– Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
Eitem 7 yw heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidog—Ministers—Gweinidogion. Thank you. Gweinidogion. Diolch yn fawr. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8562 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd bod cod gweinidogol Llywodraeth Cymru wedi'i dorri mewn perthynas â rhoddion a dderbyniwyd gan y Prif Weinidog.
2. Yn nodi bod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 tuag at ei ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru gan y Dauson Environmental Group Limited yn dilyn benthyciad o £400,000 i'r cwmni gan Fanc Datblygu Cymru, a throseddau yn ymwneud â'r amgylchedd.
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i benodi cynghorydd annibynnol i'r cod gweinidogol i ymchwilio i unrhyw wrthdaro buddiannau a allai fodoli mewn perthynas â'r rhodd, gan gyfeirio'n benodol at bwyntiau i a ii o baragraff 1.3 o'r cod gweinidogol.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n disgwyl imi gyfieithu yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf bob amser yn troi atoch am help, Andrew.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A oes angen inni aros i'r Prif Weinidog ddod, oherwydd, yn amlwg, mae'r ddadl am y Prif Weinidog? Neu a oes Gweinidog arall yn ymateb?
Nid yw'n ymateb i'r ddadl.
O. O, iawn. Mae hynny'n siomedig. Iawn, nid yw'r Prif Weinidog wedi dod i ddadl ynghylch yr ymddygiad sy'n gysylltiedig â chod y Gweinidogion, ac ar y datganiad o gyfrifoldebau gweinidogol, ef sy'n gyfrifol am god y Gweinidogion. Felly, rwy'n credu bod hynny'n siomedig, a dweud y lleiaf, nad yw wedi dod i'r ddadl y prynhawn yma.
Mae'r ddadl a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma yn gymharol syml. Mae'n dweud 'cydnabod', 'nodi', ac yn galw am ganlyniad. Mae'n galw am gydnabod pryder y cyhoedd ynghylch y camau sydd wedi digwydd yn gysylltiedig â'r rhoddion i'r Prif Weinidog. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un anghytuno â hynny, gyda'r lefel o ddiddordeb cyhoeddus a ddangoswyd yn yr agwedd benodol hon. Ac yn briodol felly. Bydd dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma ynghylch y ddadl honno yn ei chyfanrwydd a faint o arian a gyflwynwyd yn y rhodd honno, ac fel y clywsom yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, fe wnaed rhoddion ychwanegol sylweddol i ymgyrch y Prif Weinidog gan gwmni tacsis ac eraill, pob un wedi'i ddatgan yn gywir a phob un wedi'i nodi a heb dorri rheolau. Rwyf eisiau bod yn hollol glir ynglŷn â hynny—ni thorrwyd unrhyw reolau. Ond mae'r canfyddiad—y canfyddiad—o arian mor sylweddol yn dod i ymgyrch i arwain Cymru fel Prif Weinidog Cymru wedi achosi cryn anniddigrwydd cyhoeddus yn ogystal ag anesmwythyd gwleidyddol sylweddol ymhlith y Blaid Lafur a phleidiau gwleidyddol eraill. Rwyf am ddarllen drwy'r enwau: mae Beth Winters, Aelod Seneddol Cwm Cynon; Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Jeremy Miles, Gweinidog yr Economi, i gyd wedi dweud na fyddent hwy wedi derbyn y rhodd honno. Ac yn ystod yr ymgyrch ei hun, nododd yr Aelod Seneddol dros Lanelli, Nia Griffiths, ar gyfweliad ar raglen Gymraeg, pe bai hi wedi gwybod am y rhodd hon, y byddai'n ddigon posibl y byddai wedi newid ei phleidlais. Dyna'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar etholiad mor ddifrifol a'r canlyniad i arwain y wlad drwy fod yn Brif Weinidog Cymru. Felly, mae'n ddiamheuol fod yna ddicter wedi'i nodi ymhlith y cyhoedd a gwleidyddion fel ei gilydd ar y mater penodol hwn.
Wedyn, mae'n mynd rhagddo i amlygu'r broblem. Ac mae'r broblem yn eithaf clir—mae'n ymwneud â'r rhodd sylweddol, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, gan Dauson, y cwmni ailgylchu, sy'n cael ei arwain gan Mr Neal ac sy'n eiddo i Mr Neal. Profwyd bod gan Mr Neal ddwy euogfarn droseddol am droseddau amgylcheddol ar wastadeddau Gwent. Mae hynny wedi'i gofnodi.
