Cwestiynau i Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol 

QNR – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ynglŷn a’r adolygiad diogelu unedig sengl a’r prosesau cysylltiedig?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Llafur

Mae'r adolygiad diogelu unedig sengl yn cyfuno adolygiadau ymarfer oedolion, ymarfer plant, lladdiad iechyd meddwl, lladdiad domestig a lladdiad ag arf ymosodol. Bydd yn cael ei lansio yn hydref 2024 a bydd yn dileu'r angen am adolygiadau lluosog, yn gwella prosesau, yn lleihau trawma i deuluoedd, yn cwtogi amserlenni, ac yn sicrhau bod dysgu'n cael ei fabwysiadu ledled Cymru.