– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 1 Mai 2024.
Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad o'r enw 'Gaeaf Cynhesach'. Fe wnaeth yr adroddiad gyfres o argymhellion i’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i sicrhau na fyddai ac na allai cwmnïau ynni ailadrodd gweithredoedd y gaeaf blaenorol, lle cafodd miloedd o gwsmeriaid agored i niwed eu trin yn warthus—pobl yn gwthio'u ffordd i mewn i'w cartrefi a'u gorfodi i ddefnyddio dull o dalu nad oeddent wedi gofyn amdano.
Roedd rhai o’r cwsmeriaid hyn, Ddirprwy Lywydd, yn defnyddio offer meddygol gartref; roedd gan rai ohonynt gyflyrau cronig; roedd gan rai ohonynt blant ifanc iawn a theuluoedd ifanc. 'Gosod anwirfoddol' yw term y diwydiant ar gyfer gosod mesurydd rhagdalu heb gydsyniad y defnyddiwr. Gellir gwneud hyn drwy warant gan y llysoedd, neu drwy newid mesurydd deallus o bell i'r modd rhagdalu.
Ysgogwyd y pwyllgor i wneud y gwaith hwn gan ddeiseb a gyflwynwyd gan Climate Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am ymgysylltu â’n proses. Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymgyrchwyr y trydydd sector, un o’r newyddiadurwyr a wnaeth gymaint i ddatgelu’r sgandal, Dean Kirby, a chynrychiolwyr y cwmnïau ynni a’u rheoleiddiwr, Ofgem. Ddirprwy Lywydd, hoffwn hefyd gofnodi ein diolch fel pwyllgor i’r cadeirydd a’r tîm cyfan yn Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot yng Nghaerdydd am ganiatáu inni lansio ein hadroddiad yn un o’u sesiynau cyngor ar ynni. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac i Ofgem am ddarparu ymatebion ystyriol i argymhellion y pwyllgor. Ein gobaith wrth ymgymryd â’r gwaith hwn a chynhyrchu ein hadroddiad oedd sicrhau mai i’r bobl y mae dyletswydd gyntaf cwmnïau ynni a rheoleiddiwr y diwydiant, Ofgem, nid i elw enfawr cyflenwyr ynni.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch o ddweud, ers inni ddechrau ar ein gwaith, fod rhai newidiadau wedi bod, ac er yr hoffwn yn fawr iawn weld mwy o newidiadau, mae’n bwysig cydnabod y rheini sydd wedi’u gwneud. Mae Ofgem wedi cyflwyno’r cod ymddygiad gorfodol yr oeddem am ei weld, a gallai fod wedi bod yn fwy hael, ond o leiaf mae’n rhoi rhywfaint o amddiffyniad i ddefnyddwyr. Ond wrth inni siarad yma heddiw, wrth inni gynnal y ddadl hon, gwyddom fod saith cyflenwr ynni eisoes wedi cael caniatâd i ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Ac er gwaethaf y cod ymddygiad gorfodol newydd, gallai pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru ddal i gael mesurydd rhagdalu gorfodol wedi'i osod yn eu cartref y gaeaf hwn, am ddim rheswm heblaw nad ydynt yn bodloni'r meini prawf llym ar gyfer eithrio. Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw bod y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, yn parhau i fonitro’r cod ymarfer, ac yn bwysicach, yn gwneud newidiadau os nad yw pethau’n gweithio.
Mae oddeutu 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a’u prif gyflenwad trydan, a chyda dyledion ynni ledled Prydain ar y lefelau uchaf erioed, mae perygl i’r nifer honno godi hyd yn oed yn uwch. Nawr, er bod y cap ar brisiau ynni wedi gostwng ym mis Ebrill eleni, mae'n bell o fod yn ddiwedd ar yr argyfwng costau ynni. Mae prisiau ynni'n dal i fod 49 y cant yn uwch nag yr oeddent cyn i'r argyfwng ddechrau. Mae dyledion ynni ar y lefelau uchaf erioed. Mae tlodi o ran tanwydd yng Nghymru—ac mewn rhai achosion, Ddirprwy Lywydd, tlodi eithafol o ran tanwydd—wedi dod yn norm i lawer o aelwydydd incwm isel. Mae’r wers o’r sgandal hon yn glir: ni ddylem ymddiried yn y cyflenwyr i farcio eu gwaith cartref eu hunain. Dylai Llywodraeth y DU a’r rheoleiddiwr, Ofgem, fod wedi gweithredu'n gynt pan ddaeth hyd a lled y sgandal yn amlwg i lawer. Mae'r ffordd y mae cyflenwyr yn trin eu cwsmeriaid agored i niwed yn anghywir, ac fe siapiodd y ffordd y gwnaethant ymddwyn yn ystod sgandal y mesuryddion rhagdalu. Yn ystod tystiolaeth i’r pwyllgor, dyma a ddywedodd prif weithredwr un cyflenwr ynni wrth roi tystiolaeth:
'Rwy'n credu bod problem wirioneddol gennym yn y DU o hyd gyda phobl sy'n gallu talu am eu hynni ond sy'n penderfynu nad ydynt am dalu. A phe baem yn byw mewn cymdeithas lle mae pobl yn gwbl onest a lle na fyddai angen inni gael y ddadl hon, mae'n debyg na fyddem yn y sefyllfa hon. Ond mae'n broblem wirioneddol. Bob dydd, mae gennym filoedd o bobl sy'n penderfynu y byddai'n well ganddynt fynd ar wyliau yn hytrach na thalu am eu hynni, neu flaenoriaethu rhywbeth arall.'
