Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 1 Mai 2024.
Sioned, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn yn barod. Ddoe, bûm mewn sesiwn friffio a drefnwyd gan Anabledd Cymru ynghylch y taliadau uwch am ofal a chymorth dibreswyl. Cefais sioc o glywed, er gwaethaf sicrwydd i’r gwrthwyneb, fod llawer o’r bobl dlotaf yng Nghymru yn gorfod talu’r taliadau hyn ac yn aml yn wynebu’r dewis rhwng talu am ofal cymdeithasol a bwyd. Bydd unrhyw godiad i daliadau, heb os, yn gorfodi mwy o bobl i'r sefyllfa hon. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau i’r cynlluniau hyn, neu o leiaf adolygu’r cyfrifiadau isafswm incwm?