Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Mai 2024.
Diolch am y cwestiwn. Rwyf i wedi penodi Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, a dylwn nodi ei bod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos hon. Mae portffolio Jayne Bryant hefyd yn cynnwys meysydd sy'n ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau a nodir ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn berthnasol i holl Weinidogion Cymru ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonyn nhw.