi'n ymddangos eich bod chi'n awgrymu y dylem ni ohirio ein diwygiadau i gyd. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n gynnig chwerthinllyd oherwydd mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddysgu erbyn hyn ym mhob un o'n hysgolion ni. Nid ydyw wedi cael ei gyflwyno yn llawn eto. Fe fues i'n eglur iawn yn yr hyn a ddywedais i wrth y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a'r hyn yr wyf yn ei ddweud heddiw, fy mod i o'r farn fod gennym ni fwy o waith i'w wneud o ran cefnogi ysgolion sy'n ei chael hi'n fwy heriol gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd. Mae rhai ysgolion yn hedfan gydag ef, ond mae ysgolion eraill wedi dweud wrthyf i, 'Mae angen mwy o gefnogaeth gyda hwnnw.' Felly, rwyf i'n awyddus i ddarparu'r gefnogaeth honno.
Nid yw hi'n wir ein bod ni'n rhoi sgiliau yn uwch na chwricwlwm ar sail gwybodaeth. Mae hwnnw'n gamddehongliad o'r cwricwlwm. Mae ein cwricwlwm newydd ni'n canolbwyntio yn llwyr ar wybodaeth, ond, yn bwysig iawn, ar ddefnydd deallus o wybodaeth. Rydym ni'n dymuno i'n dysgwyr ni, nid yn unig fod yn meddu ar yr wybodaeth honno, ond eu bod yn gallu ei chymryd a'i defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd yn eu bywydau.
O ran diwygio ADY, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n credu eich bod chi wedi gwrando ar yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, er fy mod i'n falch eich bod chi wedi fy nghlywed i ac wedi dyfynnu'r hyn a ddywedais i'n ôl heddiw sef fy mhwynt i fod blwyddyn yn amser maith ym mywyd plentyn, oherwydd fe ddywedais hynny i bwysleisio'r cyflymder yr wyf i wedi ymrwymo iddo ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem hon. Fe dynnais i sylw at yr heriau sydd gennym ni o ran data. Rwy'n gwybod o'r cyfnod y bûm i'n Weinidog iechyd fod data yn bwysig iawn i ysgogi polisi da. Rydym ni'n datblygu ffrwd waith i sicrhau bod y data i gyd sydd eu hangen arnom ni gennym ni. Ond ni ddywedais i ar unrhyw bryd na fyddem ni'n bwrw ymlaen â gwelliannau heb y data.
Esboniais wrth y pwyllgor fod gen i ddull ar ddau drywydd ar hyn o bryd. Mae hwnnw'n cynnwys darparu ADY yn fwy cyson ledled Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion, sydd eisoes yn gweithio yn galed iawn i gyflawni'r diwygiad cymhleth hwn. Ond fe nodais i hefyd fy mod i'n cydnabod, ar sail yr hyn yr oedd llywydd y tribiwnlys yn ei ddweud, fod gennym ni waith i'w wneud eto i sicrhau bod y gyfraith yn hawdd ei deall i'n partneriaid. Felly, fe eglurais i y byddwn i'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw ar unwaith, i sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliannau yn syth, gan ystyried rhywfaint o eglurhad cyfreithiol hefyd.
Ac yn gryno iawn o ran eich pwyntiau terfynol chi ar nodau. Mae datganiad heddiw yn ymwneud â blaenoriaethau. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn fod codi cyrhaeddiad a safonau ysgolion yn flaenoriaeth i mi. Rydym ni'n gweithio ar gynllun a fydd ar y llinellau a ddisgrifiais, sy'n ymwneud â phethau fel dylunio cwricwlwm gwell, asesu, dilyniant a chanolbwyntio manwl ar lythrennedd a rhifedd. Ac i ategu hynny, rydym ni'n datblygu ecosystem wybodaeth gyfan a fydd yn dweud wrthym ni sut lwyddiant y mae ein hysgolion ni'n ei gael. Ac fe fydd hynny'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'n hasesiadau personol eisoes. Nid wyf i wedi bod ond saith wythnos yn fy swydd; rwy'n credu ei bod hi ychydig bach yn gynnar i mi fod yn meddwl am nodau. Fy mlaenoriaeth i yw gwneud hyn yn iawn er mwyn y plant a'r bobl ifanc, nid ceisio ymhél ag is-benawdau hawdd.
Mae hi'n anodd iawn anghytuno â'ch datganiad chi heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n newydd i'ch swydd, ond rydych chi, yn flaenorol, wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y pumed Senedd ac rydych wedi bod yn rhan o'r Cabinet, felly rwy'n credu ei bod hi'n ddigon teg i ni ofyn am fwy o amserlenni ac ati. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n ymrwymo heddiw i ddyddiad y byddwn ni'n gallu cael y lefel honno o fanylion oherwydd, yn amlwg, nid yw hon yn fenter wedi etholiad, nac yn newydd i Lywodraeth Cymru, ac mae hi'n hanfodol ein bod yn gweld cynnydd, oherwydd wedi'r cyfan yr hyn na wnes i, yn anffodus, oedd clywed yn eich datganiad chi am faint y brys sydd ei angen.
Dywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth yn gynharach, nad oedd ef am ddifetha eich datganiad chi nac unrhyw gyhoeddiadau. Mae arna i ofn fy mod i wedi disgwyl mwy na hyn, ac rwy'n siŵr y byddai sefydliadau addysg uwch wedi bod yn disgwyl mwy na hyn, o ystyried yr hyn a welsom ni. Mae'r ffaith y gallai rhai prifysgolion gau, y ffaith nad yw rhai cyrsiau sy'n hanfodol o ran ein sgiliau yn cael eu cynnal, mae'r rhain yn gwestiynau taer ac fe hoffwn i weld gweithredu ar fyrder gennych chi. Nid yw geiriau teg na gwrando yn ddigonol ar hyn o bryd, mae arna i ofn.
Mae yna argyfwng o ran recriwtio a chadw staff. Roeddech chi'n sôn am ddysgu proffesiynol cadarn, ond yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: sut ydym ni am ddenu athrawon, oherwydd fe wyddom ni na fanteisiwyd ar y bwrsariaethau hynny sydd wedi bod ar gael bob amser, bod yr arian hwnnw ar gael i ymateb i beth o'r pwysau ar y gyllideb? Felly, gyda 75 y cant o athrawon wedi ystyried gadael y proffesiwn yn ôl arolwg NASUWT yn 2022-23, a 78 y cant ohonyn nhw'n nodi nad ydyn nhw'n argymell gyrfa ym myd addysg i ffrindiau na theulu, sut ydym ni am drawsnewid y sefyllfa? Mae'r gweithlu yn hanfodol, ond eto rydym ni'n methu yn lân â recriwtio a chadw athrawon.
Mae trais, geiriol a chorfforol fel ei gilydd, yn cynyddu mewn ysgolion. Mae addysg a chymorth yn aml yn cael eu disgrifio fel loteri cod post, ac mae hyn yn arbennig o wir o ran addysg Cymru a chymorth anghenion dysgu ychwanegol. A phan edrychwn ni ar yr absenoldebau cynyddol mewn ysgolion, mae'r bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, mae gostyngiad yn nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cyfranogi ym myd addysg a gostyngiad wedyn yn niferoedd y bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru a fydd yn gwneud ceisiadau i brifysgolion, nid ydym ni mewn sefyllfa i allu aros dim yn rhagor.
O ran y cwricwlwm newydd, yr un peth a grybwyllwyd gennych chi wrth i chi roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf oedd codi sgaffaldiau o amgylch ysgolion. Wel, rydych chi'n ymwybodol bod llawer o'r gefnogaeth wedi cael ei rhoi gan gonsortia rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae cynnig wedi bod i ddod â'r dull hwn i ben, yn dilyn yr adolygiad parhaus o wasanaethau gwella ysgolion. Fe hoffwn i wybod a ydych chi'n gallu cadarnhau heddiw beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r adolygiad, a pha sgaffaldiau fydd ar gael i ysgolion os bydd model y consortiwm yn diflannu. Ac yn benodol, pa wersi o ran y cwricwlwm newydd sy'n cael eu dysgu oddi wrth yr Alban, er mwyn i ni ddeall a yw'r diwygiadau hynny i'r cwricwlwm yr oeddem ni'n teimlo'n gyffrous amdanyn nhw yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, i fod â'r effaith honno ar gyfer ein disgyblion? Oherwydd rwy'n clywed gan rieni ac athrawon eu bod nhw'n dal yn ansicr, a'r hyn y gallai hynny ei olygu wedyn o ran yr effaith ar addysg. Ni ddylem ni ddefnyddio'r plant hynny mewn arbrawf. Mae angen i ni wneud pethau yn iawn ar y tro cyntaf. Ac fe wyddom ni fod athrawon yn gofyn am fwy o amser, mwy o hyfforddiant, ac eto rydym ni mewn sefyllfa lle nad yw ysgolion yn gallu recriwtio athrawon ar gyfer rhai o'r pynciau hyn, felly mae hwnnw'n achos pryder mawr.
Fe glywsoch chi, yn gynharach, Rhun ap Iorwerth yn gofyn o ran adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, a'i fod ef wedi darganfod heddiw nad oes tystiolaeth eang bod y fisa ôl-astudio yn cael ei gam-drin. Felly, a gaf i ofyn, felly, sut ydych chi am weithio gyda'r prifysgolion yn yr amgylchiadau heriol hyn?
Mae gen i nifer o gwestiynau, mae arna i ofn, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n credu mai un o'r pethau—. Os gwnewch chi roi caniatâd i mi, ar ôl meddwl am eich ymatebion chi i gyd heddiw, fe hoffwn i ysgrifennu atoch chi fel llefarydd addysg, ac efallai yn hytrach na cheisio ymdrin â phopeth heddiw, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cyfle i drafod rhai o'r pethau gyda chi y mae taer angen eu blaenoriaethu nhw, a sut y byddwn ni'n sicrhau nad gwrando yw unig ddiben hyn, ond y byddwn ni'n gweithredu mewn gwirionedd ar y materion hyn i gyd.
