Rhestrau Aros y GIG

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:48, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwech o saith bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed i sicrhau bod 97 y cant o'r holl arosiadau yn llai na 104 wythnos. Mae nifer y llwybrau sy'n aros am fwy na dwy flynedd wedi gostwng eto am y trydydd mis ar hugain yn olynol. Mae'r amser aros cyfartalog oddeutu 21 wythnos erbyn hyn.