– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Mai 2024.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar Tata Steel. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ailgylchu? Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynllun ailgylchu symlach yr wythnos diwethaf, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol ac eraill i gymryd agwedd wahanol tuag at ailgylchu, sy'n galluogi i'r holl wastraff ailgylchadwy sych gael eu cymysgu. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o hyd yn sir Ddinbych—rhan o fy etholaeth i—lle gall yr holl wastraff ailgylchadwy sych fynd i mewn i un bin. Mae'n syml iawn, mae'n hawdd i'r cyhoedd ei ddeall, ac mae'n atal yr holl finiau anniben a welwn y tu allan i gartrefi llawer o bobl, ar lawer o strydoedd, ac yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gennych ddwysedd uchel o boblogaeth mewn fflatiau. Yn ogystal â hynny, maent yn ymestyn y cyfle i fusnesau ddilyn y llwybr hwnnw, fel y mae llawer o fusnesau eisoes yn ei wneud yng Nghymru. Nawr, roedd gan sir Ddinbych gyfraddau ailgylchu—gan ddefnyddio'r system honno—o 66 y cant yn y flwyddyn 2022-23. Mae hynny'n uwch na Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful a llu o awdurdodau lleol eraill y mae'n ofynnol iddynt wahanu eu hailgylchu wrth ymyl y ffordd. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ceisio symleiddio'r system ailgylchu ledled Cymru, fel y gall cartrefi a busnesau gymysgu eu gwastraff ailgylchadwy sych, gan ddal i gyflawni cyfraddau ailgylchu uchel iawn ledled y wlad, ond mewn ffordd llawer symlach iddynt allu ei defnyddio?
Diolch am y cwestiwn pwysig yna. Mae hwn yn gwestiwn lle rwy'n falch iawn o gydnabod—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwneud, fel yr ydych wedi ei wneud, Darren—llwyddiant ysgubol Cymru, wrth gwrs, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, ond o ganlyniad i'r holl waith partneriaeth gyda'n hawdurdodau lleol, ac, yn wir, ein cymunedau a'n dinasyddion. Felly, rydym ar frig cynghrair y byd o ran cyfraddau ailgylchu. Ac, wrth gwrs, mae hynny wedi golygu bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cymryd camau gweithredu. Yn fy etholaeth i, nid ydym yn cymysgu'r gwastraff ailgylchadwy, ac mae'r cyfan yn gweithio'n dda iawn ac yn effeithiol iawn hefyd. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod ein bod ni wedi gwneud nid yn unig cynnydd gwych—rydyn ni wedi bod yn arweinwyr o ran ailgylchu yng Nghymru—ond hefyd, yn amlwg, mae eraill wedi dysgu gennym ni, a dyna lle gallwn ni ddysgu o unrhyw ddatblygiadau, ond rwy'n credu mai dysgu oddi wrthym ni yw'r ffordd mae wedi digwydd gydag ailgylchu.
Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi yn sgil y cyhoeddiad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fod ei rhaglen gwersi actio a cherddoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn debygol o ddod i ben oherwydd y sefyllfa gyllidol yn y coleg. Mae sôn yn y datganiad gan y coleg am gydweithio â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ar gynlluniau amgen, ond does dim manylion pellach o ran hynny.
Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad llafar neu ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol o ran y cyhoeddiad hwn, ac unrhyw drafodaethau mae hi wedi eu cael gyda'r coleg. Gyda gymaint o blant a phobl ifanc wedi'u heffeithio—nifer ohonyn nhw'n derbyn bwrsariaeth—mae hyn yn rhywbeth a allai gael effaith andwyol arnyn nhw a'u datblygiad fel cerddorion ac actorion i'r dyfodol.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r cyhoeddiad diweddar hwn a'r ymgynghoriad ar gynigion i roi terfyn ar rywfaint o'r ddarpariaeth gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o ran gweithio gyda phobl ifanc, a allai effeithio ar ddarpariaeth dosbarthiadau cerdd dydd Sadwrn, a hefyd i gydnabod bod angen i ni edrych ar hyn yng nghyd-destun ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd mewn cerddoriaeth i bobl ifanc ac i greu llwybrau i hyfforddiant proffesiynol, a bydd yn parhau i ddarparu nifer o feysydd gwaith prosiect, gan gynnwys gweithdai ymgolli ar benwythnosau mewn cerddoriaeth, preswylfa Cerddorfa Ieuenctid Agored a chyrsiau gwyliau.