Ddirprwy Lywydd, cefais fy syfrdanu gan y datganiad hwn gan brif weithredwr y cyflenwr penodol hwn. I mi, nid yw'n enghraifft o rywun sy’n rhedeg sefydliad sy’n deall anghenion cwsmeriaid agored i niwed yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl heddiw, ond mae un peth yn amlwg i mi, sef bod mwy y bydd angen ei wneud yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i sicrhau nad yw Ofgem a'r cyflenwyr ynni'n llusgo'u traed. A bydd angen i bob un ohonom yn y Siambr gynnal y pwysau gwleidyddol sy'n sicrhau nad yw anghenion defnyddwyr agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hanghofio yn y rhuthr i wneud miliynau o bunnoedd o elw. Rwy’n ddiolchgar am yr amser, Ddirprwy Lywydd; rwy’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor hefyd. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, am agor dadl mor bwysig a phawb a gymerodd ran yn y sesiynau tystiolaeth. Rwy'n credu bod pob Aelod ar draws y Siambr hon yn cydnabod y materion cymhleth sy'n bodoli mewn perthynas â biliau cyfleustodau a bod hyn yn cael ei gymhlethu drwy osod mesuryddion rhagdalu. Er bod yna aelwydydd a grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed ac angen cymorth i dalu eu biliau, mae yna hefyd aelwydydd ac unigolion sy'n gallu fforddio eu biliau trydan a nwy yn ddigonol, sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn dewis peidio â'u talu ac yn hytrach, yn mynd i ddyled fawr.
Er efallai nad yw hyn yn ymddangos yn broblem i rai, oherwydd eu bod o'r farn y gall cwmnïau cyfleustodau oddef colli incwm o'r fath yn hawdd, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw bod y golled honno'n cael ei throsglwyddo ymlaen i dalwyr biliau eraill, sy'n sybsideiddio'r rhai sy'n gwrthod talu. Felly, mae'n dal i fod angen mesuryddion rhagdalu ac mewn rhai achosion, mae'n dal i fod angen i fesuryddion rhagdalu fod yn orfodol.
Ceir tystiolaeth y gall mesuryddion rhagdalu fod yn ffordd effeithiol o helpu i reoli cyllidebau aelwydydd, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn llety a rennir neu lety rhent dros dro, am ei fod yn lleihau'r gwaith o weinyddu sefydlu cyfrifon newydd am gyfnodau byr. Ond fel y gwyddom i gyd, un o'r prif broblemau gyda hyn a chyda mesuryddion rhagdalu yw eu bod yn draddodiadol, fel y clywsom, yn codi tariff llawer uwch na debyd uniongyrchol.
Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU, o fis Gorffennaf y llynedd, wedi gorfodi camau i ddileu premiymau mesuryddion rhagdalu gan gwmnïau ynni, ac rwy'n credu bod hwn yn gam mawr ymlaen tuag at hyrwyddo system decach a mwy cyfiawn. Er hynny, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r adroddiad yn nodi, rwy'n credu bod angen dealltwriaeth fwy trylwyr o fregusrwydd unigolyn cyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rwy'n gwybod bod cwmnïau cyfleustodau yn gwbl ymwybodol o anghenion cwsmeriaid agored i niwed ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ddeall bregusrwydd a rhoi gwasanaethau ar waith i helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Fodd bynnag, roedd gosod mesuryddion anwirfoddol yn ystod cyfnod o bwysau chwyddiant enfawr yn sgil pandemig COVID a'r rhyfel yn Wcráin yn sylfaenol anghywir, oherwydd eu bod yn gwbl ymwybodol y byddai llawer o'u cwsmeriaid wedi bod yn agored i niwed ac yn cael trafferth talu.
Ar gyfartaledd, Ddirprwy Lywydd, mae'n cymryd tua dwy flynedd cyn i bobl sy'n wynebu anhawster ariannol ofyn am gymorth. Ac yn ystod y cyfnod hwn, maent yn aml yn gwneud penderfyniadau ariannol gwaeth mewn anobaith, a gall hyn effeithio ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Rydym hefyd yn gwybod y gall bregusrwydd fod yn sefyllfa dros dro, lle mae pobl yn agored i niwed am gyfnodau byr, megis ar ôl profedigaeth neu golli swydd. Ac felly, rwy'n credu'n gryf y dylem ymdrechu i leihau, ac yn wir i ddileu'r stigma y gall pobl ei deimlo yn sgil eu bregusrwydd, ac mae angen mwy o ymwybyddiaeth o sut y gallant gael gafael ar gymorth.
