2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 1 Mai 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma fy nghyfle cyntaf i'ch holi yn fy rôl newydd fel llefarydd iechyd yr wrthblaid ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ein trafodaethau yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi ar feysydd ac ar faterion lle gallaf wneud hynny, ond hefyd rwy'n bwriadu eich dwyn i gyfrif, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ar feysydd y mae angen eu gwella.
Mae un maes o'r fath yr wyf eisiau ei grybwyll yma heddiw yn ymwneud ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ddoe, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rybudd brys ynglŷn â'r uned frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yr ysbyty mwyaf yng Nghymru—a hynny ar yr un diwrnod, ddoe, ag yr oedd gennym bedair awr wedi'u neilltuo i drafod cael 36 yn fwy o wleidyddion yn y Siambr hon ar gost o ddegau o filiynau o bunnoedd. Felly, a ydych chi'n credu bod gennych chi'r blaenoriaethau cywir?
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu Sam i'ch rôl newydd fel llefarydd y Ceidwadwyr? A chyn inni barhau â'r drafodaeth, hoffwn dalu teyrnged hefyd i Russell George, y bûm yn gweithio gydag ef dros nifer o flynyddoedd. Hoffwn dalu teyrnged i chi am y ffordd y gwnaethoch chi gyflawni'r rôl honno, Russell, a diolch am y math o berthynas y gwnaethom—. Fe wnaethoch chi fy nwyn i gyfrif; fe wnaethoch chi fy nghadw ar flaenau fy nhraed, ond fe lwyddasom i sicrhau ein bod ni'n parhau'r ddeialog. Rwy'n gwybod bod fy nhasg yn heriol, ond mae gennyf fyddin fach i fy nghefnogi, ac nid wyf yn tanbrisio'r math o waith y mae'n rhaid i lefarwyr y gwrthbleidiau, gan gynnwys Plaid Cymru, ei wneud heb y math o gefnogaeth y gallaf ddibynnu arni. Felly, diolch i chi hefyd am ymgymryd â'r dasg anodd hon.
Mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys, rwy'n credu y dylwn nodi bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, wrth gwrs, yn heriol ar hyn o bryd. Mae gennym broblemau go iawn mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal—mae hynny bob amser yn rhan o'r rheswm pam fod oedi—ond mae'n debyg ei bod yn werth nodi hefyd bod perfformiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod yn well yng Nghymru nag yn Lloegr mewn wyth o'r deuddeg mis diwethaf yn erbyn y targed pedair awr.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd am gydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys ar hyn o bryd. Ond mae hyn yn ymwneud â chael y blaenoriaethau cywir a chael Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar ymdrin â'r meysydd sy'n peri pryder i bobl Cymru.
Ac ysgrifennodd un person o'r fath ataf yr wythnos diwethaf, aelod o'r cyhoedd, sydd, yn anffodus, â chanser angheuol, eisiau mynegi ei brofiadau mewn ysbyty yng ngogledd Cymru, lle aethant i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda llythyr gan ei feddyg teulu i sicrhau gwely ar ward i drin anhwylder, ond gwrthododd yr ysbyty hyn a'i roi yn yr ystafell aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys, lle bu'n aros am 11 awr. Erbyn hanner nos, dywedwyd wrthynt y byddai'n well iddynt fynd adref. Felly, daethant yn ôl drannoeth a chael profiad tebyg iawn, gyda phobl yn aros mwy na 12 awr. Yn anffodus, nid yw hwn yn achlysur untro, ac mae llawer gormod o bobl yn cael y profiadau hyn yn ystafelloedd aros ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, er mwyn ein meddygon a'n nyrsys, sy'n gorfod gweithio drwy hyn, ac yn sicr er mwyn y cleifion, sy'n gorfod dioddef y cyflyrau hyn, tybed a allech chi amlinellu pa gynllun sydd gennych i fynd i'r afael â'r arosiadau gormodol hyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?
Diolch yn fawr. Mae gennym strategaeth gyfan yn ymwneud â hyn. Fe'i gelwir yn rhaglen chwe nod. Mae'n rhaglen gynhwysfawr iawn, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn barod. Felly, rwy'n gwybod efallai na fydd yn teimlo felly, ond os ydych chi'n meddwl am bethau fel y system 111, a oedd yn golygu bod 90,000 o bobl wedi cael eu dargyfeirio rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn un mis yn unig, ym mis Chwefror, mae hynny'n rhoi rhyw fath o syniad i chi o fentrau newydd sydd wedi'u cyflwyno. Hefyd, mae gennym ganolfannau gofal sylfaenol brys wedi'u cyflwyno; mae gennym ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod wedi'u cyflwyno.
