1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf uniaethu â'ch sylwadau agoriadol am Owen John Thomas a'i ymrwymiad i'r Senedd Cymru hon, ac yn amlwg i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei oes? Rwy'n estyn cydymdeimlad y Ceidwadwyr i'w deulu ar yr adeg anodd iawn hon iddyn nhw hefyd.
Prif Weinidog, mae'r trigolion o amgylch y safle tirlenwi yn Withyhedge wir yn cael hunllef o sefyllfa wedi'i gwthio arnyn nhw. Mae'r arogleuon yn annioddefol i drigolion yn y rhan hon o orllewin Cymru. Maen nhw wedi cael dau rybudd iechyd cyhoeddus erbyn hyn, un ym mis Mawrth ac un mor ddiweddar â dydd Gwener, am y drewdod a'r effaith y gallai hwnnw ei chael ar iechyd y cyhoedd yn yr ardal. Nid yw'n afresymol gofyn y cwestiwn, fel y mae llawer o drigolion wedi ei wneud, ac fel y mae fy nghyd-Aelod dros yr etholaeth Paul Davies wedi ei wneud: pam maen nhw'n gorfod goddef y sefyllfa ofnadwy hon sy'n ymddangos fel pe bai'n para am byth? A allwch chi ateb y cwestiwn syml hwnnw, fel y gallan nhw fod yn hyderus y bydd camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r amgylchedd echrydus y maen nhw'n gorfod magu eu plant ynddo a'i fyw a'i anadlu bob dydd?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod camau gwella yn cael eu cymryd i ddatrys y mater. Rwyf i wedi cael yr un sgyrsiau gydag Aelodau rhanbarthol yn fy ngrŵp fy hun ynglŷn â gwneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd, yn wir, y materion y bydd Paul Davies wedi'u codi hefyd.
Felly, mae'r cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yr un fath ag a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglŷn â sut i gymryd mesurau tra nad yw'r mater wedi'i ddatrys o hyd. Fy nealltwriaeth i yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau i fonitro ac i wneud gwelliant yn ofynnol, a'r pwynt allweddol yma yw bod y gweithredwr yn bodloni'r gofynion hynny. Yn yr un modd, rwy'n deall eu bod nhw wedi gosod offer monitro y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedyn yn cymryd y darlleniadau ohono i weld a ydyn nhw'n cymryd y camau y mae'n ofynnol iddyn nhw eu cymryd mewn gwirionedd. Felly, dyna y byddwn i'n ei ddisgwyl gan unrhyw weithredwr. Mae'r gofynion rheoleiddio yno, ar waith, am yr union reswm hwn, a dyna pam mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i wneud yn siŵr bod camau'n cael eu cymryd a'u bod wedyn yn cyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch a yw'r camau hynny wedi cael eu cymryd.
Rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ei roi ar y cofnod, Prif Weinidog, bod gennych chi achos o wrthdaro buddiannau, gan mai perchennog y safle tirlenwi hwn yw David Neal o Dauson Environmental Group. A dyna'r broblem yma. Mae'n iawn gosod gwasanaethau monitro yno, ond methwyd dau ddyddiad cau, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol; mae heddiw yn ddyddiad cau arall, fel yr wyf i'n ei deall, a bennwyd i weld gwelliant yn yr ardal benodol honno.
Yn anffodus, rwyf i wedi siarad â phobl dros y 10 diwrnod diwethaf, a dywedodd un unigolyn, am 6.30 yn y bore, bod yr arogl mor gryf, ei fod ar ei bedwar yn taflu i fyny. Dyna oedd ei eiriau. A dydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n siarad ag un o drigolion eraill yr ardal a ddywedodd ei fod wedi cael pobl ddim yn dod i mewn i'r gwaith, i weithio ar ei fferm, gan fod yr arogl mor erchyll yno. Nawr, mae'n iawn i chi ddweud bod mesurau monitro wedi cael eu rhoi ar waith, ond mae hyn wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer bellach, ac mae'n edrych fel pe gallai barhau am fisoedd lawer eto. Nid yw hynny'n dderbyniol. A fyddech chi eisiau hynny ar garreg eich drws ym Mhenarth, oherwydd os nad yw'n ddigon da i chi, pam mae'n ddigon da i bobl y gorllewin orfod ei oddef?