O safbwynt personol, credaf fod cryn rinwedd mewn gweld cwmnïau ynni'n datblygu system a all ddiystyru mesuryddion rhagdalu ar adegau o fregusrwydd a chyflenwi trydan a nwy i gwsmeriaid, fel aelwydydd â phlant neu bobl oedrannus, yn ystod tywydd oer a misoedd y gaeaf. A byddai hyn, yn y pen draw, yn annhebygol o gostio cymaint â hynny i gwmnïau cyfleustodau. Hoffwn wybod a yw cwmnïau wedi ystyried yr opsiwn hwnnw ai peidio, oherwydd gallai fod o fudd i lawer o bobl yng Nghymru.
Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad naill ai'n llawn neu mewn egwyddor, a chredaf ei bod yn iawn fod y cwmnïau cyfleustodau ac Ofgem yn cael eu gwthio'n barhaus ar y mater hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'n fater y credaf y bydd byth yn diflannu. Bydd gennym bob amser bobl sydd â'r anghenion hyn yn ein gwlad.
Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 3, un rwy'n ei gefnogi'n llawn. Un o'r prif bethau y mae pobl agored i niwed yn eu hwynebu yw gorfod ailadrodd eu profiadau a'u hamgylchiadau i sawl sefydliad, a byddai o fudd mawr iddynt hwy a'r darparwyr cyfleustodau pe bai ond yn rhaid iddynt esbonio'r sefyllfa un waith. Rwy'n deall bod cwmnïau dŵr wedi gwneud cryn dipyn o waith ar rannu cofrestrau â blaenoriaeth a bod treialon llwyddiannus wedi bod rhwng cwmnïau dŵr a darparwyr ynni ar gyfer rhannu'r data hwn. Rwyf hefyd yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cyfyngiadau ynghlwm wrth reoleiddio diogelu data cyffredinol a rhannu data ac wrth gwrs, wrth ddiogelu'r wybodaeth honno rhag cael ei chamddefnyddio. Ond rwy'n credu mai dyma'r ffordd ymlaen serch hynny i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn, a byddwn yn falch o weld mwy o ymdrech gan y Llywodraeth i wthio am hyn gan gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r deisebwyr am ddod â hwn gerbron a diolch i bawb a wnaeth gyfrannu tuag at yr adroddiad, a diolch hefyd i Jack Sargeant, fel Cadeirydd y pwyllgor, am gadw hwn ar yr agenda a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn drwodd ar hyn. So, diolch yn fawr i'r rheini.
Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, mae'n rhaid imi ddweud mai dyma un o'r eitemau pwysicaf sydd wedi dod ger bron y pwyllgor. Roedd casglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn eithaf brawychus, oherwydd po ddyfnaf yr ymchwiliwch i sgandal mesuryddion rhagdalu gorfodol, y mwyaf brawychus y bydd. Er enghraifft, syfrdanwyd y pwyllgor gan y terfyn oedran uchaf ac isaf a oedd yn atal mesurydd rhagdalu rhag cael ei osod. Er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cleifion fel rhai oedrannus os ydynt dros 65 oed, mae'r cod ymarfer ar fesuryddion rhagdalu wedi barnu mai 75 a hŷn yw'r terfyn oedran lle na chaniateir i chi osod un. Gall teuluoedd sydd â phlant cyn oed ysgol dros ddwy oed hefyd gael mesurydd wedi'i osod yn erbyn eu hewyllys. Mae hynny'n amlwg yn anghywir.
Ond ni waeth beth yw'r oedran, ni ddylid gorfodi pobl i wneud penderfyniad rhwng gwresogi a bwyta yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, dyna sy'n digwydd mewn llawer, a mwyafrif efallai hyd yn oed, o'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli yn y Senedd. Mae'n anghyfiawnder ac yn sgandal genedlaethol. Dylai aelwydydd fod yn cael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Gyda hynny mewn golwg, ac o gofio bod pris ynni yn dal i fod yn llawer uwch na chyn yr argyfwng, rwyf am wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r lefelau uchel o ddyled ynni. Rwyf hefyd eisiau gwybod sut y bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr â chanfyddiadau adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, yn dylanwadu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r adroddiad pwysig hwn i lawr y Siambr heddiw? Rwyf hefyd am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, am ei arweinyddiaeth yn y maes hollbwysig hwn—mater o fywyd a marwolaeth i rai.