Diolch yn fawr iawn i chi, Heledd, ac wrth gwrs rwy'n cydnabod nad datganiad wedi etholiad yw hwn a fy mod i wedi cadeirio'r pwyllgor, a orffennodd dair blynedd yn ôl, ond roeddwn i o'r farn ei bod hi'n bwysig, wrth i mi ddod i'r swydd o'r newydd, fy mod i'n cael amser i bwyso a mesur yr hyn sy'n digwydd, a gwrando cymaint â phosibl ar athrawon, staff ysgol, plant a phobl ifanc ac eraill. Ond ystyr hyn hefyd yw gweithredu, yn hollol.
O ran amserlenni, rwy'n bwriadu nodi cynllun mwy manwl o ran gwella cyrhaeddiad a safonau mewn ysgolion yn ystod y tymor hwn, felly cyn yr haf, beth bynnag, rwy'n gobeithio, ac fe gewch chi fwy o wybodaeth ynglŷn â hynny.
Fe wnaethoch chi godi'r problemau o ran recriwtio a chadw gyda mi'n flaenorol, yr wythnos diwethaf mewn cwestiynau. Rwyf i'n cydnabod yr heriau. Rwy'n gobeithio y byddech chwithau'n cydnabod hefyd ein bod ni'n gweithio yn galed iawn yn y Llywodraeth i hyrwyddo addysgu fel gyrfa gyffrous a diddorol i weithio ynddi. Rwy'n credu y bydd y Cwricwlwm i Gymru o gymorth yn hynny o beth. Dyma addysgu a dysgu amgen, yn fy marn i, ac rwy'n credu y byddai hi'n apelio yn fawr at staff i fod â'r galluedd hwnnw, wrth weithio gyda'n cwricwlwm newydd. Ond, yn ogystal â hynny, rydym ni wedi buddsoddi arian yn y gwahanol fwrsariaethau sydd gennym. Mae hynny bob amser yn heriol pan fyddwn yn cael trafferthion gyda chyllid, ond rydym ni wedi dal ati i wneud hynny.
Dim ond gair bach i ddweud fy mod i'n ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar yr ysgolion, a bod ganddyn nhw ystod enfawr o broblemau cymdeithasol yn dod i mewn i'r ystafell ddosbarth, a bod heriau o ran ymddygiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at drais; fe wnes i gwrdd â'r cyngor partneriaeth ysgolion y bore yma ac fe gawsom ni drafodaeth dda iawn am ymddygiad. Fe fyddaf i'n gwneud ychydig mwy o waith gyda nhw ynglŷn â hynny i sicrhau ein bod ni'n rhoi pob cymorth angenrheidiol yn hynny o beth, nid yn unig trwy bethau fel ein pecyn cymorth ymddygiad newydd, ond wrth ystyried yn fwy cyffredinol yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni'n eu cefnogi nhw. Ac rydym ni wedi siarad o'r blaen am bethau fel cymorth addysg, sy'n darparu cefnogaeth i'w llesiant nhw.
O ran ADY, fe wnaethoch chi fy nghlywed i'n cydnabod yr wythnos diwethaf—rwy'n credu i mi fod yn ddi-flewyn-ar-dafod gyda'r pwyllgor—yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth Tom heddiw fy mod i wedi ymrwymo yn wirioneddol i gyflymu'r gwaith hwnnw'n gyflym iawn a fy mod i'n hapus iawn i gyflwyno diweddariadau pellach. Mae swyddogion yn gweithio gyda mi ar gynllun ar hyn o bryd i ddatblygu'r ddau faes hynny o waith, ac fe fyddaf i'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf eto maes o law.
O ran y cwricwlwm newydd, fe wnes i siarad yn y pwyllgor am sgaffaldiau. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad llafar i'r Senedd ym mis Gorffennaf, sef yr adroddiad blynyddol ar y cwricwlwm newydd, ac fe fyddaf i'n nodi mwy o fanylion bryd hynny. Ond yr hyn a eglurwyd i mi o'r sgyrsiau a gefais i ac mae swyddogion wedi bod yn eu cael nhw yw y byddai ysgolion yn hoffi dysgu proffesiynol sy'n fwy cenedlaethol ar gyfer dylunio'r cwricwlwm, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen cynllun treialu dylunio'r cwricwlwm. Felly, rydym ni'n mireinio hyn ac yn ehangu argaeledd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, a fydd ar gael o'r hydref. Fe hoffen nhw gael manylder mwy uniongyrchol o sut wedd sydd ar gynnydd i helpu ysgolion i ddeall disgwyliadau ar wahanol gyfnodau. Fe hoffen nhw fod â rhai enghreifftiau o gynnwys y cwricwlwm, pa bynciau a chyd-destun y gellid eu datblygu ar draws y cwricwlwm. Ystyr hyn yw dod â'r cwricwlwm yn fyw i ysgolion.