Rwy'n credu bod nifer o wahanol bwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y fan yna. Rwyf i wedi bod yn eglur ynghylch lle y gallaf ac na allaf weithredu a lle mae gwrthdaro buddiannau. Nid wyf i wedi cymryd unrhyw gamau yn yr achos hwn. Roeddwn i'n ymateb i gwestiwn yr Aelod am yr hyn sy'n digwydd trwy ei gwneud yn eglur iawn bod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y rheoleiddiwr, gymryd y camau gofynnol. Nid wyf i'n ymwybodol bod yr un aelod o'r Llywodraeth wedi ceisio dylanwadu ar weithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru; mater iddyn nhw yw cymryd y camau gofynnol i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gyflawni, a dyna safbwynt eglur iawn y Llywodraeth gyfan.
Ni fyddwn yn disgwyl i unrhyw gymuned oddef yr hyn sy'n digwydd. Dyna pam mae angen i gamau gael eu cymryd. Dyna pam mae angen i'r rheoleiddiwr eu harwain, i fod yn eglur ynghylch pryd y bydd gofynion yn cael eu bodloni a'r hyn a fydd yn digwydd, pa un a yw'r camau gofynnol hynny'n cael eu cymryd yn brydlon ai peidio. Dyna'r pwynt pwysig yma. Nid oes unrhyw symud i ffwrdd o welliant gofynnol, ac rwy'n disgwyl i'r rheoleiddiwr weithredu fel y dylai wneud yn yr achos hwn ac mewn unrhyw achos arall, waeth pwy yw'r gweithredwr.
Dim datganiad, Prif Weinidog. Byddai'n rhaid i unrhyw Aelod arall wneud y datganiad hwnnw. O ran y trydydd cwestiwn, yn eich ateb, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwneud y datganiad hwnnw, oherwydd mae hynny'n mynd at graidd yr hyn y mae llawer o bobl yn yr ardal yn ei ystyried fel dylanwad a gwneud yn siŵr nad yw pethau'n cael eu datrys cyn gynted â phosibl. Mae angen cau'r tip hwnnw. Mae wedi cael ei redeg yn wael iawn, ac mae trigolion yn cael eu heffeithio yn eu bywydau bob dydd. Nid yw hynny'n ddigon da. Ni fyddwn yn ei oddef ar garreg fy nrws i, ac yn sicr ni fyddwn yn ei oddef yn fy ardal etholiadol, a byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth bosibl y gallwn i drigolion geisio gwneud yn siŵr bod sylw'n cael ei roi i'r sefyllfa hon.
A wnewch chi anfon neges eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â hyn, yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr a'r awdurdod lleol i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei ddirwyn i ben yn brydlon, ac na fydd trigolion yn teimlo fel pe baen nhw mewn rhyw fortecs amgylcheddol sy'n eu llusgo nhw i lawr ac yn gwneud eu bywydau yn ofnadwy? Rhowch yr ymrwymiad hwnnw ac anfonwch y neges honno os gwnewch chi heddiw, fel y gellir rhoi gobaith i'r trigolion.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi sylw i'r ddau bwynt. Y cyntaf yw, os wyf i'n destun gwrthdaro buddiannau, yna ni allaf ateb y cwestiwn. Ac, mewn gwirionedd, mae fy nghofnod i, sydd wedi cael ei ddiweddaru ac sydd ar gael, gan Dauson, mae honno'n eglur ac mae ar y cofnod cyhoeddus. Nid oes unrhyw ddiffyg eglurder na gonestrwydd ynglŷn â hynny.