Ac wrth gwrs, os ydych chi'n sôn am flaenoriaethau, rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn mai un o fy mlaenoriaethau allweddol yw lleihau'r rhestrau. Rwy'n gwneud llawer iawn o waith yn ceisio ymchwilio'n fanwl lle mae'r problemau. Rwyf wedi siarad â Betsi y bore yma am rai o'r materion anodd iawn y maent yn eu hwynebu mewn meysydd penodol. Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i weld a allwn weithio gyda'n gilydd ar hynny, gan ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd. Ond mae yna ormod o bobl yn ein hysbytai sy'n barod i gael eu rhyddhau ond na ellir eu rhyddhau, ac mae hynny'n her i ni, ond mae hefyd yn her i lywodraeth leol. Ac yn sicr, mae gweithio law yn llaw â chynghorau'n gwbl hanfodol, a dyna a wnawn, yn sicr drwy fisoedd y gaeaf, ar sail bythefnosol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am amlinellu'r heriau sydd i'w canfod wrth ddrws cefn yr ysbyty, fel petai, o ran y gallu i ryddhau cleifion. Rwy'n sicr yn barod i weithio gyda chi i weld pa ddulliau y gellir eu rhoi ar waith i wella hynny. Oherwydd rydym i gyd eisiau gweld system ddamweiniau ac achosion brys well yma yng Nghymru ac rydym i gyd eisiau gweld y rhestrau aros a'r amseroedd aros yn lleihau.
Ond fe wnaethoch chi gyfeirio at eich cynllun, ac mae'n amlwg fod yn rhaid monitro a goruchwylio'r cynllun a'i weithredu mewn modd cadarn. Cyflwynodd arweinydd y Ceidwadwyr yma, Andrew R.T. Davies, gwestiwn i chi yn ddiweddar, yn gofyn beth yw'r tri phrif reswm pam fod pobl wedi mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn ystod y flwyddyn galendr hon. Yn sicr, mae gwybod y rhesymau'n eich galluogi i ddeall cadernid y cynllun rydych wedi dweud ei fod ar waith. Ond yn eich ateb, yn anffodus, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi nad oedd gennych y wybodaeth hon. Felly, tybed a allwch chi fod yn hyderus ynghylch cadernid eich cynllun i ymdrin ag arosiadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad oes gennych chi'r hyn rwy'n ei ystyried yn wybodaeth eithaf sylfaenol am beth yw'r prif resymau pam fod pobl yn mynychu ystafelloedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys.
Wel, wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i'r byrddau iechyd eu hunain fod yn cadw'r wybodaeth honno. Ond yr hyn sydd gennym nawr yw Gweithrediaeth GIG Cymru, sy'n edrych yn agos iawn ar y manylder hwnnw. Ac mae'r rhaglen chwe nod y cyfeiriais ati yn enghraifft o ddull cenedlaethol, lle mae disgwyl cyflawni ar lefel leol. Rydym wedi dyrannu £25 miliwn i mewn i hwnnw, ac mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Felly, yn amlwg, un o'r pethau eraill y buom yn ymwneud â nhw yw ceisio cyflwyno pethau fel rhaglen yr Athro Shepherd o adnabod ymddygiad treisgar, er enghraifft—lle mae hynny'n digwydd, sut rydym yn gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau eraill i nodi pan fo'r problemau'n dod i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'n ymwneud â mwy na thrais yn unig; mae rhywfaint ohono'n ymwneud â phobl oedrannus yn baglu ac yn cwympo. Yr wythnos diwethaf, mynychais gynhadledd sy'n edrych ar y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, a oedd yn ddiddorol iawn. Beth y gallwn ni ei wneud i ymyrryd i atal pobl rhag torri coes neu dorri asgwrn? Mae llawer iawn o waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn mynd i mewn i hynny. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn ar gyfer hynny, er mwyn ceisio atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Felly, mae'r cyfan yn ceisio gwthio pethau i'r gofod atal, sy'n eithaf anodd pan ydych yng nghanol gwres y funud gyda'r adrannau brys, a'r rhestrau aros.
