Everest

3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn ymateb i'r newyddion bod dros 100 o swyddi gyda chwmni Everest mewn perygl o'u colli yn Rhondda Cynon Taf? TQ1062

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:15, 1 Mai 2024

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith fydd hyn yn ei gael ar staff a’r gymuned ehangach yn Nhreherbert. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, y Department for Work and Pensions a Gyrfa Cymru i gefnogi’r gweithwyr sy'n cael eu heffeithio drwy’r broses hon.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:15, 1 Mai 2024

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Yn amlwg, yn dod mor fuan wedi colli bron i 500 o swyddi yn ôl ym mis Hydref efo UK Windows and Doors, mae hyn yn newydd trychinebus i'r ardal. Yn amlwg, mae rhai o'r bobl oedd wedi’u cyflogi gan Everest wedi ffeindio cyflogaeth yn dilyn colli swyddi, ac am yr eilwaith yn wynebu dyfodol ansicr. Mae nifer o bobl hefyd gollodd eu swyddi yn ôl ym mis Hydref dal heb ffeindio swydd amgen, felly does yna ddim swyddi sydd yn talu cystal na chwaith yn yr ardal hon.

Yn amlwg, fe fuodd yna gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni hwn rhai blynyddoedd yn ôl pan fuodd y cwmni mewn trafferth. Gaf i ofyn, felly, pa gysylltiad diweddar sydd wedi bod gyda'r cwmni er mwyn gweld a oedd posib achub y swyddi hyn? Hefyd, o ystyried bod UK Windows and Doors ac Everest wedi arwain at ddiswyddiadau mor sylweddol, pa asesiad sy'n cael ei wneud o sefyllfa cwmnïau eraill yn Rhondda Cynon Taf? A pha waith mae’ch swyddogion chi’n ei wneud i sicrhau ein bod ni ddim yn mynd i gael sioc arall fel hyn, gyda chynifer o swyddi yn cael eu colli, a’n bod ni'n gweithio er mwyn sicrhau pob swydd sydd yna’n bresennol, ond hefyd i greu swyddi mewn ardal sydd dirfawr angen buddsoddiad a swyddi sy'n mynd i gadw pobl yn yr ardal, er mwyn rhoi yr hwb economaidd i ardal lle mae lefel difreintiedig mor uchel, a lle mae'n rhaid inni gael datrysiadau?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:17, 1 Mai 2024

Well, fel mae'r Aelod yn dweud, mae'r gweithlu yno, yn Everest, yn un rŷn ni wedi ei gefnogi yn y gorffennol pan oedd y cwmni o dan bwysau. Ein ffocws ni nawr yw gwneud popeth y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd gwahanol iddyn nhw, ble bynnag mae angen gwneud hynny. Rŷn ni wedi siarad gyda'r cyngor ac, fel roeddwn i'n dweud, gyda'r cyrff eraill er mwyn sicrhau ein bod ni'n cydweithio. Mae rhaglen ReAct wedi'i chychwyn i gefnogi’r unigolion sydd yn colli eu swyddi. Rwyf wedi siarad fy hunan gyda'r cynghorydd lleol, gyda Buffy Williams fel yr Aelod ar gyfer y Rhondda, ac mae fy swyddogion i hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda'r cwmni pan oedd e’n amlwg bod her yn codi, felly buon nhw mewn cysylltiad yn syth ar ôl inni ddarganfod bod risg.

O ran beth sydd yn digwydd yn yr economi ehangach, y drafferth yn aml yw dyw’r her ddim yn dod yn amlwg i ni fel Llywodraeth tan ei bod hi’n agos at fod yn rhy hwyr. Dyna sut mae pethau, yn aml, yn gweithio, yn anffodus. Ond rŷn ni yn gweithio’r gyda'r corporate joint committee a gyda'r cyngor i sicrhau bod y rhanbarth a dêl y rhanbarth yn ffocysu ar gynllun penodol ar gyfer y Rhondda, gan gadw mewn golwg y ffaith ein bod ni ddim yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol.

Mae'r northern Valleys initiative, sydd yn gynllun sydd gan y rhanbarth, a'r gronfa sites and premises—mae cyfleoedd iddyn nhw hefyd i fod yn edrych am gyfleoedd yn y Cymoedd, yn y Rhondda yn benodol, ac yn ehangach na hynny hefyd. Felly, dyna’r sefyllfa o’n safbwynt ni ar hyn o bryd.  

Photo of Joel James Joel James Ceidwadwyr 3:19, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Heledd o ran pa mor ofidus wyf i ar ran gweithwyr safle Everest, gyda chymaint o bobl wedi cael eu diswyddo, fel yr adroddwyd? Rwy’n sylweddoli bod yn rhaid bod hwn yn gyfnod pryderus iddynt hwy a’u teuluoedd, ac rwy'n gobeithio y gallant ddod o hyd i waith yn gyflym.

Yn anffodus, ymddengys y byddwn bob amser yn wynebu materion fel hyn wrth i’n heconomi addasu i ddatblygiadau technolegol a datgarboneiddio. Mae diwydiannau’n newid, ac mae ein heconomi yn gorfod ymdopi â stormydd sy’n deillio o ddylanwadau byd-eang y tu hwnt i’n rheolaeth. Yn y pen draw, mae angen inni allu darparu sgiliau i weithwyr sy’n eu galluogi i fod yn wydn yn y farchnad swyddi, ac i allu dod o hyd i waith yn gyflym pan fo amgylchiadau fel hyn yn codi. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau bod y bobl sydd wedi colli eu swyddi ar safle Everest yn Nhreherbert yn cael gwybod am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, i wneud cais am swyddi newydd neu i gael mynediad at hyfforddiant ychwanegol i ailsgilio, a pha gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i feithrin y gwytnwch hwnnw ymhlith gweithwyr yn y farchnad swyddi? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:20, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i Joel James am ei gwestiwn pellach. Wel, fel y dywedodd Heledd Fychan, mae hwn yn brofiad y mae rhai gweithwyr wedi’i gael yn ddiweddar iawn hefyd, felly credaf ei fod yn peri gofid arbennig i bobl sydd wedi cael eu diswyddo unwaith ac sydd, o fewn ychydig fisoedd, yn yr un sefyllfa unwaith eto. Gwn fod llawer o bobl a oedd wedi'u cyflogi yn Everest yn y sefyllfa honno.

Yr hyn a wnawn yw sicrhau bod rhaglen ReAct, a luniwyd er mwyn darparu sgiliau a chymorth i bobl sy’n wynebu colli eu swyddi, bellach ar waith ac yn cefnogi unigolion yr effeithiwyd yn ddifrifol arnynt. Mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r cyngor, y gwn eu bod, pan fo'r math hwn o ddigwyddiad wedi codi yn y gorffennol, wedi bod yn rhagweithiol iawn yn sicrhau eu bod yn dod â’r holl ffynonellau cymorth perthnasol ynghyd yn y ffordd amlasiantaethol honno. Felly, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn y cyswllt hwnnw, i'w wneud mor hygyrch â phosibl i'r gweithwyr yr effeithir arnynt. Ac fel y soniais yn gynharach, mae fy swyddogion hefyd wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni i dynnu sylw at y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi.