1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 14 Mai 2024.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru? OQ61114
Diolch am y cwestiwn. Mae unedau cyfeirio disgyblion yn hanfodol i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg y mae ganddo hawl iddi gan y gallan nhw ddarparu mwy o ddysgu unigol a dull mwy penodol i gefnogi anghenion y plentyn neu'r person ifanc dan sylw.
Diolch. Dim ond yr wythnos diwethaf roeddem yn sôn am y nifer enfawr o absenoldebau ysgol yng Nghymru, sydd yn eithaf brawychus a dweud y gwir. Nawr, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, mae 22 o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru yn darparu cefnogaeth i 969 o fyfyrwyr. Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, manteisiodd 2,396 o ddisgyblion ar ryw fath o addysg heblaw am ddarpariaeth mewn ysgol. Y lleoliadau a ddefnyddir amlaf oedd unedau cyfeirio disgyblion, gyda bron i 50 y cant o'r holl gofrestriadau. Yn ôl Estyn, hefyd, ers y pandemig mae awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd mewn cyfraddau cyfeirio. Fodd bynnag, yn Aberconwy, rydym wedi cyrraedd y pwynt nawr lle mae'r holl ddarpariaeth yn llawn. Rwy'n gwybod am ysgol lle nad yw'r awdurdod lleol yn gallu darparu unrhyw amseroedd aros; mae'n amhenodol os oes gennych blentyn sydd angen mynd i uned cyfeirio disgyblion. Mae'r pennaeth ei hun, nawr, yn ceisio edrych ar sefydlu ei uned cyfeirio disgyblion ei hun, a byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog addysg i gefnogi hyn. Prif Weinidog, mae angen creu mwy o gapasiti yn ein hunedau cyfeirio disgyblion ar frys, nid yn unig yn gwasanaethu Aberconwy, ond ledled Cymru. Sut y byddwch chi'n gweithio gydag ysgolion a'r awdurdodau lleol i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn cael eu gadael yn teimlo eu bod wedi'u difreinio o system addysg Cymru, a sicrhau, pan fo angen uned cyfeirio disgyblion ar y plant hynny, i'w helpu i gael yr wybodaeth a'r dysgu sylfaenol sydd eu hangen arnyn nhw, y gallan nhw wneud hynny yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn codi mater gwirioneddol ddifrifol, ac rwy'n cydnabod hynny. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau yn cydnabod yr heriau ychwanegol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu. Mae nifer sylweddol o heriau cymdeithasol rydych chi'n eu gweld mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Daw rhywfaint o hynny o'r pandemig, daw rhywfaint o hynny o ffynonellau eraill hefyd, ond rydych chi'n eu gweld ym mhob un o'n hysgolion. Mae'n her ychwanegol i staff mewn ysgolion ac, yn wir, i'r amgylchedd dysgu. Dyna pam, pan fydd yr Ysgrifennydd addysg yn nodi diwygiadau, y byddwch yn gweld pwyslais ar y pethau y mae angen i ni eu gwneud i helpu i wella canlyniadau i'n holl ddysgwyr a sut mae iechyd a llesiant yn sail i hynny i gyd.
Fodd bynnag, mae yna—. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi sôn am bresenoldeb. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd ar bresenoldeb. Erbyn hyn rydym dros 90 y cant. Yr her, fodd bynnag, yw, mewn gwirionedd, i rai o'n dysgwyr, sy'n debygol o fod ein dysgwyr lleiaf breintiedig, nad ydym wedi gwneud yr un cynnydd o hyd. Mae mwy i'w wneud ar hyn, ac mae hyn yn waith y mae angen i'r Llywodraeth ei wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol. Nid yw'n faes i chwifio ffon fawr; mae'n faes lle mae angen i ni weithio ochr yn ochr â nhw, oherwydd bydd pob awdurdod lleol yn deall y pwysau maen nhw'n eu hwynebu. Beth bynnag yw'r arweinyddiaeth wleidyddol, bydd gan aelodau ym mhob ward yr un heriau ac maen nhw eisiau gweld camau gweithredu'n cael eu cymryd. Felly, i'r plant a'r bobl ifanc hynny lle nad yw'r ysgol yn amgylchedd priodol iddyn nhw, gellir eu cefnogi'n briodol i gael y canlyniadau addysgol gorau posibl i sicrhau bod ganddyn nhw gyfrwng priodol ar gyfer bywyd y tu allan i'r ysgol. Felly, dyna'r gwaith y byddwn yn ei wneud ochr yn ochr â nhw.