Ac mae yna faterion eraill sy'n peri pryder, ac sydd wedi cael sylw, megis y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr pan fetha popeth arall, gallwn ychwanegu. Unwaith eto, nid wyf yn awgrymu bod unrhyw beth camweddus wedi'i wneud yma, ond pan fyddwch yn yr un flwyddyn ariannol yn sôn am gwmni'n cael £400,000 gan fenthyciwr pan fetha popeth arall ac yna'n gwneud cyfraniad o £200,000, hanner y swm hwnnw, i unigolyn—nid i blaid, nid i grŵp, ond i unigolyn ac ymgyrch yr unigolyn i gael swydd—mae hynny'n sicr yn fater o bryder i bawb sy'n ymwneud â bywyd cyhoeddus. Byddwn yn gobeithio y byddai consensws ynglŷn â hynny o amgylch y Siambr hon. Yna, yn lle bod gwleidyddion yn gwneud yr honiadau hyn a'r cyhoedd yn dangos anesmwythder, ceir yr unioniad yn y pen draw y gallwch ddefnyddio cod y Gweinidogion a'r cynsail a osododd Carwyn Jones yn ôl yn 2017 o benodi person annibynnol i gynghori ar yr hyn a allai fod yn doriad canfyddedig neu wirioneddol o'r cod gweinidogol hwnnw. Ac mae cod y Gweinidogion yn eithaf clir ar y pwynt a nodwn, lle mae'n dweud
'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai...neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff'—.
Nawr, rwy'n credu y byddai person rhesymol yn dweud y gallai £200,000, £25,000, gael ei ystyried yn rhesymol fel rhywbeth sy'n sicrhau dylanwad. Mae'r person rhesymol hwnnw'n haeddu ateb, a'r ffordd o gael yr ateb hwnnw fyddai penodi person annibynnol i edrych ar y mater, cynghori'r Prif Weinidog ar ba gamau y dylid eu cymryd, yn hytrach na'r drefn bresennol, lle caiff cyfeiriad o dan god y Gweinidogion ei farnu a'i benderfynu gan y Prif Weinidog ei hun, sy'n destun y gŵyn a'r cyhuddiad. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw berson rhesymol anghytuno â'r tri phwynt a wneuthum a'r tri phwynt sydd yn y cynnig ger bron y Senedd heno. Ac rydym yn ceisio rhoi ateb ar y bwrdd i'w gywiro.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn pleidleisio dros y cynnig hwn. Mae'n ddrwg gennyf fod y Llywodraeth wedi cynnig gwelliant 'dileu popeth', ond rwy'n deall pam eu bod wedi gwneud hynny. Ond yr hyn rydym ni'n ceisio ei wneud yw tawelu pryder y cyhoedd, mynd i'r afael â'r rheswm dros y pryder hwnnw a rhoi ateb ar waith o ran cod y Gweinidogion. Pwy ar y ddaear a allai anghytuno â hynny? Beth sydd i'w guddio? Rwy'n annog y Senedd i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sydd ger ein bron heno.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Trefnydd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd Cod y Gweinidogion, a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru, o ddifrif.
2. Yn nodi bod y penderfyniadau a wneir gan Fanc Datblygu Cymru ynghylch benthyca a buddsoddi yn cael eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Yn ffurfiol.
A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wythnos nesaf, rydyn ni'n dathlu 25 mlynedd ers sefydlu ein Senedd ein hunain—cyfle i wneud pethau yn wahanol yma yng Nghymru, i wneud pethau'n well. Ac oherwydd y cyd-destun hwnnw, dwi, fel cymaint o bobl eraill, yn teimlo dicter a rhwystredigaeth am y llanast ynglŷn â'r rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog. Mae'n adlais, onid ydy hi, o'r sgandalau sydd wedi bod mor nodweddiadol yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf. A'r mwyaf rydych chi'n tyrchu yn fan hyn, y mwyaf o gwestiynau sy'n dod i'r amlwg. Mae o'n difrïo ein democratiaeth ni, ac yn dadrithio etholwyr.
