6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad Cass

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:35, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a roddwyd gennych i'r Senedd y prynhawn yma, ond mae wedi dod o ganlyniad i ddadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y mater pwysig hwn. Mae fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, wedi codi hyn yn Siambr y Senedd ar ddau neu dri achlysur, rwy'n credu, heb ymateb pendant gan y Llywodraeth. Nid yw'n ffordd dda o lywodraethu, Weinidog, os yw'n cymryd dadl wrthblaid i gael datganiad gan y Llywodraeth ar fater mor bwysig sy'n effeithio ar fywydau plant yma yng Nghymru, a gobeithio, gyda chyfraniadau Laura Anne Jones a Sam Rowlands y prynhawn yma, y bydd yn ddigon i ennyn cefnogaeth i'n cynnig, heb ei ddiwygio, yn y bleidlais heno. Diolch.