Yr ail bwynt, ar ôl bod yn eglur ynglŷn â'r datganiad, yw nad wyf i'n credu ei fod yn fy atal rhag nodi mai safbwynt y Llywodraeth yw bod angen datrys y broblem yn briodol yn unol â gofynion y rheoleiddiwr, a chyn gynted â phosibl, wrth gwrs. Fel y dywedais i wrth ateb eich ail gwestiwn, ni fyddai'n dderbyniol mewn unrhyw gymuned yn y wlad i'r broblem beidio â chael ei datrys, boed hynny yn fy etholaeth i neu mewn rhan wahanol o'r wlad. Dyna pam rwy'n dweud eto bod angen i'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, weithredu i wneud yn siŵr bod gwelliant yn cael ei wneud a bod ganddyn nhw'r sicrwydd bod hynny wedi'i gwblhau. Dyna fy nisgwyliad eglur iawn.
Os yw'r rheoleiddiwr eisiau siarad â'r Llywodraeth, gall wrth gwrs siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ond ni fyddai angen iddyn nhw ddod ataf i, a phe baen nhw, byddai'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw na allaf i gymryd unrhyw gamau yn y mater hwn. Ond gallaf nodi'r safbwynt cyffredinol o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl mewn unrhyw achos lle mae camau yn ofynnol gan Cyfoeth naturiol Cymru neu unrhyw reoleiddiwr arall.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, ac rwyf innau'n ategu geiriau’r Llywydd wrth dalu teyrnged i Owen John Thomas, cymwynaswr ac ymgyrchydd mor frwd dros ei gymuned a dros y Gymraeg a Chymreictod yn y brifddinas. Ac wrth inni gydymdeimlo efo'i anwyliaid a'i deulu heddiw, rydyn ni'n cofio ei gyfraniad at Blaid Cymru ac at ddyfodol Cymru.
Mae yna ddywediad yn y Gymraeg, onid oes, 'gorau arf, arf dysg', ac mae o mor wir, onid ydy, fod codi safonau addysg yn gorfod bod yn un o brif arfau Cymru wrth drio dod â mwy o lewyrch i'n gwlad ni. Ond rydyn ni'n gweld yn y dyddiau diwethaf yma gymaint o'r min sydd wedi cael ei golli oddi ar allu'r sector addysg uwch i fod ar flaen y gad yn hynny o beth: Aberystwyth yn wynebu colli cymaint â 200 o swyddi wrth drio gwneud arbedion o £15 miliwn; is-ganghellor Caerdydd yn sôn am £35 miliwn o ddiffyg yn ei chyllideb eleni. Mae’n sefyllfa argyfyngus, a ni ydy'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd am yn ôl o ran cyfranogiad ein myfyrwyr ni yn ein sector addysg uwch. Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad, ein heconomi o dan fygythiad. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael o ran ailflaenoriaethu adnoddau er mwyn gallu cynnig pecyn i ni gael ein prifysgolion ni drwy’r storm yma?
Hoffwn ddechrau drwy nodi cyfraniad Owen John Thomas—O.J., fel yr oeddwn i'n ei adnabod pan oeddwn i'n ymchwilydd ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny. Roedd bob amser yn garedig a chwrtais yn fy nghysylltiadau ag ef, ac rwy'n dymuno'n dda iddo ef a'i deulu.
O ran eich pwynt ar addysg uwch, rydym ni, wrth gwrs, wedi cymryd amrywiaeth o gamau yn y gyllideb ddiwethaf o ran cyllid, ac mae pwynt ar wahân ynglŷn â hynny rwy'n credu sydd y tu hwnt i gyllid, oherwydd nid wyf i'n credu bod cyfranogiad yn ymwneud â lefel ffioedd yn unig. Fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganiatáu i addysg uwch gynyddu ffioedd i geisio cynhyrchu incwm pellach i'r sector. Mae angen ystyried faint o adnoddau y gellir eu rhoi i addysg uwch, ynghyd â phob rhan arall o'n byd cyhoeddus.