Nawr, mae agwedd 'dim i'w weld yma' y Prif Weinidog ar y gorau yn hunanfodlon, ac ar y gwaethaf yn ddirmygus, tuag at y bobl yr ydym yma i'w gwasanaethu. A bydd pobl yn ffurfio'u barn eu hunain am ei absenoldeb yma y prynhawn yma. Felly, mae'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei ofyn heddiw yn syml a chaiff ei adlewyrchu yn ein gwelliant i'r cynnig. A wnaiff y Prif Weinidog ddychwelyd y £200,000 a gafodd gan y llygrydd amgylcheddol a gafwyd yn euog, Dauson Environmental Group Ltd? Ac os oes unrhyw arian heb ei wario o'r rhodd honno, a wnaiff y Blaid Lafur ddychwelyd yr arian hwnnw? Dau gwestiwn sylfaenol, sy'n deillio o ddwy egwyddor sylfaenol: uniondeb a dyletswydd—rhaid i uniondeb fod yn llinyn cyson yn ein gwleidyddiaeth drwyddi draw os ydym am ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr—a dyletswydd oherwydd bod gan Brif Weinidog ddyletswydd i arwain drwy esiampl, i arfer doethineb bob amser.
Nawr, fel mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn nodi, mae cod y Gweinidogion yn glir:
'Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat' ac
'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno.'
Nawr, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gofyn am adolygiad. Dywedwyd wrthyf nad oedd gwneud hynny yn rhan o'i gylch gorchwyl. Ond gall y Prif Weinidog alw ymchwiliad annibynnol, ac rwy'n credu bod yr achos dros adolygiad allanol a chwbl annibynnol yn glir, ac rydym yn cefnogi'r prif gynnig. A po fwyaf y mae'r Prif Weinidog yn dadlau yn erbyn hyn, y mwyaf y mae ei ddoethineb yn cael ei gwestiynu, a chredwn y byddai ein gwelliannau'n cryfhau'r galwadau am weithredu. Nawr, fe wyddom fod Aelodau Llafur hefyd, yma ac yn San Steffan ac mewn llywodraeth leol, wedi mynegi eu braw yn gyhoeddus ac yn breifat ynglŷn â phenderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn y rhodd a'r modd y gwnaeth ymdrin â'r mater wedyn. Felly, hoffwn annog pawb sydd o'r farn honno i gefnogi'r cynnig a'r gwelliannau fel arwydd ein bod yn benderfynol o ennill ymddiriedaeth etholwyr Cymru, boed yn Brif Weinidog neu'r gweddill ohonom yn y Siambr hon.
Rwy'n credu y byddwn i'n cael fy nisgrifio fel person rhesymol, rwy'n gobeithio, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn anghytuno â phopeth y mae Andrew R.T. Davies wedi'i ddweud. Nid wyf yn mynd i geisio rhoi unrhyw wres i mewn i'r cyfraniad hwn o leiaf. Fe roddaf rai enghreifftiau yn y cyfraniad nesaf o beth o'r rhagrith sy'n bodoli, ond am y tro cyntaf, rydym yn gofyn i wleidydd sydd wedi ufuddhau i'r holl reolau—sy'n amlwg wedi ufuddhau i'r holl reolau—gael ei ymchwilio, a chredaf fod hynny'n gwbl hurt.
Cyfeiriwyd at god ymddygiad y Gweinidogion; cafodd sylw gan y Prif Weinidog blaenorol, a gychwynnodd ymchwiliad annibynnol, ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dramgwydd. Felly, nid wyf yn gwybod beth arall y gellir ei wneud ynglŷn â hynny. Ond mae'r gweddill wedyn yn dod yn oddrychol ac yn dod yn farn oddrychol iawn sydd eisoes wedi cael sylw gan y Prif Weinidog blaenorol.
Rwyf wedi gofyn rhai cwestiynau i mi fy hun ac wedi ymchwilio i'r rhain fy hun; roeddwn yn ofalus iawn i wneud hynny. Yn gyntaf oll: a oedd y rhodd wedi'i chofrestru'n briodol? Yn bendant ac yn ddiamwys, oedd.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwyf am holi: a wnaethoch chi ddweud bod y Prif Weinidog blaenorol wedi ymchwilio i'r mater hwn?
Do.