Ond rwy'n credu, fel y dywedais i, ei fod hefyd yn cydnabod bod yn rhaid iddo gyd-fynd â'n cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i chwarae offeryn. Ac mae'n sefydliad partner allweddol ar gyfer ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, o ran model y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ac, wrth gwrs, pennaeth y coleg yw cadeirydd bwrdd cynghori'r gwasanaeth. Felly, yn amlwg, mae'n gorff ymreolaethol, annibynnol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n gwneud ei benderfyniadau ei hun, ond, wrth gwrs, rydym wedyn yn gweithio gyda'n gilydd i weld ffyrdd y gallant ganolbwyntio ar y cysylltiadau hynny â'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddorol a'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol.
Trefnydd, rwy'n gofyn unwaith eto am ddatganiad brys, ond, y tro hwn, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghylch y sefyllfa barhaus ar safle tirlenwi Withyhedge. Nawr, clywais ymateb y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid yn gynharach, ac ni wnaeth ei atebion fy llenwi â hyder o gwbl. Nawr, brynhawn Gwener, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatganiad, gan ddweud y gallai arogleuon ac allyriadau o'r safle fod yn niweidiol i iechyd pobl gan gynghori pobl i ofyn am gyngor meddygol, sy'n rhywbeth y mae fy etholwyr a minnau wedi ei amau ar hyd yr amser. Lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod hyd yn hyn? Mae problem wedi bod ar safle tirlenwi Withyhedge ers misoedd, a nawr mae'n edrych yn fwyfwy tebygol bod y gymuned wedi bod yn agored i allyriadau gwenwynig. Rwyf wedi sefyll i fyny yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos i godi hyn ar ran fy etholwyr, ac ychydig iawn o gefnogaeth a gafwyd gan y Llywodraeth hon. Wel, digon yw digon. Ni all Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru sefyll yn ôl a golchi eu dwylo o hyn. Rhaid cael datganiad brys yn amlinellu'n union beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gefnogi'r gymuned ac atal y gweithredwr peryglus hwn rhag niweidio pobl hyd yn oed ymhellach.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Rydych chi wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y datganiad busnes, ac, yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog yn llawn i arweinydd yr wrthblaid. Rydym yn cydnabod ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i ddatganiad yr wythnos diwethaf, ac, yn bwysicaf oll, yn cydnabod y pryder ymhlith y gymuned leol a'r angen am y gweithredu cyflym hwnnw, oherwydd, ac fe'i disgrifiwyd yn fanwl, yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r gymuned honno a'r bobl sy'n byw wrth ei ymyl. Nawr, byddwch yn ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu eu presenoldeb ar y safle; maen nhw'n parhau i ddiweddaru'r gymuned trwy eu gwefan wrth i weithgareddau fynd yn eu blaen. Cyflwynwyd hysbysiadau gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi, sy'n gorfod gorchuddio yr holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianyddol tirlenwi i gynnwys a chasglu nwy tirlenwi. Dyna'r canlyniad pwysig yr ydym yn chwilio amdano. Ac os bydd y gweithredwr tirlenwi yn methu â chydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd CNC yn cymryd camau gorfodi priodol, yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn. Felly, unwaith eto, gallaf sicrhau'r Aelod, a'r Siambr, fod CNC yn ymateb, fel blaenoriaeth, i ddatrys y mater, ac rydym yn annog trigolion, ac, yn wir, cynrychiolwyr etholedig, i barhau i adrodd am unrhyw achosion o arogleuon iddynt, oherwydd bod hynny, mewn gwirionedd, yn helpu i lywio effeithiolrwydd y camau i fynd i'r afael â'r mater hwn o weithgarwch ar y safle gan CNC.
Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyflwr pryderus rhestrau aros deintyddiaeth ledled Cymru. Newyddion da gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o ran plant sy'n aros am ddeintydd GIG: bu gwelliant sylweddol. Mae'r ffigurau bellach yn 84 o blant yn aros am ddeintydd GIG yn unig, ond mae'n rhaid i ni gofio bod hynny'n dal i fod yn 84 o blant. Ond mae nifer yr oedolion ym Mhowys sy'n aros am ddeintydd GIG yn 4,200, sy'n nifer syfrdanol. Un o'r problemau yw'r diffyg data canolog hwn a rhestr aros ganolog yng Nghymru. Pan godais y mater hwn yn gyntaf gyda'r Prif Weinidog, cyfaddefodd y bu oedi cyn cyflwyno'r rhestr aros gyfunol genedlaethol hon, ond heb ddarparu unrhyw amserlen. Felly, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni syniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch pryd y byddai gennym restr aros ganolog ar gyfer deintyddion y GIG yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae hyn yn bwysig, ac mae'n ddefnyddiol eich bod wedi cydnabod bod camau wedi'u cymryd, ac rydym yn gweld gwasanaethau deintyddol ar gael i blant, gan leihau'r rhestrau aros hynny, a dyna lle rydym yn gwybod y bydd y flaenoriaeth o ran diwallu anghenion plant. Ond, wrth gwrs, mae yna oedolion hefyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael cysondeb ledled Cymru o ran datblygu gwasanaethau deintyddol. Felly, byddwch yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi comisiynu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddatblygu datrysiad digidol Cymru gyfan, ac mae hyn yn ein harwain at y gobaith hwn o ran rhestrau aros canolog, datrysiad i Gymru gyfan, a bydd yn darparu un ffordd gyson i bobl sy'n dymuno cael mynediad at ofal deintyddol arferol gofrestru eu diddordeb. Roedd prototeip y system i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gallaf gadarnhau bod y system nawr i fod i gael ei phrofi o ganol Gorffennaf gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn eich rhanbarth chi. Felly, bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, unwaith y bydd y prawf wedi'i gwblhau a gwersi a ddysgwyd o'r broses honno wedi'u gweithredu. Ond mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ac, wrth gwrs, bydd o fudd—. Mae'n cael ei brofi ym Mhowys, ond bydd o fudd i Gymru gyfan o ran mynediad at wasanaethau deintyddol.
Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darn a gynhyrchwyd gan S4C ar Y Rhyl yn fy etholaeth i a ddarlledwyd yn ôl ym mis Ebrill. Roedd y darn o raglen deledu o'r enw Hansh, a'r bwriad oedd i wylwyr gael golwg ar, rwy'n dyfynnu, 'byd gwyllt stripwyr', diwedd y dyfyniad. Dechreuodd y darn gyda montage o vox pops wedi'u golygu'n ddetholus, a phobl yn defnyddio iaith anweddus i bardduo a thramwyo'r Rhyl. A dydw i ddim yn Mary Whitehouse o unrhyw fath ac nid wyf yn orlednais o bell ffordd, a does gen i ddim problem gyda phwnc y bennod; yn wir, mae pob diwydiant yn haeddu cynrychiolaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn siomedig y byddai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn dewis portreadu fy etholaeth i fel lle gwael, gan ategu ystrydebau niweidiol am y dref yr ydym ni'n gweithio'n galed i'w newid. Rwy'n gwybod bod S4C yn gorff cyhoeddus annibynnol, wedi'i benodi gan Lywodraeth y DU, ond, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, dylem fod â rhywfaint o lais dros y cynnwys a'r modd y caiff ei redeg, yn enwedig pan fydd y cynnwys yn sarhau'r bobl y mae'n ceisio eu difyrru neu eu haddysgu. [Torri ar draws.] Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar y rhaglen benodol hon ar S4C, ac amlinellu pa sylwadau a wneir i'r sianel ynglŷn â'i chynnwys?
Wel, rwy'n credu, ei fod wedi ei adleisio o amgylch y Siambr, ac, fel y dywedoch chi, mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus annibynnol. Rwy'n credu eich bod wedi mynegi eich barn, ac mae'n debyg eich bod wedi cyfleu eich barn i'r darlledwr cyhoeddus, ac rwy'n credu mai dyna'r llwybr priodol i'w gymryd.
