2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am ar 1 Mai 2024.
5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ61026
Rydym yn cydnabod yr angen i wella darpariaeth gofal iechyd ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i gyflawni hyn drwy 'Cymru Iachach', ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal.
Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ysbyty Treforys yn Abertawe rybudd du arall fyth oherwydd galw eithriadol. Nid dyma'r tro cyntaf i Ysbyty Treforys orfod cyhoeddi hysbysiad o'r fath. Yn wir, bu naw gwahanol ddigwyddiad rhybudd du yn ystod y 12 mis diwethaf yn Nhreforys. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cyhoeddi rhybudd du, ond mae'r amlder a welwn yn Nhreforys yn awgrymu eu bod yn unrhyw beth ond eithriadol. Mae'n amlwg eu bod yn ei chael hi'n anodd ateb galw uchel parhaus, a gŵyr pob un ohonom pam. Mae'n digwydd am mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r unig un yn y DU i dorri cyllideb y GIG nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith i gyd. Felly, onid yw'n glir i bawb fod penderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder fel terfynau cyflymder 20 mya a rhagor o wleidyddion yn cael effaith ddiriaethol ar ein GIG ac ar y rhai sy'n dibynnu arno fwyaf?
Rydych yn llygad eich lle—mae'r galw ar y gwasanaeth yn anhygoel. Un o'r pethau a welsom yw cynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau i'r GIG. Yn 2019, roedd yn 1 filiwn y flwyddyn; yn 2023, 1.2 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw’n gynnydd sylweddol yn nifer y bobl. Nifer y bobl a gafodd brawf am ganser yn 2019 oedd 8,000. Heddiw, mae'n 14,000. Dyna gynnydd o 75 y cant. Felly, wrth gwrs, mae’r pwysau ar ein gwasanaethau'n cynyddu. Mae rhywfaint o hynny'n beth da yn yr ystyr, os ydych chi'n archwilio pobl, rydych chi'n fwy tebygol o ddal canser yn gynnar, ac mae hynny'n beth da i'r claf.
Wrth gwrs, mae angen mynd i’r afael â’r heriau hynny yn Abertawe. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal, felly mae angen gweithio’n llawer agosach gydag awdurdodau lleol. Ond credaf ei bod braidd yn hunanfoddhaol i edrych ar y wleidyddiaeth ffantasïol y soniwch chi amdani, Tom. Y gwir amdani yw mai eich Llywodraeth chi a chwalodd yr economi ac sydd wedi ein gadael mewn sefyllfa lle rydym yn buddsoddi llawer llai mewn iechyd o gymharu â gweddill Ewrop.