Wel, nid oedd yr holl wybodaeth yn y parth cyhoeddus, ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus, cyn i'r Prif Weinidog blaenorol ymchwilio i faterion, gan gynnwys yr euogfarnau sy'n gysylltiedig â'r cwmni hwn a'r cysylltiadau â'r cwmni tacsis—
A ydych chi'n gwneud araith neu ymyriad?
Rwy'n gofyn i chi; mae'n gwestiwn go iawn.
O'r gorau. A gaf i ymateb? Felly, rydych chi wedi cymryd 20 eiliad o fy amser yn barod—
Naddo.
—mae'n annhebygol y caf i hynny yn ôl. [Torri ar draws.] Y materion—
Rydych chi wedi bod yn hael iawn, Hefin. Dylai Aelodau sy'n derbyn ymyriadau ystyried hynny bob amser.
Y materion yr aeth y Prif Weinidog i'r afael â nhw, roedd y rhan fwyaf ohono eisoes allan yno. Rwy'n meddwl bod y syniad—[Torri ar draws.] Rhowch gyfle i mi. Y syniad o po fwyaf y cloddiwch, y mwyaf y gwnewch chi ei ddarganfod; mewn gwirionedd, po fwyaf y cloddiwch, y lleiaf y gwnewch chi ei ddarganfod. Ond rwyf wedi rhoi sylw i'r materion sydd wedi codi ers hynny yn y cwestiynau canlynol.
A oedd cyfle i Vaughan Gething ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad cynllunio dilynol? Yn bendant iawn, na, oherwydd nid yw'r Gweinidog sy'n gwneud y penderfyniad cynllunio yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar ran Llywodraeth Cymru; maent yn gwneud penderfyniad lled-farnwrol i ymyrryd mewn anghydfod cynllunio y mae'r arolygydd wedi ymchwilio iddo, felly mae'r cwestiwn hwnnw wedi ei ateb.
A fyddai Vaughan Gething wedi ceisio dylanwadu ar Fanc Datblygu Cymru ar sail eu benthyciad i'r cwmni? Efallai mai dyna a olygwch wrth yr hyn sydd wedi datblygu ers hynny. Wel, ddim o gwbl, oherwydd fe ofynnais iddynt yn y pwyllgor, ac roedd Paul Davies yno. Fe'u gwelodd yn ateb y cwestiwn. Yn yr wyth mlynedd y mae Giles Thorley wedi bod yn brif weithredwr Banc Datblygu Cymru, nid oes unrhyw Weinidog erioed wedi ceisio dylanwadu ar fenthyciad, a dywedodd wrth gytuno â mi y byddai'n annirnadwy. [Torri ar draws.]
Na, mae’n rhaid i mi—. Mae fy amser ar ben; dim ond tair munud sydd gennyf. Yn y ddadl nesaf efallai.
Byddai'n annirnadwy y byddai unrhyw Weinidog, gan gynnwys y Prif Weinidog, hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny. A geisiodd wneud hynny? Yn bendant iawn, naddo.
Felly, mae'r holl dystiolaeth, yr holl dystiolaeth yr ydym wedi sôn amdani wedi cael sylw. Beth rydym ni'n ceisio ymchwilio iddo nawr? Nid wyf yn credu ein bod yn ceisio ymchwilio i unrhyw beth. Yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ceisio ei wneud yw cadw'r stori i redeg, ac mae Andrew R.T. Davies yn dweud yn yr erthygl yn y Western Mail —rwy'n darllen ei erthyglau—ei fod am symud ymlaen. Os yw am symud ymlaen, gall ddechrau gofyn cwestiynau am y pethau sy'n bwysig i ni: costau byw, plant mewn gofal. Dyma'r mathau o bethau y gallai ddechrau gofyn amdanynt yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn hytrach na rhygnu ymlaen am rywbeth nad oes iddo unrhyw sylwedd.