Arweiniodd ymchwiliad cudd The Times i gwmni a ddefnyddiwyd gan Nwy Prydain i fynd ar drywydd dyledion at siocdonnau ledled y Deyrnas Unedig. Canfu fod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion yn rheolaidd, i dorri i mewn yn llythrennol i gartrefi cwsmeriaid, a gosod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, hyd yn oed pan oedd yn hysbys fod ganddynt fregusrwydd eithafol a rhyngblethol. Canfu'r ymchwiliad fod asiantau wedi cael eu hanfon i mewn gan Nwy Prydain i osod mesurydd yn orfodol yng nghartref mam ifanc gyda babi pedair wythnos oed. Roedd ei biliau wedi codi saith gwaith drosodd yn ystod yr argyfwng costau byw. Am weithred sefydliadol symbolaidd a bwlïaidd.
Fel mae rhagair y Cadeirydd yn nodi, gall cael mynediad at wres a golau fod yn fater o fywyd a marwolaeth, felly rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ac Ofgem i'r adroddiad hwn, lle mae'r ddau sefydliad mewn egwyddor yn derbyn pob argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Deisebau, er bod Ofgem wedi bod yn araf i ymateb ac mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae'r cod ymarfer newydd ar gyfer gosod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol yn dal i fod yn newydd, a bydd angen diwydrwydd dyladwy a gwneud asesiad o'i effeithiolrwydd. Mae gan Ofgem lawer i'w wneud hefyd, gan yr amcangyfrifir mai dim ond 1,502 o bobl sydd wedi cael iawndal, er bod dros 150,000 o osodiadau yn cael eu hasesu gan gwmnïau ynni.
Felly, Weinidog, pa gamau neu sylwadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau nad asiantaethau casglu dyledion sydd i benderfynu a yw aelwyd yn agored i niwed, fod Ofgem yn monitro effaith y cod ymarfer newydd, ac ystyried gostwng yr oedran ar gyfer y categori peidio â gosod o 75 i 65 oed, a chyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer ynni? Cefndir y sgandal Brydeinig hon oedd yr argyfwng costau byw dinistriol, wrth i berchennog Nwy Prydain gyhoeddi £3 biliwn o elw blynyddol uwch nag erioed yn 2023. Mae Centrica, perchennog Nwy Prydain, yn gwmni FTSE 100 a welodd elw a addaswyd o £3 biliwn—yr uchaf yn ei hanes hyd yma. O dan reolaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU yn San Steffan, mae cewri cyfalafol yn boddi mewn elw, ar draul aelodau tlotaf a mwyaf bregus cymdeithas. Felly, y ffordd gyflymaf a mwyaf diffiniol o ddod â newid radical i aelwydydd Cymru yn y maes hwn yw ethol Llywodraeth Lafur newydd yn y DU pan ddaw'r etholiad cyffredinol, Llywodraeth Lafur sy'n blaenoriaethu pobl dros elw. Diolch.
Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, achos mae tlodi tanwydd wedi bod yn un o brif feysydd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rwy'n aelod ohono. Ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, mae'r modd y mae prisiau uchel tanwydd ac arferion annheg, sydd, yng ngeiriau'r adroddiad, yn destun sgandal, wedi cyfrannu at lefelau ac effaith tlodi a'r argyfwng costau byw wedi bod yn bryder rwyf wedi ei godi'n rheolaidd yn y Senedd. A dwi ddim yn ymddiheuro am ailadrodd unwaith eto yr hyn sy'n rhoi cyd-destun i'r adroddiad yma, achos mae'r sefyllfa yn creu poen meddwl enbyd, caledi annerbyniol, ac yn achosi salwch a marwolaeth diangen. Mae'n gwbl anghynaliadwy a chywilyddus mewn gwladwriaeth sydd gyda'r mwyaf cyfoethog yn y byd.
Fel y clywon ni, mae tlodi tanwydd wedi cynyddu yng Nghymru ac yn parhau ar lefel argyfyngus o uchel, gan gynnwys 98 y cant o aelwydydd incwm isel, gyda'r biliau ynni yn dal i fod bron 50 y cant yn uwch nag oedden nhw cyn yr argyfwng ynni, ac unrhyw ostyngiad yn y cap ar brisiau wedi ei ddileu'n llwyr gan y cynnydd aruthrol mewn dyled ynni. Yn ôl Ofgem, mae'r dyled ar filiau ynni wedi mwy na dyblu dros y tair blynedd diwethaf, a gan nad yw'r nifer o aelwydydd wedi cynyddu yn yr un modd, mae'n amlwg bod y dyled hwnnw, felly, yn awr hyd yn oed yn ddyfnach.
Ac mae'r darlun yng Nghymru yn dduach, o gofio bod y de a'r gogledd yn y tair uchaf o ran y rhanbarthau drutaf ar gyfer ynni, a'r taliadau sefydlog ar eu lefelau uchaf erioed. Ac, wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn gosod mas y sefyllfa yn gwbl blaen—hynny yw, sut mae arferion y cwmnïau ynni wrth ymdrin â chwsmeriaid bregus sydd yn dioddef o dlodi tanwydd yn gwaethygu'r sefyllfa.