Rydym ni'n edrych ar dempledi i gefnogi'r ysgolion a chynllunio'r athrawon, ar gyfer cynllunio cwricwla ac asesu'r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud fel ei gilydd, a chynnig cefnogaeth well i ysgolion wrth feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd y dysgwyr, ar gyfer codi safonau'r gwerthusiadau cynnydd ar draws ysgolion a chaniatáu cyfradd fwy cyson o her ar draws cwricwla'r ysgolion. Ond mae'n rhaid i mi fod yn eglur bod rhai ysgolion yn hedfan gyda'r cwricwlwm, ac nid ydym ni'n dymuno atal yr ysgolion sy'n gwneud yn wirioneddol dda iawn yn hynny o beth; ystyr hyn yw cefnogi'r rhai sydd ag angen ychydig o gymorth ychwanegol gyda'r hyn y maen nhw'n ei wneud.
Roeddech chi'n cyfeirio at adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo: fe wnes i gyfarfod â'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo ychydig wythnosau yn ôl i siarad am ei gynlluniau, ei adolygiad o lwybr graddedigion, yr oeddwn i mor bryderus yn ei gylch. Fe ddywedais i'n eglur iawn iddyn nhw y byddai cyfyngiadau pellach fel hyn yn niweidiol iawn i addysg uwch yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi argymell peidio â gwneud newidiadau pellach i hynny, ac fe fyddaf i'n cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i'w hannog i wrando ar yr adolygiad. Mae hwn yn bolisi arall y maen nhw wedi ei ddatblygu ar frys, ac nid yw honno'n ffordd dda o lunio polisi. Fe wn i o'r trafodaethau a gefais â'r prifysgolion pa mor bryderus ydyn nhw ynglŷn â'r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o dramor, felly mae taer angen i ni flaenoriaethu hynny.
A dim ond gair wrth gloi i ddweud fy mod i'n hapus iawn naill ai i chi ysgrifennu ataf i neu pe byddech chi'n dymuno eistedd i lawr i drafod i ganiatáu mwy o amser i wneud hynny. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaethoch chi brynhawn heddiw yn fawr iawn, Gweinidog. Mae yna ddau gwestiwn yr hoffwn eu codi gyda chi'r prynhawn yma. Yn gyntaf i gyd, o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rydych chi siŵr o fod yn cofio mai myfi oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth i ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Rwy'n credu bod tua phump neu chwe blynedd wedi mynd heibio ers i ni wynebu ein gilydd dros fwrdd y pwyllgor. Mae hi'n deg dweud fy mod i'n eithaf siomedig â'r ffordd y cafodd hyn ei gyflawni oddi ar hynny, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi'r cyfle i drafod gyda chi, Gweinidog, pam mae hi wedi cymryd cyhyd i gyflawni rhai o'r pethau hyn yn briodol a sicrhau bod anghenion disgyblion a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu yn y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth yn ei rhagweld.
Mae'r ail fater yn ymwneud â Blaenau Gwent. Rydych chi'n ymwybodol fod penaethiaid o bob rhan o'r fwrdeistref ynghyd â siroedd eraill yng Nghymru wedi ysgrifennu at bob rhiant yn sôn am effaith cyni ar yr ysgolion a'r effaith y mae cyllidebau gostyngol yn ei chael ar allu'r ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm, a hefyd am gyfoeth y profiad addysgol i ddisgyblion yn y fwrdeistref ac mewn mannau eraill. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem ni gyfarfod i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod ein plant ni i gyd yn cael y profiad addysgol cyfoethog y mae gan bob un yr hawl i'w ddisgwyl a sut y gallwn ni sicrhau y bydd pob plentyn yn gallu ymgyrraedd â'i botensial yn ei gyfanrwydd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Yn wir, rwy'n cofio pan wnaethoch chi ddwyn y ddeddfwriaeth drwodd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gofio mai diwygiad cymhleth yw hwn, system o ddim hyd 25 sy'n darparu cynllun unedig ar gyfer plant a phobl ifanc, yn hytrach na'r system anghenion addysgol arbennig lle roedd gennym ni'r tair haen hynny o gefnogaeth. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom ni hyn o gam i gam, gan symud gwahanol grwpiau o ddysgwyr o AAA i'r system ADY newydd, ac rwyf i o'r farn mai dyna'r peth cymwys i'w wneud. Mae hi'n bwysig inni wneud pethau yn iawn, ac fel clywsoch chi fi'n dweud heddiw, mae yna rai heriau o ran gweithredu'r ddeddfwriaeth gyda chysondeb ac mae datrys hynny'n flaenoriaeth i mi.