Ddoe, awgrymodd y Prif Weinidog nad oedd y cyhoedd yn pryderu am ei roddion gan lygrydd a gafwyd yn euog. Mae'n gwybod nad yw hynny'n wir, ac eto mae'n parhau i fychanu'r mater. A phan ofynnodd un o brif newyddiadurwyr y BBC, Teleri Glyn Jones, iddo am y rhoddion hynny, awgrymodd yn drahaus nad oedd hi rywsut yn newyddiadurwraig ddifrifol. Sylw y mae'n dal i fod heb ymddiheuro yn ei gylch. Ond diolch byth, mae llawer o gyd-Aelodau eraill ar y meinciau y tu ôl iddo—pe bai yn ei sedd—yn y Blaid Lafur nad ydynt yn cytuno ag ef, naill ai ynglŷn â'i roddion neu ei barch at y proffesiwn newyddiadurol, oherwydd maent wedi bod yn gyflym i fynd i'r wasg i roi gwybod iddynt am eu hanfodlonrwydd ynglŷn â'r ffordd yr ymdriniodd ef â'r sgandal. Dyma beth a ddywedodd rhai ohonoch:
'Mae derbyn symiau mor enfawr o arian o ffynhonnell y mae ei chyfarwyddwr wedi'i gael yn euog o dorri cyfreithiau ein Llywodraeth ein hunain yn anghywir.'
Alun Davies oedd hwnnw. Roedd y rhodd yn 'gwbl anghyfiawn ac yn anghywir', Lee Waters.
'Ni fyddwn i wedi ei derbyn,'
Jeremy Miles. 'Mae'n maeddu ein henw da ni i gyd', meddai AS Llafur dienw. Yn amlwg, roedd un ohonoch yn gyndyn i roi eich enw wrth hynny. Dyma beth a ddywedodd aelodau eraill o'r Blaid Lafur:
'Pe bawn i yn y sefyllfa honno, ni fyddwn wedi ei dderbyn oherwydd y ffordd y câi ei weld', ac
'Mae'n debyg y byddwn i wedi dweud na a chwilio am arian yn rhywle arall.'
Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, y Blaid Lafur, a ddywedodd hynny.
'Mae hyn yn niweidio delwedd Llafur Cymru ac mae'n niweidio delwedd datganoli hefyd.'
Leighton Andrews, cyn-Weinidog Llafur. Dyma uwch ffigwr dienw arall o'r Blaid Lafur yn siarad â Nation.Cymru:
'Mae'r penderfyniad nad oedd derbyn y rhoddion yn torri cod y Gweinidogion yn syfrdanol. Y rhesymeg yw bod Vaughan wedi derbyn yr arian yn ei rôl fel AS yn hytrach na fel Gweinidog. Mae hyn yn gwbl amherthnasol.'
Ac un arall:
'Nid wyf yn mynd i ddod ar raglen deledu i amddiffyn Vaughan Gething. Ni ddylai fod wedi derbyn yr arian. Dylai fod wedi dychwelyd yr arian yn syth. Ac fe dderbyniodd yr arian gan rywun sy'n euog o droseddau amgylcheddol ac mae pob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb—ac mae angen ymchwiliad annibynnol arnom.'
Aelod Seneddol Llafur Cymru, Beth Winter. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ond y pwynt yw fy mod i'n cytuno â Beth. Gyda'r fath anesmwythyd yn ei blaid ei hun, rwy'n deall pam nad yw wedi dod heddiw, ac rwyf hefyd yn deall pam ei fod wedi dewis lansio ymchwiliad mewnol o fewn y Blaid Lafur. Ond fel y mae llawer o'i gyd-Aelodau ei hun yn cydnabod, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r Blaid Lafur yn unig, mae'n ymwneud â'r wlad. Dywedodd y Prif Weinidog ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon,
'fy mhenaethiaid yw'r etholwyr ac aelodau o deulu Llafur Cymru.'
Mae'n anghywir. Ei benaethiaid yw pobl Cymru. Mae ganddo gyfrifoldeb iddynt hwy i sicrhau ei fod mor dryloyw ag y gall fod. Mae lansio ymchwiliad annibynnol yn caniatáu iddo brofi i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, os nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le mewn gwirionedd, y gall brofi hynny. Rwy'n gwybod bod ei blaid ei hun yn gwybod hynny hefyd yn y bôn. Felly, rwy'n annog Aelodau Llafur yn enwedig: sefwch yn ddewr dros eich egwyddorion. Gadewch i bobl wybod bod yr hyn a ddywedwch wrth y wasg, yr hyn a ddywedwch ar Twitter neu mewn briffiau dienw hyd yn oed, wedi ei ategu gan eich gweithredoedd. Dyna pam y gobeithiaf y bydd pob Aelod, o bob ochr i'r Siambr, yn cefnogi ein cynnig heddiw.
