Canolfan Gofal Iechyd Amlddisgyblaethol Newydd yng Nghaergybi

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:12, 1 Mai 2024

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mae hi bron i bum mlynedd bellach ers i feddygfeydd Longford Road a Cambria orfod cael eu cymryd drosodd gan y bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Mi unwyd y ddwy feddygfa yn dilyn hynny, ond mae'r gwasanaeth sydd wedi bod mewn bodolaeth yng Nghaergybi ers hynny wedi bod yn fregus tu hwnt. Yn ddiweddar, mi glywsom ni'r meddygon yn codi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd staffio yno. Mi enillon ni'r frwydr a chael yr adduned bod yna feddygfa amlddisgyblaethol newydd yn mynd i gael ei datblygu yng Nghaergybi, ond yn anffodus mae pethau wedi mynd yn dawel—does yna ddim diweddariadau wedi bod. Mae pobl Caergybi yn haeddu hyn; maen nhw angen y gwasanaeth hwn. A gaf i annog a gofyn am ymrwymiad clir gan y Gweinidog y bydd hi'n mynd ar ôl y bwrdd iechyd i sicrhau bod y mater yma'n cael ei ddilyn i fyny, a hynny'n fuan?