Gwella'r Ddarpariaeth Gofal Iechyd yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 3:01, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ysbyty Treforys yn Abertawe rybudd du arall fyth oherwydd galw eithriadol. Nid dyma'r tro cyntaf i Ysbyty Treforys orfod cyhoeddi hysbysiad o'r fath. Yn wir, bu naw gwahanol ddigwyddiad rhybudd du yn ystod y 12 mis diwethaf yn Nhreforys. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cyhoeddi rhybudd du, ond mae'r amlder a welwn yn Nhreforys yn awgrymu eu bod yn unrhyw beth ond eithriadol. Mae'n amlwg eu bod yn ei chael hi'n anodd ateb galw uchel parhaus, a gŵyr pob un ohonom pam. Mae'n digwydd am mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r unig un yn y DU i dorri cyllideb y GIG nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith i gyd. Felly, onid yw'n glir i bawb fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder fel terfynau cyflymder 20 mya a rhagor o wleidyddion yn cael effaith ddiriaethol ar ein GIG ac ar y rhai sy'n dibynnu arno fwyaf?