Mae sefydliadau addysg uwch yn sefydliadau annibynnol, ond maen nhw'n derbyn arian o bwrs y wlad oherwydd effaith ehangach yr hyn y maen nhw'n ei ddarparu. Maen nhw hefyd, wrth gwrs, yn ymdopi â'r realiti eu bod nhw wedi colli talp sylweddol o incwm yn y ffordd y cafodd cyn-gronfeydd yr UE eu haddasu at wahanol ddibenion a'u canoli yn Llywodraeth y DU, a dyluniwyd addysg uwch allan o fynediad at y cronfeydd hynny yn fwriadol. Mae hynny wedi golygu, fel yr ydym ni wedi trafod o'r blaen, bod swyddi ymchwil o ansawdd uchel wedi cael eu colli i sefydliadau Cymru, ac mae hynny'n rhan o'r her ariannol y maen nhw'n yn ei hwynebu bellach.
Byddwch yn clywed yn ddiweddarach y prynhawn yma gan yr Ysgrifennydd addysg am flaenoriaethau ar gyfer addysg, a gwn fod cyfranogiad ôl-16 yn rhywbeth yr ydym ni'n awyddus i weld cynnydd pellach yn cael ei wneud yn ei gylch, ac mae hynny ym mhob math o gyfranogiad ôl-16, addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â phobl sy'n mynd i fyd gwaith. Er mwyn cael hynny'n iawn, mae'n rhaid i ni edrych ymhellach i'r system ac yn gynharach. Mae'n fater o'r newid sy'n digwydd ar frig yr ysgol gynradd a hefyd beth yw dyheadau pobl ar gyfer y dyfodol, a pha un a ydym ni'n cael mwy o'n pobl ifanc i ymgymryd ag addysg ôl-16, gyda'r holl gyfleoedd y gall eu darparu iddyn nhw ac i'r wlad, yn wir.
Bydd ein cenhadaeth economaidd a'r cyfleoedd sydd gennym ni o ynni adnewyddadwy a'r economi newydd y gallwn ni ei chreu yn dibynnu ar y sgiliau y bydd eu hangen ar bobl, y bydd angen iddyn nhw eu caffael o addysg bellach ac uwch. Felly, rydym ni'n eglur ein bod ni eisiau gweld cyfraddau cyfranogiad yn cael eu gweddnewid ac yn cynyddu. Byddwch yn clywed mwy, nid yn unig heddiw, ond yn ystod y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt am sut y byddwn ni'n ceisio gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â llawer o'r disgrifiad hwnnw o'r sefyllfa, er y byddwn i'n disgwyl mwy o ymateb brys i'r argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu. Mae un elfen y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati, niferoedd gostyngol o fyfyrwyr rhyngwladol, yn sicr wedi cael effaith sylweddol ar gyllid prifysgolion, a daw bygythiad pellach o agwedd y Torïaid at fewnfudo. Ond er gwaethaf anwireddau sy'n cael eu hyrwyddo gan y dde Dorïaidd, daeth y Pwyllgor Cynghori ar Fudo i'r casgliad heddiw nad oes unrhyw dystiolaeth o gamddefnydd eang o lwybr fisa graddedigion y DU. Maen nhw'n credu y dylai'r hawl i fisa graddedigion sy'n caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol weithio am ddwy neu dair blynedd ar ôl graddio aros yn weithredol. Yn amlwg, croesawyd hynny gan y sector heddiw, gan y byddai diddymu'r fisa graddedigion yn drychineb ariannol i brifysgolion Cymru. Ond mae'r sector yn parhau i bryderu y bydd y Torïaid yn dewis elfennau o'r adroddiad i fodloni archwaeth eu hadain dde. A all y Prif Weinidog sicrhau'r Senedd y bydd yn mynnu sicrwydd gan arweinydd ei blaid y byddai unrhyw gamau gan y Torïaid i ddod â'r cynllun fisa graddedigion i ben yn cael eu gwrthdroi gan Lafur os yw'n ffurfio Llywodraeth, neu'n well byth, a all roi sicrwydd heddiw?
