6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adolygiad Cass

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 4:09, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU wedi addo gweithredu effeithiol ar frys. Dywedodd y bydd hi'n gweithio'n agos gyda GIG Lloegr i gael gwared ar yr ideoleg sydd wedi achosi cymaint o niwed diangen. Fy nghwestiwn i yw a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Mae gan bawb yn y Siambr hon gyfrifoldeb i ddiogelu—