Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 1 Mai 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 2:32, 1 Mai 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma fy nghyfle cyntaf i'ch holi yn fy rôl newydd fel llefarydd iechyd yr wrthblaid ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ein trafodaethau yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi ar feysydd ac ar faterion lle gallaf wneud hynny, ond hefyd rwy'n bwriadu eich dwyn i gyfrif, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ar feysydd y mae angen eu gwella.

Mae un maes o'r fath yr wyf eisiau ei grybwyll yma heddiw yn ymwneud ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ddoe, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rybudd brys ynglŷn â'r uned frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—yr ysbyty mwyaf yng Nghymru—a hynny ar yr un diwrnod, ddoe, ag yr oedd gennym bedair awr wedi'u neilltuo i drafod cael 36 yn fwy o wleidyddion yn y Siambr hon ar gost o ddegau o filiynau o bunnoedd. Felly, a ydych chi'n credu bod gennych chi'r blaenoriaethau cywir?