Hoffwn ddychwelyd i'r man cychwyn ar gamau i'w cymryd. Mae gan yr Ysgrifennydd addysg ddatganiad i'r Siambr hon yn ddiweddarach heddiw, ac rwy'n disgwyl y bydd nid yn unig sylwadau ond cwestiynau am gyfranogiad ôl-16, felly nid wyf i'n bwriadu difetha'r datganiad sydd ar fin cael ei gyflwyno y prynhawn yma. Rwy'n siŵr na fyddai'r Ysgrifennydd addysg yn diolch i mi pe bawn i'n ceisio gwneud hynny.
O ran eich pwynt ehangach, fodd bynnag, am fisâu graddedigion, rwy'n credu ei fod yn newyddion da bod tystiolaeth heddiw, tystiolaeth eglur, nad oes unrhyw ddarlun gwirioneddol o fisâu graddedig yn cael eu camddefnyddio. Hoffwn weld Llywodraeth y DU yn cymryd y dystiolaeth honno i ystyriaeth ac yn symud yn ôl o'r llwybr y mae wedi cychwyn arno. Mae hyn yn fater o'r darlun ariannol ar gyfer addysg uwch ledled y DU, nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd y model sydd mewn gwirionedd yn tanseilio sut mae sefydliadau'n gallu rhedeg, i fantoli eu cyfrifon. Ond, yn fwy na hynny, rwy'n dychwelyd at fy mhrofiad fy hun fel cyn-fyfyriwr yn Aberystwyth—dyna lle, wrth gwrs, y cwrddais â'r Llywydd pan oeddwn i'n dal i fod yn aelod o gymuned addysg uwch Aberystwyth. Nid mater o'r arian yn unig yw hyn; es i i'r brifysgol gyda phobl o 80 o wahanol wledydd. Mae'n rhan o'r profiad dysgu, nid yr hyn sy'n digwydd mewn neuadd ddarlithio neu ystafell seminar yn unig. Mae cyfarfod a chyfarch a bod yn rhan o gymuned o fewn amgylchedd rhyngwladol yn rhan o'r profiad dysgu hwnnw na ddylem ni ei ildio. Felly, ydw, wrth gwrs, rwyf i eisiau gweld hynny'n parhau. Rwy'n disgwyl y byddwch chi'n gweld newyddion cadarnhaol am hyn a nifer o feysydd eraill ym maniffesto Llafur y DU yn y dyfodol. Rwy'n eglur iawn y dylai'r dystiolaeth nad oes unrhyw gamddefnydd arwain at newid i bolisi'r Llywodraeth. Ac yn olaf, o ran yr hyn y mae Esther McVey yn ei ddweud, mae hon yn enghraifft o le byddai synnwyr cyffredin go iawn yn arwain at newid i'w groesawu i bolisi'r Llywodraeth.
Felly, mae'n fater o groesi bysedd a gobeithio am y gorau. Diwedd y gân yw na allwn ni ganiatáu i ddyfodol addysg uwch yng Nghymru fod ar drugaredd San Steffan, boed hynny'n Llywodraeth Dorïaidd neu, feiddiaf ei ddweud, Llywodraeth Lafur â Natalie Elphicke yn cael croeso mor gynnes i'w rhengoedd. Rhybuddiodd yr Athro Paul Boyle, cadeirydd Prifysgolion Cymru, y Pwyllgor Materion Cymreig fis diwethaf
'bydd effaith unrhyw newidiadau i'r Llwybr Graddedigion yn cael ei chwyddo yng Nghymru, gan nad yw twf myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru wedi cyd-fynd â'r twf ar lefel y DU'.
