Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Mai 2024.
Ac rydych chi yn llygad eich lle i ddweud mai'r cam cyntaf pwysig i'r gwasanaeth gofal cenedlaethol hwnnw i Gymru oedd lansio'r swyddfa gofal a chymorth genedlaethol newydd. Bydd y gwasanaeth pwysig hwnnw'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r prif swyddog gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth gofal cenedlaethol Cymru. Ac o'r hyn rwy'n ei ddeall, bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu'r fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych yn cytuno ein bod yn cynnal y camau sydd ar y gweill i gyfeirio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf er mwyn darparu canlyniadau a diwallu anghenion ein poblogaeth hŷn?