O ran y materion y gwnaethoch chi eu codi am benaethiaid ym Mlaenau Gwent, yn amlwg, cyni yw achos hynny, fel roeddech chi'n gywir i'w nodi. Fe hoffwn i ddweud fy mod i wir yn cydnabod y pwysau sydd ar yr ysgolion a pha mor anodd yw hi ar hyn o bryd. Mae ein cyllideb ni yn Llywodraeth Cymru £700 miliwn yn llai yn ei werth na'r hyn ydoedd ar adeg yr adolygiad gwariant diwethaf. Roedd gennym ni rownd gyllideb anodd iawn pryd gwnaethpwyd y penderfyniad i flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag ysgolion trwy lywodraeth leol. Felly, fe wnaethom ni godi'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer yr ysgolion. Yn ogystal â hynny, £379 miliwn oedd yr arian a roddwyd i mewn i grant addysg yr awdurdodau lleol, felly fe wnaethom ni ein gorau, hyd yn oed yn y sefyllfa ariannol anodd iawn yr ydym ni ynddi, i amddiffyn y cyllid hwnnw. Ond nid wyf i'n dymuno rhoi unrhyw argraff nad wyf i'n cydnabod pa mor heriol yw hi ar yr ysgolion, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r ysgolion ac awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw i gyd yn gweithio gyda'i gilydd hefyd trwy'r fforymau cyllideb. Ond rwy'n hapus iawn i gynnal trafodaeth arall gyda chi ynglŷn â hynny.
Mae tlodi plant yn bodoli ym mhob cwr o Gymru, ac mae'n peri niwed difrifol a chydol oes i ddyfodol ein cenedl. Fe wyddom ni fod tlodi ag effaith enfawr ar ddysgu. Mae plant mewn tlodi yn fwy tebygol o dangyflawni, a bod ar eu colled o ran gweithgareddau allgyrsiol a chael eu bwlio yn yr ysgol. Roedd hi'n siomedig na chlywsom ni unrhyw gyfeiriad at leihau costau'r diwrnod ysgol yn eich rhestr chi o flaenoriaethau, oherwydd, Ysgrifennydd Cabinet, mae yna newidiadau heb gost a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Er enghraifft, er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar wisgoedd sy'n ymdrin â materion o ran fforddiadwyedd, yr unig ofyniad yw rhoi sylw i anghenion plant o gefndiroedd difreintiedig. Yn ôl Plant yng Nghymru, roedd 79 y cant o'r rhai a ymatebodd i'w harolwg diweddaraf yn dweud eu bod nhw'n dal i orfod gwisgo bathodyn ysgol neu logo, er gwaethaf y canllawiau—79 y cant—ac maen nhw'n dweud y byddai diddymu logos yn rhoi £75 ar gyfartaledd yn ôl yng nghyllidebau teuluoedd. Fe fyddai gwahardd diwrnodau heb wisg ysgol yn mynd i'r afael â bwlio ac absenoldebau sy'n gysylltiedig â thlodi. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi ystyried gweithredu'r ddau gam syml hyn felly, a pha fesurau newydd pellach a ydych chi'n eu hystyried i liniaru effaith cost y diwrnod ysgol ar y bwlch cyrhaeddiad cynyddol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Sioned, am y pwyntiau pwysig iawn yna. Yn amlwg, ychydig iawn o amser a oedd gennyf i yn y datganiad, ac fe geisiais i ymdrin â chymaint â phosibl, ond rwy'n cydnabod pa mor hanfodol yw'r cysylltiadau hynny rhwng tlodi a phrofiadau plant yn yr ysgol, ac mae cost y diwrnod ysgol yn hynod bwysig. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cydnabod, drwy'r gwaith a wnaethoch chi gyda ninnau, bod darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, a gyflwynwyd yn effeithiol iawn, yn rhoi arian yng nghyllidebau teuluoedd sydd dan bwysau. Mae'r grant hanfodion ysgol gennym ni, ac mae hwnnw ar wahân i'r holl ddulliau academaidd sydd gennym ni ar waith i geisio mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw o ran cyrhaeddiad.
Diolch i chi am godi'r canllawiau o ran gwisg ysgol. Mae hwn yn fater yr wyf i'n teimlo yn gryf iawn amdano fel gwnes i erioed. Rwy'n gwybod bod Plant yng Nghymru yn gwneud gwaith pwysig iawn ar hyn a'u bod nhw'n gweithio gyda theuluoedd ynghylch effaith tlodi. Nid oeddwn i wedi gweld y ffigur yna am y bathodynnau; rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth pwysig iawn. Rwyf i am fynd ar ôl hynny gyda Plant yng Nghymru ac ystyried unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud yn y cyswllt hwnnw. Rydych chi'n ymwybodol bod ysgolion wedi mynegi i ni eu bod nhw o'r farn fod gwisg yn bwysig, a'i bod yn ymwneud â pherthynas, sy'n gwbl ddealladwy. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pob ysgol yn meddwl o ddifrif am effaith y wisg ar gyllidebau aelwydydd. Ac os yw plant eraill unrhyw beth tebyg i fy mab i fy hun—. Roeddwn i'n cadw'r siop gwisgoedd ysgol mewn busnes, oherwydd roedd ef yn arfer colli rhywbeth bob wythnos bron—
Ond roeddech chi'n gallu fforddio pethau newydd yn eu lle nhw.
Oeddwn, yn sicr. Rwy'n cydnabod hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cymryd y peth o ddifrif; rwyf i am fynd ag ef ac ystyried beth arall y gallem ni ei wneud. Yn amlwg, fe wnaeth fy rhagflaenydd i adolygu'r canllawiau, ond rwy'n deall eich pryderon chi ynghylch faint o weithredu sydd ar hynny. Yn bersonol, rwyf i o'r farn fod hyn yn bwysig iawn; nid wyf i'n dymuno i unrhyw blentyn deimlo effaith gwarthnod yn yr ystafell ddosbarth.
