Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 1 Mai 2024.
Diolch yn fawr. Wel, un o'r pethau rwy'n falch iawn ohono yw'r ffaith ein bod bellach wedi gostwng yr oedran y mae sgrinio'n dechrau mewn perthynas â chanser y coluddyn, ac mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Ac mae pobl yn awyddus iawn i gymryd rhan yn hynny. Mae rhan o'r broblem serch hynny, os edrychwch chi ar y gwahaniaethau a'r canlyniadau o ran pobl sydd â chanser—unrhyw fath o ganser—yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd tlotach a'r ardaloedd cyfoethocach, ac mae'n rhaid inni wneud mwy i gael ein hardaloedd tlotach yn rhan o hyn. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym gamau wedi'u targedu i sicrhau bod pobl yn yr ardaloedd tlotach yn dychwelyd y profion sgrinio hynny. Yn sicr, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn rhan o'r hyn a wnawn, ond rydych chi'n hollol gywir: cyn hynny, mae'n rhaid inni wneud gwaith atal, ac yn sicr rwy'n gobeithio, gyda'r math o gefnogaeth Pwysau Iach Byw'n Iach y gallwn ei rhoi ar waith, y bydd pobl yn cydnabod yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gynnal ffordd o fyw iach.