Rhestrau Aros y GIG

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 2:49, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, siaradais â Together for Short Lives a Tŷ Hafan am y gefnogaeth hanfodol y maent yn ei darparu i blant sydd â salwch sy'n newid bywyd, yn ogystal â'u teuluoedd. Mae'r gofal hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ofal lliniarol ac mae'n darparu seibiant a chymorth amhrisiadwy i deuluoedd ar rai o'r adegau anoddaf posibl. Mae Tŷ Hafan a Together for Short Lives wedi amlinellu eu hangen am gyllid pellach i ddarparu ar gyfer hwb mawr ei angen yn nifer y nyrsys plant cymunedol, ac maent wedi galw o'r blaen am gyllid i dalu am 21 y cant o'u costau, er mai dim ond rhwng 5 y cant a 10 y cant y maent yn ei gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i dalu am y gwasanaeth hanfodol hwn. Mae hyn yn ddealladwy yn effeithio ar nifer y cleifion y gall y sefydliadau hyn eu cyrraedd. Ar hyn o bryd, un o bob 10 plentyn yng Nghymru sy'n cael y gofal critigol y maent hwy a'u teuluoedd ei angen a'i eisiau'n daer. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch ddeall, mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ein GIG, sy'n golygu y bydd naw o bob deg o'r plant hyn felly yn cael eu rhoi ar restr aros. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych i wella mynediad at ofal yn y gymuned i blant sy'n ddifrifol wael ledled Cymru, a fydd hefyd yn lleddfu'r pwysau ar restrau aros y GIG? Diolch.