Diolch, Llywydd. Croeso i'ch rôl newydd chi, Weinidog. Hoffwn godi gyda chi y pryder mawr sydd yna am nifer y canolfannau dydd sy'n cau ledled Cymru. Mae'r canolfannau hyn wedi bod yn fwy nag adeiladau i gymaint o bobl sydd angen cefnogaeth yn y gymuned. Maen nhw'n ganolbwynt i fywydau pobl, yn cynnig pwynt cyswllt hollbwysig, yn cynnig gweithgareddau, cwmni, a chyfle i chwerthin, ac yn helpu lleddfu'r pwysau ar ofalwyr di-dâl. Mae Age Cymru wedi canfod bod nifer o awdurdodau lleol heb ailagor canolfannau ers y pandemig, er bod yr oedi cyn cael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol wedi golygu bod angen y canolfannau hyn yn fwy nag erioed. Mae'r cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol yn golygu eu bod nhw'n torri gwasanaethau dydd, gydag o leiaf un awdurdod yng Nghymru yn awgrymu y byddan nhw'n cau pob canolfan, ac un arall yn dweud ei bod nhw'n mynd i haneru’r gyllideb ar gyfer rhoi seibiant i ofalwyr.
Yn sgil hyn, ydych chi'n cytuno bod angen mwy o ffocws, ac nid llai, ar ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol a chefnogi yn y gymuned y mae gwasanaethau dydd yn rhan ganolog ohono? A pha ddata sy'n cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sydd angen cefnogaeth yn y gymuned yn ei dderbyn, yn wyneb cau canolfannau dydd?
Wel, a gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cwestiwn hwnnw? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich portffolio. Rwy'n credu fy mod i'n ymdrin â rhai agweddau arno gyda Mabon hefyd, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Mabon, oherwydd, rwy'n credu bod yna faterion ar draws fy mhortffolio sy'n peri pryder cyffredin i bob un ohonom, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid yn unig gyda Phlaid Cymru, ond hefyd gyda'r Ceidwadwyr. Mae gennym lawer o ymrwymiadau rhaglen lywodraethu ac ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio ar draws y portffolio, yn enwedig mewn perthynas â gwell canlyniadau i blant, y gwn eu bod o ddiddordeb arbennig i chi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny.
Ond mae'r pwyntiau a wnewch yn amlwg yn bwysig iawn. Mater i awdurdodau lleol yw gweithrediad canolfannau dydd wrth gwrs, ac fe wyddom, yn sicr, fod cyllid awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau aruthrol, er ein bod wedi ceisio blaenoriaethu eu cyllid, ynghyd â chyllid i'r GIG, o fewn y cyfyngiadau cyllidebol sy'n ein hwynebu. Mae holl gyllidebau awdurdodau lleol, fel y gwyddoch, o fewn y grant cynnal ardrethi, felly nid ydynt wedi'u neilltuo ar gyfer unrhyw wasanaeth penodol. Felly, mater i'r awdurdod lleol eu hunain—nid ydynt wedi cael eu neilltuo—yw penderfynu a ydynt yn dewis blaenoriaethu gofal cymdeithasol ac yn y blaen.
Ond gallaf fod yn glir iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn sicr yn blaenoriaethu oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'ch cwestiwn. Byddwch wedi gweld, er enghraifft, dros y penwythnos, yr wythnos diwethaf, yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli—ardal bwrdd iechyd Cwm Taf—mae bwrdd iechyd Cwm Taf wedi'i gwneud yn glir iawn i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf fod tua 300 o bobl mewn gwelyau mewn ysbytai yn ardal Cwm Taf—mae hynny'n cyfateb i un ysbyty cyffredinol—na ddylent fod yno. Ac fe wyddom fod hon yn broblem ers llawer gormod o amser. Cyfarfûm ag arweinwyr llesiant a gofal cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf, a soniais am yr angen i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon o leihau'r amseroedd aros i ryddhau pobl nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty mwyach. Ac mae canolfannau gofal dydd a darpariaeth gofal cymdeithasol yn gwbl allweddol i hynny.
Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod yn cael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol. Mae'n sicr yn flaenoriaeth yr wyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei rhannu wrth symud ymlaen ar y llwybrau gofal, ac rydym yn parhau i gael deialog mor adeiladol ag y gallwn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallwn gyflawni'r amcanion hynny ar y cyd o fewn cyfyngiadau eu cyllidebau nhw, a chyfyngiadau ein cyllideb ni.