Neithiwr, fe wnaethom siarad a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol ar y camau y dylem i gyd fod yn eu cymryd i adfer ymddiriedaeth mewn gwleidyddion. Mae'r bennod gyfan hon wedi taflu cysgod tywyll dros ddemocratiaeth Cymru. Nid yw'r achos hwn, er mor ddifrifol ydyw, ond yn symptom o'r clefyd mwy sy'n effeithio ar ein democratiaeth yn fy marn i, sef cynnydd llechwraidd 'arian mawr' mewn gwleidyddiaeth. Os nad ydym yn ofalus, byddwn yn union fel yr Unol Daleithiau. Mae'n system sy'n grymuso'r dosbarth rhoddwyr elît, tra bo'n cau lleisiau pobl gyffredin allan. Mae'n ystumio democratiaeth.
Dyna pam y dylai'r nod ehangach gynnwys dileu 'arian mawr' o'n gwleidyddiaeth unwaith ac am byth yma yng Nghymru. Mae'r ateb yn syml, yn y ddadl hon ac yn yr un nesaf, a phe bai'r Prif Weinidog yma, byddwn yn dweud hyn: 'Rhowch yr arian yn ôl. Gadewch inni roi diwedd ar hyn nawr.' Diolch yn fawr iawn.
Y Trefnydd i gyfrannu i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Wedi gwrando'n ofalus, dwi ddim wedi clywed dim byd newydd heddiw. Rydyn ni wedi ateb y pwyntiau hyn o'r blaen. Llywydd, mae'r Aelodau wedi clywed y ffeithiau gan y Prif Weinidog ei hun yn y Siambr ac yn y Senedd.
Rwyf am ddweud wrth yr Aelodau yma heddiw fy mod i'n ymateb—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, ddim ar y cam hwn. Mae'r amser yn fyr ac mae gennyf lawer i'w ddweud.
Rwyf am ddweud, mewn ymateb i'r cynnig, fod y Prif Weinidog a phob un ohonom yn y Cabinet hwn wedi ymrwymo i gynnal cod y Gweinidogion. Ac mae'n gwbl briodol fod pwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud datganiad clir a chyhoeddus o'r safonau ymddygiad sy'n ddisgwyliedig ganddynt a'u bod yn sicrhau eu bod yn cadw at y safonau hynny, ac ar ben hynny, pan godir cwestiynau, fod y pryderon hynny'n cael eu hystyried yn ofalus a'n bod yn ymateb iddynt yn briodol. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Prif Weinidog yn ei gyfarfod cyntaf yn y Cabinet—ac mae'n bwysig rhannu hyn—oedd pwysleisio pwysigrwydd cod y Gweinidogion a'i ddisgwyliad y dylai ei Lywodraeth lynu at y safonau uchaf, fel yr amlinellir gan y cod. Rydym o ddifrif ynghylch cod y Gweinidogion a'r cyfrifoldebau y mae'n eu gosod ar Weinidogion Cymru.
Lywydd, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y rhodd a wnaed i ymgyrch y Prif Weinidog dros arweinyddiaeth y Blaid Lafur ac unrhyw benderfyniad ar fenthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r banc datblygu'n darparu benthyciadau masnachol a buddsoddiadau ecwiti i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn nodi sut mae'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r banc yn cael ei rheoli a'i gweithredu, ac mae'n nodi'n benodol na fydd Gweinidogion Cymru na swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran mewn materion gweithredol o ddydd i ddydd, materion masnachol na phenderfyniadau ar draws grŵp y banc datblygu.
Ac nid oedd gan y Prif Weinidog, yn ei rôl flaenorol yn y Cabinet, unrhyw ran yn y benthyciad hwn ac nid yw'n iawn gwneud neu awgrymu cysylltiad o'r fath pan nad yw'r ffeithiau'n ategu hynny. Fel y dywedodd Hefin David, mewn sesiwn graffu ddiweddar, cadarnhaodd Banc Datblygu Cymru nad yw Gweinidogion yn chwarae rhan yn y penderfyniadau hyn. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, ac mae wedi cael ei nodi unwaith eto heddiw fod y cyn-Brif Weinidog wedi ystyried a fyddai derbyn y rhodd hon yn gyfystyr â thorri cod y Gweinidogion pan dderbyniodd lythyr ynglŷn â hyn, a chymerodd gyngor arno a dywedwyd wrtho nad oedd yn torri'r cod. Derbyniodd y cyngor hwn a dilynwyd y broses briodol ar gyfer ystyried achosion honedig o dorri cod y Gweinidogion.
