Part of the debate – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at absenoldeb gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol cynhwysfawr yng Nghymru.
Yn credu bod pob unigolyn, beth bynnag fo'u hunaniaeth rhywedd, yn haeddu parch, dealltwriaeth a mynediad at wasanaethau cymorth a gofal iechyd priodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.