Mae adeilad y Redhouse ym Merthyr Tudful wedi cael ei orfodi i gau ei ddrysau. Byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad yn nodi pwysigrwydd cadw lleoliadau fel hyn ar agor. Mae'r adeilad yn hanfodol bwysig i breswylwyr. Neuadd y dref oedd hi, yn fwy diweddar mae wedi bod yn ganolfan gelfyddydol, ond mae hefyd yn dystiolaeth o orffennol yr ardal. Cafodd ei hadeiladu ar adeg pan oedd Merthyr yn ganolbwynt i ddiwydiant y byd, a'r ardal o'i blaen oedd lleoliad Gwrthryfel Merthyr. Siawns nad oes yna ymyrraeth y gall y Llywodraeth ei wneud yn y fan yma. Cymdeithas dai leol sy'n berchen ar y lleoliad, ond ymddiriedolaeth hamdden sy'n rhedeg y ganolfan gelfyddydau y mae'n ei chartrefu. Mae'n debyg bod oedi wrth drosglwyddo'r busnes oherwydd cwestiynau ynghylch hyfywedd ariannol. Y rheswm yr hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth yw bod rhywbeth tebyg wedi digwydd yn ddiweddar gyda chanolfan gymunedol Aberfan. Nawr, mae dyfodol y lleoliad hwnnw bellach yn edrych yn fwy diogel, yn rhannol, rwy'n credu, oherwydd dicter y cyhoedd. Ond mae pobl y cymoedd hyn yn dal i gael pethau wedi'u cymryd oddi arnyn nhw: eu gwasanaethau, eu hasedau, eu swyddi. Mae swyddi yn y Redhouse mewn perygl ar hyn o bryd. Felly, a all datganiad, os gwelwch yn dda, gydnabod pwysigrwydd cadw'r adeiladau hyn mewn defnydd ar gyfer y gymuned, fel nad ydynt yn troi'n greiriau, nad ydynt ond yn dyst i'r hyn yr oeddem ni'n arfer bod, ond eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer ein dyfodol?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Adeiladau ein treftadaeth ni yw'r rhain, onid ydyn nhw? Ac yn wir, dydw i ddim yn siŵr am yr adeilad penodol hwnnw, ond rwy'n amau ei fod dros y blynyddoedd wedi elwa nid yn unig ar gyllid cyhoeddus drwy'r awdurdod lleol ac, yn wir, Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyllid Ewropeaidd, yr oedd rhaglen enfawr ar ei chyfer ar gyfer adfywio a gwarchod ac adnewyddu'r adeiladau hyn. Ac, wrth gwrs, pan fyddant yn darparu'r gwasanaethau hynny a'r cyfleusterau hynny, fel y cyfleuster celfyddydau yr ydych yn ei ddisgrifio, dyna lle mae'n rhaid diogelu defnydd cymunedol a mynediad at y gwasanaethau hynny, os yw'n bosibl, ond rydym mewn cyfnod ariannol mor anodd o ran cyllid cyhoeddus. Ond, wrth gwrs, mae yna opsiynau trosglwyddo asedau cymunedol. Dydw i ddim yn gwybod faint y mae'r gymuned ac, yn wir, rheolwyr ac ymddiriedolwyr wedi cael gafael ar wasanaethau gan, er enghraifft, y cyngor lleol ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol, ond rwy'n credu y byddai'n dda pe gallech chi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y gellid archwilio pob llwybr ar ran y cyfleuster hwnnw yn eich etholaeth, yn eich rhanbarth.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, os gwelwch yn dda. Ar hyn o bryd mae Opera Cenedlaethol Cymru yng nghanol argyfwng sy'n bygwth ei ddyfodol fel ein sefydliad celfyddydol blaenllaw a'r unig gwmni opera llawn amser yma yng Nghymru. Opera Cenedlaethol Cymru yw'r em yng nghoron Cymru. Dyma'r cyflogwr celfyddydau mwyaf, a grëwyd yn y 1940au gan grŵp o feddygon, glowyr ac athrawon a oedd yn dymuno creu ensemble perfformio a fyddai'n gwireddu ein henw da fel gwlad y gân. Ar hyn o bryd mae Opera Cenedlaethol Cymru yn sefyll ar yr ymyl, ar ôl cael toriadau gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr sy'n cyfateb i 25 y cant o'i chyllideb flynyddol. Mae hyn yn amlwg yn gwbl anghynaladwy. Oni bai y gellir dod o hyd i ragor o gymorth ariannol, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd i gael ei orfodi i wneud ei cherddorfa a'i chorws, calon y cwmni, yn rhan-amser. Mae'n lleihau ei lleoliadau teithiol ac mae eisoes wedi cynnig diswyddo gwirfoddol i weddill y cwmni. Bydd hyn yn arwain at golli sgiliau hanfodol ar draws y sefydliad. Heb fwy o gyllid yn y tymor byr, ni fydd Opera Cenedlaethol Cymru yn gallu parhau i ddarparu cynnig sylweddol o addysg opera ac ymgysylltu â rhaglenni lles, gan ddarparu buddion artistig, cymunedol, addysgol ac iechyd ar