1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 14 Mai 2024.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru? OQ61115
Diolch. Nid yw gofal iechyd yn gyffredinol yn y gogledd lle y byddwn i, nac yn wir y staff sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, eisiau iddo fod. Yn rhan o ddwysau'r mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella mynediad at yr iechyd a gofal diogel a phrydlon y mae pobl y gogledd yn eu haeddu.
Wel, diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. A, Llywydd, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol y cyhoeddwyd rhybudd du dim ond yr wythnos diwethaf ym mwrdd iechyd y gogledd gan nad oedd ysbytai yn gallu ymdopi â lefelau galw gŵyl y banc, ac, yn anffodus, mae hwn yn digwydd yn llawer rhy aml i'r trigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd. A byddwch hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd, eich bod chi'n teimlo ei bod hi'n briodol tynnu'r bwrdd iechyd hwnnw allan o fesurau arbennig, ac, yna, yn anochel, yn gyflym iawn ar ôl etholiadau'r Senedd, aeth y bwrdd iechyd yn syth yn ôl i fesurau arbennig.
Nawr, mae pethau mor wael ag y buon nhw erioed i'r trigolion yr wyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, a rhannais yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf enghraifft un o'm trigolion sydd, yn anffodus, yn angheuol sâl â chanser, y bu'n rhaid iddo aros mwy na 24 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys. Felly, Prif Weinidog, oherwydd rheoleidd-dra'r digwyddiadau hyn, ac oherwydd difrifoldeb y problemau y mae fy nhrigolion yn eu dioddef, oni fyddech chi'n meddwl mai nawr yw'r amser ar gyfer adolygiad annibynnol o'r bwrdd iechyd, fel y gall y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli gael y gofal iechyd y maen nhw'n ei haeddu?
Diolch am y cwestiwn. Cyn i mi ymdrin â sylwedd y pwyntiau, mae pwynt ehangach yr wyf i eisiau ei wneud, yr wyf i'n gobeithio y bydd cefnogaeth iddo ar draws y Siambr, oherwydd ychydig dros wythnos yn ôl y nodwyd achos o'r frech goch yn dilyn rhywun a aeth i Maelor Wrecsam. Nid oedd yr unigolyn 24 oed penodol hwnnw wedi cael ei frechu; roedd yn ymweld a daeth o Loegr i ddod i'r ysbyty mewn gwirionedd. Ceir pwynt ehangach yma—ac rwy'n credu fy mod i wneud gwneud hwn mewn ymateb i Peter Fox yn flaenorol—am frechiad y frech goch. Mae'n fater difrifol i bobl ar draws pob ochr yn y Siambr hon a thu hwnt annog oedolion sydd heb eu brechu, neu nad ydyn nhw wedi'u brechu'n ddigonol, yn ogystal â phlant, i gael eu brechu, oherwydd mae problem wirioneddol gyda graddfa achosion o'r frech goch ledled y wlad, ac mae'n dangos, er bod gennym ni sefyllfa well o ran brechu na Lloegr, nad ydym ni'n ddiogel rhag yr heriau sy'n bodoli.
O ran eich cwestiynau am, yn benodol, gofal heb ei drefnu a brys, mae hwn yn faes lle'r ydym ni'n gwybod bod gwelliant pellach yn ofynnol. Ni allaf wneud sylwadau ar arosiadau unigol, ond rwy'n cydnabod, fel yn wir y mae'r Ysgrifennydd Cabinet, bod gormod o bobl sydd â phrofiad o aros yn rhy hir mewn adran achosion brys, neu, yn wir, profiad na fyddem ni'n ei ddymuno i'n hanwyliaid ein hunain hefyd. Dyna pam mae amrywiaeth o gamau gwella sy'n cael eu cymryd. Mae rhai adnoddau ychwanegol ar gael. Felly, ceir £2 filiwn ar gyfer y bwrdd iechyd yn y flwyddyn ariannol yr ydym ni newydd ei chychwyn, ac, yn wir, ym mis Ionawr, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet arian ar gyfer Cymru gyfan, a chafodd Betsi Cadwaladr y gyfran fwyaf o hwnnw. Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cyrraedd y pwynt mwyaf priodol ar gyfer eu gofal—felly, er enghraifft, y gwasanaeth brys yr un diwrnod a grëwyd ers i Eluned Morgan ddod yn Ysgrifennydd Cabinet a'r gwaith ychwanegol o gyflwyno gofal sylfaenol brys sydd wedi digwydd ar draws y gogledd. Mae'r rheini'n filoedd o bobl sy'n cael eu gweld mewn modd mwy prydlon gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud iddyn nhw.