Mae nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, yn cyd-fynd â chasgliadau'r grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw, a gyhoeddwyd nôl ym Medi'r llynedd, a oedd yn gofyn am fesurau brys gan Lywodraeth Cymru a San Steffan i leddfu'r argyfwng economaidd ac annhegwch oedd yn wynebu gormod o bobl Cymru. Roedd y grŵp arbenigol yn galw am bwysau gan y ddwy Lywodraeth ar gwmnïau ynni i sicrhau camau i'w cefnogi, a gweithredu ar yr arferion annheg a gwahaniaethau rhanbarthol.
Mae misoedd lawer, felly, ers cyhoeddi'r ddau set o argymhellion hyn, a miloedd o bobl, yn anffodus, wedi dioddef drwy fisoedd oer y gaeaf rhwng hynny a nawr. Bu hefyd, fel y clywon ni, rai datblygiadau ers hynny o ran y cod ymarfer statudol newydd ynghylch gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol, a fyddai'n rhan o'r amodau trwyddedu ar gyfer cyflenwyr. Ond mae'n glir bod angen gostwng y nifer o fesuryddion rhagdalu sy'n cael eu defnyddio, ac, i wneud hynny, rhaid mynd i'r afael â lefelau dyled a'r hyn sy'n arwain at i bobl fod yn y fath ddyled yn y lle cyntaf. Allwn ni ddim parhau i weld sefyllfa lle mae lefel a dyfnder y dyled hwn yn arwain at bobl yn gorfod mynd heb ynni hanfodol, ac felly'r modd o gadw'n dwym, yn lân, ac yn medru coginio bwyd.
Nod cynllun Llywodraeth Cymru 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035' yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant erbyn 2035. Mae hynny ond ychydig dros 10 mlynedd i ffwrdd. O gofio'r ffigurau yna yr adroddais i ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'n amlwg bod angen gwaith mawr a brys i sicrhau cynnydd. Mae mesur cynnydd yn hanfodol os ydym am gyrraedd y nod, ond er gwaethaf y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i osod y targedau interim yn y cynllun, ac er gwaethaf y galwadau gan nifer o bwyllgorau'r Senedd hon i wneud hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu.
Felly, hoffwn ofyn, Weinidog: pryd y bydd y targedau interim hyn yn cael eu gosod? A heb y cerrig milltir, beth sy'n gyrru'r gwaith hanfodol sydd ei angen i fynd i'r afael â'n hargyfwng tlodi tanwydd, a sut ydym ni'n mesur beth sy'n effeithiol? Hoffwn hefyd glywed beth ymhellach mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o ddyled ynni ar draws Cymru. Pryd cawn ni ddiweddariad ar waith y rhaglen Cartrefi Clyd newydd er enghraifft? Pa ymrwymiadau sydd wedi cael eu rhoi hefyd gan y Blaid Lafur yn San Steffan i sicrhau diwedd ar y taliadau sefydlog annheg y mae aelwydydd Cymru yn eu hwynebu? Diolch.
Ni fyddwn yn dweud ei bod yn bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, ond mae'n fraint gallu siarad ar y mater hwn. Ac rwy'n cymeradwyo Climate Cymru ac eraill am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon, yn ogystal â'r 'uwch-arwr tlodi tanwydd' fel y byddwn i'n ei alw, Jack Sargeant, sy'n parhau i hyrwyddo'r mater penodol hwn. Diolch yn fawr i chi.
Fe wyddom fod yr argyfwng hwn yn effeithio'n anghymesur ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed—y rhai mewn tai cymdeithasol, cartrefi â phlant a'r henoed. Yn frawychus, mae Cyngor ar Bopeth yn dweud bod traean o ddefnyddwyr mesuryddion rhagdalu Cymru wedi wynebu datgysylltiad y llynedd oherwydd costau atodol anfforddiadwy, gydag 13 y cant yn mynd dros wythnos heb gyflenwad ynni hanfodol. Felly, mae gorfodi mesuryddion rhagdalu heb fesurau diogelu yn amlwg yn torri amddiffyniadau i ddefnyddwyr ac nid yw'n diogelu ein pobl fwyaf bregus a'r rhai yr ydym yn gyfrifol amdanynt. Gyda chwe chyflenwr yn gorfodi rhagdaliad eleni, mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod llai yn wynebu datgysylltiad posibl oherwydd dyled. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, felly, yn derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a ddaeth o adroddiad y pwyllgor, gan gynnwys cefnogi tariff cymdeithasol hanfodol ar gyfer rhai sy'n agored i niwed a gwella cymorthfeydd cynghori, ond mae angen gweithredu mwy mentrus o hyd.
Mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU ac Ofgem, mae gwir angen gweithredu deddfwriaeth cyfreithiol rwymol, gan wahardd pob newid i fesurydd na chafwyd cydsyniad iddo a gosod mesuryddion rhagdalu, boed drwy warant neu drwy drosglwyddo i fesuryddion deallus heb gydsyniad y defnyddiwr. Yn yr un modd, er bod cyflwyno egwyddor fregusrwydd a chod ymarfer gorfodol gan Ofgem yn gamau cadarnhaol, mae eu hymateb i'r Pwyllgor Deisebau yn brin iawn o fanylion am y mecanweithiau gorfodi hynny a goruchwyliaeth i amddiffyn ein grwpiau mwyaf agored i niwed y tu hwnt i feini prawf cul Ofgem. Mae dibynnu ar hunanreolaeth cyflenwyr yn gwbl annerbyniol, gan fod ganddynt gymhellion ariannol sy'n gwrthdaro â diogelwch cadarn i ddefnyddwyr. Yn ogystal, mae caniatáu i asiantaethau casglu dyledion gynnal asesiadau bregusrwydd cychwynnol yn annerbyniol hefyd. Nid ydynt wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol ac nid ydynt yn ddigon diduedd i werthuso bregusrwydd yn iawn. Byddwn yn croesawu sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gydag Ofgem i sicrhau bod y mesurau cadarn hyn ar waith.
Ond y pwynt ehangach, a godwyd gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a Rhianon Passmore hefyd, yw sut yr awn i'r afael â phroblem tlodi o ran tanwydd. Mae'n bla ar draws Cymru gyfan. Mae tua 98 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw mewn cartrefi incwm isel yn ei chael hi'n anodd. Mae cymunedau gwledig, fel fy un i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gan eu bod yn dioddef cyfraddau tlodi tanwydd ac ynni sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Ac er fy mod yn croesawu lansiad hirddisgwyliedig y rhaglen Cartrefi Clyd, y soniodd Sioned amdani hefyd, mae flwyddyn gyfan yn hwyrach na'r disgwyl. Ac mae'r cynllun presennol i wella 1,600 eiddo y flwyddyn yn unig dros gyfnod o saith mlynedd yn gwbl annerbyniol. Mae rhai o fy staff wedi cyfrif pa mor hir y byddai hynny'n ei gymryd i fynd i'r afael â phob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru. Mae'n 130 o flynyddoedd. Bydd yn dal yno ar ein holau ni i gyd. Mae'n rhaid inni wneud mwy yn gyflymach.
Gyda'r adroddiad blynyddol diwethaf ar gyfer Nyth yn dangos bod inswleiddio yn llai na 7 y cant o'r holl fesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd, mae cwestiynau difrifol i'w gofyn am faint a chyflymder y newid. Er mwyn gwneud tlodi tanwydd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol a chyrraedd ei thargedau ar gyfer 2035, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau brys ac ymosodol ar waith i gyflymu'r rhaglen. Felly, i orffen, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa fesurau penodol a sylweddol a gaiff eu cymryd i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd a sicrhau ei bod yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen fwyaf? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru ac am y cyfle i siarad ar ran y Llywodraeth y prynhawn yma. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad pwysig yn unol â'n safbwyntiau polisi a'n camau gweithredu yn y maes pwysig hwn. Roedd ein hymateb i argymhellion y pwyllgor yn amlinellu'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn, gan gynnwys lle nad oes gennym bwerau datganoledig, lle rydym yn parhau i ddwyn ein pryderon i sylw Llywodraeth y DU.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi pryderon am y system ragdalu a'r ffaith ei bod yn gwneud cam â'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas cyn i'r sgandal dorri yn gynnar yn 2023. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt, at gyflenwyr ym mis Tachwedd 2022 a chael sicrwydd ynglŷn â'r gefnogaeth y byddent yn ei rhoi i aelwydydd yng Nghymru yn ystod gaeaf 2022-23. Fodd bynnag, er gwaethaf y sicrwydd hwnnw, gwelsom i gyd adroddiadau brawychus am gasglwyr dyledion yn torri i mewn i gartrefi i osod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth. Dilynwyd hyn gan waharddiad hunanosodedig, a chyflwynodd Ofgem god ymarfer gwirfoddol. Rwy'n falch fod Ofgem wedi derbyn ein galwad i wneud ei god ymarfer gwirfoddol yn rhan orfodol o'r drwydded gyflenwi. Bellach, gall torri'r cod arwain at gamau gorfodi a dirwyon. Mae'n hanfodol fod deiliaid tai cymwys yn cael eu diogelu. Mae'r cod newydd yn gam i'w groesawu tuag at ddarparu gwell mesurau diogelu ar gyfer yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Rwy'n falch fod Ofgem wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth ddatblygu'r cod hwn. Rydym yn disgwyl i Ofgem fonitro cydymffurfiaeth cyflenwyr â'r gwiriadau bregusrwydd ac i weld a yw'r rheolau newydd yn mynd yn ddigon pell i ddiogelu'r rhai mwyaf anghenus.