Llongyfarchiadau, Gweinidog. A minnau wedi bod yn Weinidog iechyd y cyhoedd, fe wn i eich bod chi'n ymwybodol o faint her gordewdra, ac mae'r strategaethau a ddefnyddiwyd gennych chi i godi'r niferoedd o deuluoedd a fydd â hawl i gael talebau bwyta'n iach yn golygu fy mod i'n gwbl hyderus y byddwch chi'n gadael eich ôl ar y portffolio hwn.
Rydych chi'n deall o'r gorau fod gordewdra yn her enfawr, yn enwedig y ffaith sobreiddiol fod chwech o bob 10 plentyn yn cyrraedd yr ysgol, yn bump oed, dros bwysau, a hanner y rhain yn ordew. O ran ein buddsoddiad pwysig mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, rwy'n credu bod y gyfradd sy'n eu cael nhw oddeutu 70 y cant. Pa sgyrsiau a fyddwch chi'n eu cael gyda phenaethiaid i geisio ymwreiddio yn y cwricwlwm y neges i blant dyfu, blasu a choginio'r bwyd a fydd yn eu helpu nhw i dyfu a ffynnu?
Ac yn ail, o ran yr ysgolion uwchradd, sut ydych chi am ymdrin â'r prinder difrifol iawn o fyfyrwyr mewn pynciau STEM a'r ffordd y mae ysgolion uwchradd yn gorfod cymhwyso cystadleuaeth trechaf treisied, gwannaf gwaedded wrth geisio cael athrawon mathemateg, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, pan fyddo hi, heb yr arbenigeddau hyn, yn amhosibl i'r plentyn gael yr hyn y mae ganddo hawl iddo? Mae'r mater hwn yn wirioneddol anfad ac yn un yr wyf i'n gobeithio y bydd gennych chi amser i feddwl am ddatrysiad iddo.
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n frwdfrydig iawn am fynd i'r afael â gordewdra ac rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd i mi gysylltu'r gwaith a wnes i yn fy swydd flaenorol gyda'r Gweinidog iechyd, sydd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am hynny erbyn hyn.
Mae'r ystadegau yr oeddech chi'n tynnu sylw atyn nhw'n rhai cignoeth iawn. Fel dywedais i, mae cyflwyno cyffredinol prydau ysgol am ddim wedi mynd yn dda iawn. Rwy'n credu bod y ffigurau ymhell dros 70 y cant erbyn hyn, ond fe fydd angen i mi wirio hynny. Rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol heblaw am dri wedi ei weithredu yn ei gyfanrwydd ac fe fydd y tri arall yn ei weithredu erbyn mis Medi, sy'n newyddion da iawn. Ond mae hwnnw'n fuddsoddiad enfawr ac mae'n rhaid i ni gael y gwerth gorau am ein harian o ran iechyd yn hyn o beth. Dyna un o'r rhesymau pam mai un o'r pethau y byddwn ni'n eu gwneud yw adolygu'r rheoliadau o ran bwyd iach i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn cael pryd o fwyd iach ar yr un pryd. Felly, mae rhywfaint o waith i'w wneud eto ynglŷn â hyn, ac mae swyddogion yn gweithio ar hynny.
Fe wnaethoch chi eich pwynt ynglŷn â phynciau STEM yn dda iawn ac, fel gwyddoch chi, mae gennym ni brinder o athrawon STEM hefyd, sy'n amlwg yn fater hanfodol y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Ac mae'r bwrsariaethau y soniais i amdanyn nhw mewn ateb arall ar gael hefyd i bobl sy'n dewis astudio pynciau STEM. Felly, rydym ni'n gwneud y cyfan a allwn i geisio mynd i'r afael â'r prinderau hynny.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am nodi eich blaenoriaethau. Nawr, fe wyddom ni fod Cymru yn wynebu bwlch sgiliau sylweddol—mater a amlygwyd yn arolwg cyflogwyr 2022 Llywodraeth Cymru ei hunan, a mater sy'n gwaethygu gydag amser. Nawr, yr hyn yr oeddwn i'n ofidus amdano, yn rhan o'r datganiad hwnnw, yw nad oes unrhyw ddogfen yn nodi strategaeth addysg a sgiliau ôl-orfodol y Llywodraeth gyda manylder—rhywbeth a fyddai o fantais wirioneddol, nid yn unig i rai sy'n gadael addysg, ond i rai a fyddai'n ceisio trosglwyddo i sector arall o'r economi yn nes ymlaen yn eu bywydau hefyd. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu a allwn ni ddisgwyl cynllun sgiliau mwy eglur gan y Llywodraeth hon, a pha swyddogaeth fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn gyfochrog â chi yn nyluniad y cynllun hwnnw?