Roedd ein diweddar gyd-Aelod Steffan Lewis bob amser yn barod i hyrwyddo Cymru i'r byd, a dywedodd yn ôl yn 2017 ei bod yn destun edifeirwch mawr bod polisïau'r San Steffan wedi niweidio ein henw da yma fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol. Roedd yn myfyrio bryd hynny ar argymhellion gan grŵp hollbleidiol yn San Steffan y byddai manteision gwirioneddol o ddatganoli elfennau o bolisi mewnfudo. Rwy'n cytuno â Steffan y gallai datganoli fisâu myfyrwyr fod o fudd i brifysgolion Cymru a'n heconomi. Dyn a ŵyr bod angen hwb arnom ni nawr. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â Steffan a minnau, neu a fyddai'n well ganddo adael i'r Torïaid yn San Steffan benderfynu?
Rwy'n credu pryd bynnag y byddwch chi'n siarad am ddatganoli, bod angen i chi fod yn eglur am y canlyniadau ariannol. Rydym ni wedi cael profiad poenus o Lywodraethau Torïaidd yn datganoli cyfrifoldebau ac yn lleihau cyllidebau. Roedd y cynllun budd-dal treth gyngor yn enghraifft berffaith: datganoli gyda thoriad o 10 y cant i'r gyllideb a'r pwysau a roddodd hynny ar weddill ein gwasanaethau a'n gallu i gefnogi'r economi. Felly, mae gen i ddiddordeb bob amser mewn sgwrs ynglŷn â'r man gorau ar gyfer pwerau ac i wneud yn siŵr bod yr adnoddau gennym ni i allu arfer y pwerau hynny'n effeithiol.
Rwy'n credu mai'r pwynt ehangach yma yw y gallai ac y dylai fod cynnig cadarnhaol gan y DU ar gyfer addysg uwch ryngwladol, ond hefyd i fyfyrwyr cartref: yr amgylchedd dysgu y maen nhw'n mynd iddo, sut mae'n cael ei ariannu a'r cyfleoedd yn y byd gwaith ehangach y mae'n eu cynnig. Dyna sydd o ddiddordeb i mi, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith yr wyf i wedi ei wneud ac mae Gweinidogion eraill wedi ei wneud i hyrwyddo Cymru yn y byd ehangach. Mae ein haddysg uwch a phellach yn rhan fawr o hyn. Pan oeddwn i yn India yn ddiweddar, roeddwn i ar drothwy cenhadaeth fasnach, ac roedd gennym ni un o'n colegau addysg bellach mwy yno. Mae'n dal i fod yn gynnig gwerth uchel, ac, a dweud y gwir, myfyrwyr o India yw'r grŵp mwyaf yn ôl cyfran o fyfyrwyr sy'n dod i addysg uwch a phellach yng Nghymru. Felly, mae'n dal i fod yn hanes o lwyddiant go iawn.
Rwy'n credu y gallwn ni gael Llywodraeth yn y DU nad yw'n ceisio pardduo ein henw da, sy'n cadw ei gair ac eisiau fod â gwahanol gyfres o berthnasoedd gyda'r byd ehangach a fydd o fudd i Gymru a Phrydain. Rydym ni eisoes yn gwneud hynny, ac rwy'n gweld y gwaith hwnnw fy hun. Rwy'n credu yn y dyfodol y gallwn ni berswadio pobl Cymru i bleidleisio dros hynny hefyd. Rwy'n credu y bydd dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru a Phrydain yn gwella bywyd yma ac yn rhoi'r arfau i ni wneud y gwaith a bod â phartneriaid gwirioneddol a dibynadwy yn Llywodraeth y DU. Byddaf yn falch o fynd allan a gwneud y ddadl honno i bobl Cymru yn ystod y misoedd nesaf pryd bynnag y daw'r etholiad hwnnw.