Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Llafur 2:45, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn pellach hwnnw, sy'n bwysig iawn unwaith eto wrth edrych ar y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Unwaith eto, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, rydym yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol maes o law. Mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac efallai y bydd yn cymryd peth amser i ni ei chyflawni. Ond mae gennym amcan a rennir yn hynny o beth ac wrth sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael i'r union bobl yr ydych newydd sôn amdanynt. Byddwn eisiau bod yn sicr fod pobl yn deall yn glir iawn beth mae'n rhaid iddynt dalu amdano a'r hyn nad oes rhaid iddynt dalu amdano. Ac os gwelaf nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn sicr eisiau cael y sgwrs honno gyda swyddogion i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu canllawiau clir a dealladwy iawn. Rwy'n gwybod, o fy mhrofiad fy hun—