Yr hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd yw'r heriau deublyg o fod angen trawsnewid ein system tra ar yr un pryd gweld galw'n cynyddu. Rwy'n credu, ym mis Chwefror eleni, o'i gymharu â blwyddyn ynghynt, y bu cynnydd o 24 y cant i alw yn dod i mewn drwy ein hadrannau brys, ac mae honno'n don ychwanegol enfawr o alw y mae angen i ni allu ei gweld ac ymdopi â hi. Yr hyn sy'n gwneud hynny'n llawer anoddach yw nad ydym ni'n gallu cael pobl allan o'r ysbyty pan fyddan nhw'n feddygol barod i gael eu rhyddhau. A bydd yr Aelod yn gwybod, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, mai gwaith ar y cyd yw hwn rhwng maes iechyd a llywodraeth leol, i wneud yn siŵr y gall y bobl hynny adael pan nad yr ysbyty yw'r lle iawn ar gyfer eu gofal mwyach. Yn y gogledd, mae mwy na 300 o bobl yn rheolaidd sy'n feddygol barod i gael eu rhyddhau ond nad ydyn nhw'n gallu gadael. I roi cyd-destun i hynny, mae hynny tua dwy ran o dair o'r holl welyau yn Ysbyty Glan Clwyd. Nawr, mae er budd pob un ohonom ni i weithio gyda'n gilydd oherwydd, i'r unigolyn hwnnw sydd yn y lle anghywir, nid yw'n brofiad gwych iddo mewn gwirionedd, mae wedyn yn agored i risgiau ychwanegol o ddatgomisiynu, a bydd yr Aelod yn gwybod hyn o'i amser ei hun pan oedd ganddo swydd go iawn cyn gwleidyddiaeth, a meddwl mewn gwirionedd am yr angen i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael eu hunain o gwmpas yn iawn. Felly, mae hon yn her gyffredin i ddau sector mwyaf y sector cyhoeddus, ac, yn hollbwysig, i'r unigolion hynny hefyd. Dyna'r problemau sy'n ein hwynebu, a dyna'r hyn yr ydym ni'n mynd i barhau i ganolbwyntio arno gyda'n sylw, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid.
Un o'r problemau amlwg yn y ddarpariaeth gofal iechyd gennym ni yn y gogledd ydy'r rhestrau aros hirfaith. Cymerwch gleifion syndromau Ehlers-Danlos, er enghraifft. Dros y ffin yn Lloegr, mae cleifion yno yn cael eu cyfeirio yn syth at arbenigwyr, ond mae cleifion Ehlers-Danlos yng ngogledd Cymru yn gorfod gwneud cais am ariannu claf unigol, sydd, yn amlach na pheidio, yn cael ei wrthod, sydd felly, yn ei dro, yn golygu eu bod nhw’n mynd heb y gofal angenrheidiol ar gyfer cyflwr difrifol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn credu ei bod hi'n iawn bod cleifion Ehlers-Danlos yn gorfod dioddef fel hyn yn y gogledd, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod cleifion gogledd Cymru—a Chymru gyfan, yn wir—yn cael eu cyfeirio'n syth, heb orfod oedi a gwneud ceisiadau am ariannu unigol?
Nid wyf i'n ymwybodol o'r mater unigol y mae'r Aelod yn ei godi. Os gwnaiff ef ysgrifennu ataf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, byddwn yn hapus i edrych i mewn i hynny i weld a oes newid ar draws y system gyfan y gallem ni ei wneud. A dweud y gwir, o ran mynediad at feddyginiaeth newydd, rydym ni'n gwneud yn well yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU mewn gwirionedd. Mae'r gronfa triniaethau newydd, yr oeddwn i'n falch iawn i ni ei chyflwyno ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn brydlon ac yn gyson ledled Cymru. Os nad yw hynny'n wir yn yr ardal y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, yna byddai gen i ddiddordeb mewn sut y gallwn ni edrych ar hynny i ddeall a oes camau gwella y gallwn ni eu cymryd nid yn unig ar gyfer y gogledd, ond ledled y wlad gyfan.
