Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch yn fawr. Y gwir amdani yw, rydym wedi bod—. Os edrychwch chi ar y niferoedd cyffredinol sydd angen cefnogaeth, rydym yn siarad am gannoedd o filoedd o bobl. Felly, sut rydych chi'n blaenoriaethu'r rheini? Rydych chi'n hollol iawn—mae'n rhaid inni edrych ar yr achosion mwyaf difrifol. Y cwestiwn i mi yw, os ydych chi'n ceisio cydbwyso ac os edrychwch chi ar yr arbenigwyr sy'n dweud pa ganran, fwy neu lai, sydd yn y categori brys, mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn categoreiddio llawer gormod fel achosion brys, sy'n golygu bod y bobl sy'n aros am yr amser hiraf, gydag achosion eithaf cymhleth weithiau, yn cael eu rhoi ar restrau 'byth', ac nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol, a dyna pam mai un o'r pethau y bûm yn eu gwneud yw treulio llawer iawn o amser yn mynd ar drywydd y bobl sydd wedi bod ar restrau aros hir iawn, annerbyniol o hir, yn aros mewn poen. Wrth gwrs, mae achosion brys bob amser yn mynd i flaen y ciw, ond mae gormod ohonynt yn neidio'r ciw ar draul y bobl sydd wedi bod ar y rhestrau aros am amser hir iawn.