draws ein cymunedau ledled Cymru. Bydd ansawdd ac allbwn sefydliad celfyddydau blaenllaw Cymru yn cael eu gwanhau'n ddifrifol yn y DU a thu hwnt. Mae'n hanfodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod i'r Siambr gyda datganiad sy'n ein hysbysu o'i thrafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ac sydd hefyd yn lleddfu'r ofnau presennol ac yn sicrhau nad oes amheuaeth bellach ynghylch dyfodol hirdymor Opera Cenedlaethol Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Codwyd hyn yn y datganiad busnes, yn sicr, yr wythnos diwethaf hefyd. Yn amlwg, codwyd cwestiynau a phryderon cyhoeddus proffil uchel am Opera Cenedlaethol Cymru, rhywbeth yr ydym yn ei drysori'n fawr iawn. Mae sectorau diwylliant a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n llesiant, ac maen nhw'n cyfoethogi ein cymunedau ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn cydnabod, fel Llywodraeth Cymru, werth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sector y celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys opera. Ond, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Gydag egwyddor ariannu hyd braich, roedd yr adolygiad buddsoddi, wrth gwrs, yn fater i Gyngor Celfyddydau Cymru. Nid ydym yn ymyrryd â phenderfyniadau ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly, mae hynny wedi arwain at benderfyniadau anodd iawn o ran cyllid, ond rwy'n nodi bod opera yn derbyn 71 y cant o gyfanswm y gwariant ar y sector cerddoriaeth ar gyfer 2024-25. Ond, wrth gwrs, fel rydych chi wedi'i ddweud, ac fel y cydnabuwyd, mae'r toriad yn y gyllideb gan Gyngor Celfyddydau Lloegr wedi cael effaith andwyol hefyd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith o ran cyfleoedd teithiol i Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni ystyried yr hyn sy'n dod i'r amlwg. Wrth gwrs, mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymgysylltu â'i rôl, ac yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni edrych ar y sefyllfa wirioneddol enbyd yr ydym ynddi o ran cyllid—hyd at £700 miliwn yn llai yng Nghymru mewn termau real, yn ein cyllideb, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU sydd wedi golygu bod y penderfyniadau anodd iawn hyn wedi digwydd.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn amlinellu camau i ymdrin â'r cynnydd diweddar mewn achosion o'r pas. Ar hyn o bryd, rydym yn profi blwyddyn frig ar gyfer yr haint, a rhai o'r cyfraddau uchaf yn achosi pryder mewn babanod o dan dri mis oed, sy'n grŵp arbennig o agored i niwed, ac yn anffodus mae pump o'r babanod hynny wedi marw o ganlyniad i'r haint hyd yma eleni. Dangosodd data diweddar a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod dros 1,300 o achosion wedi'u cadarnhau ym mis Mawrth yn unig, sy'n peri pryder mawr. Gwyddom fod rhai o'r achosion hyn yn gysylltiedig â llai o blant yn derbyn eu brechlynnau. Yn wir, dim ond 93 y cant o blant sydd wedi derbyn eu brechiadau 6-mewn-1 hyd yn hyn. Rwy'n credu y byddai'n bwysig i'r Senedd hon dderbyn diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar niferoedd y pas a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ostwng unrhyw gynnydd yn y niferoedd hynny a sicrhau bod mesurau ataliol ar waith er mwyn amddiffyn pobl, ac yn enwedig babanod, yma yng Nghymru.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, sef ein bod ni'n annog pobl i gael eu brechu. Ac mewn gwirionedd, rydych chi wedi gwneud hynny'n effeithiol iawn y prynhawn yma. Fe gyfeiriodd ef at yr achosion o'r frech goch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r achos unigol hwnnw yn y gogledd, sy'n amlygu bod rhaid i ni feithrin ymwybyddiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n cael eu brechiadau. Ac, o ran y pas, nid oes unrhyw fanylion gennyf i ynglŷn â chyffredinrwydd nac ymddangosiad y pas o ran niferoedd yr achosion, ond yn sicr fe fyddaf i'n dwyn hynny i sylw'r Ysgrifennydd Cabinet. Ond, unwaith eto, diolch i chi am godi ymwybyddiaeth y prynhawn yma wrth godi'r cwestiwn hwn.
Diolch i'r Trefnydd.