6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad Cass

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 4:20, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n mynd i siarad am y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, sy'n nodi bod

'y GIG yn Lloegr wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi diogelwch nac effeithiolrwydd clinigol hormonau atal y glasoed ar gyfer trin dysfforia rhywedd mewn plant a phobl ifanc ar hyn o bryd.'

Mae Dr Hilary Cass yn ei hadolygiad o wasanaethau hunaniaeth rhywedd i blant yn nodi: 

'Nid yw pegynnu a mygu dadl yn gwneud dim i helpu'r bobl ifanc sy'n cael eu dal yng nghanol trafodaeth gymdeithasol stormus', ac maent angen ac yn haeddu gwell. Mae angen inni ddileu'r gwenwyn yn y ddadl hon a'r modd y caiff ei gwleidyddoli. Nid yw'n helpu neb, ac yn sicr nid yw'n help o gwbl i'r holl bobl ifanc sy'n wynebu'r pethau hyn. 

Dylai'r Siambr hon fod yn fan lle gellir mynegi pob safbwynt rhesymol, ac ni ddylid canslo neb mewn democratiaeth am ddatgan safbwynt a arddelir yn onest ac nad yw'n rhagfarnllyd. Rwy'n ffeminist frwd ac yn hyrwyddo hawliau menywod—rwyf wedi gwneud hynny ar hyd fy oes—ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder i bawb. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar ein democratiaeth a'n holl bobl pan nad ydym yn gallu rhannu safbwyntiau gonest y bydd dinasyddion cyffredin sy'n byw eu bywydau o ddydd i ddydd heddiw yn eu rhannu.

Fel y dywedodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer ddoe, mae'r Blaid Lafur wedi hyrwyddo hawliau menywod ers amser maith iawn. Mae'n bwysig pwysleisio mewn cyd-destun Cymreig fod GIG Cymru yn comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, fel y dywedwyd, ar gyfer plant a phobl ifanc 17 oed ac iau gan GIG Lloegr. Dywed Dr Cass fod meddygon a allai fod fel arall wedi trin pobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd ar gyfer iselder neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig wedi teimlo bod gorfodaeth arnynt i'w cyfeirio at y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Tavistock and Portman, ac sydd bellach wedi'i gau.

Canfu Dr Cass nad oedd tystiolaeth dda dros gefnogi'r arfer clinigol cyffredinol o bresgripsiynu hormonau i bobl dan 18 oed i atal y glasoed neu drawsnewid i'r rhyw arall. Archwiliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Efrog yr holl dystiolaeth sydd ar gael—yr holl dystiolaeth sydd ar gael—ar sut i drin plant sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd. Daethant i'r casgliad fod tystiolaeth i gefnogi ymyrraeth feddygol yn gwbl annigonol, gan ei gwneud yn amhosibl gwybod a yw'n gwella iechyd meddwl neu gorfforol. 

Mae adolygiad Cass wedi'i ymchwilio'n dda ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bawb ohonom yn y Siambr hon ddangos arweinyddiaeth ac empathi tuag at eraill a deall yn llawn fod troi materion mor gymhleth a chynhennus yn erthyglau ffydd mewn rhyw fath o ryfel diwylliant, sydd mor aml yn cael ei fwydo gan ryfelwyr bysellfwrdd ar-lein, yn anghywir, ac mae hynny'n gwneud cam â phawb. Diolch.