Diolch yn fawr iawn i chi, Luke, ac fe wn i eich bod chi'n frwdfrydig iawn ynglŷn â'r maes hwn. Rwy'n siŵr na fyddech chi wedi disgwyl i mi nodi'r manylion i gyd yn y datganiad. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn mai un o'r materion yr wyf i'n pryderu fwyaf amdano yw ein cyfraddau cyfranogiad ôl-16, nad ydyn nhw'n cymharu yn dda iawn â gweddill y DU. Mae bod â pharch cyfartal, gan adeiladu sylfaen sgiliau yn hanfodol. Mae gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau ein bod ni'n gallu cyfateb â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn hanfodol hefyd, ac fe fyddaf i'n gweithio yn agos iawn gyda Jeremy Miles yn hyn o beth. Yn amlwg, mae cyfran o'r gwaith hwn yn perthyn i'w bortffolio ef. Mae'r comisiwn newydd yn rhoi cyfle da iawn hefyd i fod â darlun mwy cydlynol o hyn, a sicrhau cydweithio gwirioneddol ar gyfer gwneud hyn yn iawn.
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ar ran Islwyn, a gaf i eich croesawu chi i'ch swydd yn gyntaf i gyd, a mynegi fy ngwerthfawrogiad i ar goedd am i chi ymweld ag Islwyn ar un o'ch ymweliadau cyntaf yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac am i chi agor eich clustiau wrth ystyried yr heriau a'r blaenoriaethau sylweddol sydd o'n blaenau ni hefyd? Roedd hi'n hyfryd eich croesawu chi i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon ar ei hagoriad swyddogol yng Nghwmcarn—ysgol o oes Fictoria yr aeth fy mhlentyn i fy hunan iddi hi.
Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd ynghylch buddsoddiad cyfalaf yn adeiladau ein hysgolion drwy brinder o fuddsoddiad cyfalaf i Gymru, gan drawsnewid, drwy ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yr ysgol Gymraeg newydd, er enghraifft, yng Nghwmcarn, drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ac rwy'n croesawu'r cyfleusterau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn fawr a gafodd eu cynnwys yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf o £20 miliwn arall i ysgolion ar gyfer gwella cyfleusterau dysgu ychwanegol.
Felly, wedi COVID, ac mewn cyfnod o'r hyn a elwir yn gyni, a wnewch chi amlinellu, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, sut wnaiff y buddsoddiad hwn helpu i gyflawni eich blaenoriaethau cyffredinol chi o welliant parhaus o ran cyraeddiadau addysgol, a'ch blaenoriaethau penodol wrth gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? Ac a wnewch chi roi sylwadau hefyd, os gallwch chi, yn y fan hon ar y cyhoeddiad disymwth y bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cau ei adran iau yn fuan iawn—y biblinell rhagoriaeth, sy'n enwog am ei thegwch a'i mynediad i bawb, a lle'r aeth myfyriwr i mi a oedd ag amhariad ar ei olwg a dod yn ei flaen yn ardderchog?
Diolch yn fawr iawn i chi, Rhianon. Roedd hi'n bleser mawr bod yn eich etholaeth chi ar gyfer agor yr ysgol hyfryd honno—gwych iawn gweld ffrwyth y buddsoddiad enfawr hwnnw. Ac rydym ni wedi buddsoddi ymhell dros £2 biliwn yn adeiladau ein hysgolion yng Nghymru, ac mae hynny'n cymharu yn ffafriol iawn â'r dewisiadau a wneir dros y ffin.
Fel y gwnaethoch chi dynnu sylw ato, fe gyhoeddais i £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cyllid cyfalaf ADY yr wythnos diwethaf. Mater i awdurdodau lleol ac ysgolion fydd cynllunio gwariant mewn partneriaeth â ni. Pan es i i wneud y cyhoeddiad yn Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant yn Y Barri, roeddwn i'n gallu gweld yr uned newydd yr oedden nhw wedi ei sefydlu yno. Fe fydd gan ysgolion anghenion amrywiol, mewn gwirionedd. Fe allai hynny fod am unedau neilltuol. Fe allai hynny fod am offer neu unrhyw beth arall. Felly, rwyf i o'r farn mai ymateb i anghenion lleol yw ystyr hyn i raddau helaeth iawn.
O ran cyhoeddiad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi? Rwyf i wir yn cydnabod pa mor anodd yw'r pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac yn cydnabod y gwaith pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n gwybod bod cynlluniau ganddyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n gallu parhau â gwaith gwerthfawr iawn gyda phlant a phobl ifanc, ac rwyf i wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny. Fel gwyddoch chi, rydym wedi ymrwymo yn y Llywodraeth i sicrhau y bydd plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd cerddorol hynny—ac rydych chi wedi bod yn hyrwyddo'r gwaith hwnnw'n fawr iawn—mae ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gwerth £13 miliwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn cael cyfle i ganu offeryn cerdd, canu a chreu cerddoriaeth. Ac rwy'n wirioneddol ymrwymedig i sicrhau y bydd y gwaith hwnnw'n parhau.
Ac yn olaf, Adam Price.