Yn olaf, Llywydd, wrth ymateb i'r cynnig a'r gwelliant, dwi'n dweud unwaith eto bod ein penderfyniadau yn bodloni'r rheolau ac nid yw rheolau'r cod wedi cael eu torri. Mae camau diogelu yn bodoli i gadw busnes etholaethol ar wahân i fusnes gweinidogol. Mae hyn yn gyson gyda gofynion y Comisiwn Etholiadol ac felly ni fyddai ymchwiliad annibynnol yn briodol.
A gaf i ddweud yn olaf fy mod i'n falch, hefyd, fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen? Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Rydym ni'n symud ymlaen fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru—
A ydych chi'n derbyn ymyriad, Weinidog?
Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ. Mae'r cyfrifoldeb portffolio hwn yn gadarn gyda'r Prif Weinidog. Mae wedi dewis peidio â dod i'r ddadl hon heddiw i ymateb i'r pwyntiau a roddwyd iddo. Nid oedd llawer o'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich ateb i'r ddadl hon ar gael i'r Prif Weinidog blaenorol, megis y benthyciad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. A allwch chi egluro pam nad yw'r Prif Weinidog wedi dod i siarad ar fater sydd yn ei bortffolio gweinidogol, oherwydd rwy'n credu, fel mater o gwrteisi, fod y Senedd yn haeddu'r ymateb hwnnw gennych chi heddiw?
Mae hefyd yn briodol iawn fy mod i, fel Trefnydd, yn siarad ac yn ymateb yn y ddadl a gyflwynwyd gennych chi heddiw. Ac rwyf am ailadrodd y pwynt a wneuthum fy mod yn falch fod arweinydd yr wrthblaid eisiau symud ymlaen. Rwy'n credu bod y Senedd gyfan ddoe—. A gadewch inni gofio, rydym yn symud ymlaen fel Senedd i ddiwygio'r Senedd. Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog, sy'n mynd i Mumbai—ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso ar draws y Siambr hon—gyda Gweinidog yr economi, yn mynd i'r afael â'r heriau y mae pobl Port Talbot a de Cymru, a llawer pellach i ffwrdd, yn eu hwynebu gyda'r hyn sy'n digwydd i gynhyrchiant dur yn sgil penderfyniad diweddar Tata.
Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru. Ond rwyf hefyd yn falch mai'r Senedd sy'n wynebu'r heriau hyn wrth inni symud ymlaen i ddiwygio'r Senedd ar gyfer democratiaeth fwy cynrychioliadol yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai dyna'r hyn yr awn i'r afael ag ef gyda'n gilydd yn y Senedd hon. Ond rwy'n falch fy mod i wedi cael cyfle i gywiro pethau ac i ailadrodd y ffeithiau yma heddiw, a'r ffeithiau a ddylai ein harwain wrth inni fynd ati i wneud penderfyniadau a phleidleisio. Rwy'n cynnig ein gwelliant.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Y ffaith amdani yw nad yw’r Prif Weinidog wedi ymuno â ni ar gyfer dadl ar rywbeth sy'n rhan o'i gyfrifoldeb ef, a chredaf fod yr anfodlonrwydd a’r distawrwydd ar y meinciau Llafur yn siarad cyfrolau am y teimladau o fewn y Blaid Lafur ar hyn o bryd.
Wrth agor y ddadl hon, soniodd Andrew R.T. Davies am 'gydnabod', 'nodi' a 'galw'—tri phwynt ein cynnig, y credaf iddo eu cyfleu'n hynod huawdl. Mynegodd ei siom hefyd nad oedd y Prif Weinidog yma, a gresynodd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig 'dileu popeth'.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am y dicter a’r rhwystredigaeth a deimlir mewn perthynas â hyn, a dywedodd y gallai agwedd ‘dim i’w weld yma’ y Prif Weinidog naill ai gael ei hystyried yn hunanfodlon ar y gorau neu’n ddirmygus ar y gwaethaf.
Ar ôl cael ei gyflwyno i amddiffyn y Prif Weinidog yn ei absenoldeb—
Ni wnaeth unrhyw un fy nghyflwyno.