Mae llawer o bethau cadarnhaol yn digwydd hefyd yn y GIG—mae llawer o bobl yn cael eu gweld, ac rwy'n croesawu buddsoddiad yn y gogledd, gyda'r uned orthopedig newydd yn cael ei hadeiladu, canolfannau llesiant, buddsoddiad mewn darpariaeth gymunedol, ac oriau estynedig i unedau mân anafiadau, sy'n gwneud gwahaniaeth. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ysgol feddygol newydd ar gyfer gogledd Cymru, a'r ganolfan hyfforddiant meddygol newydd ar gyfer nyrsys, parafeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd yn Wrecsam. Ac mae llwybrau hyfforddi ar gyfer dysgwyr gofal iechyd cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, sy'n gadarnhaol iawn. Mae recriwtio a chadw yn bwysig iawn. Nid wyf i eisiau parhau i fychanu'r GIG. Fodd bynnag, rwy'n poeni am gadw staff. Rwyf i wedi clywed bod dermatolegydd wedi gadael yn ddiweddar i weithio yn y sector preifat, rhywbeth nad ydym ni eisiau iddo ddigwydd. Mae Betsi yn cyflogi 19,000 o bobl, ac mae'n bwysig iawn i'r economi leol hefyd, fel cyflogwr. Felly, er mwyn gwella cyfraddau cadw, mae angen i ni edrych ar amodau gwaith—byddai cynnig hyblygrwydd, drwy lai o oriau, efallai, a rhannu swyddi, yn ffordd dda ymlaen, os yw'n bosibl. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno, trwy fuddsoddi mewn pobl, y gallwn ni dyfu ein gweithlu gofal iechyd a'n heconomi leol? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig myfyrio, fel y mae'r Aelod yn ei wneud, er bod heriau o ran y ddarpariaeth o ofal iechyd yn y gogledd, yr ydym ni'n eu cydnabod—dyna pam mae fframwaith mesurau arbennig, a dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn treulio llawer o'i hamser yn pori dros fanylion y gwelliannau sydd eu hangen o hyd—i'r rhan fwyaf o bobl, mae ganddyn nhw brofiad da o ofal iechyd mewn gwirionedd, ac mae hynny oherwydd y gwaith ardderchog y mae ein staff yn ei wneud, yr ymroddiad a'r sgìl sydd ganddyn nhw, a'r trawsnewidiad a'r gwelliant parhaus yr ydym ni'n ceisio eu gwneud.
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt ynglŷn â phwysigrwydd y bwrdd iechyd fel cyflogwr yn yr economi. Mae cyflogi bron i 20,000 o bobl yn cael effaith sylweddol mewn economïau lleol, ar draws yr ardal gyfan. Ac rwy'n credu bod hynny, felly, yn ymwneud â sut rydych chi'n cadw staff. Mae'n ymwneud â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fuddsoddi yn y dyfodol—mae ein staff presennol eisiau gweld buddsoddiad yn y dyfodol, iddyn nhw aros. Rwy'n falch iawn o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd i helpu i greu ysgol feddygol newydd. Rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid eraill i wneud hynny yn y gorffennol, mewn sgwrs gyda Phlaid Cymru ac eraill, ond rydym ni'n darparu cyllideb i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ac yn yr hydref eleni, bydd y garfan gyntaf yn cael ei derbyn i ysgol feddygol Bangor, y myfyrwyr uniongyrchol cyntaf, ac, erbyn 2029, bydd wedi cyrraedd ei gapasiti llawn—meddygon wedi'u hyfforddi yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Ac mae hynny'n bwysig i'n gweithlu meddygol a perthynol i iechyd presennol hefyd, i weld y buddsoddiad hwnnw'n digwydd.
Mae hynny'n mynd ochr yn ochr â'r pwynt y gwnaeth yr Aelod gloi arno, ynglŷn â chael dull hyblyg o ymdrin ag amodau. Wrth i'n gweithlu newid a hyfforddi, fel y mae ein disgwyliadau wedi eu gwneud—. Roedd yn arfer bod yn wir bod meddygon yn disgwyl gweithio oriau eithriadol o hir yn ystod eu hyfforddiant. Roedden nhw'n derbyn hynny yn rhan o'r hyn a oedd yn digwydd, ac eto, mewn gwirionedd, ni fyddai'r un ohonom ni'n dweud bellach, rwy'n credu, ei bod hi'n dderbyniol i feddygon weithio'r oriau rhyfeddol hynny. Ac mae meddygon yn bobl sydd eisiau bod â pherthnasoedd eraill hefyd. Felly, dull hyblyg, pan fo'n bosibl, i ddiwallu anghenion y claf a'r unigolyn yw'r hyn yr ydym ni eisiau i'n GIG ymgymryd ag ef a'i ddarparu'n raddol. Mae'n bwynt wedi'i wneud yn dda. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld enghreifftiau da o hynny yn y gwasanaeth iechyd ar draws y gogledd a thu hwnt.