Mae sawl Aelod y prynhawn yma wedi sôn am Ofgem, ac rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd Ofgem heddiw, yn gofyn iddo sicrhau bod y rheolau newydd yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Rwyf am gael cyfarfod cynnar gyda nhw. Mae yna bethau eraill sydd angen eu trafod gydag Ofgem, ac mae'r Aelodau wedi cyfeirio at y rheini hefyd. Un o'r pryderon i mi yw taliadau sefydlog. Mae yna alwad hefyd am y tariff cymdeithasol. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o waith y mae angen i ni ei wneud fel Llywodraeth gydag Ofgem.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad barcud ar y sefyllfa, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld ailadrodd effaith ddinistriol gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol ar ein haelwydydd bregus. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n gwylio'n agos iawn hefyd. Gyda'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn ailddechrau, rwy'n falch o weld adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn argymell camau gweithredu yn unol â safbwyntiau polisi a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd y pwynt, unwaith eto, fod llawer o Aelodau wedi dweud y prynhawn yma, fod cwsmeriaid rhagdalu fel arfer ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n rhaid inni sicrhau bod mesurau diogelu ar waith i'w gwarchod, a bod cydymffurfiaeth â'r mesurau diogelu hynny. Rydym wedi galw ers tro am gyflwyno tariff cymdeithasol, a fyddai'n ffordd ychwanegol o ddiogelu'r bobl dlotaf. Fe wnaeth y Canghellor ymrwymiad ym mis Tachwedd 2022 i ddatblygu dull newydd o amddiffyn defnyddwyr erbyn mis Ebrill 2024, ac eto rydym yn gwybod na chymerwyd camau o'r fath. Mae hyn yn rhwystredig iawn ac mae wedi golygu bod aelwydydd bregus bellach wedi gorfod dioddef dau aeaf anodd gyda chostau ynni uchel iawn ers i'r ymrwymiad gael ei wneud.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fodd bynnag, ni fu Llywodraeth Cymru'n segur. Roedd cyngor diduedd am ddim ar gael i bob deiliad tŷ drwy gynllun Nyth ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac fe wnaethom fynd ati i gyfeirio'n weithredol at wasanaeth cynghori Nyth drwy'r ymgyrch 'Yma i helpu gyda chostau byw' y gaeaf diwethaf. Mae ein gwefan Gweithredu ar Newid Hinsawdd yn cynnwys cyngor ar y defnydd o ynni yn y cartref a bydd ein rhaglen Cartrefi Clyd Nyth newydd a lansiwyd yn ddiweddar yn parhau i gynnig cyngor arbed ynni am ddim i bob aelwyd. Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu bron i £4.5 miliwn o gyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd i gefnogi aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi dros 210,000 o unigolion gyda gwerth dros £28.9 miliwn o grantiau ers mis Ebrill diwethaf. Mae hynny'n cynnwys dros £16 miliwn mewn taliadau arian parod i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n fregus yn ariannol gyda chostau byw sylfaenol fel bwyd, nwy a thrydan. Mae ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd yn darparu cefnogaeth barhaol i aelwydydd tlawd o ran tanwydd.
Rydym am weld cyflenwyr ynni yn cefnogi eu cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd, nid gorfodi mynediad. Mae'n bwysig i aelwydydd sydd mewn dyled ynni gysylltu â'u cyflenwyr ynni cyn gynted â phosibl. Drwy ymgysylltu'n gynnar, gall cyflenwyr a chwsmeriaid gytuno ar gynllun ad-dalu fforddiadwy i osgoi cyrraedd pwynt lle caiff mesuryddion rhagdalu eu gosod yn anwirfoddol. Pan fo camau gorfodi'n briodol, rydym am sicrhau bod pawb sy'n profi camau o'r fath yn cael eu trin yn deg a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag arferion gwael. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn parhau i bwyso am gamau gweithredu sy'n cyflawni hyn.
Rwy'n ymwybodol nad yw Ofgem yn rheoleiddio asiantaethau casglu dyledion, ond mae'n bwysig ei fod yn annog cyflenwyr i ddefnyddio asiantaethau casglu dyledion awdurdodedig ac asiantau achrededig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar gyflenwyr ynni i ddefnyddio asiantau sydd wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn unig. Credwn fod cael trefn gasglu dyledion achrededig yn cryfhau'r amddiffyniad sydd ar gael i'n cwsmeriaid rhagdalu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall cyflenwyr ynni ailddechrau'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol bellach, o dan y cod ymarfer sydd newydd gael ei fandadu. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae o hyd yn cefnogi aelwydydd bregus, ac fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dangos, rydym i gyd eisiau cyflawni'r un canlyniad: diogelu bywydau a llesiant ein haelwydydd mwyaf agored i niwed. Diolch.
A galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r adroddiad hwn a'i argymhellion i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn falch o'r gwaith a wnaeth cyd-aelodau'r pwyllgor ar yr adroddiad pwysig hwn. Fel y dywedodd Jane Dodds, roedd hyn i gyd yn ymwneud ag amddiffyn y bobl fwyaf bregus a gynrychiolwn yn ein cymdeithas, ac mae'n bwysig gwneud hynny. Rwy'n ddiolchgar am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma, ond rwy'n credu y dylwn gofnodi diolch y pwyllgor i'ch rhagflaenydd, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y weinyddiaeth flaenorol, a hyrwyddodd y materion hyn ac a ymatebodd yn y ffordd y gwnaethoch chi i'r adroddiad.
Heddiw, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr argymhellion yn cyd-fynd â safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru, ac roedd yn dda iawn clywed eich bod wedi ysgrifennu at Ofgem i ofyn am gyfarfod cynnar gyda'r cadeirydd a'r tîm gweithredol yno, yn enwedig ynghylch taliadau sefydlog, y gwn eu bod o ddiddordeb i lawer. Ar y diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad hwn, fe wnaeth Sioned Williams a minnau holi Ofgem ynghylch y mater hwnnw yn y grŵp trawsbleidiol dan arweiniad Mark Isherwood. Rwy'n credu, unwaith eto, fod mater ymrwymo i dariff cymdeithasol yn un sy'n bwysig i'r Senedd hon, ac rydym yn falch o hynny, a'ch sylwadau ar y casglwyr dyledion. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad agoriadol, rwy'n credu na ddylai cyflenwyr ynni na chasglwyr dyledion allu marcio eu gwaith cartref eu hunain, ac mae achrediad y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn allweddol i hynny.
Lywydd, os caf grybwyll meddyliau Joel James, a gynigiodd gyfraniad da drwy gydol y ddadl ac yn sicr y prynhawn yma, lle nododd fod y premiwm rhagdalu wedi'i ddileu ac mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Ond unwaith eto, soniodd am yr angen am ddealltwriaeth bellach o'r hyn yw bregusrwydd cyn gosod. Soniodd Peredur Owen Griffiths yn gwbl briodol, fel y gwnaeth eraill, am y gwahaniaeth rhwng diffiniad Ofgem a diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o fregusrwydd, sy'n eithaf syfrdanol. Mae un yn dweud 75 oed a hŷn, mae un yn dweud 65 oed a hŷn. Mae gwahaniaeth sylweddol yno, ac nid yw'n gyfyngedig i hynny.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths hefyd na ddylem orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta, ond fel y nododd Rhianon Passmore, symudodd y ddadl heibio i hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Symudodd tuag at fywyd a marwolaeth yn ogystal â chael effaith real bob dydd ar ein hetholwyr. Soniodd Rhianon Passmore yn ei chyfraniad am iawndal, lle mae nifer o bobl sydd wedi cael eu gorfodi i dderbyn mesuryddion rhagdalu yn ystod y sgandal hon heb gael yr iawndal a addawyd. Dylai'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru ddwyn Ofgem a Llywodraeth y DU i gyfrif am hynny.
Unwaith eto, nododd Aelodau nad hwn yw'r unig adroddiad pwyllgor. Mae gweithgorau eraill, mae pwyllgorau eraill yn gwneud gwaith pwysig ar dlodi o ran tanwydd, unwaith eto er mwyn diogelu'r trigolion mwyaf agored i niwed a gynrychiolir gennym.
Fe soniaf am sylwadau Jane Dodds ynghylch Ofgem sy'n gyfreithiol rwymol. Lywydd, os caniatewch imi gefnu ar fy rôl fel Cadeirydd am eiliad a siarad yn bersonol, rwy'n cytuno â Jane Dodds ynghylch y syniad hwnnw. Mae'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau, yn sicr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym eu bod nhw, Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at Ofgem a chyflenwyr ynni cyn i'r sgandal hon ddigwydd, oherwydd eu bod yn sylweddoli mai dyma'r ffordd yr oedd pethau'n mynd. Ond cafodd Ofgem eu dal gan sgandal The Times, fel y nododd Rhianon Passmore. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, dylent fod wedi gweld yr arwyddion yr oeddem ni yn y Siambr hon ac eraill wedi eu rhybuddio yn eu cylch.
Lywydd, wrth orffen, rwyf am ddiolch eto i'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor hwn. Rwyf am ddiolch i fy nhîm clercio, a roddodd gymorth mawr gyda'r adroddiad hwn. Ac os caf ddweud, Lywydd, mae angen i bawb ohonom yn y Siambr hon gofio'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y sgandal mesuryddion rhagdalu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ni ddylai fod wedi digwydd, ac ni allwn adael iddo ddigwydd eto. Bydd angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod cyflenwyr ynni, sy'n gwneud yr elw gwerth miliynau o bunnoedd hyn, yn diogelu ac yn gweithio ar ran pobl y Deyrnas Unedig a Chymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnig y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.