Gwnaeth fy nghyd-Aelod Heledd Fychan sôn am drais corfforol a meddyliol a geiriol mewn ysgolion. Roedd angen i hynny fod yn flaenoriaeth, rwy'n credu, ymdrin â hynny, cyn y digwyddiad erchyll yn Ysgol Dyffryn Aman, ond mae hyd yn oed mwy o frys i wneud hynny nawr. Dyna pam y cefais i fy synnu, fy nigio a fy siomi a dweud y gwir, pan wnes i, ar ôl cael sgwrs â'r staff yn yr ysgol, alw am adolygiad cenedlaethol o ddiogelwch ysgolion, ac ymateb llefarydd Llywodraeth Cymru oedd nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer adolygiad o'r fath. Mae'r staff, y myfyrwyr a rhieni Ysgol Dyffryn Aman—maen nhw'n disgwyl yr adolygiad hwnnw, maen nhw'n haeddu'r adolygiad hwnnw, ac mae hynny'n wir am gymunedau ysgolion ledled Cymru. Mae creithiau corfforol a meddyliol y digwyddiad hwnnw'n ddigon difrifol, ond gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth, ac oni bai ein bod ni'n cynnal yr adolygiad cenedlaethol hwnnw, rwy'n ofni'r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Fe ysgrifennais i at eich rhagflaenydd am bryderon yr oedd gan yr ysgol o ran polisïau yn y maes hwn cyn y digwyddiad, ac efallai yr hoffech chi edrych ar yr ohebiaeth honno ac, yn wir, gohebiaeth rhwng rhai o arweinwyr yr ysgol a'ch swyddogion chi, cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ond rwy'n eich annog chi, Ysgrifennydd Cabinet, mae cymunedau ysgolion angen yr adolygiad cenedlaethol hwn o ddiogelwch ysgolion.
Diolch yn fawr iawn, Adam. A gaf i ddweud eto faint rwy'n canmol y ffordd y gwnaeth Ysgol Dyffryn Aman a'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys lleol ymateb i'r sefyllfa hynod anodd honno? Rwyf wir yn cydnabod yr effaith y bydd hynny wedi'i chael ar bawb dan sylw, ac y bydd hynny'n effaith hirdymor, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod ni, fel Llywodraeth, yno i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw wedi rhoi pecyn cymorth cynhwysfawr iawn ar waith beth bynnag, ar gyfer cymuned yr ysgol, ond rwyf wedi bod yn glir, os oes angen mwy arnyn nhw, y byddwn ni'n darparu hynny ar eu cyfer.
Rwy'n credu fy mod i'n ymwybodol o'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano, er nad wyf wedi gweld y llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd fe wnaeth rhywun yn yr ysgol godi rhai pryderon gyda mi yn ddiweddar, am rai agweddau ar bolisi ynghylch gwahardd. Felly, rwy'n edrych ar hynny. Ac rwyf hefyd wedi dweud y byddwn ni'n dysgu'r gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yno. Mae'n bwysig iawn bod—. Yn amlwg, mae hyn yn destun ymchwiliad troseddol nawr. Mae'n rhaid ei drin yn sensitif, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd gwersi i'w dysgu ohono. A phan yr ydych chi'n sôn am adolygiad cenedlaethol o bolisi, roeddwn i gyda'n partneriaid undebau llafur a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma; maen nhw i gyd yn edrych ar eu polisïau ar gyfer digwyddiadau critigol, yn gwirio eu bod nhw'n gweithio, yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gyfredol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n digwydd. Ac fe wnes i'r ymrwymiad y bore yma i'n partneriaid undebau llafur fy mod i'n cymryd y gwaith hwn o ddifrif, o ran y cymorth hwnnw yr ydym yn ei roi ar waith, i sicrhau bod ysgolion yn lleoedd diogel, cefnogol, i staff ysgolion ac i bobl ifanc.
Rydych chi'n gwybod eich hun, Adam, fod y materion sy'n ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion yn gymhleth iawn. Mae yna faterion cymdeithasol sy'n dod i mewn i'r ysgol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydgysylltu pethau fel y gwaith rydyn ni'n ei wneud ar iechyd meddwl gyda'r gwaith hwnnw ar ymddygiad. Ond dim ond i'ch sicrhau chi, rwy'n cymryd hyn o ddifrif. Rydyn ni'n sicrhau bod pob maes yn diweddaru eu polisïau a'u bod yn cael eu hymarfer a phopeth. Felly, nid wyf i'n siŵr iawn sut mae hynny'n wahanol, mewn gwirionedd, i adolygiad cenedlaethol, os mai dyna'r ffordd yr ydych chi'n ei ddisgrifio, oherwydd mae'r gwaith hwnnw'n digwydd. Mae pawb wedi cymryd yr hyn sydd wedi digwydd o ddifrif. Ychydig ddyddiau wedi'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman, cafodd ysgol ei rhoi dan glo ym Mlaenau Gwent hefyd, yn dilyn digwyddiad yno. Felly, wyddoch chi, mae hyn yn bennaf yn ein meddyliau i gyd, felly dim ond i roi'r sicrwydd hwnnw i chi.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Diolch yn fawr.