Diolch yn fawr. Ie, y pwynt yw bod y gwasanaethau dydd yna yn chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith ataliol yna rhag bod pobl yn gorfod cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal yn y lle cyntaf, a lleddfu'r pwysau. Mae nifer o bobl wedi gofyn i Age Cymru am gymorth yn sgil y ffaith nad ydyn nhw wedi cael gwybod o flaen llaw y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu am ofal cymdeithasol. Maen nhw wedi tynnu sylw at achosion lle mae pobl hŷn wedi gorfod talu yn sylweddol yn fwy na'r hyn mae'r ddeddfwriaeth yn ei ganiatáu. Ac, yn eu harolwg blynyddol, dywedodd 34 y cant eu bod yn ei ffeindio fe'n anodd neu'n hynod anodd i ddeall trefniadau codi tâl am ofal. Gan fod y drefn taliadau wedi bod mewn lle ers peth amser, pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y broses yn glir ac yn deg? Ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddiwygio'r rheoliadau a'r cod ymarfer sy'n rheoli'r hyn mae awdurdodau lleol yn gallu ei godi, ac, yn benodol, ar godi'r uchafswm wythnosol nawr i £120—rhywbeth y gwnaeth y Llywodraeth addo peidio â gwneud, wrth gwrs.
Nawr eich bod chi yn y portffolio yma, a ydych chi'n credu, Weinidog, ei bod hi'n deg gofyn i ofalwyr a phobl hŷn, a phobl anabl, rhai sydd yn teimlo'r pwysau ariannol ac emosiynol fwyaf yn ein cymdeithas, i dalu mwy am eu gofal, o ystyried nad yw hyn, yn ei gyfanrwydd, yn swm anferthol o arian i'r Llywodraeth ei ganfod?
Diolch i chi am y cwestiwn pellach hwnnw, sy'n bwysig iawn unwaith eto wrth edrych ar y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Unwaith eto, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, rydym yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol maes o law. Mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac efallai y bydd yn cymryd peth amser i ni ei chyflawni. Ond mae gennym amcan a rennir yn hynny o beth ac wrth sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael i'r union bobl yr ydych newydd sôn amdanynt. Byddwn eisiau bod yn sicr fod pobl yn deall yn glir iawn beth mae'n rhaid iddynt dalu amdano a'r hyn nad oes rhaid iddynt dalu amdano. Ac os gwelaf nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn sicr eisiau cael y sgwrs honno gyda swyddogion i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu canllawiau clir a dealladwy iawn. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun—
[Anghlywadwy.]
—ie, yn hollol. Rwy'n gwybod yn iawn, Sioned, o fy mhrofiad fy hun, pan oedd fy nhad yn mynd drwy'r system cyn iddo farw. A rhywun fel fi yw hyn, sydd â syniad o sut mae'r system yn gweithio, mae'n debyg. Ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn siarad â'r bobl gywir, ar yr adeg gywir, gyda'r wybodaeth gywir, yn cael fy nhrosglwyddo o bant i bentan, ac mae hynny'n straen fawr ar unigolion a'u teuluoedd. Felly, mae angen inni wneud y system yn fwy tryloyw. Mae angen inni sicrhau—rydych chi'n iawn—fod gan y staff eu hunain yr holl wybodaeth y maent ei hangen, ac os nad yw hynny'n digwydd, byddwn eisiau sicrhau bod hynny'n digwydd, a sicrhau bod y broses yn dod yn gliriach ac yn symlach ac yn fwy unedig i bobl ei llywio.
Ar yr ymgynghoriad ar ofal cartref yn benodol, nid yw hwnnw wedi cau eto; mae'n parhau tan fis Mai. Mae hwn yn rhywbeth y mae awdurdodau lleol wedi bod yn gofyn amdano. Rwy'n tueddu i gytuno â'ch dadansoddiad nad yw'r hyn sy'n cael ei awgrymu, o ran codi'r cap, yn swm enfawr o arian, ond mae awdurdodau lleol yn dweud eu bod ei angen. Ond mae yna broses gadarn iawn o fewn hynny, sy'n sicrhau na ddylai pobl na allant fforddio talu mwy na'r lefel uchaf bresennol orfod talu. Nawr, hoffwn sicrhau, yn sicr, fod hynny'n aros, ac os yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni adolygu'r rheolau hynny i sicrhau nad oes neb yn syrthio drwy'r bylchau, rwy'n gwbl sicr y dylem wneud hynny, oherwydd ni ddylid gwrthod gofal i unrhyw un am na allant ei fforddio.