Part of QNR – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
Mae'r adolygiad diogelu unedig sengl yn cyfuno adolygiadau ymarfer oedolion, ymarfer plant, lladdiad iechyd meddwl, lladdiad domestig a lladdiad ag arf ymosodol. Bydd yn cael ei lansio yn hydref 2024 a bydd yn dileu'r angen am adolygiadau lluosog, yn gwella prosesau, yn lleihau trawma i deuluoedd, yn cwtogi amserlenni, ac yn sicrhau bod dysgu'n cael ei fabwysiadu ledled Cymru.