Rydych yn unigolyn cymwynasgar iawn, felly. Ond ar y pwynt rydych newydd ei godi, ac a wnaed gan Andrew R.T. Davies mewn ymyriad ar y Trefnydd, nid oedd yr holl wybodaeth ar gael i’r Prif Weinidog blaenorol pan gynhaliwyd yr ymchwiliad cychwynnol. Mae'r stori'n symud yn ei blaen am fod mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg. Os yw am atal y stori rhag symud yn ei blaen, os yw’r Trefnydd am atal y stori rhag symud yn ei blaen ac os yw’r meinciau Llafur am atal y stori rhag symud yn ei blaen, y cyfan sy’n rhaid i’r Prif Weinidog ei wneud yw derbyn ein cynnig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Un o’r pethau nad oedd ar gael i’r cyhoedd pan gynhaliodd y Prif Weinidog blaenorol ei adolygiad i weld a gafodd cod y Gweinidogion ei dorri oedd y ffaith bod rhodd o £200,000 wedi’i gwneud gan gwmni a oedd wedi derbyn benthyciad sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru fel benthyciwr pan fetha popeth arall. Nid oedd honno’n wybodaeth a oedd yn hysbys i’r cyhoedd bryd hynny. Yn amlwg, os oes canfyddiad o ddylanwad posibl, mae hwnnw'n fater y mae'r cod yn cyfeirio ato. O ystyried bod honno’n wybodaeth newydd, ac o ystyried bod rhagor o wybodaeth wedi dod i'r amlwg ynglŷn â chysylltiadau eraill â’r cwmni tacsis, er enghraifft, y gwnaethom eu trafod yn y Siambr ddoe, onid ydych chi'n cytuno bod angen edrych ar hynny hefyd?
Wel, ni fydd yn fawr o syndod i'r Siambr fy mod yn cytuno â chi ar y pwyntiau hynny, Darren Millar—pan fo gwybodaeth newydd yn dod i'r amlwg, dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r wybodaeth honno, ac felly, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad.
Rhestrodd Tom Giffard yr Aelodau Llafur sydd wedi dangos eu hanfodlonrwydd â’r hyn sydd wedi digwydd yma, a soniodd Jane Dodds am y cysgod tywyll y mae hyn wedi’i daflu dros wleidyddiaeth Cymru. Mae’n gwbl amlwg fod angen ymchwiliad annibynnol brys arnom. Ac er bod y Prif Weinidog yn dweud ei fod wedi gweithredu yn unol â llythyren y rheol, mae'r rhodd hon a phopeth amdani yn amheus braidd.
Felly, gadewch inni atgoffa ein hunain o sut mae'r sefyllfa'n edrych i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Derbyniodd Vaughan Gething rodd o £200,000 gan rywun a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol i ymladd etholiad arweinyddiaeth hynod o dynn, ac fe'i henillodd yn y pen draw o drwch blewyn. Roedd busnesau a oedd yn eiddo i’r un unigolyn a gafwyd yn euog wedi benthyca £400,000 yn flaenorol gan Fanc Datblygu Cymru o dan oruchwyliaeth Gweinidog yr economi ar y pryd. I drigolion etholaeth Paul Davies, mae haen ychwanegol yma hefyd, gan fod tomen sbwriel Withyhedge, sy’n achosi aer budr, llygredig, yn cael ei gweithredu gan yr unigolyn a gafwyd yn euog a roddodd y £200,000 i Vaughan Gething.
Mae ein cynnig yn glir, fel y mae cod y Gweinidogion: nid oes ond yn rhaid i weithred ymddangos fel pe bai gwrthdrawiad buddiannau, neu ymddangos fel pe bai’n rhoi Aelod o dan rwymedigaeth amhriodol. Mae'r saga gyfan hon—y rhodd, y benthyciad, y diffyg doethineb a ddangoswyd gan y Prif Weinidog gan ei fod yn gwybod am yr euogfarn pan dderbyniodd y rhodd—yn union fel tomen sbwriel Withyhedge: mae'n drewi. Felly, os nad oes unrhyw beth i’w guddio, pam pleidleisio yn erbyn ein cynnig? Os nad oes unrhyw beth i'w guddio, byddech yn croesawu'r cyfle i gael eich rhyddhau o fai. Os nad oes unrhyw beth i’w guddio, ymunwch â ni a phleidleisiwch gyda’r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.